Mae grantiau ar gael i awduron, ond trwy gyhoeddwr yn unig y gellir gwneud cais. Am wybodaeth am y Grantiau Cyhoeddi cliciwch ar 'Grantiau' uchod ac ewch i 'Gwybodaeth i Awduron'.
Ar wefan Y Fasnach Lyfrau Ar-lein mae cyngor parod i ddarpar awduron ynghyd â rhestr o gyhoeddwyr o Gymru.
Na, mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch cyhoeddwr. Mae'r cytundeb sydd rhwng y Ganolfan Ddosbarthu a chyhoeddwyr unigol yn gwahardd rhoi gwybodaeth am werthiant i unrhyw un heblaw'r cyhoeddwr.
Dylai eich cytundeb â’ch cyhoeddwr osod allan y taliadau perthnasol a’r amserlen o ran derbyn taliadau. Os nad yw’r cytundeb yn cael ei anrhydeddu, dylech gysylltu â’ch cyhoeddwr yn ddiymdroi. Gall Adran Grantiau’r Cyngor Llyfrau ymyrryd ar eich rhan, os yw’r llyfr wedi cael grant, ond dim ond os ydych wedi methu cael ateb boddhaol gan eich cyhoeddwr.
Mae cyngor ar gael gan sawl Adran yn y Cyngor Llyfrau. Cysylltwch â’r Adran Grantiau yn y lle cyntaf trwy glicio ar 'Cysylltu' uchod ac fe all yr Adran eich cyfeirio at Adrannau eraill yn ôl y galw. Cliciwch ar 'Grantiau' uchod am fanylion pellach.
Cysylltwch â Rheolwr y Ganolfan Ddosbarthu a/neu â Phennaeth yr Adran Gwerthu a Marchnata trwy glicio ar 'Cysylltu' uchod.
Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen ymaelodi neu cysylltwch ag:
Ysgrifennydd y Cyfeillion, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB Ffôn: 01970 624151 Ffacs: 01970 625385 E-bost: castellbrychan@llyfrau.cymru
Gall eich siop leol archebu unrhyw lyfr sydd mewn print ar eich rhan oddi wrth ein Canolfan Ddosbarthu. Os nad yw hynny'n ymarferol, ewch i wefan y Cyngor Llyfrau www.gwales.com sy'n cynnig gwasanaeth archebu cyflym ac effeithiol. Rydym yn gwneud ein gorau i ddosbarthu ar y diwrnod gwaith canlynol, os yw'r llyfr mewn stoc.
Rhoddir y neges 'Allan o Brint' yn ymyl teitl ar wefan Gwales lle mae’r cyhoeddwr wedi ein hysbysu nad oes copïau ar ôl i'w prynu ac nad oes bwriad ganddynt i adargraffu. Nid oes diben gosod archeb am y rheiny. Awgrymwn, mewn achosion felly, eich bod yn dal i holi eich siop lyfrau leol rhag ofn fod ganddynt gopi ar ôl, yn benthyg copi o'ch llyfrgell leol, neu’n chwilio'r rhyngrwyd neu siopau llyfrau ail-law am gopi.
Cysylltwch â’r Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen trwy glicio ar 'Cysylltu' uchod. Mae gan yr Adran nifer o swyddogion sy’n hyddysg yn y maes.
Os ydych yn awdur o Gymru neu os ydy'r llyfr o ddiddordeb Cymreig gallwn ystyried stocio'r llyfr yn ein Canolfan Ddosbarthu. Cysylltwch â'r Adran Gwerthu a Marchnata, yn ddelfrydol o leiaf dri mis cyn i'r llyfr ymddangos, gyda chymaint o wybodaeth lyfryddol ag sy'n bosibl gan gynnwys y rhif ISBN a JPEG o'r clawr. Telerau dosbarthu llyfrau hunangyhoeddwyr yw 55% o bris mân-werthu pob copi ar sail gwerthu a dychwelyd llawn; dylid cyflwyno 30 copi fel stoc gychwynnol a bydd yr anfonebau’n cael eu talu ar ôl 12 mis yn unig. Noder mai dosbarthwyr yn unig yw Cyngor Llyfrau Cymru, ac mai cyfrifoldeb yr awdur / cyhoeddwr yw hyrwyddo a marchnata’r llyfr.
Os ydych yn derbyn y telerau hyn, anfonwch at Lowri Davies, Swyddog Gwybodaeth, Cyngor Llyfrau Cymru, Parc Menter Glanyrafon, Aberystwyth Ceredigion SY23 3AQ. Yna, bydd yr Adran yn gwneud penderfyniad a fydd y Cyngor Llyfrau am stocio eich llyfr ai peidio.
Os bydd yr Adran yn penderfynu na fydd yn bosib stocio eich llyfr, bydd modd iddo gael ei restru ar wefan www.gwales.com, gan nodi ei fod ar gael gan y cyhoeddwr yn unig.
Gall yr Adran Gwasanaethau Gwybodaeth gynnig rhestru'r llyfr yn rhad ac am ddim ar wefan www.gwales.com gan ychwanegu manylion cyswllt o'ch dewis chi at y disgrifiad. Byddai unrhyw un sy'n dymuno archebu wedyn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.
Mae gan y Cyngor Llyfrau dim o swyddogion ysgol a all ymweld â'ch ysgol i ddangos y deunyddiau i chi a'ch cynghori ar eich dewis. Cysylltwch â’r Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen trwy glicio ar 'Cysylltu' uchod.
Cynhelir Diwrnod y Llyfr ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mawrth bob blwyddyn.
Os nad yw'n disgyn ar benwythnos, 11 Hydref yw dyddiad Diwrnod T. Llew, sef dyddiad ei ben-blwydd.
Mae modd prynu dros y we ond byddai'n rhaid talu'r pris llawn yn ogystal a chostau cludiant gyda cherdyn credyd. Dylid cysylltu â'ch siop lyfrau leol os am drafod gostyngiadau posibl neu gysylltu â'r Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen trwy glicio ar 'Cysylltu' uchod.
Os ydy Canolfan Ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru'n stocio'ch llyfr bydd angen i'ch cyhoeddwr drafod gyda'r Adran Gwerthu a Marchnata i weld a oes rhai o'n cynlluniau marchnata generig yn berthnasol i'r llyfr. Bydd Tîm Gwerthu'r Cyngor yn cario sampl o'r llyfr ac yn annog llyfrwerthwyr sydd â chyfrif yn ein Canolfan Ddosbarthu i'w archebu. Cyfrifoldeb y cyhoeddwr, fodd bynnag, yw marchnata'r llyfr trwy'r cyfryngau, dosbarthu copïau adolygu, hysbysebu'r llyfr a chynhyrchu deunydd hyrwyddo.
Fel cyhoeddwr y llyfr, mae'r uchod yn berthnasol os ydy'r Ganolfan Ddosbarthu'n stocio'r llyfr?
Nid yw’r Cyngor Llyfrau yn cynnig gwasanaeth golygu a phrawfddarllen i awduron unigol, ond mae’r Adran Olygyddol yn cynnig y gwasanaethau hyn i gyhoeddwyr Cymru. Felly, efallai yr hoffech gyflwyno eich llyfr i un neu fwy o’r cyhoeddwyr a restrir ar wefan y Fasnach Lyfrau Ar-lein, a fyddai’n trefnu’r gwasanaeth golygu a phrawfddarllen ar eich rhan, os derbynnir eich gwaith i’w gyhoeddi. Ar y wefan hefyd ceir rhestr o olygyddion llawrydd sy’n gweithio yng Nghymru, ynghyd â manylion eu profiad perthnasol. Os byddwch yn penderfynu bwrw ati i hunan-gyhoeddi, gallai’r rhestr hon fod yn ddefnyddiol wrth i chi chwilio am rywun i olygu a phrawfddarllen eich gwaith.
Nac ydy. Efallai y byddai’n well gan awduron gysylltu â’r cyhoeddwyr yn uniongyrchol, ac ar wefan y Fasnach Lyfrau Ar-lein mae rhestr o gyhoeddwyr Cymru.