
Beth yw Grŵp Darllen Cymru?
Grŵp Darllen Cymru yw prosiect newydd Cyngor Llyfrau Cymru sydd yn cefnogi athrawon ac yn annog darllenwyr ifanc blwyddyn 3 i flwyddyn 6 i ddarllen er pleser a siarad am y llyfrau maen nhw’n eu darllen.
Mae athrawon yn rhydd i ddewis a hoffen nhw gymryd rhan gyda dosbarthiadau cyfan neu gyda grwpiau darllen sydd gan yr ysgol. Bydd cyfle i’r ysgolion sydd yn cofrestru ar gyfer Grŵp Darllen Cymru gymryd rhan mewn Diwrnod Dathlu yn ystod tymor yr haf.
Sut fydd Grŵp Darllen Cymru’n gweithio?
Bydd y Cyngor Llyfrau yn:
- darparu rhestr o lyfrau i’r ysgolion sydd yn cofrestru i gymryd rhan;
- rhannu syniadau am sut i gynnal grwpiau darllen;
- trefnu diwrnod dathlu darllen yn ystod tymor yr haf.
Bydd ysgolion yn:
- cofrestru’n uniongyrchol gyda’r Cyngor Llyfrau (trwy’r wefan);
- darllen a thrafod cymaint o lyfrau o’r rhestr ag y mynnan nhw.
Grŵp darllen? Dosbarth cyfan? Mwy nag un dosbarth?
Mae hyn yn benderfyniad i bob athro yn unigol. Rydym yn gwybod bod gan lawer o ysgolion grwpiau darllen eisoes, ac os ydyn nhw’n dymuno bod yn rhan o’r cynllun yma mae croeso mawr iddynt. Rydym hefyd yn gwybod bod rhai athrawon eisiau cynnwys pawb yn eu dosbarthiadau wrth drafod llyfrau darllen er pleser; gyda’r cynllun yma mae athrawon yn rhydd i ddarllen y llyfrau gyda dosbarth cyfan neu gynnig llyfrau gwahanol i wahanol grwpiau o fewn y dosbarth. Gall mwy nag un dosbarth gymryd rhan yn y cynllun, ond gofynnwn i bob athro dosbarth gofrestru’n unigol os bydd mwy nag un dosbarth o ysgol benodol eisiau cymryd rhan.
Diwrnod Dathlu
Yn 2023, blwyddyn gyntaf Grŵp Darllen Cymru, byddwn yn peilota Diwrnod Dathlu gyda nifer gyfyngedig o ysgolion. Ar gyfer yr ysgolion eraill, byddwn ni’n cynnal sesiwn awdur ar-lein.
Yn y dyfodol rydym yn gobeithio cynnal dyddiau dathlu rhanbarthol – yn y gogledd, y canolbarth a’r de.
Yn hytrach na chystadleuaeth, bydd y Diwrnod Dathlu yn ddiwrnod o weithgareddau hwyliog, e.e.
- sesiwn gydag awdur neu fardd;
- gweithdy darlunio neu weithdy drama;
- sesiwn hwyliog o ddathlu hoff lyfrau’r plant gyda plant o ysgolion eraill;
- dangos fideos ar sgrin fawr.
Dathlu hoff lyfrau
Byddwn yn gofyn i bob plentyn ddod â’u hoff lyfr Cymraeg gyda nhw er mwyn ei ddangos a siarad amdano gyda’u cyfoedion. Does dim ots beth yw’r hoff lyfr – gall fod yn llyfr garddio, nofel graffig, casgliad o farddoniaeth, unrhyw beth! Byddwn yn darparu cwestiynau a sbardunau trafod i hwyluso’r sgyrsiau.
Beth fydd cynnwys y fideos?
Byddwn yn gofyn i’r ysgolion sy’n dod i’r diwrnod dathlu greu fideo hyd at 8 munud o hyd a fydd yn cynnwys:
- hyd at 5 munud o gyflwyniad i’r hyn y mae’r grŵp neu’r dosbarth wedi ei wneud fel rhan o weithgarwch Grŵp Darllen Cymru; a
- hyd at 3 munud o hysbyseb yn hyrwyddo un o lyfrau’r Grŵp Darllen.
Beth os ydw i eisiau parhau i gystadlu?
Rydym wedi cytuno gyda’r trefnyddion sirol eu bod nhw’n gallu parhau i redeg cystadleuaeth fel Darllen Dros Gymru os dymunant, ond penderfyniad sirol fydd hynny a fydd y Cyngor Llyfrau ddim yn cymryd rhan yn y trefniadau hyn.
Llyfrau 2022/23
ar gyfer eich grwpiau darllen yn yr ysgol a’r fideo hyrwyddo.
Fi ac Aaron Ramsey | Manon Steffan Ros | Y Lolfa |
Cadi Goch a’r Ysgol Swynion | Simon Rodway | Y Lolfa |
Gwil Garw a’r Carchar Grisial | Huw Aaron | Broga |
Cymru ar y Map | Elin Meek | Rily |
Y Parsel Coch | Linda Wolfsgruber a Gino Alberti, addas. Llio Elenid | Gwasg Carreg Gwalch |
Pa adnoddau fydd ysgolion yn eu cael?
- Gwybodaeth am y llyfrau a’r awduron;
- syniadau am ffyrdd i redeg grŵp darllen;
- cofnodion darllen – unigolion a grŵp;
- canllaw i bob llyfr, gyda syniadau am weithgareddau trawsgwricwlaidd ac awgrymiadau am lyfrau eraill i’w darllen.
Diolch am gofrestru ar gyfer 2023. Mae’r broses bellach wedi cau am eleni.
Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â cllc.plant@llyfrau.cymru