Lansio platfform dwyieithog cyntaf Cymru ar gyfer e-lyfrau

Lansio platfform dwyieithog cyntaf Cymru ar gyfer e-lyfrau

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi lansio platfform digidol newydd sbon ar gyfer e-lyfrau o Gymru.

ffolio.cymru fydd y platfform dwyieithog cyntaf o’i fath i ganolbwyntio ar werthu e-lyfrau o Gymru i’r byd ehangach.

Mae’r wefan ddielw yn cychwyn gyda dewis o dros 800 o deitlau ffuglen a ffeithiol ar gyfer plant ac oedolion, yn ogystal â llyfrau addysgol i blant yn Gymraeg a Saesneg.

Mae dros 500 o’r llyfrau Cymraeg ar y wefan ar gael fel e-lyfrau am y tro cyntaf erioed, a bydd y ffigwr hwn yn parhau i gynyddu.

Bydd siopau llyfrau annibynnol yng Nghymru yn elwa o bob pryniant, gyda chanran o werthiant pob e-lyfr yn mynd yn uniongyrchol i helpu i gefnogi’r busnesau bach hyn sydd mor bwysig i’n stryd fawr a’n cymunedau.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause: “Wrth lansio ffolio, rydym yn darparu platfform digidol dielw ac iddo gynnig unigryw – platfform sy’n cael ei gynnal a’i gadw yng Nghymru, lle mae bron pob un e-lyfr yn dod gan gyhoeddwr o Gymru. Bydd yn helpu i gynnal swyddi yn y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, yn ogystal â chefnogi siopau llyfrau annibynnol sy’n gwneud cyfraniad mor bwysig i’n cymunedau ac a fydd yn derbyn comisiwn ar bob gwerthiant.

“Fel elusen genedlaethol sy’n ymroddedig i gefnogi cyhoeddi a hyrwyddo darllen, mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod darllenwyr o bob oed a diddordeb yn gallu dewis llyfrau o Gymru mewn amrywiaeth o fformatau. Mae ffolio yn cadarnhau ac yn ehangu’r dewis yma, ac rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ariannu’r datblygiad sylweddol hwn.”

Mae datblygu ffolio yn rhan o fuddsoddiad dros ddwy flynedd a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol ym mis Mawrth 2020 i alluogi’r Cyngor Llyfrau i uwchraddio ei systemau digidol a chyflwyno system TG integredig newydd ar gyfer gwerthu, cyflenwi a dosbarthu llyfrau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae ffolio yn blatfform newydd cyffrous a fydd yn amlygu cyfoeth o dalent greadigol, yn hwyluso mynediad at waith awduron o Gymru, tra hefyd yn dod â budd i’r diwydiant cyhoeddi a’n siopau llyfrau Cymreig. Mae’n hynod o bwysig bod pobl yn gallu troi at lyfrau yn y fformat o’u dewis – yn enwedig o dan yr amgylchiadau presennol.”

Mae ffolio yn cynnwys detholiad eang o e-lyfrau sy’n addas ar gyfer plant ysgol, gan eu cefnogi wrth iddynt ddarllen er pleser a’u helpu i ddatblygu sgiliau llythrennedd.

Diolch i gydweithrediad cyhoeddwyr yng Nghymru, bydd mwy o e-lyfrau hefyd ar gael i ysgolion drwy Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint y CLA a gellir defnyddio’r adnoddau yma i gefnogi gwersi.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at y Cyngor Llyfrau ffolio@llyfrau.cymru.