Dewis dillad cyfforddus i ddarllen ar Ddiwrnod y Llyfr® yng Nghymru

Dewis dillad cyfforddus i ddarllen ar Ddiwrnod y Llyfr® yng Nghymru

Gwahoddir plant ledled Cymru i ddewis gwisgo dillad cyfforddus i ddarllen, gan swatio’n glyd ac ymgolli mewn llyfr da ar Ddiwrnod y Llyfr® eleni, sy’n cael ei ddathlu ddydd Iau 6 Mawrth. Fel rhan o’i neges i annog mwy o blant i brofi manteision darllen er pleser sy’n...
Dathlu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru 2024

Dathlu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru 2024

Dathlu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru 2024 Mae elusen Diwrnod y Llyfr yn cynnal ei dathliad blynyddol ar ddydd Iau 7 Mawrth, ac yn annog plant ledled y wlad i fwynhau darllen, gan dderbyn tocyn llyfr £1 i’w gyfnewid am un o’r llyfrau £1 a gyhoeddwyd yn arbennig ar gyfer...
Dewis dillad cyfforddus i ddarllen ar Ddiwrnod y Llyfr® yng Nghymru

Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023

Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023 Gweithio mewn partneriaeth i helpu mwy o blant nag erioed i ddarganfod cariad at lyfrau a darllen Mae elusen Diwrnod y Llyfr yn cynnal ei dathliad blynyddol ddydd Iau, 2 Mawrth 2023 – diwrnod sydd wedi’i ddynodi’n arbennig i...
Dathlu 25 mlynedd o Diwrnod y Llyfr

Dathlu 25 mlynedd o Diwrnod y Llyfr

Dathlu 25 mlynedd o Ddiwrnod y Llyfr Bydd y rhaglen lawn eleni yn helpu mwy o blant nag erioed i ddarganfod cariad at ddarllen. Mae elusen Diwrnod y Llyfr yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed ddydd Iau, 3 Mawrth 2022, ac mae’n gwahodd pawb i barti i ddathlu gorffennol,...

Cystadleuaeth #rhannwchStori #diwrnodyllyfr 2021

Mae treulio deg munud y dydd yn darllen gyda phlentyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'w lwyddiant yn y dyfodol.

Mae rhannu straeon yn ffordd wych o ddathlu darllen gyda’n gilydd ar Ddiwrnod y Llyfr 2021. Felly rydyn ni’n gwahodd pawb i ymuno yn ein cystadleuaeth rhannu stori.

Postiwch lun ohonoch chi yn rhannu stori gyda’r teulu, gyda’r gath neu yn darllen yn eich hoff leoliad!

Cofiwch dagio @llyfrauCymru a chynnwys  #rhannwchstori #diwrnodyllyfr #carudarllen

Mae croeso i chi e-bostio’r llun atom  – cllc.plant@llyfrau.cymru

Gallai rhannu stori fod yn darllen gartref gyda’ch teulu, darllen yn eich hoff gilfach, darllen mewn lleoliad anghyffredin, rhannu stori gyda’ch anifail anwes, darllen llyfr wedi’i wisgo fel eich hoff gymeriad, a mwy!

Mae’r gystadleuaeth yma yn rhedeg rhwng 4 – 31 Mawrth 2021.

Gwobrau: Mi fydd y 5 llun gorau yn ennill pentwr o lyfrau werth £30.

Gweler ein Polisi Preifatrwydd fan hyn – https://llyfrau.cymru/ein-polisiau/dogfennau-corfforaethol/polisi-preifatrwydd/