Yr Athro Jane Aaron

Yr Athro Jane Aaron

Mae’r Athro Jane Aaron yn addysgwr, ymchwilydd llenyddol ac yn awdur o Gymru. Hyd nes ei hymddeoliad ym mis Rhagfyr 2013, roedd yn Athro Saesneg ym Mhrifysgol Morgannwg yn ne Cymru. Wedi hynny daeth yn aelod cyswllt o’r Ganolfan Astudio’r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach ym Mhrifysgol De Cymru. Mae’r Athro Aaron yn adnabyddus am ei hymchwil a’i chyhoeddiadau ar lenyddiaeth Gymreig ac ysgrifau menywod o Gymru.

Ers dechrau’r 1990au, mae’r Athro Aaron wedi cyhoeddi nifer o draethodau a llyfrau, ac wedi golygu gweithiau ar gyfer Gwasg Honno, sy’n arbenigo yn ysgrifau menywod o Gymru. Yn 1999 golygodd y flodeugerdd o straeon byrion Honno o’r enw, A View Across the Valley: Short Stories from Women in Wales 1850–1950.

 

Rajvi Glasbrook Griffiths

Rajvi Glasbrook Griffiths

Yn Bennaeth Ysgol Gynradd High Cross yng Nghasnewydd sy’n gweithio ym maes addysg yng Nghymru ers 2009, mae Rajvi Glasbrook Griffiths hefyd yn Gyfarwyddwr gŵyl Llenyddiaeth Caerllion ers 2014, yn Gyfarwyddwr Prosiect Porth Caerllion ers 2016, ac yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol y cychlgrawn Planet. Mae’n aelod o Bwyllgor Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru yn ogystal â’i Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd.

“Mae’n fraint i mi ymgymryd â rôl ymddiriedolwr Cyngor Llyfrau Cymru. Mae’n elusen ac yn gorff sy’n adlewyrchu’n gryf fy ymroddiad diflino tuag at hyrwyddo a chefnogi llythrennedd, llenyddiaeth a’r iaith Gymraeg. Mae addysg a lleihau’r bwlch amddifadedd llythrennedd yn rhan fawr o’m gwaith, yn ogystal â dathlu ysgrifennu cyfrwng Cymraeg yng Nghymru a thu hwnt. Fy nod yw gwasanaethu’r bwrdd gyda’r gonestrwydd a’r pwrpas moesegol pennaf.

Alwena Hughes Moakes

Alwena Hughes Moakes

Mae Alwena Hughes Moakes yn Bennaeth Byd-eang Cyfathrebu ac Ymgysylltu â’r Gweithlu i gwmni amaeth rhyngwladol â’i bencadlys yn Basel, y Swistir. Cyn adleoli i’r Swistir, bu Alwena’n gweithio am rai blynyddoedd mewn swyddi rheoli ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Materion Cyhoeddus. Yn wreiddiol o’r Wyddgrug, mae Alwena yn gyfathrebwraig brofiadol a chanddi dros ugain mlynedd o brofiad o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.

“Rwyf wrth fy modd o gael fy mhenodi yn Ymddiriedolwr i Gyngor Llyfrau Cymru. Er fy mod yn byw ar y cyfandir ers bron i chwe mlynedd, mae gen i gryn ddiddordeb yn niwylliant Cymru – mae fy ymrwymiad i lwyddiant Cymru, gartref a thramor, cyn gryfed ag erioed. Edrychaf ymlaen yn fawr at yr her newydd ac at gydweithio ag aelodau’r Bwrdd i sicrhau ffyniant hirdymor y Cyngor – o ran awduron a diwydiant cyhoeddi Cymru.”

Yr Athro Carwyn Jones

Yr Athro Carwyn Jones

Mae’r Athro Carwyn Jones yn gyn Brif Weinidog Cymru (2009–2018) a bu’n Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 1999–2021.  Yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, aeth yn ei flaen i hyfforddi fel bargyfreithiwr gan weithio mewn practis cyfreithiol yn Siambrau Gŵyr, Abertawe am 10 mlynedd. Cafodd ei benodi yn Athro rhan amser yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth yn 2019.

“Mae’n bleser ac yn anrhydedd i gael f’apwyntio fel Ymddiriedolwr o’r Cyngor Llyfrau. Mae’n hollbwysig bod llenyddiaeth gwlad yn adlewyrchu cymdeithas ac mae’r Cyngor yn ganolog i’r angen hwn. Wi’n edrych ymlaen i fod yn rhan o’r daith!”

 

Lowri Ifor

Lowri Ifor

Yn gyn athrawes, mae Lowri Ifor wedi gweithio i Amgueddfa Lechi Cymru ers 2018 fel Swyddog Addysg a Digwyddiadau ac mae hefyd yn dysgu dosbarth Cymraeg i Oedolion. Bu’n Olygydd Llyfrau Plant gyda Gwasg Carreg Gwalch rhwng 2018–2019 ac mae’n un o olygyddion cylchgrawn Codi Pais ers 2018 yn ogystal ag yn aelod o bwyllgor Noson Pedwar a Chwech sy’n trefnu digwyddiadau cerddorol a llenyddol Cymraeg yn ardal Caernarfon.

“Fel nifer, mae darllen wedi bod yn ddihangfa i mi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae safon y llyfrau sydd wedi eu cyhoeddi’n ddiweddar yn dangos ei bod hi’n gyfnod cyffrous yn y byd cyhoeddi yng Nghymru ar hyn o bryd. Dwi’n falch iawn i gael y cyfle yma i ymuno â’r Bwrdd i gefnogi gwaith y Cyngor Llyfrau dros y blynyddoedd nesaf.”