ANRHYDEDDU CYFRANIAD OES I LYFRAU PLANT – GWOBR MARY VAUGHAN JONES 2021
Cyfraniad Menna Lloyd Williams gaiff ei anrhydeddu wrth gyflwyno Gwobr Mary Vaughan Jones eleni.
Fe gyflwynir y wobr bob tair blynedd gan Gyngor Llyfrau Cymru er cof am Mary Vaughan Jones, a fu farw yn 1983, i berson a wnaeth gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru.
Yn enedigol o Lanfaethlu, fe addysgwyd Menna Lloyd Williams yn Ysgol Ffrwd Win ac yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Bu’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Yn dilyn cwrs ymarfer dysgu bu’n athrawes am flwyddyn yn Ysgol Dr Williams, Dolgellau, ac yn 1970 fe’i penodwyd yn Bennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Caergybi.
Yn 1976 daeth i weithio yn Adran Ddiwylliant Llyfrgell Dyfed yn Aberystwyth ac yn 1979 fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Canolfan Llenyddiaeth Plant Cymru, y ganolfan gyntaf o’i bath ym Mhrydain. Yn 1990 fe’i penodwyd yn bennaeth cyntaf Adran Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru.
Yn ystod ei chyfnod fel pennaeth yr adran bu’n bennaf gyfrifol am drefnu cynadleddau blynyddol i drafod gwahanol agweddau ar lenyddiaeth plant, Gwobrau Tir na n-Og, clybiau llyfrau a chystadlaethau darllen i ysgolion. Mewn cydweithrediad ag Adran Blant S4C ac Urdd Gobaith Cymru bu’n gyfrifol am sefydlu’r cynllun Bardd Plant Cymru.
Meddai Menna Lloyd Williams: ‘Anrhydedd o’r mwyaf yw derbyn Gwobr Mary Vaughan Jones eleni. Roedd pob diwrnod o weithio ym maes llyfrau plant yn bleser pur. Rwy’n parhau i ymddiddori yn y maes ac yn cael mwynhad arbennig bellach yn casglu argraffiadau cyntaf, clawr caled, wedi eu harwyddo gan yr awduron a’r darlunwyr – yn eu mysg, llyfrau Roald Dahl wedi eu harwyddo gan Quentin Blake ac un o’m trysorau pennaf, argraffiad cyntaf o Sali Mali gan Mary Vaughan Jones.’
‘Mae cyfraniad Menna Lloyd Williams wedi bod yn allweddol i ddatblygiad llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru,’ meddai Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau. ‘Mae’n anodd mesur maint ei dylanwad dros y blynyddoedd. Wrth ei hanrhydeddu â Gwobr Mary Vaughan Jones – yr anrhydedd uchaf ym maes llyfrau plant yng Nghymru – rydym yn cydnabod ei chyfraniad amhrisiadwy ac yn diolch am ei gwaith dros nifer o flynyddoedd.’
Ar gyfer y wobr eleni comisiynwyd darn o waith celf gwreiddiol gan yr artist Jac Jones, sy’n gyn-enillydd y wobr ac sydd wedi cydweithio’n agos gyda Menna Lloyd Williams yn y gorffennol. Mae’n cynnwys cymeriadau unigryw Mary Vaughan Jones, nifer ohonynt, fel Jac y Jwc a Jini, yn rhai a ddarluniwyd yn wreiddiol gan yr artist ei hun, yn ogystal â phortreadau o Menna a Mary Vaughan Jones yn eu canol.
Cynhelir digwyddiad digidol Gwobr Mary Vaughan Jones i ddathlu cyfraniad Menna Lloyd Williams ar sianel Cyngor Llyfrau Cymru #carudarllen AM https://amam.cymru/carudarllen am 7pm ddydd Mawrth, 2 Tachwedd fel rhan o ddathliadau’r Cyngor yn 60 oed.
Ers ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 1985, enillwyd Gwobr Mary Vaughan Jones gan Ifor Owen, Emily Huws, T. Llew Jones, W. J. Jones, Roger Boore, J. Selwyn Lloyd, Elfyn Pritchard, Mair Wynn Hughes, Angharad Tomos, Jac Jones, Siân Lewis a Gareth F. Williams.