Alun Horan

Yn blentyn roeddwn i’n dwlu ar ddarllen a hanes, ac yn naturiol, felly, brenin tŷ ni oedd T Llew Jones. Dwi’n dal i gofio’r wefr o ddarllen ei lyfrau, a sylweddoli bod pethau mawr, diddorol wedi digwydd fan hyn yng Nghymru, ac nid dim ond yn Lloegr.  Atgof cynnar...

Nia Morais

Mae Nia Morais yn awdur ac yn gynorthwyydd addysgu. Fel un o feirniaid Gwobrau Tir na n-Og 2021, mae wedi bod yn siarad gyda ni am ei gwaith ysgrifennu a beth mae’n hoffi ei ddarllen.   Cefais fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd a dwi’n gweithio fel cynorthwyydd...
Cynllun Llyfrau Iechyd Da i gefnogi iechyd a lles plant

Cynllun Llyfrau Iechyd Da i gefnogi iechyd a lles plant

Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd o’r enw Iechyd Da i sicrhau fod pob ysgol gynradd yn derbyn pecyn arbennig o lyfrau sy’n cefnogi iechyd a lles plant.

Gan gydweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru, mae Adran Addysg Llywodraeth Cymru yn ariannu pecyn o 41 o lyfrau i helpu plant i ddeall a thrafod materion iechyd a lles.

Mae pob un o’r llyfrau wedi’u dewis gan banel arbenigol ac yn cynnwys amrywiaeth o lyfrau stori-a-llun a llyfrau pennod ar gyfer oedrannau rhwng 4 – 11.

Y nod yw cefnogi ysgolion wrth iddyn nhw ymdrin â phynciau’n ymwneud ag iechyd a lles fel rhan o’r cwricwlwm newydd, ac i gynorthwyo athrawon i drafod y pynciau yma yn ystod cyfnod heriol dros ben.

Wrth lansio cynllun Iechyd Da yn swyddogol yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl Plant 2021, dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: “Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o lansiad prosiect Iechyd Da Cyngor Llyfrau Cymru. Nod prosiect Iechyd Da yw helpu i fynd i’r afael ag effeithiau ymbellhau cymdeithasol hirdymor a hunanynysu, drwy ddarparu llyfrau darllen sy’n ysgogi sgyrsiau ac ymgysylltiad rhieni ar y themâu hyn.

“Mae sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu rhannu cariad at ddarllen yn rhan bwysig o’r gwaith rwy’n ei wneud fel Gweinidog Addysg a hoffwn ddiolch i Gyngor Llyfrau Cymru am ei waith caled yn datblygu cyfres ddiddorol o adnoddau i gefnogi athrawon a dysgwyr mewn ymateb i’r pandemig.”

Yn ogystal â’r pecyn o 41 o lyfrau, bydd ysgolion yn derbyn pecyn cynhwysfawr o adnoddau wedi’u paratoi gan rwydwaith o athrawon sy’n arbenigo ym maes llythrennedd, iechyd a lles.

Bydd adnoddau digidol ychwanegol hefyd ar gael ar blatfform addysg y llywodraeth, HWB, yn ystod tymor y Gwanwyn.

Dywedodd Catrin Passmore sy’n Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân: “Mae’r llyfrau yma wedi’u dewis yn ofalus ac yn adnodd ardderchog i helpu disgyblion i ddeall eu hunain, i ddeall eraill ac i ddeall y byd o’u cwmpas. Ymhlith y themâu sy’n cael sylw mae cyfeillgarwch, gwytnwch, hunan-gred, iechyd meddwl ac iechyd corfforol, ac mae’r rhain i gyd yn hynod o berthnasol yn y cyfnod yma.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydyn ni’n gwybod pa mor fuddiol gall ddarllen fod o ran ein lles a’n hiechyd meddwl, ac mae’r cynllun yma’n helpu i agor y drws i sgyrsiau gyda phlant am bynciau reit anodd. Mae meithrin sgyrsiau o’r fath a dealltwriaeth bob amser yn bwysig ond yn enwedig felly nawr ac rydym ni’n falch iawn o gael gweithio gydag Adran Addysg Llywodraeth Cymru i wireddu’r prosiect pwysig yma.”

Mae rhestr o’r llyfrau Cymraeg a Saesneg sydd wedi’u cynnwys yn y pecyn Iechyd Da i’w chael ar wefan y Cyngor Llyfrau ac mae’r teitlau

i gyd ar gael drwy siopau llyfrau lleol. Mae rhai o’r teitlau hefyd ar gael fel e-lyfrau ar ffolio.cymru

Darllen yn Well

Mae’r Cyngor Llyfrau hefyd yn rhan o gynllun Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant sy’n helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles drwy ddarllen.

Anelir y cynllun at blant Cyfnod Allweddol 2 ac mae’n cynnwys 21 o gyfrolau yn Gymraeg a 33 yn Saesneg sy’n trafod pynciau fel gorbryder a galar, bwlio a diogelwch ar y we, a sut i ddelio â digwyddiadau yn y newyddion.

Gall llyfrau sydd ar y rhestr gael eu hargymell gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, athrawon ac unrhyw un arall sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd.

Datblygwyd y rhaglen Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant gan weithwyr iechyd proffesiynol yn ogystal â phlant a’u teuluoedd, ac fe’i cyflwynir yng Nghymru gan elusen The Reading Agency mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, llyfrgelloedd cyhoeddus a Chyngor Llyfrau Cymru.

Eich cyfle chi i gefnogi llyfrau Cymru

Eich cyfle chi i gefnogi llyfrau Cymru

Wrth i Gyngor Llyfrau Cymru ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed eleni, mae’n chwilio am hyd at chwech o ymddiriedolwyr newydd i gynnal a chefnogi ei waith. Mae Cadeirydd y Cyngor, Yr Athro M. Wynn Thomas, wedi bod yn ateb ychydig o gwestiynau isod er mwyn egluro natur y...

Cwestiynau i Lyfrgellwyr

Pwrpas y dudalen hon yw ateb cwestiynau a ddaw gan lyfrgellwyr am wasanaethau’r Cyngor Llyfrau.  Os ydych chi’n llyfrgellydd ac am holi unrhyw gwestiwn ebostiwch post@llyfrau.cymru Beth yw'r amodau gan gyhoeddwyr ar gyfer darllen cynnwys arlein?...