YSBRYDOLI DARLLENWYR IFANC YN Y DOSBARTH
Mae gan athrawon mewn ysgolion ledled Cymru adnodd newydd i’w helpu i ysbrydoli cariad at ddarllen gyda’u dysgwyr ifanc.
Heddiw, 1 Hydref, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi lansio Pecyn Dathlu Darllen ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, sy’n llawn dop o syniadau, gweithgareddau ac adnoddau arbennig i fwynhau darllen yn y dosbarth.
Crëwyd y pecyn yn dilyn adborth a dderbyniwyd gan athrawon yng Nghymru yn gofyn am adnoddau i’w helpu i ddathlu darllen trwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â nodi dathliadau poblogaidd eraill fel Diwrnod y Llyfr ym mis Mawrth a Diwrnod y Llyfr a Hawlfraint UNESCO ym mis Ebrill.
Dywedodd Ruth James, athrawes yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr: “Roedd llu o syniadau newydd sbon yno fyddai’n ennyn diddordeb y disgyblion i ddarllen. Mae cael adnodd fel hyn mor werthfawr. Byddwn ni bendant yn defnyddio nifer o’r gweithgareddau eleni ac yn annog gweddill y staff hefyd i’w defnyddio. Dwi ddim yn gallu pwysleisio digon bwysigrwydd creu diwylliant darllen ar lawr y dosbarth.”
Dywedodd Bethan Jones, Pennaeth yr Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen: “Rydym wrth ein boddau’n cynnig y pecyn arbennig yma i athrawon ledled Cymru, i’w helpu nhw i feithrin cariad at ddarllen ac i fwynhau llyfr arbennig gyda dysgwyr yn y dosbarth.
“O’n harolwg ysgolion a gynhaliwyd yn 2023, rydym wedi derbyn y neges yn glir gan athrawon y bydden nhw’n croesawu adnoddau i’w helpu nhw i greu mwy o gyfleoedd i ddathlu darllen yn y dosbarth drwy gydol y flwyddyn.
“Mae’r pecyn yn rhoi sylw i ddetholiad o lyfrau o Gymru, ac mae’n cynnwys gweithgareddau, canllawiau trafodaeth a recordiadau o awduron. Mae hefyd yn cynnig cysylltiadau at bynciau ar draws y Cwricwlwm i Gymru, ynghyd â syniadau y gellid eu haddasu ar gyfer astudio llyfrau eraill.
“Mae’r pecyn hefyd yn llawn syniadau gwych ar gyfer dathlu llyfrau o fewn y dosbarth a thu hwnt – o ddigwyddiadau darllen, cyfnewid llyfrau, arddangosfeydd a gwasanaethau – er mwyn rhoi darllen a chariad at lyfrau wrth graidd bywyd yr ysgol.
“Rydym yn wir obeithio bydd y pecyn yn ateb y galw gan athrawon am adnoddau i’w helpu yn y dosbarth i wneud darllen er pleser yn rhan o batrwm dyddiol yr ysgol.”
Mae’r Pecyn Dathlu Darllen ar gael i ysgolion ei lawrlwytho o wefan y Cyngor Llyfrau: Pecyn Dathlu Darllen | Cyngor Llyfrau Cymru