Chwef 25, 2020
Bydd darllenwyr brwd Cymru yn ymuno â’i gilydd i ddathlu Diwrnod y Llyfr, sy’n cael ei gynnal eleni ar 5 Mawrth 2020.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ysgolion, siopau llyfrau, colegau, llyfrgelloedd, busnesau a theuluoedd i ymuno â’r dathliad blynyddol mwyaf o lyfrau a darllen yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon, drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau ledled Cymru, yn ogystal â rhannu’r mwynhad o ddarllen.
I nodi Diwrnod y Llyfr 2020, mae’r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd dau lyfr arbennig i blant ar gael i’w prynu am £1 yn unig, neu gall plant gyfnewid eu tocyn £1 Diwrnod y Llyfr am un o’r cyfrolau. Bydd fersiynau hygyrch o’r llyfrau hefyd ar gael, gan gynnwys fersiynau braille, print bras a sain, diolch i gefnogaeth yr RNIB.
Mae Darllen gyda Cyw gan Anni Llŷn, a gyhoeddwyd gan y Lolfa, yn dilyn hanesion y cymeriad poblogaidd Cyw a’i ffrindiau, ac mae’r llyfr wedi’i anelu at ddarllenwyr iau a theuluoedd sy’n dysgu Cymraeg gyda’u plant.
Mae Stori Cymru – Iaith a Gwaith, a ysgrifennwyd gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, yn adrodd hanes Cymru a gwaith ei phobl drwy gyfrwng stori, llun a chân.
Mae adrodd a rhannu straeon hefyd yn thema bwysig ar gyfer Diwrnod y Llyfr eleni gydag ymgyrch ledled Prydain i lansio ‘chwyldro darllen’ drwy rannu miliwn o straeon. Gall unrhyw un gymryd rhan yn yr ymgyrch: teuluoedd, ysgolion, siopau llyfrau a llyfrgelloedd, meithrinfeydd, ac ati. Ar ôl cofrestru ar worldbookday.com/share-a-million-stories, mae modd dod o hyd i bopeth sydd ei angen, gan gynnwys canllawiau, cwestiynau cyffredin ac awgrymiadau er mwyn rhannu stori.
Fel rhan o’r dathliadau, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi lansio gêm gardiau Top Trumps arbennig i blant sy’n cynnwys cymeriadau o lyfrau Cymraeg hen a newydd. Bydd y cardiau’n siŵr o ddod â gwên i wynebau rhieni hefyd wrth weld rhai o hoff gymeriadau eu plentyndod yn y gêm megis Sam Tân a Siôn Blewyn Coch.
Bydd y Cyngor hefyd yn nodi Diwrnod y Llyfr trwy gynnal dau ddigwyddiad arbennig i blant yn Theatr Felinfach ar 4 Mawrth, a Theatr Glan-yr-Afon yng Nghasnewydd ar 5 Mawrth.
Bydd plant ysgolion yr ardal yn cael gwahoddiad i ddod i Theatr Felinfach i rannu straeon gyda rhai o awduron a darlunwyr Cymru, gan gynnwys Myrddin ap Dafydd, Casia Wiliam, Aneirin Karadog, Huw Aaron ac Elidir Jones.
Ar Ddiwrnod y Llyfr ei hunan, bydd plant yn mynd i Theatr Glan-yr-Afon i rannu straeon gyda’r cyflwynydd a’r awdur plant Lucy Owen, y storïwraig a’r awdur Atinuke, Mark Llewelyn Evans, awdur ABC of Opera, a’r darlunydd a’r awdur o’r Rhondda Siôn Tomos Owen.
Ac mewn digwyddiad arbennig yn Llandudno ddydd Iau 5 Mawrth 2020, bydd panel o chwech arbenigwr yn trafod manteision ‘bibliotherapi’ lle caiff llyfrau hunangymorth eu defnyddio i gefnogi iechyd meddwl a lles.
www.cllc.org.uk/newyddion-news/news-detail?id=13336
Yng Nghymru, mae ymgyrch Diwrnod y Llyfr yn cael ei gydlynu gan y Cyngor Llyfrau a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Waterstones. Bob blwyddyn, drwy gydweithio â llu o gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr, mae Diwrnod y Llyfr yn trefnu rhestr o deitlau penodol am £1 yr un ar gyfer plant a phobl ifanc, a chenhadaeth Diwrnod y Llyfr yw eu hannog i fwynhau llyfrau a darllen drwy roi cyfle iddyn nhw gael eu llyfr eu hunain.
Yn ogystal â chael eu dosbarthu drwy’r drefn arferol yn ysgolion a meithrinfeydd, rhwng dydd Mercher 5 Chwefror a dydd Mawrth 17 Mawrth bydd tocyn £1 Diwrnod y Llyfr yn ymddangos ar bob blwch Happy Meal™ gan gwmni McDonald’s ym Mhrydain ac Iwerddon. Gall plant a theuluoedd ei gyfnewid am un o blith nifer o deitlau Diwrnod y Llyfr yn rhad ac am ddim, gan gynnwys y teitlau Cymraeg, neu gael gostyngiad o £1 oddi ar bris llyfr neu lyfr sain sy’n costio £2.99 neu fwy, yn eu siop lyfrau neu archfarchnad leol sy’n cymryd rhan yn y cynllun rhwng 27 Chwefror a 29 Mawrth.
Chwef 19, 2020
Ydy llyfrau yn gallu helpu i leddfu problemau iechyd meddwl? Dyna’r cwestiwn a gaiff sylw eleni yn nigwyddiad blynyddol Diwrnod y Llyfr sy’n cael ei drefnu gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Yn Venue Cymru yn Llandudno ddydd Iau 5 Mawrth 2020, bydd panel o chwech arbenigwr yn trafod manteision ‘bibliotherapi’ lle caiff llyfrau hunangymorth eu defnyddio i gefnogi iechyd meddwl a lles.
Mae ystod eang o lyfrau i’w cael fel rhan o gynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn, sy’n cyhoeddi cyfresi o lyfrau defnyddiol yn cefnogi iechyd a lles ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys iechyd meddwl a dementia.
Asiantaeth The Reading Agency sy’n gyfrifol am y cynllun ar draws Prydain mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Cymru a Lloegr, gyda Chyngor Llyfrau Cymru’n sicrhau bod detholiad o’r llyfrau ar gael yn Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg.
Mae’r cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yn cynnig gwybodaeth a chymorth defnyddiol ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd.
Mae rhai llyfrau hefyd yn cynnwys straeon personol gan bobl sy’n byw gyda rhywun ag anghenion iechyd meddwl neu’n gofalu amdano.
Y golygydd a’r adolygydd llyfrau Bethan Mair sy’n cadeirio’r drafodaeth banel ar Ddiwrnod y Llyfr.
“Llyfrau yw fy mywyd”, meddai Bethan “ond mae fy mywyd hefyd wedi cynnwys cyfnodau o iselder a gorbryder difrifol. Dyw hi ddim bob amser yn hawdd siarad am y pethau hyn, ac mae hynny’n fwy anodd fyth pan ydych chi wedi arfer gwisgo mwgwd ‘popeth-yn-iawn’ ar gyfer y cyhoedd. Ond mae gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun, a bod pobl eraill wedi dioddef fel chi, ac wedi dod drwyddi, yn gallu bod yn gysur mawr.
“Mae hunan-wella’n elfen bwysig o bob triniaeth iechyd meddwl,” ychwanegodd hi “ac eto, rhaid cael help llaw – ac mae llyfr yn gymorth hawdd ei gael ar unrhyw adeg. Mae llyfrau Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn yn dod ymhob lliw a llun, ar gyfer pob math o achlysur, a dim ond daioni all ddeillio o’r ddarpariaeth arloesol hon yn Gymraeg. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gadeirio trafodaeth fywiog, ddeallus a datgelol ar faes sy’n cyffwrdd â chynifer o bobl.”
Mae aelodau eraill y panel yn cynnwys:
• Manon Elin James – un o sylfaenwyr meddwl.org, sef gwefan sy’n cynnig cefnogaeth a gwybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.
• Bethan Hughes – Prif Lyfrgellydd Sir Ddinbych sy’n arwain ym maes lles a chynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar draws Cymru.
• Sharon Marie Jones – awdur plant sydd wedi ysgrifennu’n helaeth am ei galar a’i hiechyd meddwl ers i’w mab pump oed gael ei ladd mewn damwain car yn 2016.
• Dr Harri Pritchard – meddyg teulu profiadol sy’n aml yn trafod materion meddygol ar y cyfryngau.
• Angharad Tomos – awdur arobryn sydd wedi ysgrifennu am yr iselder difrifol a ddioddefodd yn dilyn genedigaeth ei phlentyn.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause: “Mae Diwrnod y Llyfr yn gyfle i ddathlu’r gair ysgrifenedig a sut mae darllen yn gallu bod yn llesol i ni ar sawl lefel. Mewn cyfnod o drafod cynyddol am broblemau iechyd meddwl, rydyn ni yn y Cyngor Llyfrau yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’r Asiantaeth Ddarllen a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn yng Nghymru. Mae pob un o’r llyfrau hunangymorth yn y cynllun hwn wedi’u cymeradwyo gan arbenigwyr iechyd ac mae sicrhau bod deunydd safonol o’r fath hefyd ar gael yn y Gymraeg yn hollbwysig.”
Dywedodd Debbie Hicks MBE, Cyfarwyddwr Creadigol The Reading Agency: “Bydd un ymhob pedwar ohonon ni yn wynebu problem iechyd meddwl rhywbryd yn ein bywydau. Ar Ddiwrnod y Llyfr, rydym wrth ein bodd yn tynnu sylw at y budd cydnabyddedig a ddaw yn sgil darllen i helpu pobl ddeall a rheoli eu lles a’u hiechyd meddwl. Rydym yn falch o weithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru a llyfrgelloedd cyhoeddus i ddod â Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn i Gymru, gan sicrhau fod y cynllun yn cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl yn y Gymraeg a’r Saesneg.”
Bydd digwyddiad Diwrnod y Llyfr yn dechrau am 6yh gyda derbyniad yn Venue Cymru yn Llandudno nos Iau 5 Mawrth 2020, gyda’r drafodaeth banel am 6.30yh.
Mae mynediad yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb. Y cyfan sydd angen ei wneud i gadw lle yw ebostio menai.williams@llyfrau.cymru.
Mae teitlau yn y gyfres Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gael i’w benthyg o lyfrgelloedd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.
Gall gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol hefyd argymell y llyfrau ar bresgripsiwn fel rhan o driniaeth unigolyn.
Mae manylion pellach am weithgareddau Cyngor Llyfrau Cymru i nodi Diwrnod y Llyfr i’w gweld ar ein gwefan.
Chwef 12, 2020
Daeth cynrychiolwyr o 12 o weisg o bob cwr o Gymru ynghyd yng Nghastell Brychan, Aberystwyth, ym mis Chwefror 2020 ar gyfer sesiwn hyfforddi arbennig ar safonau metadata rhyngwladol ar gyfer y sector llyfrau.
Trefnwyd y digwyddiad gan Gyngor Llyfrau Cymru fel rhan o’u rhaglen hyfforddiant flynyddol ar gyfer y sector cyhoeddi.
Cafodd yr hyfforddiant ei ddarparu gan sefydliad EDItEUR sy’n arbenigo ar fetadata, dynodwyr a safonau e-fasnach llyfrau – yn enwedig ONIX, sef y safon ryngwladol gydnabyddedig ar gyfer rhannu metadata am lyfrau, e-lyfrau neu lyfrau llafar.
Dywedodd Pennaeth Busnes a Chyllid y Cyngor Llyfrau, Mererid Boswell: “Mae gwelliannau technolegol yn datblygu’n hynod gyflym yn y diwydiant cyhoeddi fel ym mhob maes arall, ac mae’n hollbwysig bod cyhoeddwyr yn gyfarwydd â’r systemau diweddaraf. Trwy ddefnyddio ONIX i’w lawn botensial mae modd sicrhau bod llyfrau yn cael eu canfod yn hwylus ac effeithlon – a thrwy hynny gynyddu gwerthiant. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i gyhoeddwyr llai neu deitlau mewn ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg.”
Dywedodd Garmon Gruffudd, Cadeirydd Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru sy’n cynrychioli cyhoeddwyr Cymraeg: “Mae’n dda gweld bod y Cyngor Llyfrau yn buddsoddi mewn hyfforddiant i’r gweisg, yn arbennig mewn meysydd rhyngwladol megis ONIX a phwysigrwydd metadata o ran adnabod, canfod a gwerthu llyfrau.”
Cafwyd hyfforddiant hefyd ar Thema, y system ryngwladol newydd a ddefnyddir gan y fasnach lyfrau i gategoreiddio llyfrau yn ôl testun, ac ISNI, y dynodwr enw rhyngwladol safonol.