Francesca Elena Sciarrillo

Helô! Francesca Elena Sciarrillo ydw i a dwi’n 26 oed. Mi ges i fy magu yn Sir y Fflint ond dwi hefyd yn dod o deulu Eidalaidd; symudodd fy neiniau a’m teidiau i Gymru yn y chwedegau i greu bywyd gwell i fy nheulu.

Yn 2019, symudais yn ôl i’r Wyddgrug yn Sir y Fflint – y dref lle gefais fy magu – ar ôl astudio gradd a gradd meistr mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor. Bellach dwi’n byw yn Rhewl, pentref bach ger Rhuthun yn Sir Ddinbych.

Heb os nac oni bai, dwi’n hapusaf pan mae gen i lyfr yn fy llaw. Mi wna i ddarllen yn unrhyw le – ar y soffa neu wrth ymyl yr afon lle dwi’n byw, neu hyd yn oed yn cerdded i lawr y stryd – ond dwi ddim yn argymell gwneud hynny! Yn y brifysgol, roedd rhaid i mi ddarllen hyd at dri llyfr bob wythnos wrth astudio Llenyddiaeth Saesneg: sefyllfa ddelfrydol iawn i lyfrbryf fel fi! Dwi’n caru llenyddiaeth ffeministaidd yn enwedig, ac yn ffan mawr o awduron benywaidd cyfoes. Dwi wastad yn chwilio am argymhellion darllen ac wrth fy modd yn sgwrsio â theulu a ffrindiau am lyfrau sydd wedi cael argraff fawr arna i.

Mae llyfrau a darllen yn chwarae rôl anferth yn fy mywyd, ac a bod yn hollol onest, mi fyswn i ar goll heb fy silffoedd llyfrau a’m cerdyn llyfrgell! Fel plentyn, mae rhai o fy hoff atgoffion yn cynnwys llyfrau: o ddarllen stori bob nos cyn gwely efo Mam, Dad neu fy chwaer, i’r cyffro o ddewis llyfrau fy hun yn llyfrgell yr ysgol. Roedd fy nhrwyn wastad mewn llyfr (does dim llawer wedi newid!), ac roeddwn i wrth fy modd yn adrodd straeon i Mam wrth gerdded adra o ysgol, neu ysgrifennu straeon bach fy hun ar ôl cael fy ysbrydoli gan wahanol lyfrau.

Trwy gydol fy mywyd, dwi wedi troi at lyfrau am gysur, ac mae’r cymeriadau sy’n byw o fewn tudalennau fy hoff lyfrau wedi bod yn ffrindiau i mi. Dyma un o’r prif resymau pam dwi’n teimlo mor gryf am annog plant a phobol o bob oedran i ymweld â’u siop lyfr neu lyfrgell leol i ddarganfod y bydoedd hudol sy’n bodoli rhwng y cloriau.

Mae gen i nai ifanc sy’n ddwy a hanner a dwi wrth fy modd yn prynu llyfrau iddo i’w mwynhau ac i’w helpu i ddatblygu ei iaith a’i ddychymyg. Dwi’n siŵr y bydd nifer o’r llyfrau gwych fydd yn cyrraedd rhestr hir gwobrau Tir na-n-Og yn ysbrydoliaeth berffaith ar gyfer anrhegion i fy nai bach!

Dysgais Gymraeg fel oedolyn ac mae llyfrau Cymraeg wedi bod yn allweddol i fi ar fy nhaith i ddysgu’r iaith. Dwi hefyd wedi cael y pleser o ailddarganfod rhai o fy hoff lyfrau o fy mhlentyndod eto, sy’n hollol hyfryd. Rŵan dwi edrych ymlaen yn fawr iawn at ddarllen a dathlu lleisiau newydd, a chyfarfod ag awduron newydd, ar restr gwobrau Tir na n-Og 2022!

Mae dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd ac wedi agor drws i bob math o bethau diwylliannol fel cerddoriaeth, barddoniaeth a llenyddiaeth sy’n hollol newydd i mi. Yn fy marn i, un o’r ffyrdd gorau o ymgolli’ch hun yn yr iaith Cymraeg yw trwy ddarllen – ac rydyn ni mor lwcus yma yng Nghymru fod gennym gymaint o awduron a straeon anhygoel i’w rhannu efo’n gilydd a mwynhau.

I fi, mae’r byd yn lle disgleiriach oherwydd llyfrau a’r hapusrwydd maen nhw’n dod i’n bywydau. Dwi’n caru ein hiaith ni yma yng Nghymru ac wrth fy modd yn darllen straeon sydd wedi cael eu hysgrifennu yn yr iaith Gymraeg. Felly, mae’n fraint wirioneddol i mi fod yn un o feirniad gwobrau mawreddog Tir na n-Og – ac yn brofiad dwi’n gwybod y bydda i’n ei drysori am flynyddoedd i ddod