Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch o gyhoeddi enillydd cystadleuaeth arbennig a drefnwyd gydag Urdd Gobaith Cymru i ganfod talent newydd ym maes darlunio llyfrau plant.
Dyfarnwyd y wobr i Lily Mŷrennyn, 24 oed o’r Rhondda, am ei gwaith celf ‘neilltuol o gain’ a’i ‘meistrolaeth ar y grefft o gyfleu naratif drwy lun’.
Y dasg i ymgeiswyr rhwng 18 a 25 oed oedd creu gwaith celf gwreiddiol i gyd-fynd â stori fer i blant gan un o brif awduron Cymru, Manon Steffan Ros.
Creadur mawr dychmygol, llwglyd o’r enw’r Soddgarŵ yw testun y naratif ac, fel rhan o’r wobr, mae’r llyfr stori-a-llun yn cael ei gyhoeddi gan gwmni Atebol yr wythnos hon.
Bydd Y Soddgarŵ ar gael mewn siopau llyfrau a llyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru, yn ogystal ag ar ffurf e-lyfr drwy wefan ffolio.cymru y Cyngor Llyfrau.
Dywedodd Lily Mŷrennyn, a raddiodd o gwrs Darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn 2020: “Mae wedi bod mor gyffrous i gael fy newis i weithio ar y prosiect hwn, yn enwedig yn ystod amser mor ansicr i raddedigion newydd. Rydw i’n teimlo’n lwcus iawn i gael cyfle i ddechrau fy ngyrfa greadigol gyda llyfr mewn print.”
Dywedodd beirniad y gystadleuaeth, Derek Bainton, artist graffeg proffesiynol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd: “Dyma artist sy’n dangos dealltwriaeth, hyder a meistrolaeth ar y grefft o greu naratif drwy lun. Mae’r gwaith celf yn neilltuol o gain, ac yn cyfuno nifer o sgiliau medrus fel technegau traddodiadol a digidol. Mae naws bersonol a chynnes i’r palet lliw, sy’n clymu’r cyflwyniad at ei gilydd yn hyfryd mewn modd cydlynus, proffesiynol a gwreiddiol.”
Dywedodd Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru, Helen Jones: “Llongyfarchiadau gwresog i Lily Mŷrennyn a diolch yn fawr i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth arbennig hon. Mae darluniadau yn gallu gwneud cyfraniad anfesuradwy at y grefft o adrodd stori gan ehangu apêl llyfrau, yn enwedig felly llyfrau plant. Mae’n hollbwysig ein bod yn meithrin a hybu safon a thalent newydd yn y maes yma yng Nghymru.”
Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Mae wedi bod yn bleser cydweithio â Chyngor Llyfrau Cymru ar y gystadleuaeth yma a’i chynnwys yn ein Rhestr Testunau, ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2020 yn wreiddiol. Prif bwrpas Eisteddfod yr Urdd yw rhoi cyfleoedd celfyddydol newydd i bobl ifanc, ac felly rydym yn hynod falch o gael cyhoeddi enw’r enillydd, Lily Mŷrennyn, a dathlu cyhoeddi’r llyfr Y Soddgarŵ yn ystod Eisteddfod T eleni.”
Dywedodd Rachel Lloyd, Golygydd Creadigol a Phennaeth Cyhoeddi Atebol: “Mae wedi bod yn fraint cael arwain ar y prosiect hwn. Mae’r llyfr yn ychwanegiad gwerthfawr i’n rhaglen o gyhoeddiadau fel gwasg. Fel rhan o’n meddylfryd i hyrwyddo a meithrin awduron a darlunwyr newydd, mae’r prosiect hwn wedi bod yn gyfle gwych i fuddsoddi mewn talent ifanc, newydd. Bu cydweithio â Lily yn bleser llwyr.”
Bydd y Cyngor Llyfrau yn gweithio gyda’r Urdd i gynnal ail gystadleuaeth i ddarlunwyr ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2022. Caiff y manylion eu cyhoeddi yn y Rhestr Testunau ym mis Medi 2021.
Chwilio
Postau Diweddaraf
Archif
- Chwefror 2026
- Ionawr 2026
- Rhagfyr 2025
- Tachwedd 2025
- Hydref 2025
- Medi 2025
- Gorffennaf 2025
- Mehefin 2025
- Mai 2025
- Ebrill 2025
- Mawrth 2025
- Chwefror 2025
- Rhagfyr 2024
- Tachwedd 2024
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Mawrth 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
