
Troi dalen newydd i gefnogi iechyd meddwl plant
Mae cynllun newydd yn cael ei lansio yng Nghymru i helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles drwy ddarllen.
Mae’r rhaglen, sydd wedi cael ei datblygu a’i harwain gan weithwyr iechyd proffesiynol yn ogystal â phlant a’u teuluoedd, yn cael ei chyflwyno yng Nghymru gan yr elusen Asiantaeth Ddarllen mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a llyfrgelloedd cyhoeddus.
Fel rhan o Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ar ddydd Sadwrn 10 Hydref, mae’r Asiantaeth Ddarllen a’r llyfrgelloedd cyhoeddus yn lansio Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant, gyda chasgliadau o lyfrau ac adnoddau ategol ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Cyhoeddwyd y rhestr ddarllen mewn ymateb i’r galw cynyddol am wybodaeth a chyngor gan arbenigwyr i helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles.
Mae dros filiwn o rieni yn credu y gallai cymorth proffesiynol fod yn llesol i’w plant yn sgil y cyfyngiadau oherwydd y coronafeirws – ac mae Childline wedi cynnal bron i 7,000 o sesiynau cwnsela gyda phlant am effaith yr haint. Mae gan un ym mhob 10 o blant Cymru sydd rhwng pump ac 16 oed broblem iechyd meddwl, ac mae gan lawer mwy broblemau ymddygiad.
Mae’r rhestr ddarllen i blant, Darllen yn Well, yn cynnwys 33 o lyfrau a ddewiswyd i fynd i’r afael â rhai o’r prif heriau sy’n wynebu plant heddiw. Mae’r llyfrau ar y rhestr yn trafod pynciau fel gorbryder a galar, bwlio a diogelwch ar y we, a sut i ddelio â digwyddiadau yn y newyddion. Mae’r rhestr o lyfrau hefyd yn archwilio sut i fyw yn well gydag ystod o gyflyrau ar ôl diagnosis, gan gynnwys Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD), dyslecsia, Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) ac anableddau corfforol.
Mae’r rhestr wedi’i hanelu at blant Cyfnod Allweddol 2 ac mae’n cynnwys teitlau sy’n addas ar gyfer ystod eang o lefelau darllen, er mwyn cynnig cymorth i ddarllenwyr llai hyderus, ac i annog plant i ddarllen gyda’u brodyr a’u chwiorydd a’u gofalwyr.
Meddai Karen Napier, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Ddarllen: “Mae un ym mhob deg o blant Cymru yn dioddef problemau iechyd meddwl, ac mae digwyddiadau byd-eang diweddar wedi gwneud y broblem yn waeth. Yn yr Asiantaeth Ddarllen, rydyn ni’n credu mewn pŵer darllen i daclo rhai o heriau mwyaf bywyd, ac yn y maes newydd a phwysig yma o’n gwaith byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth, cyngor a straeon o ansawdd sydd wedi’u cymeradwyo gan arbenigwyr, i helpu plant i reoli a deall eu teimladau ac i ymdopi mewn cyfnodau anodd.”
Gall llyfrau sydd ar y rhestr gael eu hargymell gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, athrawon ac unrhyw un arall sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd. Mae’r casgliadau o lyfrau ar gael i’w benthyca am ddim o lyfrgelloedd cyhoeddus lleol. Mae’r Asiantaeth Ddarllen yn gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru er mwyn sicrhau bod llyfrau sydd ar y rhestr ar gael yn Gymraeg.
Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae lles plant yn bwysig bob amser, ond mae’r pandemig yma wedi gwneud i ni sylweddoli pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr fod gan blant fynediad at adnoddau digidol a phrint maen nhw’n gallu ymddiried ynddyn nhw sy’n helpu i’w cefnogi nhw a’u galluogi nhw i siarad am eu teimladau. Mae’n hanfodol bod y sgyrsiau yma’n gallu digwydd yn iaith gyntaf y plentyn, a dyna pam ein bod ni yn y Cyngor Llyfrau yn falch o fod yn rhan o’r gwaith o gyfieithu’r llyfrau gwych yma.”
Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: “Rydw i’n falch ein bod ni wedi gallu darparu cyllid i sicrhau’r hawliau er mwyn cynhyrchu a dosbarthu fersiynau electronig o’r llyfrau Cymraeg ar y rhestr i blant. Mae hyn yn hanfodol o ystyried pwysigrwydd cynnwys digidol yn ystod y cyfnod yma. Bydd y cyllid hefyd yn galluogi dosbarthu copïau o fersiynau print o’r llyfrau am ddim i’w defnyddio mewn llyfrgelloedd ledled Cymru ac fel rhan o’r cynlluniau clicio a chasglu. Bydd hwn yn hwb sylweddol i lyfrgelloedd a’u defnyddwyr yng Nghymru.”
Gall y casgliad o lyfrau Darllen yn Well i blant – sydd wedi cael cydnabyddiaeth gan gyrff iechyd blaenllaw, mewn partneriaeth â Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru a chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor y Celfyddydau yn Lloegr – gefnogi plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl drwy ddefnyddio adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth y tu allan i leoliadau clinigol, neu tra eu bod nhw’n aros am driniaeth.
Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydw i wrth fy modd y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer y cynllun pwysig yma, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi chwarae rhan sylweddol i gyflawni ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Iechyd Meddwl a ‘Mwy na geiriau’, sef ein fframwaith ar gyfer y Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae llyfrau wedi bod yn llefydd i bobl chwilio am atebion neu i gael cysur, ac i ddianc, ers amser maith. Rwy’n gobeithio y bydd y fenter yma’n ysbrydoli plant a theuluoedd i ddarllen er eu lles a’u mwynhad. Does dim diwedd ar bŵer darllen, felly gadewch i ni ddefnyddio rhywfaint o’r egni yna i daclo’r heriau cynyddol mae plant yn eu hwynebu gyda’u hiechyd meddwl.”
Meddai Bethan Hughes, Prif Lyfrgellydd a chynrychiolydd ar ran Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn fod Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant yn cael ei lansio yma yng Nghymru fel cynllun dwyieithog, ac yn gyffrous i weithio gyda’n partneriaid i wireddu’r cynllun.
“Mae darllen, yn ei hanfod, yn llesol, ac mae darllen er mwyn deall emosiynau a theimladau yn hanfodol i ni i gyd, ac yn arbennig i blant wrth iddyn nhw ddysgu i ddeall y byd o’u cwmpas a’u hymateb nhw iddo.
“Bydd y cynllun yma’n gyfle i ni roi yn nwylo plant, yn eu dewis iaith, lyfrau sydd wedi eu dethol yn ofalus i gynnig cymorth iddyn nhw ddeall eu teimladau, drwy gyfrwng geiriau, lluniau a’r dychymyg.
“Mae pobl yn ymddiried yn eu llyfrgell leol fel lle i gael cymorth a gwybodaeth ddi-duedd, yn lleol yn eu cymuned, mewn lleoliad sydd ddim yn un clinigol a heb unrhyw fath o stigma yn gysylltiedig ag o. Mae’r cynllun yma’n enghraifft arall o sut y gallwn gynnig y cymorth yma.”
Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant yw’r trydydd cynllun Darllen yn Well i gael ei gyflwyno yng Nghymru ar ôl llwyddiant y casgliadau o lyfrau ar ddementia a iechyd meddwl.
I gael rhagor o wybodaeth am y llyfrau Darllen yn Well i blant, ewch i: reading-well.org.uk/cymru

Syniad Seran Dolma am nofel i oedolion ifanc yn cipio gwobr y Cyfeillion
Seran Dolma o Benrhyndeudraeth yw enillydd cystadleuaeth ar gyfer syniadau am nofelau Cymraeg i oedolion ifanc a drefnwyd gan Gyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru.
Seran Dolma o Benrhyndeudraeth yw enillydd cystadleuaeth ar gyfer syniadau am nofelau Cymraeg i oedolion ifanc a drefnwyd gan Gyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru.
Cafodd y newyddion ei gyhoeddi ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru fore Mawrth, 29 Medi 2020.
Bydd Seran, sy’n fam i ddau o blant 8 a 3 oed, yn derbyn gwobr o £1,000 gan y Cyfeillion, ynghyd â chyfle am gyngor ar sut i ddatblygu ei gwaith yn nofel ar gyfer ei chyhoeddi.
Cafwyd ymateb ardderchog i’r gystadleuaeth, gydag 21 o geisiadau yn dod i law’r panel beirniaid oedd yn cynnwys y cyfansoddwr a’r cyn-lyfrgellydd Robat Arwyn, yr awdur Meinir Pierce Jones, a Gwawr Maelor, sy’n ddarlithydd mewn Addysg Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Yn ôl y beirniaid, roedd hon yn “gystadleuaeth gref” ac yn ogystal â’r enillydd, cafodd tri awdur arall eu gosod yn y dosbarth cyntaf gyda’r panel yn nodi bod yma syniadau am nofelau oedd yn “werth eu cyhoeddi”. Y tri a ddaeth yn agos at y brig oedd Eurgain Haf, Cynan Llwyd a Llio Maddocks.
Roedd gofyn i’r ymgeiswyr anfon penodau cyntaf nofel Gymraeg i oedolion ifanc, yn ogystal â synopsis o weddill y stori.
Syniad am stori wedi’i gosod yn y dyfodol a gyflwynwyd gan Seran Dolma, yn dwyn y teitl ‘Y Nendyrau’. O ganlyniad i newid hinsawdd, mae lefel y môr wedi codi’n aruthrol a miloedd o bobl wedi colli eu cartrefi.
Mae Daniel, 15 oed, yn un o’r rhai ffodus, yn byw gyda’i dad ac eraill mewn tŵr lle mae’r ddau lawr isaf, fel gweddill y ddinas, o dan y dyfroedd. Ond un diwrnod, mae’n gweld merch ifanc, gwallt tywyll, yn codi llaw arno o’r tŵr gyferbyn – tŵr a oedd, i bob golwg, yn hollol wag.
Dywedodd Cadeirydd y panel beirniaid, Robat Arwyn: “Fe wnaeth y nofel ôl-apocalyptaidd hon fy rhwydo o’r frawddeg gyntaf un, wrth i Daniel a Rani wynebu sawl her yn eu hymdrech i warchod eu teuluoedd a chadw’n saff. Mae’r naratif yn llifo’n braf mewn arddull eglur a hynod ddarllenadwy, ac mae’r cymeriadau a’u sefyllfa ddirdynnol yn dal i droi yn fy mhen.”
Wrth siarad am gystadleuaeth y Cyfeillion, dywedodd Seran Dolma: “Rydw i mor ddiolchgar i Gyfeillion y Cyngor Llyfrau am y cyfle yma, ac i’r beirniaid am ddewis ‘Y Nendyrau’ fel enillydd y gystadleuaeth. Mae’n hwb anferth i fy hyder i fel awdur, ac yn rhoi gobaith i mi bod yna farchnad i’r nofel ac y bydd yn bosibl ei chyhoeddi yn y pen draw.”
Ym mis Chwefror 2019, fe fynychodd Seran Dolma gwrs Ysgrifennu a Darlunio i Blant fel darlunydd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, cwrs a drefnwyd ar y cyd gan y Cyngor Llyfrau a Llenyddiaeth Cymru.
Yn gynharach eleni, cafodd ei derbyn ar Gynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru ar gyfer awduron ar ddechrau eu gyrfa.
“Mae’n rhaid i mi gymryd y cyfle yma hefyd i ddiolch i Lenyddiaeth Cymru ac i fy mentor, Lleucu Roberts,” ychwanegodd Seran. “Rydw i’n parhau i weithio ar y nofel, ac rwy’n anelu at gael drafft o’r gwaith ysgrifenedig yn barod cyn y Nadolig. Mae yna elfen weledol hefyd, fydd efallai’n cymryd ychydig yn hirach, ond dwi’n gobeithio y bydd yr holl waith wedi ei gwblhau yn fuan yn 2021.”
Dywedodd Cadeirydd Cyfeillion y Cyngor Llyfrau, Ion Thomas: “Wrth noddi’r gystadleuaeth hon, ein nod oedd cynyddu’r dewis o nofelau Cymraeg ar gyfer pobl ifanc ac rydyn ni wrth ein bodd gyda’r ymateb a’r amrywiaeth o syniadau a gafwyd. Ein gobaith yw y bydd yn hwb nid yn unig i’r enillydd ond i sawl un arall o’r awduron i fynd ati i ddatblygu ac i gwblhau eu gwaith, a thrwy hynny ymestyn yr arlwy a denu darllenwyr newydd.”
Dywedodd Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau, Helen Jones: “Hoffem ddiolch i bob un o’r ymgeiswyr ac i’r beirniaid am eu gwaith arbennig, gan estyn llongyfarchiadau gwresog i Seran Dolma. Hoffem ddiolch hefyd i Gyfeillion y Cyngor am noddi’r gystadleuaeth bwysig hon a fydd yn helpu i sicrhau bod llyfrau o safon sy’n cydio yn y dychymyg ar gael yn Gymraeg i’n pobl ifanc.”

Pedwar o E-lyfrau Byr a Bachog ar gael am ddim
Bydd casgliad o lyfrau byr a bachog gan awduron o Gymru ar gael i’w lawrlwytho am ddim yr haf hwn.
O stori garu i gariad at gŵn anhygoel, ac o heriau rhedeg eithafol i fyd coll, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi trefnu bod y pedwar teitl diweddaraf yn y gyfres boblogaidd Stori Sydyn ar gael fel e-lyfrau mewn cydweithrediad â chyhoeddwyr y gyfres, y Lolfa a Rily.
Ac am gyfnod o un mis yn unig rhwng 8 Mehefin ac 8 Gorffennaf 2020, bydd modd eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim oddi ar blatfform digidol newydd amam.cymru.
Ymhlith yr awduron mae’r anturiaethwr eithafol Huw Jack Brassington, yr awdur Cynan Llwyd, y newyddiadurwr a’r darlithydd Ifan Morgan Jones, a’r awdur a newyddiadurwraig Alison Stokes.
Nod y cynllun Stori Sydyn/Quick Reads yw annog darllen yng Nghymru trwy gyfrwng teitlau byrion, gafaelgar sydd hefyd ar gael fel llyfrau clawr meddal o siopau llyfrau ac o wefan gwales.com am £1 yr un, neu drwy lyfrgelloedd.
Dywedodd Angharad Wyn Sinclair, Rheolwr Cynlluniau Hyrwyddo Darllen gyda’r Cyngor Llyfrau: “O ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19, rydyn ni am y tro cyntaf yn cynnig llyfrau Stori Sydyn am ddim am gyfnod o fis fel e-lyfrau. Mae’r teitlau yma’n benthyg eu hunain yn berffaith i’r cyfnod anarferol hwn. Maen nhw’n dal ein dychymyg ac yn ein tywys i fyd arall, ond maen nhw’n ddigon byr i’w darllen mewn diwrnod neu eu codi’n achlysurol a’u mwynhau un bennod ar y tro. Beth sydd hefyd yn arbennig am y llyfrau Stori Sydyn yw eu bod yn addas ar gyfer ystod eang o ddarllenwyr yn ogystal â phobl sy’n llai tebygol o godi llyfr fel arfer.”
Dan ofal Cyngor Llyfrau Cymru, caiff cynllun Stori Sydyn/Quick Reads ei gefnogi’n ariannol gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod deunydd gwreiddiol ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg sydd o ddiddordeb i gynulleidfa yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams “Rwy’n falch iawn bod Cyngor Llyfrau Cymru yn darparu’r teitlau hyn yn ddigidol ac am ddim yng ngoleuni’r pandemig cyfredol. P’un a yw’r rhain yn cael eu defnyddio fel ffordd o gefnogi dysgu, neu ddim ond fel ffordd o ddianc rhag realiti bob dydd, gall darllen fod yn rym pwerus, yn enwedig yn yr amseroedd rhyfedd a chythryblus hyn..
“Rhan o’n Cenhadaeth Genedlaethol yw darparu sgiliau llythrennedd lefel uchel i bob dysgwr sy’n ffurfio sylfeini pob dysgu ac y gellir eu trosglwyddo i fywyd pob dydd a byd gwaith. Bydd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol o fewn Cwricwlwm Cymru 2022.”
O’r pedwar teitl sy’n cael eu cyhoeddi eleni, mae dau yn Gymraeg a dau yn Saesneg, gydag un llyfr ffuglen ac un ffeithiol yn y naill iaith a’r llall.
Herio i’r Eithaf – Huw Jack Brassington (Y Lolfa). Mae Huw Jack Brassington yn herio’i gorff a’i feddwl i’r eithaf mewn rasys anhygoel o anodd ar draws y byd, fel y 47 Copa, y Pioneer a’r Coast to Coast. Mae ei stori’n mynd â ni i fyd triathlon, rhedeg a seiclo, ac mae’n dysgu gwersi caled ar hyd y daith.
Pobl Fel Ni – Cynan Llwyd (Y Lolfa). Mae digwyddiadau’r nofel yn ymestyn dros gyfnod o tua 24 awr mewn dinas yng Nghymru yn y dyfodol agos, gydag agweddau a rhethreg hiliol, gwleidyddiaeth asgell dde a sefyllfa economaidd fregus yn gefnlen. Mae’n dilyn hanes Nathan a Sadia, sy’n gariadon, wrth iddyn nhw fynychu cyngerdd. Yn ystod y cyngerdd daw ffrwydrad ac mae’r ddau’n cael eu gwahanu.
Hidden Depths – Ifan Morgan Jones (Rily). Mae Rees wedi bod yn rhedeg i ffwrdd ar hyd ei oes. Ond pan wêl mai ffaith yn hytrach na ffuglen yw chwedl o’i blentyndod, mae’n cael ei dynnu’n ddyfnach i fyd cudd sy’n datgelu gwirionedd cythryblus – nid yn unig am ei bresennol, ond am ei orffennol hefyd. Mae’r dewis yn glir: dal yn ôl neu aros ac ymladd.
Dogs for Life – Alison Stokes (Rily). Yn aml, ein cŵn yw’n ffrindiau gorau ac maen nhw’n rhannu cwlwm arbennig gyda ni. Ond beth petai’ch ci yn fwy nag anifail anwes yn unig? Mae’r llyfr yma yn rhannu straeon am anifeiliaid sydd â swyddi pwysig iawn i’w gwneud, ac yn dangos sut mae rhai anifeiliaid anhygoel yn newid bywydau’r bodau dynol sy’n eu caru.
Bydd y teitlau ar gael i’w lawrlwytho am ddim o blatfform amam.cymru rhwng 8 Mehefin ac 8 Gorffennaf, gyda chopïau clawr meddal ar gael i’w prynu am £1 o siopau llyfrau ar hyd a lled Cymru neu o wefan gwales.com y Cyngor Llyfrau.
Gellir benthyg detholiad eang o lyfrau Stori Sydyn o lyfrgelloedd hefyd, naill ai fel e-lyfrau neu gopïau caled pan fyddan nhw’n ail gychwyn eu gwasanaeth.

Cyhoeddi enwau’r unigolion sydd wedi ennill lle ar Gwrs Ysgrifennu i Oedolion Ifanc
Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn falch o gael cyhoeddi enwau’r unigolion sydd wedi ennill lle ar Gwrs Ysgrifennu i Oedolion Ifanc ym mis Chwefror 2020.
Bydd y cwrs dwys yn darparu arweiniad gan arbenigwyr ar y grefft o ysgrifennu ar gyfer Oedolion Ifanc gyda’r gobaith o lenwi silffoedd siopau llyfrau’r dyfodol â chyhoeddiadau Cymraeg at ddant oedolion ifanc.
Caiff y cwrs wythnos o hyd ei gynnal yng Nghanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd a’i arwain gan ddwy awdur profiadol o fewn y maes, Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros. Bydd yn cynnwys gweithdai ymarferol, astudiaeth o’r maes llyfrau i oedolion ifanc yng Nghymru a thros y byd, sgyrsiau gan arbenigwyr, trafodaethau, a chyfle i rannu syniadau gyda chyd-awduron.
Mae’r maes ysgrifennu i bobl ifanc wedi tyfu’n aruthrol dros y ddegawd ddiwethaf, ac yn aml iawn darllenir y nofelau gan oedolion hefyd. Mae nifer o’r prif deitlau mwyaf diweddar wedi eu troi’n ffilmiau gan gynnwys y cyfresi ffantasïol, Twilight, Hunger Games a Maze Runner, llyfrau mwy diweddar o gyfres Harry Potter a llyfrau rhamantaidd/realaidd fel Me Before You, The Fault in Our Stars, a Wonder. Yn ddiweddar yn y Gymraeg bu cyfresi Melanai gan Bethan Gwanas yn hynod boblogaidd ymysg pobl ifainc ynghyd â nofel Manon Steffan Ros, Llyfr Glas Nebo – enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019. Y gobaith yw y bydd y cwrs hwn yn annog mwy o awduron i fentro i’r maes hwn gan arbrofi gyda gwahanol themâu.
Daeth 27 o geisiadau cryf i law, ac nid hawdd oedd dewis y criw lwcus. Mae’r grŵp yn gymysgedd o egin awduron sy’n troi eu llaw at ysgrifennu ar gyfer oedolion ifainc am y tro cyntaf, ac ambell un sydd ag ychydig o brofiad eisoes.
Yr awduron dawnus sydd wedi eu dewis yw, Llio Maddocks, Megan Angharad Hunter, Mared Llywelyn, Ceinwen Jones, Helen Llewelyn, Rhys Thomas, Lowri Taylor, Lleucu Non, Morgan Dafydd, Catrin Lliar Jones a Gareth Evans-Jones.
Datblygu awduron yng Nghymu yw un o dair Colofn Gweithgaredd Llenyddiaeth Cymru. Mae’r cwrs yma’n rhan o’i prif flaenoriaethau o Ddatblygu Egin Awduron fel y nodir yn eu Cynllun Strategol ar gyfer 2019–2022.
Yn yr un modd, mae llenwi’r bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer Oedolion Ifainc a datblygu’r maes yn un o flaenoriaethau Cyngor Llyfrau Cymru yn dilyn arolwg o’r maes gan Dr Siwan Rosser o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. O’r herwydd mae’r cwrs hwn a gynhelir yn Nhŷ Newydd gyda chefnogaeth ariannol y Cyngor Llyfrau yn amserol tu hwnt.
Llio Maddocks
Daw Llio Maddocks o Lan Ffestiniog, ac mae hi’n gweithio fel Trefnydd Eisteddfod yr Urdd. Mae hi wrth ei bodd yn darllen; wir, mae hi’n bwyta llyfrau i Oedolion Ifanc i frecwast, yn enwedig unrhyw beth gan John Green. Mae hi wedi derbyn Ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru yn 2019, ac mae hi’n edrych ymlaen at ddathlu terfyn y cyfnod gyda chwrs yn Nhŷ Newydd er mwyn bwyta llwyth o gacennau hyfryd Tony (ac wrth gwrs, dysgu sgiliau newydd a chael llond trol o ysbrydoliaeth gan y tiwtoriaid, a gobeithio gorffen ei llyfr).
Megan Angharad Hunter
Daw Megan Angharad Hunter o Benygroes, Dyffryn Nantlle ond mae bellach yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio cwrs BA mewn Cymraeg ac Athroniaeth. Pan fo’r amser ganddi, mae hi’n mwynhau ysgrifennu’n greadigol ac wedi cwblhau drafft o nofel ar gyfer oedolion ifainc. Ei hoff lyfrau i oedolion ifainc yw’r gyfres His Dark Materials gan Phillip Pullman. Pan oedd hi’n iau roedd hi hefyd yn hoff iawn o’r llyfrau ffantasi Trwy’r Darlun a Trwy’r Tonnau gan Manon Steffan Ros. Yn ogystal ag ysgrifennu, câi bleser o greu a pherfformio cerddoriaeth; mae hi’n chwarae’r ffliwt ym mand Jazz Prifysgol Caerdydd ac weithiau’n chwarae o gwmpas ar y gitâr.
Mared Llywelyn
Daw Mared Llywelyn o Forfa Nefyn. Mae’n gweithio i Lyfrgelloedd Gwynedd, sy’n dda o beth gan ei bod mor hoff o lyfrau. Mae hi hefyd yn mwynhau ysgrifennu dramâu pan mae’r cyfleoedd yn codi ac yn aelod o Gwmni Tebot. Mae gan Mared ychydig o gywilydd ei bod wedi teimlo mor gryf dros Edward Cullen a Jacob Black yn y gorffennol, ac fe aeth i chwilio am y fainc yn Amsterdam yr eisteddodd y ddau gariad arno yn y nofel The Fault in Our Stars. Edrycha ymlaen at gael rhannu syniadau a sgwrsio gyda phobl eraill ar y cwrs, a chreu cymeriadau cofiadwy fel hyn yn y Gymraeg.
Ceinwen Jones
Daw Ceinwen Jones o Ddeiniolen, ond mae hi’n byw ym Mangor ar hyn o bryd yn astudio MA Ysgrifennu Creadigol yn rhan amser. Yn ogystal, mae hi’n gweithio ychydig o oriau yn llawrydd i gwmni yn Llundain fel ymgynghorydd iaith, ac wedi dechrau busnes gwneud cardiau, crefftau a darluniau o bobl ac anifeiliaid. Mae ganddi ddiddordeb mawr yn y cwrs yma gan ei bod yn cofio bod yn ei harddegau, yn caru darllen, ond ddim yn caru’r dewis oedd ar gael yn y Gymraeg ar y pryd. Hoffai ddysgu mwy gan awduron profiadol yn y maes ar sut i lunio stori a fydd o bwys i oedolion ifanc. Mae llenyddiaeth i blant a phobl ifanc yn rhywbeth sydd yn agos i’w chalon oherwydd dyma’r cyfle fwyaf sydd gennym i siapio dyfodol y genhedlaeth nesaf, a rhaglenni teledu i blant oedd testun ei thraethawd hir y llynedd. Hoffai ddysgu sut i ysgrifennu darn sydd yn herio darllenwyr ifanc i feddwl am yr hyn sy’n digwydd o’u cwmpas, a’u hannog i ddefnyddio’u lleisiau i frwydro dros yr hyn sy’n iawn.
Helen Llewelyn
Mae Helen Llewelyn yn wreiddiol o Geredigion ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Yn ferch o’r wlad mae wrth ei bodd yn yr awyr agored ac yn dwli ar anifeiliaid. Drwy ei gwaith fel cynhyrchydd teledu mae wedi cael y fraint o ddod i nabod llu o gymeriadau diddorol sydd wedi ei hysbrydoli i ysgrifennu, ac mae’n teimlo’n lwcus i fod wedi cael cip tu ôl i ddrysau caeedig bydoedd gwahanol wrth ffilmio cyfresi ffeithiol. Mae’n edrych ymlaen nawr at yr her o ysgrifennu ffuglen, ac at arweiniad awduron profiadol i ddatblygu ambell eginyn o syniad sydd wedi bod yn ei phen ers tro.
Rhys Thomas
Yn wreiddiol o Alma yng Ngorllewin Cymru, mae Rhys Thomas bellach wedi ymgartrefu yn Y Bari. Dros y blynyddoedd mae wedi ysgrifennu ar gyfer y teledu, i Y Tŷ, actio mewn ffilmiau ar sianeli Americanaidd (Fox a Hallmark), a dawnsio ar hyd a lled y byd. Yn ddiweddar mae wedi bod ynghlwm â’r byd digidol, ac wedi hyfforddi a chreu cyrsiau bach a mawr i ddangos i bobl sut i greu ac ysgrifennu o fewn y maes hwnnw. Mae wedi bod yn Bennaeth Digidol i ‘Cyfle’ ac wedi gweithio fel darlithydd mewn prifysgolion. Mae’n arbenigwr ar Transmedia ac eisiau dod a’r sgiliau hynny i fyd y nofel Gymraeg.
Lowri Taylor
Daw Lowri Taylor o Lansannan. Wedi iddi raddio mewn Cymraeg o Brifysgol Bangor penderfynodd ddilyn cwrs TAR, ac mae hi wedi cymhwyso fel athrawes ers Gorffennaf 2013. Yna aeth ymlaen i ddilyn Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol. Mae ysgrifennu wedi bod o ddiddordeb mawr iddi ers blynyddoedd ond roedd yn ei gweld yn anodd rhoi’r amser i ysgrifennu wrth weithio llawn amser. Serch hynny, mae hi wedi dechrau ar gwrs ôl-ddoethurol mewn Ysgrifennu Creadigol yn ddiweddar ac yn edrych ymlaen at fod yng nghwmni unigolion â’r un diddordebau yn Nhŷ Newydd gan dderbyn arweiniad amhrisiadwy. Ei phrif ddiddordebau yw ffermio ac ysgrifennu a chyda breuddwyd am y cyfle i ysgrifennu llyfrau plant rhyw ddiwrnod.
Lleucu Non
Un o Ddyffryn Nantlle yw Lleucu Non ac mae’n byw gyda’i mam a’i chathod, Siwgr a Lwmp. Mae’n ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Dyffryn Nantlle ac yn astudio Cymraeg, Saesneg a Hanes, ac yn gobeithio mynd i astudio’r Gymraeg yn y brifysgol. Yn ei hamser sbâr, mae’n ysgrifennu’n greadigol ac yn cystadlu’n flynyddol mewn Eisteddfodau lleol ac Eisteddfod yr Urdd. Yn ddiweddar, mae wedi bod yn ysgrifennu erthyglau ar gyfer gwefan Lysh. Mae Lleucu wrth ei bodd yn darllen llyfrau sy’n llawn antur a dirgel. Ond, hoff beth Lleucu mewn llyfryddiaeth ydi’r datblygiad o gymeriadau merched cryf dros amser.
Morgan Dafydd
Yn wreiddiol o dref Conwy, mae Morgan Dafydd bellach yn byw lawr y lôn yng Nghyffordd Llandudno gyda’i gariad, Llio Mai. Ar ôl astudio Daearyddiaeth yn y brifysgol aeth i weithio fel athro cynradd, lle bu’n dysgu Bl.5 a 6 yn Nolgarrog am bum mlynedd, cyn i’r ysgol gau eleni. Ers mis Medi mae wedi bod yn gwneud PhD yn yr Adran Addysg, Prifysgol Bangor o dan oruchwyliaeth yr Athro Enlli Môn Thomas. Ei fwriad yw ymchwilio i mewn i lyfrau dwyieithog a threialu ffyrdd newydd a chreadigol o’u defnyddio. Mae hyn i helpu plant o deuluoedd di-Gymraeg ddarganfod byd newydd o lenyddiaeth Gymraeg. Mae rhaglenni a ffilmiau ffuglen wyddonol, yn bennaf Star Trek, Star Wars a’r X-Files wastad wedi bod o ddiddordeb iddo, ac mae’n adolygu llyfrau plant ac yn gobeithio lansio gwefan newydd yn 2020! Os nad yw’n darllen ac yn adolygu llyfrau, fe ddewch o hyd iddo’n cerdded mynyddoedd ardderchog Gogledd Cymru. Yn ei amser sbâr mae’n gwirfoddoli fel aelod o griw’r bad achub yng Nghonwy.
Catrin Lliar Jones
Yn wreiddiol o Lanaelhaearn mae Catrin Lliar Jones bellach yn byw mewn gardd wyllt ar gomin Uwch Gwyrfai gyda dau blentyn, un ci, dwy gath, un gŵr ac un gliniadur. Mae wedi gweithio fel nani yn Llundain, Boston ac fel athrawes yn Ghana a Gwynedd. Mae bellach yn gweithio fel Trefnydd Digwyddiadau a Rheolwr Perthynas Dysgwyr gyda’r cwrs Cymraeg ar-lein, SaySomethinginWelsh. Syrthiodd mewn cariad â nofelau ar gyfer plant a phobl ifanc wrth hyfforddi i fod yn athrawes ym Mhrifysgol Bangor, gyda llenyddiaeth fel ei phrif bwnc. Cafodd ei hysbrydoli’n fawr gan waith Michael Morpurgo, Jenny Nimo, Anne Fine a llawer mwy. Mae Catrin newydd gwblhau ysgrifennu nofel ar gyfer oedolion, bydd yn cael ei gyhoeddi fis Ebrill 2020.
Gareth Evans-Jones
Un o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn ydi Gareth Evans-Jones. Mae’n ddarlithydd Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Bangor ac yn mwynhau potsian ‘sgwennu. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i oedolion, Eira Llwyd, y llynedd ac mae wedi cyhoeddi straeon byrion mewn cyfrolau i oedolion ac oedolion ifanc. Ei hoff nofelau oedolion ifanc pan oeddwn i’n iau a hyd heddiw ydi cyfres Harry Potter. Fe’i swynwyd gan y modd y darlunnir y byd ffantasïol mewn modd credadwy, gan hefyd gynnig stori sy’n hudo’r darllenydd o’r dudalen gyntaf hyd y frawddeg olaf. Ymysg y nofelau i oedolion ifanc diweddar y mae wedi’u mwynhau mae Red Queen, Victoria Aveyard a Six of Crows, Leigh Bardugo. Mae’n edrych ymlaen yn arw at ddysgu mwy a datblygu egin syniad sydd ganddo tra ar y cwrs.