Gwobrau Tir na n-Og 2025
Cyhoeddi’r Rhestrau Byrion ar gyfer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru
Yr wythnos hon, bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn datgelu’r llyfrau arbennig sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og 2025. Mae’r gwobrau yn dathlu’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2024.
Ddydd Mawrth, 11 Mawrth, cyhoeddir rhestr fer y categori Cymraeg Cynradd ar raglen Heno, S4C am 7pm.
Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u cefnogi gan CILIP Cymru Wales. Maent yn dathlu dawn a chreadigrwydd awduron a darlunwyr sydd naill ai’n creu gweithiau gwreiddiol yn Gymraeg, neu’n ysgrifennu am themâu neu gefndiroedd Cymreig dilys drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae tri chategori i’r gwobrau: Llyfrau Cymraeg Cynradd (4–11 oed), Llyfrau Cymraeg Uwchradd (11–18 oed) a’r Llyfr Saesneg gyda chefndir Cymreig dilys ar gyfer cynradd neu uwchradd (4–18 oed).
Rhestr fer Cynradd:
- Ni a Nhw gan Sioned Wyn Roberts, darluniwyd gan Eric Heyman (Atebol)
Dyma lyfr stori-a-llun doniol am ddau lwyth sydd wedi bod yn ofni ei gilydd ers cyn cof. Ond mae’r twrch bach a’r wiwer ifanc yn benderfynol o ddarganfod y gwir am yr ‘eraill’…Mae stori’r twrch yn dechrau o un pen y llyfr a stori’r wiwer o’r pen arall. Y ddau ben i waered, yn darllen o’r chwith i’r dde. Ac yn y canol mae’r ddwy stori yn cwrdd …
- Arwana Swtan a’r Sgodyn Od gan Angie Roberts a Dyfan Roberts, darluniwyd gan Efa Dyfan (Gwasg y Bwthyn)
Dyma nofel fer a doniol dros ben gan awdur sy’n gwybod sut i ddiddori a phlesio plant. Mae pethau’n ddiflas iawn yng Nghaernarfon pan mae Arwana Swtan yn cyrraedd yno yng nghanol storm fawr i aros efo’i thaid, Taidi. Ond diolch i’r fôr-forwyn hynod honno, Swigi Dwgong, daw tro ar fyd i’r dre a’i phobol… - Llanddafad gan Gareth Evans-Jones, darluniwyd gan Lleucu Gwenllian (Y Lolfa)
Dewch i gwrdd â Bet, brenhines y defaid; Enfys, y ddafad amryliw; Seren, y ddafad lawn steil; Tomos Tatws; Mari fach, a llawer mwy! Mae 12 stori yn y gyfrol hon, pob un yn canolbwyntio ar fis o’r flwyddyn, ac felly mae digon o amrywiaeth pynciau sy’n mynd â’r plentyn drwy’r flwyddyn ym myd fferm o ddefaid.
Bob blwyddyn, mae paneli annibynnol yn penderfynu ar y rhestrau byrion ac yn dewis yr enillwyr ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg. Y beirniaid ar y panel Cymraeg eleni oedd Sioned Dafydd (Cadeirydd), Rhys Dilwyn Jenkins a Lleucu Non.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau i awduron a darlunwyr yr holl lyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni. Rwy’n siŵr ei bod wedi bod yn dipyn o her i’r paneli beirniadu ddewis y rhestrau byrion o blith cymaint o lyfrau gwych, ac mae’r safon eleni yn uchel iawn. Pob lwc i bawb ar y rhestr fer ac edrychaf ymlaen at weld pa lyfrau fydd yn fuddugol yn yr haf.”
Datgelir y rhestr fer ar gyfer y categori Cymraeg Uwchradd nos Iau 13 Mawrth ar Heno S4C. Cyhoeddir rhestr fer y categori Saesneg ar ddydd Iau 13 Mawrth gan y cyflwynydd Melanie Owen a’r Cyngor Llyfrau ar eu sianelau cyfryngau cymdeithasol: Instagram @melowencomedy / @books.wales. Cyhoeddir yr enillwyr yn y tri chategori yn yr haf.
Eleni, bydd cyfle unwaith eto i blant a phobl ifanc ddewis enillwyr categori arbennig, sef Gwobr Barn y Darllenwyr: tlws arbennig i lyfrau a ddewisir gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynllun cysgodi Tir na n-Og. Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillwyr o blith y rhestr fer, gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Cewch fanylion ar sut i gofrestru ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru
Bydd llyfrgelloedd a siopau llyfrau yn cynnal Helfeydd Trysor Tir na n-Og yn ystod gwyliau’r Pasg gyda chyfle i blant rhwng 4 ac 11 oed gymryd rhan. Gofynnwch i’ch llyfrgell neu eich siop lyfrau leol am fanylion.
Cewch fwy o wybodaeth am y gwobrau a’r llyfrau ar y rhestrau byrion ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru