Ar y trywydd iawn i stori dda
Cynllun llyfrau am ddim i deithwyr trenau Cambrian Line Bydd teithwyr ar Lein y Cambrian yn cael eu gwahodd i ddianc i mewn i stori dda y gaeaf hwn wrth i Gyngor Llyfrau Cymru a Phartneriaeth Rheilffyrdd Cambrian ymuno i gynnig llyfrau am ddim i deithwyr a helpu i’r...Cyfarchion y Nadolig 2022
Bydd y Cyngor Llyfrau a’r Ganolfan Ddosbarthu yn cau ar brynhawn Iau, 22 Rhagfyr 2022 ac yn ail agor wedi’r gwyliau ar ddydd Mawrth, 3 Ionawr 2023. Dymunwn Nadolig llawen a dedwydd i chi i gyd....Darllen yn Well ar gyfer yr arddegau
Mae Darllen yn Well ar gyfer yr arddegau yn cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc rhwng 13 a 18 oed, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i’w helpu i reoli eu teimladau ac ymdopi ar adegau anodd. Mae’r llyfrau wedi’u dewis a’u hargymell gan weithwyr...Datganiad ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Newsquest
Datganiad ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Newsquest – Corgi Cymru
Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Newsquest wedi cytuno i roi terfyn ar ariannu a darparu’r gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg, Corgi Cymru.
Daeth y ddwy ochr i gytundeb ar y cyd i gynnig cau sianeli digidol Corgi Cymru ar ddiwedd mis Hydref a chaniatáu i’r gwasanaeth gael ei ddirwyn i ben dros y mis canlynol.
Mae un swydd lawn-amser ac un swydd ran-amser bellach mewn perygl a bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda staff sy’n cael eu heffeithio yn Newsquest, gan ddechrau heddiw, 19 Hydref.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Ar ôl dwys ystyried a thrafod gofalus, mae Cyngor Llyfrau Cymru a Newsquest wedi cytuno mai’r peth gorau i’r ddwy ochr yw terfynu’r cytundeb cyllido a chau’r gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg Corgi Cymru ddiwedd Hydref.
“Rydym wedi bod mewn cyswllt rheolaidd gyda Newsquest dros yr wythnosau diwethaf ac mae’n ddrwg iawn gennym weld Corgi Cymru yn cau, ond rydym yn deall bod yr amgylchiadau wedi newid ers dyfarnu’r grant, oherwydd yr amgylchedd presennol heriol sydd ohoni. Mae ein meddyliau gyda’r staff sydd wedi’u heffeithio gan y penderfyniad hwn.”
Dywedodd Gavin Thompson, Golygydd Rhanbarthol Newsquest: “Rydym yn ddiolchgar i’r Cyngor Llyfrau am eu cefnogaeth, sydd wedi caniatáu i ni lansio Corgi Cymru yn gynharach eleni. Yn anffodus, daeth yn glir, hyd yn oed gyda chefnogaeth y Cyngor Llyfrau ac o ystyried yr amgylchedd economaidd heriol, na fyddai adeiladu menter Gymraeg newydd ar hyn o bryd yn gynaliadwy yn economaidd.
“Rydym wedi bod mewn trafodaethau adeiladol ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth dros yr wythnosau diwethaf, yn dilyn cau The National Wales. Byddwn yn dechrau proses ymgynghori gyda staff yr effeithir arnynt, gan ddechrau heddiw.”
Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi’r broses ar gyfer aildendro am weddill cyllid y grant Gwasanaeth Newyddion Digidol Cymraeg o 2023 ymlaen dros yr wythnosau nesaf.