GWOBRAU CLAWR Y FLWYDDYN CYMRU 2024 AM LYFRAU I BLANT A PHOBL IFANC
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi’r llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestrau byrion yn eu Gwobrau Clawr y Flwyddyn am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc a gyflwynir am y tro cyntaf erioed yn 2024.
Mae dau gategori i’r gwobrau – Clawr Llyfr Cymraeg a Chlawr Llyfr Saesneg. Dewiswyd y llyfrau ar y rhestrau byrion gan y naw aelod o Banel Pobl Ifanc y Cyngor Llyfrau. Bydd enillwyr y ddau gategori yn cael eu dewis drwy bleidlais gyhoeddus a gynhelir ar-lein rhwng 12 a 25 Tachwedd. Bydd pleidleisio’n cau am hanner dydd, 25 Tachwedd 2024.
Y llyfrau ar y rhestrau byrion yw:
Clawr Llyfr Cymraeg:
Ac Rwy’n Clywed Dreigiau / And I Hear Dragons Darluniad y clawr gan Eric Heyman. Dyluniad y clawr gan Becka Moor. Golygwyd gan Hanan Issa. Cyhoeddir gan Firefly.
Diwrnod Prysur Darluniad a dyluniad y clawr gan Huw Aaron. Awdur: Huw Aaron. Cyhoeddir gan Wasg Carreg Gwalch.
Mwy o Straeon o’r Mabinogi Darluniad y clawr gan Valériane Leblond. Dyluniad y clawr gan Gwasg Rily Publications. Awdur: Siân Lewis. Cyhoeddir gan Gwasg Rily Publications.
Mynd i Weld Nain Darluniad y clawr gan Lily Mŷrennin. Dyluniad y clawr gan Richard Pritchard. Awdur: Delyth Jenkins. Cyhoeddir gan Y Lolfa.
Clawr Llyfr Saesneg:
Ceri & Deri: 1,2,3 Darluniad y clawr gan Max Low. Dyluniad y clawr gan Joana Rodrigues, Graffeg. Awdur: Max Low. Cyhoeddir gan Graffeg.
Lilly & Myles: The Torch Darluniad y clawr gan Hannah Rounding. Dyluniad y clawr gan Joana Rodrigues, Graffeg. Awdur: Jon Roberts. Cyhoeddir gan Graffeg.
Tapper Watson and the Quest for the Nemo Machine Darluniad y clawr gan Becka Moor. Awdur: Claire Fayers. Cyhoeddir gan Firefly.
The Song that Sings Us Gwaith celf y clawr gan Jane Matthews. Awdur: Nicola Davies. Cyhoeddir gan Firefly.
Sefydlwyd y gwobrau er mwyn dathlu a chydnabod cyfraniad darlunwyr a dylunwyr, a’u gwaith i ddod â straeon yn fyw a chreu llyfrau trawiadol a deniadol sy’n apelio at ddarllenwyr ifanc.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym mor gyffrous i lansio ein Gwobrau Clawr y Flwyddyn cyntaf erioed eleni er mwyn anrhydeddu a chydnabod ansawdd rhagorol dyluniadau llyfrau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
“Mae’r gwobrau hyn yn dathlu’r dylunwyr a’r darlunwyr talentog hynny sy’n creu cloriau llyfrau i dynnu sylw, sy’n cyfleu dim ond digon o’r stori, ac sydd â’r cydbwysedd perffaith rhwng teitl, awdur a delwedd – ac sydd, yn y pen draw, yn ysbrydoli darllenwyr ifanc i fachu eu llyfr nesa. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld pa lyfrau fydd yn cael eu dewis fel enillwyr i’r bleidlais gyhoeddus dros yr wythnosau nesaf, ac rydym yn dymuno’r gorau i bawb sydd ar y rhestrau byrion.”
Bydd dylunydd/darlunydd y clawr buddugol yn y ddau gategori yn ennill neu’n rhannu gwobr ariannol o £500. Bydd yr enillwyr yn cael eu penderfynu gan bleidlais gyhoeddus ar-lein rhwng 12 Tachwedd a 25 Tachwedd. Bydd pleidleisio’n cau am hanner dydd, 25 Tachwedd 2024. Gellir pleidleisio unwaith ym mhob categori trwy’r dolen yma:
Pleidleisiwch yma: https://www.surveymonkey.com/r/ClawrLlyfrPlantYFlwyddyn
Cyhoeddir yr enillwyr ar ddydd Iau 28 Tachwedd 2024.