Cynhaliwyd cystadlaethau Darllen Dros Gymru eleni mewn ffordd dra wahanol i’r arfer. Yr un oedd y tasgau i’r darllenwyr; trafod llyfr oddi ar restr ddarllen a chyflwyno perfformiad i ddenu eraill at ddarllen y llyfr. Llinos Penfold oedd yn beirniadu’r trafod a Mari Lovgreen yn beirniadu’r perfformiadau. Ond dan amgylchiadau gwahanol y cyfnod sydd ohoni, bu’n rhaid cynnal y gystadleuaeth ar-lein.
Disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 oedd y cyntaf i gystadlu. Ysgol y Felinheli ddaeth i’r brig trwy drafod Llyfr Adar Mawr y Plant gan Onwy Gower (Y Lolfa) a chyflwyno perfformiad yn seiliedig ar Cadi a’r Celtiaid gan Bethan Gwanas (Y Lolfa). Daeth Ysgol y Gelli ac Ysgol Llanbrynmair yn gydradd ail ac Ysgol Penrhyn-coch ddaeth yn drydydd.
Yng nghystadleuaeth blynyddoedd 5 a 6 Ysgol Eglwyswrw gipiodd y wobr gyntaf trwy drafod Asiant A: Her Ll gan Anni Llŷn (Y Lolfa) a chyflwyno perfformiad yn seiliedig ar Trio: Antur y Castell gan Manon Steffan Ros (Atebol). Ysgol Gymraeg Rhydaman ddaeth yn ail ac Ysgol Y Wern oedd yn drydydd.
Dwedodd y beirniaid ei bod hi wedi bod yn fraint beirniadu’r gystadleuaeth a bod yn holl blant, athrawon a chynorthwywyr wedi gwneud ymdrech wych gyda’r gystadleuaeth.