Cwpan Y Byd Pêl-droed
Alun yr Arth a'r Gêm Bêl-Droed
gan Morgan Tomos
Mae Alun yn cael cyfle i ymarfer gyda thîm pêl-droed Cymru. Ond dyw e ddim yn gallu chwarae’n dda iawn felly mae’n penderfynu bod yn ddyfarnwr. Ond sut ddyfarnwr yw Alun, tybed?
Y Dyn Dweud Drefn yn Chwarae Pêl-droed
gan Lleucu Fflur Lynch
Mae’r Dyn Dweud Drefn yn meddwl mai fo ydi pêl-droediwr gorau Cymru, ac mae’n benderfynol o sgorio’r gôl orau erioed. Ond tydi o’n cael fawr o hwyl arni. Tybed all y Ci Bach helpu’r Dyn Dweud Drefn i wireddu ei freuddwyd?
Pêl-Droed Penigamp
add. gan Elinor Wyn Reynolds
Llyfr yn llawn hwyl ond a llond trol o ffeithiau hefyd. Mae’n olrhain yr hanes, o ddechreuadau pêl-droed, pan fyddai gemau’n para am ddyddiau, a ffeithiau difyr a straeon anhygoel heddiw. Yn ogystal a chynnwys adrannau sy’n taflu golau ar y goreuon a beth sy’n eu gwneud nhw’n chwaraewyr mor wych.
Cwpan y Byd: Qatar 2022
gan Dylan Ebenezer
Ar ôl 64 o flynyddoedd mae cyfle i Gymru ddangos i’r byd ein bod ni YMA O HYD! Dyma’r llyfr angenrheidiol ar gyfer Cwpan y Byd 2022! Mae’n llawn ffeithiau am y gwledydd, y meysydd, hanes y gystadleuaeth, sêr y 32 tîm, a thaith Cymru, yn ogystal a lluniau gwych o’r chwaraewyr.
Fi ac Aaron Ramsey
gan Manon Steffan Ros
Mae Sam yn caru pêl-droed – chwarae gyda’i ffrindiau a’r tîm lleol, gwylio goliau a fideos gyda Mo, trafod gemau gyda’i dad a chefnogi tîm Cymru wrth gwrs. Ond, i Sam, mae pêl-droed yn bwysicach na dim ond gem. Mae’n rhoi cysur pan mae’n poeni am bob peth ac yn rhoi profiadau newydd, cyffrous iddo. Ond mae un digwyddiad ofnadwy ar y cae yn bygwth chwalu ei berthynas a’r gem yn llwyr.
Y Gêm
gan Gareth F. Williams
Roedd Alun a Tecwyn yn ffrindiau gorau pan oedden nhw’n blant. Ond, yn dilyn ymweliad a’r Hen Dŷ un prynhawn poeth, trodd y ddau ffrind yn ddau elyn. Yn 1914, mae Alun a Tecwyn yn gadael eu cartrefi yn Eryri a mynd i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ddiwrnod Nadolig yn ffosydd Ffrainc, mae heddwch undydd rhwng milwyr dwy fyddin yn gorfodi Alun a Tecwyn i chwarae gem o bêl-droed i’r un tîm. Tra bo carolau’n clecian yn lle gynnau, a fydd y ddau’n dychwelyd adref i chwarae gem gyfeillgar arall o bêl-droed?