Tair stori wahanol am fywyd yng Nghymru ar wahanol adegau yn ei hanes sy’n cael sylw yn y llyfrau Saesneg ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2021, a gyhoeddwyd heddiw (12 Mawrth 2021) ar raglen y Radio Wales Arts Show.
Mae’r cyfnodau hanesyddol yn ymestyn o’r Canol Oesoedd cynnar pan oedd hunaniaeth Cymru yn cryfhau yn The Short Knife gan Elen Caldecott, i deulu a ymfudodd o Gymru i’r Unol Daleithiau ar droad yr ugeinfed ganrif yn The Quilt gan Valériane Leblond, a stori gyfoes wedi’i gosod mewn fforest law Geltaidd yng ngogledd Cymru yn Where the Wilderness Lives gan Jess Butterworth.
Mae’r gwobrau blynyddol, sy’n cael eu trefnu gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan CILIP Cymru, yn dathlu’r gorau o blith llyfrau i blant ac oedolion ifanc a gyhoeddwyd yn ystod 2020.
Mae tri phrif gategori: llyfrau Cymraeg ar gyfer oedran ysgol gynradd, llyfrau Cymraeg ar gyfer oedran ysgol uwchradd, a llyfrau Saesneg gyda chefndir Cymraeg dilys i blant ac oedolion ifanc.
Dyma’r tro cyntaf i Jess Butterworth ac Elen Caldecott gyrraedd rhestr fer y gwobrau, a’r tro cyntaf i Valériane Leblond gael ei henwebu fel awdur a darlunydd. Mae The Short Knife hefyd wedi cyrraedd rhestr fer Medal Carnegie CILIP 2021.
Y Rhestr Fer Saesneg
- Where the Wilderness Lives gan Jess Butterworth (Orion, 2020) ar gyfer oedran 9+: Cara yw’r prif gymeriad ac mae’n byw ar gwch camlas gyda’i mam, ei brodyr a’i chwiorydd, a’i chi Willow. Roedd ei thad yn arfer byw gyda nhw ond bellach mae’n byw mewn rhan anghysbell o Gymru. Mae’r antur yn dechrau pan ddaw Cara a’i brodyr a’i chwiorydd o hyd i goffor tan glo wrth helpu i lanhau’r gamlas lle maen nhw’n byw. Mae tân yn dinistrio eu cwch un noson, a thra bod ei mam yn yr ysbyty a Cara yn gofalu am ei brodyr a’i chwiorydd, mae lleidr yn dwyn y coffor. Mae’r plant yn gadael y tŷ lle maen nhw wedi bod yn byw dros dro ac yn mynd â’r coffor at eu tad, gan deithio’n gyntaf yn eu cwch cyn mentro ar droed ar draws mynyddoedd Cymru yn yr eira.
- The Short Knife gan Elen Caldecott (Andersen Press, 2020) ar gyfer oedran 12+: stori wedi’i gosod ganrifoedd maith yn ôl, yn yr Oesoedd Canol cynnar, 454, ar adeg pan oedd hunaniaeth Gymreig newydd yn dod i’r amlwg, pan oedd y Rhufeiniaid wedi gadael, a’r Brythoniaid a’r Sacsoniaid yn brwydro i feddiannu tiriogaethau gwahanol. Y prif gymeriad, Mai, sy’n adrodd y stori. Mae’n ferch ifanc a hyd yma mae eu tad wedi llwyddo i’w chadw hi a’i chwaer Haf yn ddiogel. Mae’r stori’n dechrau wrth i ymladdwyr Sacsonaidd gyrraedd eu fferm, gan orfodi’r teulu i ffoi i’r bryniau lle mae rhyfelwyr Brythonaidd yn cuddio. Dilynwn ymdrechion Mai i oroesi mewn byd peryglus lle gall siarad ei mamiaith arwain at farwolaeth, a lle mae’n dod i ddrwgdybio hyd yn oed y bobl hynny mae hi’n eu caru fwyaf.
- The Quilt gan Valériane Leblond (Y Lolfa, 2020) ar gyfer oedran 5+: stori delynegol, hardd yw hon am ferch fach sy’n byw gyda’i rhieni ar fferm ar arfordir cefn gwlad Cymru ar droad yr ugeinfed ganrif. Mae bywyd yn galed ac mae’r teulu’n penderfynu ymfudo i America. I dalu am gost eu taith, maen nhw’n gwerthu eu heiddo ond yn cadw cwilt coch a du wedi’i bwytho â llaw gan y fam gyda darnau o ddefnydd dros ben o ddillad mae wedi’u gwneud i’r teulu. Mae cefnu ar bob dim sy’n gyfarwydd iddi yn achos hiraeth i’r ferch fach, ond mae’r atgofion a’r cariad sydd yn y cwilt yn ei helpu i oresgyn y teimladau hyn ac addasu i’w bywyd newydd.
Dywedodd Jo Bowers, Cadeirydd y panel beirniaid ar gyfer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021: “Roedd straeon y tri llyfr wedi’u gosod ar gefndir Cymreig dilys cyfoethog, sy’n brif faen prawf ar gyfer y wobr hon, gyda phob awdur yn mynd ati mewn ffordd wahanol iawn. Roedd pob llyfr yn serennu am ystod o resymau: yr ymdeimlad o le ac amser yng Nghymru a hanes Cymru; y dyluniad cyffredinol gan fod gan bob llyfr glawr deniadol iawn a naill ai darluniau neu nodweddion dylunio yng nghorff y testun, ac roedd arddull a chynnwys pob stori yn synnu ac yn cydio. Roeddem o’r farn fod pob un yn cynnig agweddau newydd ar Gymru mewn llenyddiaeth plant.”
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause: “Llongyfarchiadau gwresog i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddod â’r tri theitl ar y rhestr fer at ddarllenwyr. Mae mor bwysig sicrhau bod gan ddarllenwyr ifanc yng Nghymru ddewis o lyfrau o ansawdd uchel sy’n adlewyrchu hanes a diwylliant y wlad lle maen nhw’n byw.”
Y Rhestr Fer Gymraeg
Cafodd y rhestr fer ar gyfer llyfrau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2021 ei chyhoeddi ar y rhaglen Heno ar S4C nos Iau, 11 Mawrth.
Mae’r categori ar gyfer llyfrau Cymraeg oedran cynradd yn cynnwys Ble Mae Boc – Ar Goll yn y Chwedlau gan Huw Aaron (Y Lolfa, 2020), Mae’r Cyfan i Ti gan Luned Aaron (Atebol, 2020), a Sw Sara Mai gan Casia Wiliam (Y Lolfa, 2020).
Y tri llyfr sydd ar y rhestr fer yn y categori oedran uwchradd yw Y Castell Siwgr gan Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch, 2020), Llechi gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa, 2020), a #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch, 2020).
Caiff enillwyr y categorïau Cymraeg eu cyhoeddi ar y rhaglen Heno ar S4C am 19:00 nos Iau, 20 Mai, tra bydd y teitl Saesneg buddugol yn cael ei ddatgelu ar y Radio Wales Arts Show am 18:30 ar 21 Mai.
Mae manylion pellach am y gwobrau a’r llyfrau ar y rhestr fer ar gael ar wefan y Cyngor Llyfrau.