Cynhelir Golygathon Wici-Llên, yn swyddfeydd Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, dydd Gwener, 10 Ionawr 2020, rhwng 12:00 – 16:00.
Nod y prosiect Wici-Llên yw creu a chyfoethogi gwybodaeth am lenyddiaeth Cymru ar lwyfannau Wicipedia a Wicidata. Cydlynir y prosiect gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Menter Iaith Môn gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Bydd Jason Evans, Wicimediwr Cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn bresennol gan gynghori ar ffyrdd o baratoi a golygu tudalennau.
Mae croeso cynnes i chi fynychu’r digwyddiad. Dewch a’ch offer technoleg gyda chi.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn lansio cystadleuaeth newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2020.
Dyma gyfle euraid i ddarlunwyr rhwng 18 a 25 oed gynnig am y cyfle i weld eu gwaith celf rhwng dau glawr, a hynny ar y cyd â stori wreiddiol gan Manon Steffan Ros.
Meddai Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor, “Y dasg yw creu llyfr ffug (dummy) yn cynnwys brasluniau pensil ar gyfer llyfr stori-a-llun i blant, yn ogystal â gwaith celf gorffenedig ar gyfer o leiaf bedair tudalen ddwbl. Bydd geiriau Manon yn un rhan o’r stori, ond gall y delweddau adrodd yr hyn sydd rhwng y bylchau, ac ychwanegu ati.”
Ychwanegodd, “Yn naturiol, byddwn yn chwilio am dalent weledol a chreadigol fydd yn apelio at gynulleidfa ifanc yn ogystal â’r oedolyn fydd yn rhannu’r stori. Byddwn hefyd yn asesu dawn yr ymgeiswyr i briodi testun a darluniau, a’u dealltwriaeth o naratif, rhediad y stori a’r cymeriadu.”
Dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Adran Grantiau’r Cyngor, “Mae rhai o lyfrau plant mwyaf eiconig Cymru yn llyfrau stori-a-llun, o gyfrolau Sali Mali i Rala Rwdins, ac mae datblygu darlunwyr sy’n gallu dweud stori wreiddiol ar gyfer y plant lleiaf yr un mor bwysig â datblygu awduron. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y gystadleuaeth hon yn help i feithrin to newydd o dalent yn y maes.”
Darperir testun y stori gan Swyddfa’r Eisteddfod a’r Cyngor Llyfrau. Ewch i dudalen 57 o’r Rhestr Testunau ar wefan yr Urdd am fanylion y gystadleuaeth. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mawrth 2020.
Am ragor o wybodaeth am y daith, cysylltwch â Helen Jones, Pennaeth yr Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2JB 01970 624151 helen.jones@llyfrau.cymru
Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi Categori Newydd Plant a Phobl Ifanc a Lleoliad y Seremoni
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi categori newydd i Wobr Llyfr y Flwyddyn, sef categori Plant a Phobl Ifanc. Bydd y categori ychwanegol hwn yn ehangu cyrhaeddiad ac effaith y wobr drwy gynyddu cyfleoedd a chodi proffil awduron talentog Cymru.
Mae’r datblygiad yma’n cefnogi gweledigaeth Cynllun Strategol 2019-22 Llenyddiaeth Cymru, i ysbrydoli ac annog cenedlaethau newydd o ddarllenwyr creadigol ledled Cymru. Bydd y sefydliad yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc Cymru i sicrhau bod eu lleisiau a’u barn yn cael eu clywed, ac fe fydd cyfle iddynt bleidleisio yng Ngwobr Barn y Plant a Phobl Ifanc.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru “Mae’n hynod bwysig rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn llenyddiaeth, i uniaethu a chwympo mewn cariad â geiriau. Gall y cariad hwn gael effaith gadarnhaol, barhaol wrth iddynt dyfu’n oedolion. Drwy ymgynghori â’r sector, a’n partneriaid wrth ddatblygu’r Cynllun Strategol newydd, daeth yn amlwg bod awydd cryf i weld ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc yn cael ei gynrychioli ar lwyfan llenyddol mwyaf Cymru. Cytunwn yn llwyr, ac mae’r datblygiad pwysig hwn yn sefydlu’n glir bod llenyddiaeth i blant llawn werth a’r hyn a fwriadir ar gyfer oedolion.”
Bydd y categori Plant a Phobl Ifanc yn ymuno â’r tri chategori sy’n bodoli eisoes – Barddoniaeth, Ffuglen, a Ffeithiol Greadigol – yn Gymraeg ac yn Saesneg, gydag un o’r pedwar enillydd categori yn cael eu henwi yn Brif Enillydd Llyfr y Flwyddyn mewn seremoni fawreddog yn yr haf. Bydd ceisiadau i’r categori Plant a Phobl Ifanc wedi’u bwriadu ar gyfer darllenwyr hyd at 16 oed, ac mae ffuglen, barddoniaeth a ffeithiol greadigol oll yn gymwys.
Yn dilyn seremoni hynod lwyddiannus yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yn 2019, mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gadarnhau y bydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2020 yn dychwelyd i Theatr y Werin ar nos Iau 25 Mehefin 2020.
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn y bydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau am yr ail flwyddyn yn olynol. Edrychwn ymlaen at ddathlu’r gorau o lenyddiaeth Gymreig yn Aberystwyth, cartref answyddogol llenyddiaeth yng Nghymru.”
Dyddiadau Allweddol 2020
Cyhoeddir Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn ar ddydd Mawrth 12 Mai 2020, ac fe gynhelir y Seremoni Wobrwyo ar nos Iau 25 Mehefin 2020. Bydd enwau’r panel beirniadu yn cael eu rhyddhau ym mis Mawrth 2020.
‘Yn 2019, roedd yn union 20 mlynedd ers sefydlu Sialens Ddarllen yr Haf. Hon yw’r ymgyrch flynyddol fwyaf yn y DU i hyrwyddo darllen ymysg plant rhwng 4 ac 11 oed. Ei nod yw eu hannog i ymweld â’u llyfrgelloedd lleol a’u hysbrydoli i ddarllen er mwyn pleser....
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i roi'r profiad mwyaf perthnasol drwy gofio eich dewisiadau a'ch ymweliadau. Drwy glicio "Derbyn Oll", rydych yn cytuno i'r defnydd o holl gwcis. Fodd bynnag, gallwch weld "Gosodiadau Cwcis" i roi dewis fwy reoledig.
We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Mae'r wefan yma y ndefnyddio cwcis yn gwella eich profiad wrth lywio'r wefan. O'r rhain, mae'r rhai a ddynodir yn "angenrheidiol" yn cael eu storio yn eich porwr gwe gan eu bod yn hanfodol i'r ffordd mae'r wefan yn gweithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis eraill i ddadansoddi sut mae ein ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Caiff y cwcis yma eu storio yn eich porwr gwe gyda'ch bendith chi. Mae gennych yr opsiwn i wrthod y cwcis yma, ond gall eu gwrthod effeithio eich profiad o ddefnyddio'r wefan.
This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.