Mewn partneriaeth rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a phlatfform diwylliant aml-gyfrwng AM, bydd dathliad o ddarllen yn digwydd dros gyfnod o 12 awr ar amam.cymru o 9 y bore ymlaen ar Ddiwrnod y Llyfr.
Ymhlith arlwy’r dydd bydd darlleniadau gan awduron, adolygiadau o lyfrau, argymhellion darllen a mwy gyda chyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a mudiadau eraill ar draws Cymru yn ychwanegu deunydd Cymraeg a Saesneg newydd at eu sianeli AM yn cynnwys:
- Amdani – Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg (Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol)
- Podlediad a fideos gydag awduron plant (Cyngor Llyfrau Cymru)
- Fideo Monster Max a Walker (Firefly)
- Fideo o lansiad Cambrian Pictures gan Ann Julia Hatton (Honno)
- Darlleniad gan Meleri Wyn James o Na, Nel! Un Tro – un o lyfrau Diwrnod y Llyfr (Y Lolfa)
- Adolygiad Hywel Price o Iaith y Brifddinas gan Owen John Thomas (O’r Pedwar Gwynt)
- Cyfres o ddarlleniadau o’r siop (Palas Print)
- Darlleniad o The Amazingly Astonishing Story gan Lucy Gannon (Seren Books)
- Adolygiadau llyfrau plant (Sôn am Lyfra)
- Ffilm fer o gerddi gan Morwen Brosschot o’i phamffled ‘Gwrando’ (Y Stamp)
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae Diwrnod y Llyfr yn gyfle i ni ddathlu’r budd a ddaw o ddarllen er pleser drwy gydol y flwyddyn. Mewn blwyddyn heriol i bawb, rydym wrth ein bodd yn cydweithio gydag AM a’r sector llyfrau i ddathlu’r cynnyrch gwych sydd ar gael gan gyhoeddwyr Cymru. Hoffem estyn diolch hefyd i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth.”
Dywedodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr AM: “Mae’n fraint cydweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru i ddathlu a hyrwyddo cyfoeth llenyddol Cymru a hynny mewn cyfnod sydd mor anodd i awduron, siopau a gweisg. Beth bynnag yr amgylchiadau mae llyfrau yn parhau yn allweddol i lesiant cymdeithas gyfan ac mae Diwrnod y Llyfr yn gyfle arbennig i fwynhau, rhannu a chefnogi’r rhai sydd yn ysgrifennu a chyhoeddi yng Nghymru”
Dynodwyd Diwrnod y Llyfr yn ddathliad rhyngwladol o ddarllen gan UNESCO ac mae’n cael ei nodi mewn dros 100 o wledydd ar draws y byd. Y nod yw hyrwyddo darllen er pleser, gan gynnig cyfle i bob plentyn a pherson ifanc i feddu ar eu llyfr eu hunain.
Fel rhan o’r digwyddiad blynyddol, mae plant yng Nghymru yn derbyn tocyn llyfr £1 i’w gyfnewid naill ai am un o lyfrau £1 Diwrnod y Llyfr neu ei ddefnyddio tuag at brynu llyfr arall. Mae’r Cyngor Llyfrau Cymru yn gweithio gyda Diwrnod y Llyfr i sicrhau bod dewis o deitlau ar gael yn Gymraeg, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol a chwmni Waterstones.
Mae dewis o bedwar o lyfrau £1 Cymraeg ar gael ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021 sef Ha Ha Cnec! Jôcs Twp a Lluniau Twpach gan Huw Aaron (Broga), Stori Cymru Iaith a Gwaith (Gwasg Carreg Gwalch) gan Myrddin ap Dafydd, Na, Nel! (Y Lolfa) gan Meleri Wyn James a Darllen gyda Cyw (Y Lolfa) gan Anni Llŷn.
Mae’r Cyngor Llyfrau hefyd yn trefnu gweithgareddau eraill ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021, yn cynnwys rhyddhau’r cyntaf mewn cyfres o ffilmiau byrion gyda 24 o awduron plant Cymru. Mae manylion pellach i’w cael drwy ddilyn y dolenni isod: