Cynllun llyfrau am ddim i deithwyr trenau Cambrian Line
Bydd teithwyr ar Lein y Cambrian yn cael eu gwahodd i ddianc i mewn i stori dda y gaeaf hwn wrth i Gyngor Llyfrau Cymru a Phartneriaeth Rheilffyrdd Cambrian ymuno i gynnig llyfrau am ddim i deithwyr a helpu i’r milltiroedd hedfan heibio.
Bydd y rhaglen beilot gyda Phartneriaeth Rheilffyrdd Cambrian yn rhedeg trwy’r hydref a’r gaeaf. Mae’n dathlu cynllun Stori Sydyn y Cyngor Llyfrau, sef cyfres o lyfrau byrion, difyr ar gyfer darllenwyr o bob diddordeb a gallu. Mae’r llyfrau ar gael i’w casglu yng ngorsafoedd Aberystwyth a Machynlleth i ddarllenwyr naill ai eu benthyg a’u dychwelyd ar ddiwedd eu taith, neu i’w cadw a pharhau i’w darllen gartref.
Dywedodd Angharad Wyn Sinclair, Rheolwr Datblygu Prosiect y Cyngor Llyfrau: “Rydym wrth ein boddau i weithio gyda Phartneriaeth Rheilffyrdd Cambrian ar y peilot cyffrous hwn, i gyflwyno teitlau Stori Sydyn i ddarllenwyr a chyfoethogi eu teithiau gyda llyfr da! Mae ymgolli mewn llyfr da wrth deithio yn ffordd wych o archwilio’r byd o gysur eich sedd.”
Dywedodd Stuart Williams, Cadeirydd Partneriaeth Rheilffyrdd Cambrian: “Rydym ni’n gobeithio bydd ein cwsmeriaid yn mwynhau’r llyfrau o gyfres Stori Sydyn, sydd yn hawdd i’w casglu o’r neuadd tocynnau yng nghorsaf trenau Aberystwyth a gorsaf trenau Machynlleth, diolch i’r bartneriaeth newydd gyda’r Cyngor Llyfrau. Gall teithiau trên gynnig cyfle i ymlacio a dianc am sbel, a gobeithio bydd y cynllun hwn yn helpu ein teithwyr elwa o’u siwrneiau trên.
Mae pedwar teitl sy’n rhan o’r gyfres newydd ar gael trwy’r cynllun, yn ogystal â rhai teitlau o gyfresi blaenorol. Y ddau deitl Cymraeg newydd yw Dau Frawd, Dwy Gêm: Stori’r Cabangos gan Dylan Ebenezer, ac Un Noson, gan Llio Elain Maddocks. Y teitlau Saesneg newydd yw Return to the Sun gan Tom Anderson, a The Replacement Centre gan Fflur Dafydd.
Mae cyfres Stori Sydyn yn berffaith i ddarllenwyr sydd efallai’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i amser i ddarllen, neu sydd yn llai hyderus yn eu gallu darllen. Mae teitlau Stori Sydyn, sydd fel arfer yn llai na 100 o dudalennau, yn cynnig llyfr byr, difyr – perffaith i helpu teithwyr wneud y gorau o amser sbâr yn ystod eu taith. Cydlynir Stori Sydyn yng Nghymru gan Gyngor Llyfrau Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.