Linda Tomos

Linda Tomos

Yn Llyfrgellydd Siartredig ers 1975, bu Linda Tomos yn Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru rhwng 2015–2019 gan arwain straetgaeth y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Cyn hynny, bu’n was sifil uwch gyda Llywodraeth Cymru ac yn Gyfarwyddwr cyntaf CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru oddi fewn Adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Yn gyn-Gadeirydd Cyngor Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Cymru, bu’n Gadeirydd Cyngor Darlledu Addysg BBC Cymru rhwng 1999–2003 ac yn Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru rhwng 2016–2020.

“Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn i ymuno a’r Bwrdd a chyfrannu at ddatblygu llais cryf ar gyfer gwaith allweddol y Cyngor Llyfrau yng Nghymru. Mae llawer wedi newid ers 2020 a bydd angen sector cyhoeddi sy’n uchelgeisiol ac yn barod i arloesi i wynebu’r heriau sydd o’n blaenau. Mae gennyf ddiddordeb neilltuol mewn cynyddu’r cyfleoedd i godi llythrennedd a hybu cynulleidfaoedd newydd trwy ddefnyddio’r cyfryngau digidol a bydd yn bleser mawr i mi fel ymddiriedolwr i fod yn rhan o waith y Cyngor Llyfrau.”

Dr Caroline Owen Wintersgill

Dr Caroline Owen Wintersgill

Mae Dr Caroline Owen Wintersgill yn Ddarlithydd mewn Cyhoeddi yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar y radd MA mewn Cyhoeddi. Mae ganddi ddoethuriaeth ar ddarllen, ysgrifennu a chyhoeddi ffuglen gyfoes, oedd yn cynnwys gweithio gyda grwpiau darllen ar draws y Deyrnas Unedig yn ogystal â chyfweliadau gydag awduron a chyhoeddwyr. Cyn symud i’r maes academaidd, bu’n gweithio am dros 25 mlynedd i rai o gyhoeddwyr blaenllaw Prydain, yn cynnwys Routledge, Bloomsbury a Manchester University Press. Ochr yn ochr â’i gwaith dysgu, mae’n Olygydd Arbennig gyda Biteback Publishing ac yn Uwch-olygydd Ymgynghorol gyda Lynne Rienner Publishers yn Colorado ers 2015.

“Rydym ar derfyn blwyddyn hynod anodd, gyda llyfrgelloedd ac ysgolion ar gau am gyfnodau hir, a heriau penodol i gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr annibynnol. Ni fu gwaith Cyngor Llyfrau Cymru o ran hyrwyddo darllen a rhoi cymorth i’r diwydiant llyfrau gwych yng Nghymru erioed yn fwy hanfodol. Fel rhywun sy’n ddigon ffodus i fod wedi treulio gyrfa ym myd y llyfrau ac sydd bellach â swydd yn addysgu cyhoeddwyr ifanc, rwy’n angerddol am genhadaeth y Cyngor Llyfrau ac mae gallu gwneud cyfraniad fel ymddiriedolwr newydd yn anrhydedd.”

Yr Athro Gerwyn Williams

Yr Athro Gerwyn Williams

Mae Gerwyn Wiliams yn Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ers 2005, a bu’n gweithio yn Ysgol y Gymraeg ers 1989. Mae’n aelod o Fwrdd Ymgynghorol cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt ers 2019 ac yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Theatr Bara Caws ers 2018. Yn gyn-enillydd Coron yr Eisteddfod Genedlaethol (1994) a Gwobr Llyfr y Flwyddyn (1997), mae hefyd wedi beirniadu nifer o gystadlaethau llenyddiaeth yn cynnwys Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017 a Llyfr y Flwyddyn yn 2011. Bu’n aelod o fwrdd Cyngor Celfyddydau Cymru rhwng 2010–16.

“Fel un sy’n credu’n angerddol ym mhwysigrwydd llenyddiaeth, rwy’n croesawu’n fawr y cyfle hwn i ymuno â bwrdd Ymddiriedolwyr newydd Cyngor Llyfrau Cymru. Gwn o brofiad mor allweddol yw gwaith y corff cenedlaethol uchel ei barch hwn yn cynnal ac yn cefnogi byd llyfrau Cymru – boed awduron neu ddarllenwyr, gweisg neu siopau llyfrau. Mewn cyfnod mor amrywiol ei heriau â hwn, edrychaf ymlaen at gynorthwyo’r Cyngor i barhau’n gorff cynaliadwy, cyfredol a pherthnasol i’r dyfodol.”

Fideos Awduron Tir na n-Og 2021

Dewch i glywed mwy am y llyfrau gwych a gyrhaeddodd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2021 yn y cyfres yma o gyfweliadau, sgyrsiau a darlleniadau gan yr...
Enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2021

Enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2021

Dwy nofel gyfoes ac un hanesyddol ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2021, gyda merched dewr yn serennu ymhob un o’r tri llyfr buddugol.     Y tri llyfr ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2021 oedd Sw Sara Mai gan Casia Wiliam...