y cysgod yn y cof

Bob Morris

Yn dilyn llawdriniaeth, mae Caerwyn Rowlands wedi anghofio cyfnod o’i ieuenctid yn Llyn. Gyda chymorth ei ferch Heulwen, daw ei atgofion yn ôl fesul dipyn. Ond a yw’n barod i wynebu digwyddiadau cythryblus gwersyll gwyliau ‘Summerland’ 1964, yn enwedig y penllanw brawychus a gwaedlyd? Yn corddi hefyd o dan y dyfroedd mae anffyddlondeb, euogrwydd , torcalon a thensiynau gwleidyddol yn dilyn boddi Capel Celyn.

Adolygiad

“Cefais flas garw arni, a’i llarpio mewn deuddydd. Bob Morris ar ei orau, yn adrodd stori lawn dirgelwch a chynllwyn. Rhagorol.” Angharad Tomos