Plant Cymru yn Mentro i’r Gofod wrth i Sialens Ddarllen yr Haf Gychwyn
Paratowch i ddathlu ugeinfed pen-blwydd Sialens Ddarllen yr Haf a mynd ar Ras Ofod.
Cafodd y sialens ei lansio gan yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn Llyfrgell y Drenewydd ddydd Gwener, 12 Gorffennaf 2019, yng nghwmni’r awdur a’r darlunydd poblogaidd Max Low.
Teitl Sialens Ddarllen yr Haf eleni yw Ras Ofod, sy’n cyd-fynd â dathlu 50 mlynedd ers y glaniad ar y lleuad. Wedi’i chymeradwyo gan rieni, athrawon, Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru, mae Sialens Ddarllen yr Haf yn cyrraedd plant a phobl ifanc o bob oed, gyda thros 40,000 o blant Cymru yn cymryd rhan y llynedd.
Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: “Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn fenter bwysig a chyffrous sy’n annog plant i neilltuo amser yn ystod gwyliau haf yr ysgol i ddarllen eu hoff lyfrau. Yr hyn sy’n wych yw eich bod yn gallu cymryd rhan yn y sialens lle bynnag y byddwch chi dros yr haf – yn hamddena ger y pwll nofio, yn eich ystafell wely neu’n eistedd yn eich gardd. Rwy’n ysu am glywed am y llyfrau y byddwch chi’n dewis eu darllen yn ystod y gwyliau, a gallwch osod eich lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #SialensDdarllenYrHaf.”
I gymryd rhan yn y sialens, gall plant gofrestru am ddim yn eu llyfrgell leol, lle byddan nhw’n cael ffolder Ras Ofod arbennig er mwyn cychwyn ar y darllen. Mae’n rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan ddarllen o leiaf chwe llyfr o’r llyfrgell dros wyliau’r haf a chasglu sticeri a fydd yn eu helpu nhw i ddod o hyd i estroniaid arallfydol a chwblhau’r sialens.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ddigwyddiad mawr ar gyfer gwyliau’r haf ac rwy’n gwybod bod llyfrgelloedd, ysgolion a phlant o bob cwr o Gymru’n disgwyl ymlaen ati bob blwyddyn gan ein bod ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw cadw plant i ddarllen dros wyliau’r haf. Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi llyfrgelloedd i gynnal y Sialens ac mae’r thema eleni ‘Y Ras Ofod’ yn siŵr o ysbrydoli miloedd o blant o bob rhan o’r wlad i ymuno â ni mewn antur arallfydol.”
Mae plant yn cael eu hannog i ddefnyddio gwefan Sialens Ddarllen yr Haf i greu proffil, i sgwrsio am lyfrau, a chael gwybodaeth am ba lyfrau i’w darllen nesaf drwy’r adnodd digidol Book Sorter sy’n cynnig dros 600,000 o argymhellion am lyfrau gan ddarllenwyr o’r un oed, mewn categorïau sy’n addas i blant.
Meddai Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau, a chyn-athrawes gynradd: “Pan fydd plant yn ailddechrau yn yr ysgol ar ôl gwyliau’r haf, rydyn ni’n gweld dirywiad yn sgiliau darllen rhai ohonynt, gyda nifer heb ddod i gysylltiad â llyfrau am chwe wythnos – gall hyn gael effaith andwyol iawn ar eu datblygiad. Mae darllen yn gallu effeithio ar sut mae plentyn yn trafod ei emosiynau, ac ar ei allu i rannu syniadau a deall y byd o’i amgylch. Fy nghyngor i fyddai neilltuo amser, boed hynny’n bum munud neu’n awr bob dydd, i ddarllen gyda’ch plentyn, a gwnewch hyn yn rhan o’r drefn ddyddiol. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol gyffredinol ar blant, ac rwy’n annog teuluoedd ledled Cymru i gymryd rhan yn hwyl Sialens Ddarllen yr Haf.”
Mae’r sialens hefyd yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc wirfoddoli yn eu llyfrgelloedd lleol; gall hyn eu hysbrydoli i feddwl am eu dyfodol ac i ddysgu sgiliau bywyd defnyddiol. Y llynedd, dewisodd 134 o bobl ifanc rhwng 12 a 24 oed gymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli.
Sialens Ddarllen yr Haf yw’r ymgyrch flynyddol fwyaf yng ngwledydd Prydain i annog plant 4–11 oed i ddarllen. Ei nod yw annog plant i ymweld â’u llyfrgelloedd lleol a’u hysbrydoli i ddarllen am hwyl. Yn ystod y sialens y llynedd, benthycwyd 663,851 o lyfrau plant mewn llyfrgelloedd ledled Cymru ac ymunodd dros 3,000 o blant â’r llyfrgell fel aelodau newydd.