Galwad agored i athrawon cynradd Cymraeg
Cyfle i ddatblygu’n broffesiynol yn rhad ac am ddim trwy gynllun Athrawon Caru Darllen

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn annog athrawon ysgolion cynradd Cymraeg ledled Cymru i elwa ar gyfle i ymuno â chynllun hyfforddiant a mentora arbennig wrth gofrestru ar gyfer cynllun Athrawon Caru Darllen ar gyfer blwyddyn addysgol 2025/26.

Mae’r cynllun yn berffaith ar gyfer athrawon cynradd, lle bynnag maen nhw yn eu gyrfa dysgu, i’w helpu i ddatblygu darpariaeth ddarllen yn y dosbarth, i ddathlu llyfrau a darllen er pleser, ac i ysbrydoli eu dysgwyr ifanc i ddarllen.

Felly os ydych chi’n athro sy’n gweithio gyda dysgwyr 8–11 oed mewn ysgol gynradd Gymraeg ac yn:

–   chwilio am gefnogaeth i hyrwyddo darllen yn y dosbarth ac ysbrydoli dysgwyr

–   hoff o gyfarfod athrawon eraill i gyfnewid syniadau a rhannu profiadau

–   awyddus i gael cyfleoedd datblygu, hyfforddi ac adeiladu hyder ym maes llythrennedd a darllen

yna, cofrestrwch i fod yn rhan o’r cynllun cyn dydd Mawrth 15 Gorffennaf ar wefan y Cyngor Llyfrau: YMA

Ariennir y prosiect tair-blynedd hwn gan Adran Addysg Llywodraeth Cymru o dan Raglen Cymorth Grant y Cwricwlwm. Mae’n bartneriaeth rhwng Cyngor Llyfrau Cymru, Prifysgol Bangor a CYDAG i gynnal cyfres o weithdai dros y flwyddyn addysgol, i ehangu dysgu proffesiynol athrawon i arfogi dysgwyr gyda strategaethau darllen effeithiol ac i helpu nhw i fwynhau darllen.

Dros gyfnod o flwyddyn bydd athrawon yn cael y cyfle i ymuno â phedwar gweithdy, yn rhithiol ac mewn person, gyda darlithydd o Brifysgol Bangor i drafod 6 o gyfrolau amrywiol o Gymru. Mae’r rhestr ddarllen yn amrywio o ran genres, arddull, awduron, cyhoeddwyr a themâu.

Dywedodd Bethan Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym yn falch iawn o allu cynnig y cynllun hwn, diolch i gefnogaeth Adran Addysg Llywodraeth Cymru.

 “Prif nod Athrawon Caru Darllen yw meithrin cariad at ddarllen ymhlith athrawon fel y gallant ysbrydoli eu disgyblion i wneud yr un peth. Gyda chefnogaeth ac arbenigedd darlithydd Prifysgol Bangor bydd yr hyfforddiant pwrpasol hwn yn cynyddu ac yn atgyfnerthu dealltwriaeth ymarferwyr o egwyddorion a dulliau addysgeg sylfeini llythrennedd.

“Bydd cefnogaeth ar gael i ryddhau’r athrawon i fynychu’r sesiynau, felly mae’n gyfle gwych am ddatblygiad proffesiynol, yn rhad ac am ddim, a fydd yn cael effaith cadarnhaol parhaol ar athrawon, ysgolion a dysgwyr. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu carfan 2025 ym mis Medi!”

Mae modd cofrestru tan ddydd Mawrth 15 Gorffennaf ar wefan y Cyngor Llyfrau YMA. Mae lle i 50 o athrawon o ysgolion cynraedd Cymraeg ar gynllun 2025/26. Bydd cyfle i athrawon uwchradd Cymraeg ac athrawon o ysgolion cyfrwng Saesneg gymryd rhan wrth i’r cynllun ymestyn yn yr ail a thrydedd blwyddyn.