ANRHYDEDDU CYFRANIAD OES I LYFRAU PLANT

ANRHYDEDDU CYFRANIAD OES I LYFRAU PLANT

ANRHYDEDDU CYFRANIAD OES I LYFRAU PLANT – GWOBR MARY VAUGHAN JONES 2021 Cyfraniad Menna Lloyd Williams gaiff ei anrhydeddu wrth gyflwyno Gwobr Mary Vaughan Jones eleni. Fe gyflwynir y wobr bob tair blynedd gan Gyngor Llyfrau Cymru er cof am Mary Vaughan Jones, a fu...
Reading Teachers = Reading Pupils

Reading Teachers = Reading Pupils

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o gydweithio â Cheltenham Festivals yn cyflwyno’u rhwydwaith o grwpiau llyfrau athrawon i Wasanaeth Cyflawniad Addysg De Ddwyrain Cymru (EAS) mewn pump awdurdod lleol (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Torfaen)....

Jo Bowers, Cadeirydd

Mae Jo Bowers yn Ddeon Cysylltiol ym maes Partneriaethau ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Bu’n aelod o’r panel beirniaid Saesneg ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og 2020 a hi yw’r Cadeirydd yn 2021. Mae llyfrau yn rhan annatod o’i gwaith bob dydd...

Cwestiynau Cyffredinol i Awduron

Rwy'n awdur. Oes modd i mi gael grant gan y Cyngor Llyfrau? Mae grantiau ar gael i awduron, ond trwy gyhoeddwr yn unig y gellir gwneud cais. Am wybodaeth am y Grantiau Cyhoeddi cliciwch ar ‘Grantiau’ uchod ac ewch i ‘Gwybodaeth i Awduron’....
Her Sgwennu Stori Aled Hughes

Her Sgwennu Stori Aled Hughes

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o gefnogi cystadleuaeth ysgrifennu stori i ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru sy’n cael ei threfnu gan BBC Radio Cymru.

Fel rhan o ddigwyddiadau Diwrnod y Llyfr 2021, mae rhaglen foreol Aled Hughes yn galw ar blant rhwng 5-11 oed i ysgrifennu stori Cymraeg hyd at 500 gair ar thema “Y Llwybr Hud”.

Mae tri chategori ar gyfer oedrannau gwahanol, sef:

• Cyfnod Sylfaen, sef 5-7 oed
• Cyfnod allwedol 2a, 7-9 oed
• Cyfnod allweddol 2b, 9-11 oed

Bydd Aled yn cyhoeddi’r enillwyr ar ei raglen yn ystod yr wythnos sy’n arwain at Ddiwrnod y Llyfr ar 4 Mawrth 2021, gyda’r buddugwyr yn derbyn pentwr o lyfrau yn wobr gan y Cyngor Llyfrau.

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau: “Mae Diwrnod y Llyfr yn ddigwyddiad holl bwysig yn ein calendr blynyddol ac rydyn ni’n falch iawn i gefnogi’r gystadleuaeth yma sy’n cael ei threfnu gan BBC Radio Cymru. Mae gan bob unigolyn stori yn cuddio y tu mewn iddyn nhw a dyma gyfle gwych felly i ddechrau meithrin doniau ysgrifennu ymhlith y to ifanc.”

Llio Maddocks yw’r beirniad fydd yn pori drwy’r straeon ac yn dewis y dair stori orau.

Os am gystadlu, mae gofyn i ysgolion anfon straeon eu disgyblion at BBC Radio Cymru erbyn y dyddiad cau 25 Ionawr 2021, ynghyd â’r ffurflen gais sydd i’w chael ar wefan Radio Cymru.

Y cyfeiriad ar gyfer anfon y straeon yw:

Sgwennu Stori Aled Hughes
BBC Radio Cymru
Bryn Meirion
Bangor
LL57 2BY

Rhaid nodi’n glir ffugenw’r disgybl, y categori ac enw’r ysgol ar ben pob stori, a bydd angen i’r ysgol gadw rhestr o’r enwau sy’n cyd-fynd â’r ffugenwau.

 

 

Mae manylion pellach ynghyd â thermau ac amodau llawn i’w cael ar wefan BBC Radio Cymru neu gallwch chi gysylltu gyda rhaglen Aled Hughes ar aled@bbc.co.uk.

Pob lwc!