Rhodd arbennig i gefnogi ac ysbrydoli awduron ifanc

Rhodd arbennig i gefnogi ac ysbrydoli awduron ifanc

Eleni, mae naw awdur ifanc wedi gallu cymryd cam yn nes at wireddu eu huchelgais i ddod yn awduron cyhoeddedig, diolch i gymynrodd hael gan Marie Evans, oedd yn dymuno cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu.

Diolch i deulu Marie, roedd Cyngor Llyfrau Cymru yn gallu trefnu encil ysgrifennu, er mwyn rhoi cyfle i awduron ifanc dreulio deuddydd yng nghwmni’r awdur Sioned Erin. Roeddent yn gallu cymryd amser i drafod ysgrifennu, rhannu syniadau a chymryd rhan mewn trafodaethau unigol gydag Erin i dderbyn ei sylwadau hi ar eu gwaith eu hunain. Mae’r grŵp hefyd wedi treulio amser gyda Phennaeth Datblygu Cyhoeddi y Cyngor Llyfrau, i gael cipolwg ar sut mae cyhoeddi yn gweithio a’r camau i’w cymryd i ddod yn awdur cyhoeddedig.

Dywedodd Caryl, a gymerodd ran yn y sesiynau, fod yr encil “wedi golygu cyfle i gamu allan o brysurdeb pob dydd a chymryd amser i wneud beth sydd mor bwysig i mi. Mae wedi fy ysbrydoli i ysgrifennu eto.”

Dywedodd Megan fod yr encil wedi galluogi’r grŵp i “ysbrydoli ein gilydd, dathlu creadigrwydd a gwahaniaethau ein gilydd a derbyn cyngor ar y pethau anoddach am ysgrifennu creadigol.”

Enillodd Sioned Erin y Fedal Rhyddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn 2022 gyda’i chyfrol o straeon byrion, Rhyngom. Hi arweiniodd yr encil, gan rannu ei phrofiadau ei hun o ddechrau fel ysgrifennwr i fod yn awdur cyhoeddedig arobryn.

Dywedodd Sioned Erin, “Y gweithdai hyn oedd rhai o’r cyntaf imi eu cynnal fel hwylusydd creadigol. Mae yna dipyn o leisiau blin yn eich pen ar y dechrau fel yna, ac mae rhywun yn aml yn cwestiynu a ydyn nhw’n ddigon da, ac yn ddigon profiadol, i gynnal gweithdai o’r fath. Ond wir, doedd dim angen imi boeni am un eiliad. Roedd y criw, a Bethan o’r Cyngor Llyfrau, mor hyfryd, mor gefnogol, ac yn eithriadol o weithgar, ac mae’r adborth wedi bod mor galonogol ac yn gymaint o hwb. Mae’r gweithdai hyn yn werthfawr tu hwnt i’r rhai sy’n mynychu, ond dwi’n prysuro i bwysleisio mor werthfawr ydyn nhw i’r sawl sy’n cynnal y gweithdai, hefyd. Diolch o galon am y cyfle.”

Dywedodd Bethan Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau: “Hoffem ddiolch o galon i deulu Marie am ein galluogi i gynnal yr encil ysgrifennu hwn er cof amdani. Bu Marie yn gweithio i’r Cyngor Llyfrau am dros 30 mlynedd, a’i dymuniad hi oedd cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu. Mae ei rhodd wedi rhoi cyfle i naw unigolyn ifanc weithio gydag awdur arobryn, ac i rannu eu profiadau, eu hysbrydoliaeth a’u syniadau gydag ysgrifenwyr ifanc eraill.”

Dewiswyd yr ysgrifenwyr yn dilyn galwad agored a gynhaliwyd yn 2023 yn gwahodd ysgrifenwyr ifanc 18–25 oed i gyflwyno cais gydag esiamplau o’u gwaith. Gwahoddwyd naw ysgrifennwr i gymryd rhan. Cynhaliwyd y sesiwn encil gyntaf ym mis Ionawr 2024, a chynhaliwyd yr ail ddiwrnod ym mis Mehefin. Rydym yn dymuno’r gorau i’r criw ac yn gobeithio y byddan nhw’n cadw mewn cysylltiad wrth iddynt barhau ar eu teithiau ysgrifennu.

Rhodd arbennig i gefnogi ac ysbrydoli awduron ifanc

Darllenwyr ifanc yn paratoi ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf

Mae darllenwyr ifanc o Ysgol Twm o’r Nant yn Ninbych wedi bod yn paratoi i fynd i’r afael â Sialens Ddarllen yr Haf eleni gyda’r awdur Leisa Mererid, mewn lansiad yn Llyfrgell Dinbych heddiw, dydd Mercher 10 Gorffennaf 2024.

Mae’r plant wedi ymuno â’r Sialens, a grëwyd gan yr elusen genedlaethol The Reading Agency, sydd â’r nod o’u cadw yn darllen dros wyliau’r haf, gyda digwyddiadau, gweithgareddau a llyfrau gwych – i gyd ar gael am ddim o’u llyfrgelloedd lleol.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf eleni, Crefftwyr Campus, yn dathlu creadigrwydd o bob math – dawnsio a darlunio, gwneud modelau allan o sbwriel a miwsig – mae rhywbeth at ddant pawb.

Ac mae awdur Leisa Mererid wedi rhoi dechrau da i’r dosbarth o Ysgol Twm o’r Nant wrth gyflwyno ei llyfr Y Wariar Bach gyda symudiadau ioga ac ymarferion anadlu.

Dywedodd Meira Jones o Lyfrgell Dinbych: “Rydym mor gyffrous i gael lansiad cenedlaethol Sialens Ddarllen yr Haf 2024 yn Llyfrgell Dinbych yn Sir Ddinbych eleni. Mae’r Sialens yn annog a hybu’r plant i ddarllen er pleser trwy’r haf gan wella eu sgiliau darllen a’u hyder. Dychymyg a chreadigrwydd yw’r themâu eleni felly mae rhywbeth i bawb, dewch i’ch llyfrgell leol i ymuno yn hwyl y Crefftwyr Campus!”

Dywedodd Dafydd Davies, Pennaeth Ysgol Twm o’r Nant: “Rydym yn falch iawn yma yn Ysgol Twm o’r Nant i gael bod yn rhan o’r lansiad yn Llyfrgell Dinbych. Fel ysgol rydym yn weithgar iawn wrth hybu dysgwyr i ddarllen er mwyn pleser ac yn sicr bydd cael bod yn rhan o’r lansiad yma yn hyrwyddo’r dysgwyr ifanc i barhau i ddarllen dros wyliau’r haf.”

Darperir Sialens Ddarllen yr Haf blynyddol gan The Reading Agency. Fe’i cefnogwyd yng Nghymru gan Cyngor Llyfrau Cymru, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru. Mewn partneriaeth â llyfrgelloedd lleol, nod y cynllun yw helpu atal y gostyngiad mewn darllen dros yr haf y mae llawer o blant yn ei brofi pan nad ydynt yn yr ysgol. Gyda chefnogaeth y llyfrgelloedd, mae’n darparu ffordd hwyliog o gadw meddyliau ifanc yn effro, yn rhad ac am ddim.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Rwy’n gwybod cymaint o bleser yw ymgolli mewn llyfr da. Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wych i blant ddatblygu eu sgiliau darllen, darganfod awduron newydd ac i feithrin angerdd gydol oes tuag at lyfrau.

“Dyna pam yr ydym yn ariannu’r cynllun hwn eto eleni i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i barhau i ddarllen yn ystod gwyliau’r haf.”

Gall darllenwyr ifanc 4–11 oed gofrestru am y Sialens yn eu llyfrgell leol, neu ar-lein i gasglu gwobrau, darganfod llyfrau newydd, cofnodi eu darllen a mwynhau ystod o weithgareddau yn rhad ac am ddim. Ewch i ddarganfod mwy yn eich llyfrgell leol neu ar wefan sialensddarllenyrhaf.org.uk.