Darllenwyr Brwd yn Cyrraedd y Brig

Darllenwyr Brwd yn Cyrraedd y Brig

Cafodd tîm o ddarllenwyr brwd o Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa, Merthyr Tydfil, eu coroni’n Bencampwyr 2019 BookSlam, cystadleuaeth ddarllen y Cyngor Llyfrau i blant yn seiliedig ar lyfrau Saesneg o Gymru.

Cynhaliwyd y rownd genedlaethol yn Aberystwyth yn ddiweddar, a gwelwyd cannoedd o ddisgyblion cynradd o bob cwr o Gymru’n cystadlu i fod yn bencampwyr cenedlaethol. Eu tasg oedd creu argraff ar y beirniaid mewn dwy rownd – sef trafodaeth am 10 munud, a chyflwyniad dramatig yn para 8 munud, yn seiliedig ar eu dewis o lyfrau.

Ar ôl diwrnod o gystadlu brwd, Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa, Merthyr Tydfil a ddyfarnwyd yn bencampwyr BookSlam, ar ôl iddynt greu argraff arbennig ar feirniad y trafodaethau gyda’u gwybodaeth am y nofel Flight gan Vanessa Harbour. Yn rownd y cyflwyniadau, fe wnaethant blesio’r beirniad gyda’u dehongliad o Rugby Zombies gan Dan Anthony.

Yn ystod y dydd, cafodd yr holl blant a’r athrawon gyfle hefyd i fwynhau hwyliog yng nghwmni’r awdur Shoo Rayner.

Eleni, Pam John oedd yn beirniadu’r trafodaethau gydag Anna Sherratt yn beirniadu’r cyflwyniadau.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: “Nod BookSlam yw cael plant o bob cwr o Gymru i ddarllen. Trwy ddadansoddi a pherfformio’r hyn maent wedi’i ddarllen, gallant ddefnyddio’u dychymyg i ddod â’r llyfrau’n fyw yn eu cyflwyniadau. Pleser o’r mwyaf oedd gweld y plant yn llawn brwdfrydedd yn ystod rownd genedlaethol BookSlam; hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r trefnwyr ymroddedig am eu gwaith caled yn y rowndiau sirol, ac i’r athrawon a’r cefnogwyr eraill sy’n gwneud y digwyddiadau hyn yn bosibl.”

Cipiwyd yr ail safle gan Ysgol Gynradd Penllwyn, Ceredigion, gydag ysgolion cynradd Pontffranc, Powys a Crist y Brenin, Caerdydd yn rhannu’r drydedd wobr.

Diolch i gefnogaeth hael nifer o gyhoeddwyr Cymru gwahoddwyd pob plentyn a gymerodd ran yn y cystadlaethau i ddewis llyfr yn rhad ac am ddim i gofio am yr achlysur.

Cwestiynau Cyffredinol i’r Gymuned

Ble allwn i gael cyngor am y deunydd sydd ar gael ar gyfer fy mhlentyn/ysgol? Cysylltwch â’r Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen trwy glicio ar ‘Cysylltu’ uchod. Mae gan yr Adran nifer o swyddogion sy’n hyddysg yn y maes. Rwy'n athro/athrawes ac...

Gwasanaethau i Siopau

Mae siopau llyfrau annibynnol yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru ac i’w cymunedau lleol, ac fel Cyngor Llyfrau rydym ni yma i’w cefnogi ar hyd y daith. Caiff y gwaith yma ei arwain gan ein Adran Gwerthu a Gwybodaeth sydd wedi’i lleoli yn ein Canolfan...

#CaruDarllen

#CaruDarllen Profwyd mai darllen er pleser yw’r ffactor bwysicaf o ran llwyddiant yr unigolyn – yn fwy nag amgylchiadau teuluol, cefndir addysgiadol nag incwm.  Dyma un o’r rhesymau pam fod darllen er pleser yn rhan annatod o’n cenhadaeth fel Cyngor Llyfrau. Rydyn ni...
Teithiau Awdur

Teithiau Awdur

Fel rhan o’n gwaith yn hyrwyddo darllen, rydym yn trefnu teithiau awdur yn rheolaidd ar gyfer digwyddiadau arbennig fel Diwrnod y Llyfr a Sialens Ddarllen yr Haf neu ymgyrchoedd eraill sy’n hybu darllen ymhlith plant a phobl ifanc. Mae hefyd yn bosib i...