Yr awdur Claire Fayers yw enillydd gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020 am ei stori antur ffantasïol sy’n cyfuno chwedloniaeth Nordig a Chymreig.
Yr awdur Claire Fayers yw enillydd gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020 am ei stori antur ffantasïol sy’n cyfuno chwedloniaeth Nordig a Chymreig.
Roedd Storm Hound (Macmillan Children’s Books) ymhlith pedwar o lyfrau Saesneg ac iddynt gefndir Cymreig dilys ar restr fer y gwobrau llenyddiaeth plant a phobl ifanc, sy’n cael eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Gwnaed y cyhoeddiad am y teitl buddugol yn fyw ar y Radio Wales Arts Show nos Wener 3 Gorffennaf 2020.
Wrth siarad am ei buddugoliaeth, dywedodd Claire Fayers sy’n byw yng Nghaerdydd: “Dwi wrth fy modd fy mod wedi ennill gwobr Saesneg Tir na n-Og eleni. Dwi wedi bod yn darllen llyfrau o restrau byr Tir na n-Og cyhyd ag y gallaf gofio. Maen nhw’n cynrychioli’r gorau o lenyddiaeth o Gymru i blant a phobl ifanc, felly mae ennill yn anrhydedd aruthrol.”
Mae Storm Hound yn adrodd hanes Storm of Odin, aelod ieuengaf cŵn drycin yr Helfa Wyllt sy’n hedfan drwy stormydd llawn mellt. Bu’n dyheu am yr amser pan gâi ymuno â’i frodyr a’i chwiorydd ond ar ei helfa gyntaf un, mae’n darganfod na all hedfan yn ddigon cyflym i aros gyda’r lleill ac mae’n syrthio i’r ddaear, gan lanio ar yr A40 ger y Fenni.
Daw Jessica Price, sy’n 12 oed, ar draws ci bach del mewn canolfan achub anifeiliaid ac mae’n ei fabwysiadu. Mewn antur llawn cyffro, buan iawn mae’n dechrau sylweddoli nad ci cyffredin mo’i chi bach annwyl hi.
Dywedodd cadeirydd panel beirniaid llyfrau Saesneg Tir na n-Og 2020, Eleri Twynog Davies: “Llongyfarchiadau mawr i Storm Hound – stori hudolus ac iddi themâu cryf yn ymwneud â chyfeillgarwch a pherthyn. Roedd y cymeriadau wedi’u datblygu’n ardderchog, gan roi i ni eiliadau o hiwmor ac ing.
“Roedd straeon pob un o’r pedwar llyfr ar y rhestr fer wedi’u gosod ar gefndir Cymreig ac roedd yr ymdeimlad yma o le yn cyfrannu at eu hapêl gyffredinol. Mae hyn yn faen prawf canolog ar gyfer y wobr hon, ac roeddem ni fel beirniaid yn gweld ei eisiau mewn llawer o’r cyfrolau eraill. Mae mor bwysig bod plant ar hyd a lled Cymru yn gallu gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu rhwng dau glawr a bod gan blant y tu hwnt i Gymru ffenest ar ddiwylliant arall.”
Y tri theitl arall ar restr fer gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020 oedd The Secret Dragon gan Ed Clarke (Puffin), Max Kowalski Didn’t Mean It gan Susie Day (Puffin) a Where Magic Hides gan Cat Weatherill (Gomer).
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae ennyn cariad at ddarllen ymhlith ein plant a’n pobl ifanc yn hynod o bwysig. Mae’n eu helpu nid yn unig i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau llythrennedd, mae hefyd yn fuddiol o ran eu hiechyd meddwl a’u lles. Mae Gwobrau Tir na n-Og yn dathlu ysgrifennu gwych ar gyfer y genhedlaeth iau ac yn sicrhau bod straeon ac iddynt leoliad Cymreig unigryw yn cael eu cynrychioli yn y gorau o lenyddiaeth ein gwlad. Estynnwn ein diolch a’n llongyfarchiadau diffuant i bawb sy’n ymwneud â’r gwobrau, ac yn arbennig heddiw i Claire Fayers.”
Dywedodd Amy Staniforth o CILIP Cymru, sy’n noddi Gwobrau Tir na n-Og: “Ar ôl ychydig fisoedd mor anodd i bawb, mae CILIP Cymru yn falch iawn o longyfarch Claire Fayers ar ennill gwobr Saesneg Tir na n-Og eleni. Rydym yn gwybod y bydd llyfrgellwyr ledled Cymru yn hynod gyffrous am gael rhannu Storm Hound â’u defnyddwyr trwy eu gwasanaethau clicio a chasglu.”
Dywedodd cyflwynydd y Radio Wales Arts Show, Nicola Heywood Thomas: “Mae ysgrifennu newydd ar gyfer plant a phobl ifanc mor bwysig o ran tanio’u dychymyg a chodi awydd darllen arnyn nhw. Mae straeon gwych yn cael effaith sy’n gallu aros gyda darllenwyr gydol eu hoes. Mae’r wobr hon yn amlygu’r ystod ragorol o dalent sydd yng Nghymru. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.”
Cyflwynwyd siec o £1,000 yn wobr i Claire Fayers, ynghyd â cherdd gan y Children’s Laureate Wales Eloise Williams a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.
ff enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2020 eu cyhoeddi ar y rhaglen Heno ar S4C am 6.30yh nos Wener, 10 Gorffennaf.