Hyd 16, 2019
Digwyddiad am ddim; Ffair Lyfrau; Darlleniadau; Arwyddo Llyfrau a mwy…
Dydd Gwener 1 Tachwedd am 7:30yh – Barddoniaeth a Cherddoriaeth yng Ngwesty Monachty
Dydd Sadwrn 2 Tachwedd 11yb-5yp a dydd Sul 10yb-4yp – Ffair Lyfrau yn y Neuadd Goffa
Awduron yn bresennol – Alun Davies; Alys Einion; Chris Armstrong; Colin R Parsons; Daniel Davies; Derek Moore Geraint Evans; Huw Davies; Ifan Morgan Jones; Jackie Biggs; Jacqueline Jeynes; John M Hughes Karen Gemma Brewer; Kathy Miles; Lazarus Carpenter; L E Fitzpatrick; Medi Jones-Jackson Megan Hayes; Meleri Wyn James; Rhiannon Ifans; Sharon Marie Jones; Will Macmillan-Jones Ysgol Gynradd Aberaeron; mwy i’w cyhoeddi
Hel Straeon i Blant; Gweithdai Ysgrifennu; Darlleniadau gan Awduron; Arwyddo Llyfrau
Rhagor o wybodaeth ar Facebook – gwyllyfrauaberaeronbookfestival neu ar www.gwisgobookworm.co.uk / 01545 238282.
Wedi’i noddi gan Gwisgo Bookworm.
Hyd 3, 2019
#Her100Cerdd yn dychwelyd i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd Her 100 Cerdd yn dychwelyd unwaith eto eleni, a hynny am y seithfed tro. Yn unol â’r arfer, mae pedwar bardd wedi eu herio i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr.
Y pedwar dewr eleni yw Beth Celyn, Dyfan Lewis, Elinor Wyn Reynolds a Matthew Tucker.
Bydd gofyn i bob un o’r pedwar bardd ysgrifennu o leiaf un gerdd bob awr i gyflawni’r Her 100 Cerdd mewn da bryd. Mae timoedd y gorffennol wedi cyrraedd y nod gydag eiliadau’n unig yn weddill. Tybed a fydd criw 2019 yn llwyddo i ddilyn eu hesiampl a chyflawni her farddonol fwya’r flwyddyn?
Unwaith eto eleni, caiff y cyhoedd eu gwahodd i ymuno yn yr Her drwy awgrymu testunau a gyrru geiriau o anogaeth dros y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y pedair awr ar hugain.
Ers ei sefydlu yn 2012, mae’r Her wedi cynnig cipolwg ar y Gymru sy’n bodoli ar y diwrnod hwnnw – ei gwleidyddiaeth, ei diddordebau, ei newyddion a’i diwylliant.
Ymysg y 500 o gerddi a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd mae cerddi serch a cherddi dychan; cerddi ar gerddoriaeth a cherddi ar y cyd; cerddi am borc peis, babanod newydd a hyd yn oed ffrae epig rhwng John ac Alun a’r Brodyr Gregory!
Pedair wal greadigol Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd fydd cartref y beirdd dros gyfnod yr Her. Caiff y ganolfan ei rhedeg gan Llenyddoaeth Cymru, ac mae’r awen yn cuddio ym mhob twll a chornel o’r tŷ.
Bydd y tîm yn cychwyn arni am hanner dydd ar ddydd Mercher 2 Hydref, ac yn rhoi’r atalnod llawn ar y gerdd olaf cyn hanner dydd, dydd Iau 3 Hydref. Ar y diwrnod hwnnw, 3 Hydref, fe gynhelir Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, dathliad blynyddol o farddoniaeth a phopeth barddonol. Bydd y cerddi oll yn cael eu cyhoeddi ar-lein ar www.llenyddiaethcymru.org yn syth ar ôl eu cwblhau er mwyn i’r cyhoedd gael dilyn eu cynnydd.
Ymunwch yn yr Her 100 Cerdd gyda cheisiadau neu anogaeth trwy ddefnyddio’r hashnod #Her100Cerdd ar Twitter, neu trwy yrru neges at Llenyddiaeth Cymru ar Facebook neu dros e-bost at post@llenyddiaethcymru.org. Bydd dolen i’r cerddi yn cael eu postio fesul un ar gyfrif Twitter @LlenCymru ac ar ein tudalen Facebook: www.facebook.com/LlenCymruLitWales
Y Beirdd
Beth Celyn
Mae Beth Celyn yn artist creadigol o Ddinbych sydd wrthi’n datblygu ei gyrfa fel bardd a cherddor yng Nghaerdydd. Astudiodd radd mewn Llenyddiaeth Saesneg yn King’s College London a graddiodd o Brifysgol Bangor yn ddiweddar gyda MA mewn Ysgrifennu Creadigol. Cafodd ei EP Troi ei gyhoeddi ar label Sbrigyn Ymborth yn Rhagfyr 2017 ac mae hi wedi cydweithio ar nifer o brosiectau gyda BBC Gorwelion, recordio gyda’r band gwerin Vrï ac wedi ysgrifennu sioe gerdd wreiddiol ar gyfer theatr Sbarc-Galeri. Teithia Beth yn aml ar hyd a lled Cymru fel aelod o’r colectif barddol Cywion Cranogwen. Roedd yn fardd y Mis ar BBC Radio Cymru Tachwedd 2018 ac eleni fe fuodd hi’n fardd comisiwn Y Wobr Aur Bensaernïaeth yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst.
Dyfan Lewis
Magwyd Dyfan Lewis yng Nghraig-cefn-parc, Abertawe. Aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio Cymraeg, ac mae’n parhau i fyw yn y brifddinas. Cyhoeddodd bamffled o gerddi, Mawr, yn 2019.
Elinor Wyn Reynolds
Un o Gaerfyrddin yw Elinor Wyn Reynolds. Mae hi’n fardd, yn awdur, dramodydd a golygydd llyfrau. Mae hi’n perfformio’i gwaith yn gyson a thros y blynyddoedd mae wedi bod yn rhan o sawl taith farddoniaeth: Dal Clêr, Taith Glyndŵr a Lliwiau Rhyddid, a bu’n un o griw beirdd y SiwpyrStomp yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Mae gan Elinor brofiad helaeth o weithio fel golygydd llyfrau Cymraeg i oedolion ac i blant ar gyfer sawl gwasg, ac mae’n cynnal gweithdai barddoniaeth i blant ac oedolion hwnt ac yma yn ogystal.
Matthew Tucker
Daw Matthew Tucker o Bontarddulais ond mae bellach yn byw ym Mhorth Tywyn. Graddiodd mewn Cymraeg o Brifysgol Abertawe ac mae bellach yn astudio gradd MA mewn Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol yn ogystal â chychwyn ar gwrs TAR Uwchradd Cymraeg ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant. Bu Matthew ar un o gyrsiau cynganeddu Tŷ Newydd dan nawdd Cronfa Gerallt (Barddas).
Medi 23, 2019
Mae gwasg Rily ar fin cyhoeddi cyfrol arloesol sy’n cyflwyno hanfodion amryw o emosiynau sylfaenol, gan gynnwys dicter, hapusrwydd, cenfigen, ofn a phryder.
Wrth i ystadegau diweddar awgrymu bod gorbryder ar gynnydd ymhlith plant ifanc, mae’n amlwg fod yna angen gwirioneddol am adnoddau a llenyddiaeth addas i geisio helpu plant i ddod i ddeall a dygymod â’u teimladau, er lles eu hiechyd meddwl.
Mae gwasg Rily ar fin cyhoeddi cyfrol arloesol sy’n cyflwyno hanfodion amryw o emosiynau sylfaenol, gan gynnwys dicter, hapusrwydd, cenfigen, ofn a phryder. Mae’n trin a thrafod digwyddiadau all godi ym mywydau plant sy’n gallu sbarduno emosiynau dwys, er enghraifft tor priodas, mynychu ysgol newydd a marwolaeth anifail anwes.
Meddai Elin Meek, addasydd y gyfrol, ‘Gobeithio’n fawr y bydd plant yn cael budd o’r ffordd syml a hygyrch y mae’r llyfr yn ymdrin â’u teimladau. Beth sy’n bwysig yma hefyd yw’r arweiniad sydd yn y gyfrol o ran derbyn sut maen nhw’n teimlo – does dim beirniadaeth o gwbl, a does dim emosiwn nad yw’n ‘iawn’ i blant ei deimlo. Mae’r adran am ddicter yn esbonio sut gall dicter fod yn beth iach o’i sianelu’n gywir; gall fod yn sbardun i ddal at egwyddorion, a gweithredu dros gyfiawnder.’
‘Roedden ni’n teimlo bod angen mawr am y math hwn o lyfr,’ medd Lynda Tunnicliffe, Prif Weithredwr gwasg Rily. ‘Mae’r rhan fwyaf o’r staff sydd ar dîm Rily yn rhieni, ac roedden nhw i gyd yn gyffrous ac yn awyddus iawn ein bod ni’n cyhoeddi’r addasiad hwn o My Mixed Emotions er mwyn darparu adnodd pwysig i genhedlaeth sydd wir ei angen. Tua mis yn ôl fe wnaethon ni gyhoeddi ar ein gwefannau cymdeithasol bod y llyfr hwn ar ddod, ac mae’r ymateb wedi bod yn galonogol dros ben.’
Yn y llyfr mae yna argymhellion ymarferol, er enghraifft sut i ddod dros pwl o ddicter, ymarferion anadlu, ioga, myfyrdodau, a bod yn ddiolchgar. Gall cynnwys y llyfr fod yn sbardun i drafodaeth gydag oedolyn, gofalwr neu athro yn yr ysgol, neu gall plentyn ddarllen ar ei ben ei hun, a phrosesu’r cynnwys.
Medi 18, 2019
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi mai’r awdur plant poblogaidd o Sir Benfro, Eloise Williams, yw’r Children’s Laureate Wales cyntaf erioed. Nod y rôl lysgenhadol newydd hon yw ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth, ac i hyrwyddo hawl plant i fynegi eu hunain.
Cyhoeddwyd y newyddion ddydd Mercher 18 Medi o flaen 150 o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî yng Nghasnewydd. Eloise yw Llysgennad Darllen yr ysgol ac yn dilyn y cyhoeddiad, bu’n rhan o agoriad swyddogol llyfrgell newydd yr ysgol. Mewn llythyr agored i blant Cymru, pwysleisiodd Eloise cymaint o anrhydedd oedd ymgymryd â’r rôl hon; sut y bydd yn gwneud ei gorau glas i helpu plant Cymru i ddod o hyd i’r straeon sy’n bwysig iddyn nhw; yn ymgyrchu fel eu bod nhw’n gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli’n dda mewn llenyddiaeth; ac yn bwysicaf oll, bod eu lleisiau yn bwysig. Gallwch ddarllen ei llythyr yn llawn ar wefan Llenyddiaeth Cymru.
Bu Eloise Williams yn gweithio fel actor ac ymarferydd creadigol am dros ddegawd cyn symud ymlaen i fod yn awdur plant. Enillodd ei nofel, Gaslight (Firefly Press, 2017) – a ysgrifennwyd gyda chefnogaeth Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru – wobr Llyfr Pobl Ifanc y Flwyddyn Wales Arts Review 2017, Gwobrau Llyfrau YBB 2018, a chyrhaeddodd restr fer Gwobrau Tir na nOg 2018. Cyrhaeddodd Seaglass (Firefly Press, 2018), ei nofel diweddaraf i bobl ifanc, restr fer Gwobrau Tir na nOg 2019, a’r North East Book Awards 2019.
Yn siaradwr rheolaidd mewn gwyliau a digwyddiadau, mae hi’n defnyddio ei sgiliau drama i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn llenyddiaeth ac erbyn hyn mae hi ar lwyfan llawer yn fwy nag y buodd hi erioed tra’n actor proffesiynol!
Dywedodd Eloise: “Dwi wedi bod wrth fy modd â straeon erioed. Mae’r profiad o ymgolli’ch hun mewn stori dda yn hudol. Mae straeon yn ein cysylltu, yn rhoi empathi a dealltwriaeth inni, yn ymestyn ein hymennydd a’n dychymyg, yn gadael inni deithio’r byd a phrofi’r rhyfeddodau mwyaf.
“Mae llenyddiaeth plant yn ffynnu ac ni allai fod amser mwy cyffrous i fod yn rhan o’i dwf yma yng Nghymru. Dwi’n teimlo’n gryf bod cysylltiad rhwng llyfrau plant a’r gobaith dwi’n ei deimlo bob tro dwi’n cerdded i mewn i ystafell ddosbarth. Dwi’n grediniol y bydd darllenwyr ifanc yn gwneud ein dyfodol yn ddisglair ac mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o hynny.”
Cyhoeddwyd y fenter newydd ym mis Mai 2019 fel rhan o Gynllun Strategol newydd Llenyddiaeth Cymru (2019-22). Bydd y Children’s Laureate Wales yn gweithio ochr yn ochr â’r cynllun Cymraeg Bardd Plant Cymru, gan weithio’n bennaf gyda phlant rhwng 5-13 oed. Penodwyd Eloise yn dilyn galwad gyhoeddus i awduron fynegi eu diddordeb yn y rôl.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, am y cyhoeddiad: “Rydym wrth ein bodd nid yn unig i lansio’r fenter newydd hon, ond i gyhoeddi rhywun mor angerddol, poblogaidd a hawddgar i rôl Children’s Laureate Wales. Ein gweledigaeth yw Cymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau. Bydd y rôl hon yn darparu rhagor o gyfleoedd i’n plant a’n pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgrifennu creadigol ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at eu llesiant. “
“Bydd Eloise yn bencampwr gwych dros ddarllen ac ysgrifennu creadigol er pleser, a thros gynrychiolaeth o fewn llenyddiaeth plant; edrychaf ymlaen yn arw at ddilyn ei thaith dros y ddwy flynedd nesaf.”
Bydd y Children’s Laureate Wales yn ymweld â nifer o ysgolion, clybiau, gwyliau a digwyddiadau ledled Cymru, yn ogystal â dyfeisio a datblygu prosiectau arbennig a phwrpasol gyda’r cleientiaid y mae Llenyddiaeth Cymru yn eu targedu.
I drefnu ymweliad ysgol, neu i drafod prosiectau eraill, ebostiwch Llenyddiaeth Cymru ar: childrenslaureate@literaturewales.org.