Darllenwyr Brwd yn Cyrraedd y Brig

Darllenwyr Brwd yn Cyrraedd y Brig

Cafodd tîm o ddarllenwyr brwd o Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa, Merthyr Tydfil, eu coroni’n Bencampwyr 2019 BookSlam, cystadleuaeth ddarllen y Cyngor Llyfrau i blant yn seiliedig ar lyfrau Saesneg o Gymru.

Cynhaliwyd y rownd genedlaethol yn Aberystwyth yn ddiweddar, a gwelwyd cannoedd o ddisgyblion cynradd o bob cwr o Gymru’n cystadlu i fod yn bencampwyr cenedlaethol. Eu tasg oedd creu argraff ar y beirniaid mewn dwy rownd – sef trafodaeth am 10 munud, a chyflwyniad dramatig yn para 8 munud, yn seiliedig ar eu dewis o lyfrau.

Ar ôl diwrnod o gystadlu brwd, Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa, Merthyr Tydfil a ddyfarnwyd yn bencampwyr BookSlam, ar ôl iddynt greu argraff arbennig ar feirniad y trafodaethau gyda’u gwybodaeth am y nofel Flight gan Vanessa Harbour. Yn rownd y cyflwyniadau, fe wnaethant blesio’r beirniad gyda’u dehongliad o Rugby Zombies gan Dan Anthony.

Yn ystod y dydd, cafodd yr holl blant a’r athrawon gyfle hefyd i fwynhau hwyliog yng nghwmni’r awdur Shoo Rayner.

Eleni, Pam John oedd yn beirniadu’r trafodaethau gydag Anna Sherratt yn beirniadu’r cyflwyniadau.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: “Nod BookSlam yw cael plant o bob cwr o Gymru i ddarllen. Trwy ddadansoddi a pherfformio’r hyn maent wedi’i ddarllen, gallant ddefnyddio’u dychymyg i ddod â’r llyfrau’n fyw yn eu cyflwyniadau. Pleser o’r mwyaf oedd gweld y plant yn llawn brwdfrydedd yn ystod rownd genedlaethol BookSlam; hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r trefnwyr ymroddedig am eu gwaith caled yn y rowndiau sirol, ac i’r athrawon a’r cefnogwyr eraill sy’n gwneud y digwyddiadau hyn yn bosibl.”

Cipiwyd yr ail safle gan Ysgol Gynradd Penllwyn, Ceredigion, gydag ysgolion cynradd Pontffranc, Powys a Crist y Brenin, Caerdydd yn rhannu’r drydedd wobr.

Diolch i gefnogaeth hael nifer o gyhoeddwyr Cymru gwahoddwyd pob plentyn a gymerodd ran yn y cystadlaethau i ddewis llyfr yn rhad ac am ddim i gofio am yr achlysur.

Cwestiynau Cyffredinol i’r Gymuned

Ble allwn i gael cyngor am y deunydd sydd ar gael ar gyfer fy mhlentyn/ysgol? Cysylltwch â’r Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen trwy glicio ar ‘Cysylltu’ uchod. Mae gan yr Adran nifer o swyddogion sy’n hyddysg yn y maes. Rwy'n athro/athrawes ac...

Cwestiynau Cyffredinol i Gyhoeddwyr

Rwyf am fod yn gyhoeddwr. Sut gall y Cyngor Llyfrau fy helpu? Mae cyngor ar gael gan sawl Adran yn y Cyngor Llyfrau. Cysylltwch â’r Adran Datblygu Cyhoeddi yn y lle cyntaf trwy glicio ar ‘Cysylltu’ uchod ac fe all yr Adran eich cyfeirio at Adrannau eraill yn ôl y...

Gwasanaethau i Siopau

Mae siopau llyfrau annibynnol yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru ac i’w cymunedau lleol, ac fel Cyngor Llyfrau rydym ni yma i’w cefnogi ar hyd y daith. Caiff y gwaith yma ei arwain gan ein Adran Gwerthu a Gwybodaeth sydd wedi’i lleoli yn ein Canolfan...

Llenyddiaeth Cymru

Mae Llenyddiaeth Cymru yn elusen genedlaethol wedi’i lleoli yng Nghaerdydd ac mae ei chylch gorchwyl yn cynnwys datblygu awduron. Eu nod, medd Llenyddiaeth Cymru, yw datblygu a chefnogi awduron ar bob cam o’u gyrfa lenyddol i gyflawni eu llawn botensial. Mae...