Cyhoeddi’r Rhestr Fer Gymraeg ar gyfer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru – Gwobrau Tir na n-Og 2022
Dirgelion, anturiaethau a direidi cyffrous… golwg ffres ar hanesion a chymeriadau Cymru… a straeon pwerus a grymusol am dyfu i fyny yng Nghymru heddiw. Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn datgelu’r llyfrau Cymraeg sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og ar raglen Heno ar S4C nos Iau, 10 Mawrth. Mae’r gwobrau eleni yn gymysgedd eclectig o’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2021.
Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf a mwyaf poblogaidd o’u bath ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan CILIP Cymru. Maent yn anrhydeddu ac yn dathlu’r awduron a’r darlunwyr mwyaf creadigol a’r deunyddiau darllen gorau i blant, naill ai yn y Gymraeg, neu drwy gyfrwng y Saesneg gyda dimensiwn Cymreig dilys.
Dros y blynyddoedd, mae’r gwobrau wedi’u hennill gan rai o’n prif awduron a darlunwyr gan gynnwys Manon Steffan Ros, Jac Jones, Caryl Lewis a Gareth F. Williams. Nod y gwobrau ydy dathlu darllen er pleser ac ysbrydoli dewisiadau darllen i ddarllenwyr ifanc. Trwy’r gwobrau gall plant a phobl ifanc fwynhau a chael eu hysbrydoli gan straeon ac ysgrifennu o Gymru neu am Gymru.
Rhestr Fer Cynradd
Gwil Garw a’r Carchar Crisial, Huw Aaron, Llyfrau Broga
Llyfr llawn doniolwch, digwyddiadau dychmygus, bwystfilod arbennig, a phrif gymeriad sydd rhywsut yn gallu goroesi pob trallod ac anhrefn.
Sara Mai a Lleidr y Neidr, Casia Wiliam, Y Lolfa
Stori sy’n gafael o’r cychwyn cyntaf, yr ysgrifennu yn gelfydd, yn gymesur ac yn meddu ar hiwmor rhwydd.
Gwag y Nos, Sioned Wyn Roberts, Atebol
Stori lawn antur sy’n hoelio sylw’r darllenydd o’r paragraffau cyntaf, ac yn portreadu byd estron y Wyrcws yn gynnil ac yn afaelgar.
Rhestr Fer Uwchradd
Hanes yn y Tir, Elin Jones, Gwasg Carreg Gwalch
Cyfrol hardd sydd, yn symlrwydd y cyflwyniad a’r ieithwedd, yn gwneud hanes cymhleth yn hygyrch i’r darllenydd.
Y Pump, gol. Elgan Rhys, Y Lolfa
Casgliad o straeon heriol ac arbrofol sy’n cydblethu i greu un cyfanwaith ardderchog.
Fi ac Aaron Ramsey, Manon Steffan Ros, Y Lolfa
Nofel gyfoes a gafaelgar sy’n cyflwyno cymeriadau real o gig a gwaed sy’n taro tant gyda darllenwyr ifanc heddiw.
Bob blwyddyn, mae paneli annibynnol yn penderfynu ar y rhestrau byrion ac yn dewis yr enillwyr ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg. Y beirniaid ar y panel Cymraeg eleni oedd Alun Horan (Cadeirydd), Morgan Dafydd, Sara Yassine a Ceri Griffith – rhai sydd â phrofiad helaeth ac angerdd ynglŷn â llenyddiaeth i blant.
Dywedodd Alun Horan, Cadeirydd y Panel Cymraeg: “Roedd yn bleser ac yn fraint cadeirio’r Panel Cymraeg eleni gyda’r arlwy yn arwydd pendant fod y diwydiant yn iach iawn. Braf gweld nifer o enwau newydd a bod safon ysgrifennu a diwyg y teitlau gyrhaeddodd y rhestr fer yn ardderchog. Ymysg y teitlau roedd sawl llyfr hynod o wreiddiol sy’n mynd â llyfrau plant a phobl ifanc yn y Gymraeg i dir newydd cyffrous, gyda’r potensial o ddenu darllenwyr anfoddog ac anodd eu cyrraedd.”
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cyfrannu at greu’r llyfrau rhagorol ar y rhestrau byrion eleni. Nod y gwobrau hyn ydy dathlu’r gorau o blith llyfrau gwreiddiol yn y Gymraeg ac mae’n bleser mawr gweld llyfrau mor arloesol a chyffrous yn cael eu hanrhydeddu. Rydw i’n hynod o falch nad ydw i’n wynebu’r cyfrifoldeb o ddewis enillwyr o’r detholiad campus yma!”
Bydd y rhestr fer ar gyfer llyfrau Saesneg yn cael ei datgelu am 18:30 ddydd Gwener, 11 Mawrth ar y Radio Wales Arts Show.
Caiff enillwyr y categorïau Cymraeg eu cyhoeddi ddydd Iau, 2 Mehefin yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, ac enillydd y categori Saesneg ddydd Gwener, 20 Mai ar y Radio Wales Arts Show.