Dathlu darllen er HWYL! Diwrnod y Llyfr 2026
Dathlu darllen er HWYL!
Diwrnod y Llyfr 2026
Dathlu Diwrnod y Llyfr led led Cymru HEDDIW!
Heddiw – dydd Iau 5 Mawrth – mae Diwrnod y Llyfr 2026 yn cael ei ddathlu ledled Cymru, gan wahodd plant, teuluoedd, ysgolion a chymunedau i gael hwyl wrth ddarllen. Mae’r diwrnod yn gyfle i unigolion o bob oed i gydio yn eu hoff lyfr a rhannu eu mwynhad o’i ddarllen gyda’u cyfoedion.
Mae Diwrnod y Llyfr yn ymgyrch ryngwladol i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i fod yn berchen ar lyfr. Fel rhan o’r dathliad, bydd llyfrau £1 ar gael mewn siopau llyfrau penodol ledled Cymru rhwng 12 Chwefror a 15 Mawrth 2026. Gellir gweld rhestr lawn o’r siopau sy’n cymryd rhan ar-lein.
Gall plant gyfnewid eu tocyn £1 Diwrnod y Llyfr am unrhyw un o lyfrau £1 swyddogol Diwrnod y Llyfr, neu ei ddefnyddio i gael £1 oddi ar lyfr neu lyfr llafar pris llawn (cyn belled â bod y teitl yn costio o leiaf £2.99).
Yng Nghymru, cefnogir Diwrnod y Llyfr gan Adran Addysg Llywodraeth Cymru o dan Raglen Cymorth Grant y Cwricwlwm. Un i Ti ac Un i Fi gan Aneirin Karadog yw’r llyfr £1 Cymraeg eleni, a gyhoeddir gan Rily.
Lansiad llyfr Un i Ti ac Un i Fi
Un i Ti ac Un i Fi gan Aneirin Karadog a Matt Abbott, yw’r llyfr Cymraeg newydd a gomisiynwyd fel rhan o ymgyrch Diwrnod y Llyfr 2026. Cynhaliwyd lansiad arbennig ar 4 Mawrth yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontyberem, gyda’r awdur a’r darlunydd yn ymuno â’r disgyblion i ddathlu.
Dywedodd Indeg Griffiths, Pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Pontyberem: “Roedd hi’n fraint cael lansio llyfr newydd gan awdur lleol yma yn yr ysgol. Cafodd y disgyblion ddiwrnod gwerth chweil wrth ddarllen y llyfr. Mae darllen er mwynhad yn hanfodol i ddatblygiad plant – ac mae profiadau fel hyn yn meithrin cariad at ddarllen sy’n gallu para am oes.”
Dywedodd llefarydd ar ran Rily: “Roedd yn bleser ymuno ag Ysgol Pontyberem i lansio ein teitl newydd ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2026, sef llyfr stori-a-llun hyfryd am rannu. Yn ogystal â darllen, cafodd y plant gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol, a chyflwynwyd gwobr o lyfrau i’r dosbarth buddugol.”
Mae’r llyfrau £1 eraill sydd ar gael eleni yn cynnwys:
- Ha ha Cnec! gan Huw Aaron
- Na, Nel! Un tro… gan Meleri Wyn James
- Cyfres Cyw: Darllen gyda Cyw gan Anni Llŷn
‘Ymgolli’ ymhellach ym myd llyfrau
Mae Diwrnod y Llyfr 2026 yn rhan o’r Flwyddyn Genedlaethol o Ddarllen: Ymgolli / Go All In, sy’n annog pobl o bob oed i ymgolli mewn darllen drwy’r flwyddyn gyfan – mewn ysgolion, cartrefi, llyfrgelloedd a chymunedau.
Dywedodd Bethan Jones, Pennaeth Adran Plant, Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae Diwrnod y Llyfr yn fwy na dathliad blynyddol – mae’n wahoddiad i bob plentyn yng Nghymru gydio yn ei hoff lyfr a rhannu llawenydd darllen gydag eraill. Mae’n gyfle arbennig i annog plant, teuluoedd a chymunedau i ymgolli mewn llyfrau, meithrin cariad at ddarllen, a dathlu grym straeon gyda’i gilydd.
“Eleni, mae’r dathliadau hefyd yn cyd-fynd â’r ymdrechion cenedlaethol i hyrwyddo darllen ledled Cymru, gan ychwanegu at y gwaith ehangach sy’n anelu at ysbrydoli mwy o blant i fwynhau llyfrau yn eu bywydau bob dydd.”
Ymunwch â’r dathlu!
I’r rhai sy’n dymuno cynnal eu dathliadau eu hunain, mae Pecyn Syniadau Cyngor Llyfrau Cymru ar gael, yn llawn adnoddau ymarferol, syniadau creadigol a gweithgareddau difyr i blant: Adnoddau Diwrnod y Llyfr.
I’n helpu i ddathlu llyfrau trwy’r flwyddyn, mae Diwrnod Llyfr UNESCO ar 23 Ebrill yn cynnig cyfle ychwanegol i ni barhau i ddarllen gyda ffrindiau, teulu neu yn y dosbarth.
Cefnogwch yr ymgyrch drwy rannu eich dathliadau Diwrnod y Llyfr ar gyfryngau cymdeithasol ar y manylion isod: @llyfrau.cymru | #carudarllen #diwrnodyllyfr


Dywedodd Indeg Griffiths, Pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Pontyberem: “Roedd hi’n fraint cael lansio llyfr newydd gan awdur lleol yma yn yr ysgol. Cafodd y disgyblion ddiwrnod gwerth chweil wrth ddarllen y llyfr. Mae darllen er mwynhad yn hanfodol i ddatblygiad plant – ac mae profiadau fel hyn yn meithrin cariad at ddarllen sy’n gallu para am oes.”