Rona Aldrich

Rona Aldrich

Yn wreiddiol o Fôn, mae Rona Aldrich wedi byw yn Nyffryn Clwyd ers 40 mlynedd. Gyda gradd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth ac Astudiaethau Gwybodaeth o Brifysgol Aberystwyth, ei nod yn ystod ei gyrfa oedd sicrhau mynediad hwylus at wybodaeth a diwylliant o bob math i bawb mewn cymdeithas. Cyn ymddeol roedd yn Brif Swyddog gyda Chyngor Sir Conwy. Ar ôl cyfnod o fod yn hunan-gyflogedig, mae erbyn hyn yn eistedd ar Bwyllgor Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac yn Is-gadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru. Dros y blynyddoedd mae wedi dal nifer o swyddi yn lleol ac yn genedlaethol gan gynnwys i Lywodraeth Cymru ac wedi cynrychioli Cymru ar lefel y DU. Ym mis Chwefror 2021, fe’i penodwyd i Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg.

Chris Macey

Chris Macey

Mae Chris Macey yn Gyfrifydd Gwasanaethau gyda Chyngor Sir Ceredigion ac yn Drysorydd Mygedol gyda Chyngor Llyfrau Cymru.  Ymunodd â’r Cyngor Llyfrau ym mis Hydref 2015.

Yr Athro Jane Aaron

Yr Athro Jane Aaron

Mae’r Athro Jane Aaron yn addysgwr, ymchwilydd llenyddol ac yn awdur o Gymru. Hyd nes ei hymddeoliad ym mis Rhagfyr 2013, roedd yn Athro Saesneg ym Mhrifysgol Morgannwg yn ne Cymru. Wedi hynny daeth yn aelod cyswllt o’r Ganolfan Astudio’r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach ym Mhrifysgol De Cymru. Mae’r Athro Aaron yn adnabyddus am ei hymchwil a’i chyhoeddiadau ar lenyddiaeth Gymreig ac ysgrifau menywod o Gymru.

Ers dechrau’r 1990au, mae’r Athro Aaron wedi cyhoeddi nifer o draethodau a llyfrau, ac wedi golygu gweithiau ar gyfer Gwasg Honno, sy’n arbenigo yn ysgrifau menywod o Gymru. Yn 1999 golygodd y flodeugerdd o straeon byrion Honno o’r enw, A View Across the Valley: Short Stories from Women in Wales 1850–1950.

 

Rajvi Glasbrook Griffiths

Rajvi Glasbrook Griffiths

Yn Bennaeth Ysgol Gynradd High Cross yng Nghasnewydd sy’n gweithio ym maes addysg yng Nghymru ers 2009, mae Rajvi Glasbrook Griffiths hefyd yn Gyfarwyddwr gŵyl Llenyddiaeth Caerllion ers 2014, yn Gyfarwyddwr Prosiect Porth Caerllion ers 2016, ac yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol y cychlgrawn Planet. Mae’n aelod o Bwyllgor Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru yn ogystal â’i Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd.

“Mae’n fraint i mi ymgymryd â rôl ymddiriedolwr Cyngor Llyfrau Cymru. Mae’n elusen ac yn gorff sy’n adlewyrchu’n gryf fy ymroddiad diflino tuag at hyrwyddo a chefnogi llythrennedd, llenyddiaeth a’r iaith Gymraeg. Mae addysg a lleihau’r bwlch amddifadedd llythrennedd yn rhan fawr o’m gwaith, yn ogystal â dathlu ysgrifennu cyfrwng Cymraeg yng Nghymru a thu hwnt. Fy nod yw gwasanaethu’r bwrdd gyda’r gonestrwydd a’r pwrpas moesegol pennaf.

Alwena Hughes Moakes

Alwena Hughes Moakes

Mae Alwena Hughes Moakes yn Bennaeth Byd-eang Cyfathrebu ac Ymgysylltu â’r Gweithlu i gwmni amaeth rhyngwladol â’i bencadlys yn Basel, y Swistir. Cyn adleoli i’r Swistir, bu Alwena’n gweithio am rai blynyddoedd mewn swyddi rheoli ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Materion Cyhoeddus. Yn wreiddiol o’r Wyddgrug, mae Alwena yn gyfathrebwraig brofiadol a chanddi dros ugain mlynedd o brofiad o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.

“Rwyf wrth fy modd o gael fy mhenodi yn Ymddiriedolwr i Gyngor Llyfrau Cymru. Er fy mod yn byw ar y cyfandir ers bron i chwe mlynedd, mae gen i gryn ddiddordeb yn niwylliant Cymru – mae fy ymrwymiad i lwyddiant Cymru, gartref a thramor, cyn gryfed ag erioed. Edrychaf ymlaen yn fawr at yr her newydd ac at gydweithio ag aelodau’r Bwrdd i sicrhau ffyniant hirdymor y Cyngor – o ran awduron a diwydiant cyhoeddi Cymru.”