Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn estyn llongyfarchiadau gwresog i Manon Steffan Ros wrth iddi gael ei chyhoeddi’n enillydd gwobr Yoto Carnegie am Ysgrifennu am ei nofel The Blue Book of Nebo. Am y tro cyntaf ers i’r gwobrau gael eu cyflwyno bron i 90 o flynyddoedd yn ôl, llyfr wedi’i gyfieithu sy’n ennill. Gwobrau Yoto Carnegie yw’r hynaf a’r mwyaf poblogaidd o blith gwobrau am lyfrau i blant a phobl ifanc yn y DU.
Enillodd y llyfr Cymraeg gwreiddiol, Llyfr Glas Nebo, Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018, yn ogystal â thri chategori Llyfr y Flwyddyn 2019. Wedi’i gosod ym mhentref ôl-apocalyptig Nebo, mae’r stori deimladwy hon yn datblygu trwy gofnodion dyddiadur mam a mab wrth iddynt addasu er mwyn goroesi a chreu bywyd newydd ar ôl Y Terfyn.
Cyhoeddir The Blue Book of Nebo gan Firefly, cyhoeddwr annibynnol sy’n cyhoeddi llyfrau i blant a phobl ifanc, ac sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd. Bydd Firefly yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd eleni.
Dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym wrth ein boddau bod Manon wedi ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu, ac yn anfon ein llongyfarchiadau cynhesaf ati. Mae’n wych bod gwaith Manon yn derbyn y gydnabyddiaeth hon, ac mae’n brawf o’i thalent ragorol fel storïwr. Er mai The Blue Book of Nebo yw’r llyfr cyntaf iddi ei gyfieithu ar gyfer oedolion ifanc, mae Manon, wrth gwrs, wedi ysgrifennu nifer o lyfrau Cymraeg, ac mae hi wedi mireinio’i sgiliau a’i chrefft fel awdur dros amser ac mewn sawl genre gwahanol, trwy gystadlu mewn eisteddfodau, ysgrifennu nofelau i oedolion a phlant, yn ogystal ag ysgrifennu i’r sgrin a’r llwyfan. Rydym yn gobeithio y bydd ennill y wobr hon yn galluogi mwy o bobl i ddarganfod a mwynhau gwaith Manon.”
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Hoffwn longyfarch Manon ar ei champ aruthrol yn ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu gyda’i nofel The Blue Book of Nebo. Dyma’r tro cyntaf i lyfr wedi’i gyfieithu ennill y wobr honno. Mae ei buddugoliaeth yn arddangos cryfder storïwyr o Gymru ar lwyfan rhyngwladol, ac edrychaf ymlaen at weld cynulleidfaoedd ehangach yn mwynhau llyfrau Manon, yng Nghymru a thu hwnt.”
Cyhoeddwyd enwau’r enillwyr mewn seremoni yn Llundain ar 21 Mehefin 2023. Trwy ennill gwobr Yoto Carnegie, mae Manon yn ymuno â grŵp o awduron arobryn, gan gynnwys Neil Gaiman, Philip Pullman a Terry Pratchett, y cyfan yn gyn-enillwyr y Fedal.
Fel rhan o’r wobr, mae’r enillwyr yn derbyn gwerth £500 o lyfrau i’w rhoi i lyfrgell o’u dewis. Bydd Manon yn rhoi’r llyfrau i Lyfrgell Tywyn yng Ngwynedd, ei llyfrgell leol lle yr ysgrifennodd rai o’i llyfrau ar adeg pan nad oedd ganddi’r modd i gael rhyngrwyd yn ei chartref. I ddathlu camp Manon, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi gwerth cyfatebol o £500 o rodd mewn tocynnau llyfrau Cymraeg.