50 o lyfrau i gael eu cyhoeddi yng Nghymru ar gyfer plant a phobl ifanc, i gefnogi eu sgiliau empathi a llythrennedd, ac i hyrwyddo darllen er pleser
Nod Project Rhyngom Cyngor Llyfrau Cymru, project sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yw hybu amrywiaeth mewn llyfrau darllen er pleser i blant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 oed.
Bydd y project dwy flynedd hwn yn arwain at gyhoeddi 50 o lyfrau darllen er pleser fydd yn dathlu diwylliant, pobl a hanes Cymru gyfan, gan gefnogi iechyd a lles plant a phobl ifanc a datblygu eu sgiliau empathi a llythrennedd, a thrwy hynny gefnogi pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.
Mae pedair rhan i’r project. Y rhan gyntaf fydd cyhoeddi addasiadau Cymraeg o 30 o deitlau Saesneg sy’n hyrwyddo a dathlu amrywiaeth – yn eu plith teitlau sydd wedi ennill gwobrau fel y Diverse Book Award.
Ail ran y project fydd adnabod y bylchau sy’n dal i fodoli yn y ddarpariaeth, a chomisiynu a chyhoeddi 20 o lyfrau gwreiddiol, newydd sbon (deg llyfr Cymraeg a deg llyfr Saesneg).
Y drydedd ran fydd cyhoeddi adnoddau addysg i gyd-fynd â’r 50 o lyfrau. Bydd yr adnoddau hyn ar ffurf print a digidol ac yn darparu canllaw ychwanegol a gwerthfawr i athrawon yng Nghymru. Mae Cyngor Llyfrau Cymru ar hyn o bryd yn dewis panel o ymarferwyr addysg profiadol sy’n gweithio â phlant a phobl ifanc ledled Cymru, i gefnogi’r rhan hon o’r project.
Rhan olaf y project fydd cydlynu cynllun anrhegu ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd yng Nghymru. Bydd pob ysgol gynradd wladol yn derbyn copi am ddim o’r llyfrau 3–7 oed a’r llyfrau 8–11 oed, a phob ysgol uwchradd wladol yn derbyn copi o’r llyfrau 8–11 oed a’r llyfrau 12–16 oed. Byddant hefyd yn derbyn fersiynau print o’r adnoddau addysg fydd yn seiliedig ar y teitlau hyn.
Yn greiddiol i’r weledigaeth y tu ôl i’r project mae cydnabod a dathlu amrywiaeth grwpiau cymdeithasol a chymunedau Cymru, drwy gyfrwng y llyfrau hyn.
I helpu dethol y teitlau i’w haddasu, rhoi cyngor ar awduron a syniadau ar gyfer y llyfrau gwreiddiol, mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gweithio gyda phanel o unigolion sy’n cynrychioli rhychwant eang o gymdeithasau, cymunedau a chefndiroedd yng Nghymru, ac sy’n llysgenhadon brwd yn eu meysydd arbenigol. Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch o fod yn cydweithio â phartneriaid fel Cyngor Hil Cymru (RCC), Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL), a Hanes Pobl Dduon Cymru. Mae pob un o’r llyfrau fydd yn cael eu cyhoeddi fel rhan o’r project hwn hefyd wedi cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Fel rhywun sydd wrth fy modd yn darllen, rwy’n gwybod gymaint o bleser gall llyfr ei roi, ac rwy’n falch iawn o gefnogi’r prosiect yma. Mae’n bwysig fod llyfrau’n cynrychioli ac yn dathlu amrywiaeth, a bod plant a phobl ifanc yn gallu gweld ei hunain ac eraill mewn llenyddiaeth a datblygu empathi.”
Un o’r prif amcanion wrth gomisiynu llyfrau gwreiddiol Cymraeg a Saesneg fel rhan o’r cynllun hwn oedd sicrhau cyfleoedd cyhoeddi i awduron a darlunwyr o gefndiroedd a chymunedau sy’n cael eu tan-gynrychioli. Er mwyn derbyn grant i gyhoeddi fel rhan o’r project hwn, dangosodd cyhoeddwyr eu hymrwymiad i gomisiynu talent newydd ac i gydweithio ag awduron a darlunwyr o amrywiaeth o gefndiroedd.
Er mwyn cefnogi awduron a darlunwyr newydd, mae cyhoeddwyr wedi mabwysiadu sawl model gwahanol, gan gynnwys cyd-awduro rhwng awduron newydd ac awduron cydnabyddedig, neu gomisiynu egin awduron nad ydynt hyd yn hyn wedi cael cyfle i gydweithio â chyhoeddwr yng Nghymru.
Ymhlith awduron y llyfrau gwreiddiol mae Natalie Jones, Cymraes o dras Jamaica sy’n athrawes ac yn awdur. Bydd Natalie yn ysgrifennu llyfr ffeithiol (i’w gyhoeddi gan Y Lolfa) ar gyfer plant 3–7 oed am 20 o unigolion o gefndiroedd diwylliannol amrywiol sydd wedi cyflawni pethau gwych yng Nghymru. Mewn cyfrol arall, bydd Haf Llewelyn, awdur Cymraeg profiadol, yn mentora tri egin awdur o gymunedau sy’n cael eu tan-gynrychioli, i ysgrifennu straeon byrion (i’w chyhoeddi gan Atebol) ar gyfer darllenwyr 8–11 oed.
Bydd yr ugain llyfr gwreiddiol Cymraeg a Saesneg yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2024, a’r 30 addasiad Cymraeg yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror 2025, a byddant ar gael i’w prynu mewn siopau llyfrau ac o siop ar-lein Gwales. Bydd fersiynau print o’r adnoddau addysgol i gyd-fynd â’r addasiadau, a fersiynau digidol o’r adnoddau i gyd-fynd â’r llyfrau gwreiddiol (ar Hwb) yn barod erbyn mis Mehefin 2025. Bydd Canolfan Ddosbarthu’r Cyngor Llyfrau wedyn yn pecynnu’r llyfrau a’r adnoddau print dros gyfnod o rai misoedd, er mwyn eu dosbarthu am ddim i bob ysgol wladol yng Nghymru erbyn Medi 2025.