Penodi Ymddiriedolwyr newydd i’r Cyngor Llyfrau

Penodi Ymddiriedolwyr newydd i’r Cyngor Llyfrau

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi penodi saith Ymddiriedolwr newydd i arwain gwaith yr elusen yn cefnogi’r diwydiant cyhoeddi a hyrwyddo darllen.

Bydd Rajvi Glasbrook Griffiths, Alwena Hughes Moakes, Lowri Ifor, yr Athro Carwyn Jones, Linda Tomos, yr Athro Gerwyn Wiliams a Dr Caroline Owen Wintersgill yn cymryd eu lle ar Fwrdd Ymddiriedolwyr newydd y Cyngor ar 1 Ebrill 2021.

Bydd y Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethiant y Cyngor Llyfrau ac am oruchwylio cyfeiriad a strategaeth yr elusen genedlaethol.

Bydd pedwar o Ymddiriedolwyr presennol y Cyngor Llyfrau hefyd yn trosglwyddo o’r Pwyllgor Gwaith i fod yn aelodau o’r Bwrdd newydd, sef yr Athro M. Wynn Thomas (Cadeirydd), Rona Aldrich (Is-Gadeirydd), yr Athro Jane Aaron (Ysgrifennydd Mygedol) Chris Macey (Trysorydd Mygedol).

Dywedodd yr Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd y Cyngor Llyfrau: “A’r corff bellach yn dathlu ei ben-blwydd yn drigain, mae’n bleser cyhoeddi bod Cyngor Llyfrau Cymru wedi penodi arbenigwyr amlwg ym meysydd busnes, llywodraeth a chyhoeddi rhyngwladol ynghyd â rheolwyr cyrff diwylliannol i Fwrdd Ymddiriedolwyr a fydd yn cefnogi’r tîm mewnol o swyddogion profiadol sy’n gwasanaethu’r byd cyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae hwn yn ddatblygiad hynod gyffrous arall a fydd yn sicrhau bod gan y Cyngor system reoli briodol ar gyfer gofynion heriol diwydiant sydd bellach yn fythol gyfnewidiol.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: “Wrth i’r Cyngor nodi ei ben-blwydd yn 60 oed eleni, rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’r Bwrdd newydd wrth i ni bennu strategaeth ar gyfer y cyfnod heriol hwn a sicrhau ffyniant y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru at y dyfodol. Fel elusen, rydym yn hynod o werthfawrogol o’r cyfraniad pwysig a wneir gan ein Hymddiriedolwyr, sy’n rhoi o’u hamser a’u harbenigedd yn gwbl wirfoddol er mwyn cefnogi’r byd llyfrau.”

Ymddiriedolwyr Newydd

Rajvi Glasbrook Griffiths: Yn Bennaeth Ysgol Gynradd High Cross yng Nghasnewydd sy’n gweithio ym maes addysg yng Nghymru ers 2009, mae Rajvi Glasbrook Griffiths hefyd yn Gyfarwyddwr gŵyl Llenyddiaeth Caerllion ers 2014, yn Gyfarwyddwr Prosiect Porth Caerllion ers 2016, ac yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol y cychlgrawn Planet. Mae’n aelod o Bwyllgor Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru yn ogystal â’i Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd.

Alwena Hughes Moakes: Mae Alwena Hughes Moakes yn Bennaeth Byd-eang Cyfathrebu ac Ymgysylltu â’r Gweithlu i gwmni amaeth rhyngwladol â’i bencadlys yn Basel, y Swistir. Cyn adleoli i’r Swistir, bu Alwena’n gweithio am rai blynyddoedd mewn swyddi rheoli ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Materion Cyhoeddus. Yn wreiddiol o’r Wyddgrug, mae Alwena yn gyfathrebwraig brofiadol a chanddi dros ugain mlynedd o brofiad o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Lowri Ifor: Yn gyn-athrawes, mae Lowri Ifor yn gweithio i Amgueddfa Lechi Cymru ers 2018 fel Swyddog Addysg a Digwyddiadau ac mae hefyd yn dysgu dosbarth Cymraeg i Oedolion. Bu’n Olygydd Llyfrau Plant gyda Gwasg Carreg Gwalch rhwng 2018 a 2019 ac mae’n un o olygyddion y cylchgrawn Codi Pais ers 2018, yn ogystal ag yn aelod o bwyllgor Noson Pedwar a Chwech sy’n trefnu digwyddiadau cerddorol a llenyddol Cymraeg yn ardal Caernarfon.

Yr Athro Carwyn Jones: Mae’r Athro Carwyn Jones yn gyn-Brif Weinidog Cymru (2009–2018) a bu’n Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 1999 a 2021. Ar ôl graddio yn y gyfraith o Brifysgol Aberystwyth, aeth yn ei flaen i hyfforddi fel bargyfreithiwr yn Llundain gan weithio mewn practis cyfreithiol yn Siambrau Gŵyr, Abertawe am 10 mlynedd. Cafodd ei benodi yn Athro rhan-amser yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth yn 2019.

Linda Tomos: Yn llyfrgellydd siartredig ers 1975, bu Linda Tomos yn Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru rhwng 2015 a 2019 gan arwain straetgaeth y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Cyn hynny, bu’n uwch-was sifil gyda Llywodraeth Cymru ac yn Gyfarwyddwr cyntaf CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru o fewn yr Adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Yn gyn-Gadeirydd Cyngor Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Cymru, bu’n Gadeirydd Cyngor Darlledu Addysgol BBC Cymru rhwng 1999 a 2003 ac yn Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru rhwng 2016 a 2020.

Yr Athro Gerwyn Wiliams: Mae Gerwyn Wiliams yn Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ers 2005, a bu’n gweithio yn Ysgol y Gymraeg ers 1989. Mae’n aelod o Fwrdd Ymgynghorol y cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt ers 2019 ac yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Theatr Bara Caws ers 2018. Yn gyn-enillydd Coron yr Eisteddfod Genedlaethol (1994) a Gwobr Llyfr y Flwyddyn (1997), mae hefyd wedi beirniadu nifer o gystadlaethau llenyddiaeth, yn cynnwys Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017 a Llyfr y Flwyddyn yn 2011. Bu’n aelod o Fwrdd Cyngor Celfyddydau Cymru rhwng 2010 a 2016.

Dr Caroline Owen Wintersgill: Mae Dr Caroline Owen Wintersgill yn Ddarlithydd mewn Cyhoeddi yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar y radd MA mewn Cyhoeddi. Mae ganddi ddoethuriaeth ar ddarllen, ysgrifennu a chyhoeddi ffuglen gyfoes, oedd yn cynnwys gweithio gyda grwpiau darllen ar draws y Deyrnas Unedig yn ogystal â chyfweliadau gydag awduron a chyhoeddwyr. Cyn symud i’r maes academaidd, bu’n gweithio am dros 25 mlynedd i rai o gyhoeddwyr blaenllaw Prydain, yn cynnwys Routledge, Bloomsbury a Manchester University Press. Ochr yn ochr â’i gwaith dysgu, mae’n Olygydd Arbennig gyda Biteback Publishing ac yn Uwch-olygydd Ymgynghorol gyda Lynne Rienner Publishers yn Colorado ers 2015.

Cyfarfodydd

Bydd cyfarfodydd llawn o’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn cael eu cynnal bedair gwaith y flwyddyn.

Ar 1 Ebrill 2021, bydd y Cyngor Llyfrau yn trosglwyddo o fod yn elusen anghofrestredig i fod yn Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE).

Bydd aelodau Cyngor y Cyngor Llyfrau, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r awdurdodau sir a sefydliadau eraill, yn trosglwyddo’n aelodau o’r elusen ac yn cwrdd yn ffurfiol unwaith y flwyddyn mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Cyhoeddi rhestr fer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021

Cyhoeddi rhestr fer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021

Tair stori wahanol am fywyd yng Nghymru ar wahanol adegau yn ei hanes sy’n cael sylw yn y llyfrau Saesneg ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2021, a gyhoeddwyd heddiw (12 Mawrth 2021) ar raglen y Radio Wales Arts Show.

Mae’r cyfnodau hanesyddol yn ymestyn o’r Canol Oesoedd cynnar pan oedd hunaniaeth Cymru yn cryfhau yn The Short Knife gan Elen Caldecott, i deulu a ymfudodd o Gymru i’r Unol Daleithiau ar droad yr ugeinfed ganrif yn The Quilt gan Valériane Leblond, a stori gyfoes wedi’i gosod mewn fforest law Geltaidd yng ngogledd Cymru yn Where the Wilderness Lives gan Jess Butterworth.

Mae’r gwobrau blynyddol, sy’n cael eu trefnu gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan CILIP Cymru, yn dathlu’r gorau o blith llyfrau i blant ac oedolion ifanc a gyhoeddwyd yn ystod 2020.

Mae tri phrif gategori: llyfrau Cymraeg ar gyfer oedran ysgol gynradd, llyfrau Cymraeg ar gyfer oedran ysgol uwchradd, a llyfrau Saesneg gyda chefndir Cymraeg dilys i blant ac oedolion ifanc.

Dyma’r tro cyntaf i Jess Butterworth ac Elen Caldecott gyrraedd rhestr fer y gwobrau, a’r tro cyntaf i Valériane Leblond gael ei henwebu fel awdur a darlunydd. Mae The Short Knife hefyd wedi cyrraedd rhestr fer Medal Carnegie CILIP 2021.

Y Rhestr Fer Saesneg

  • Where the Wilderness Lives gan Jess Butterworth (Orion, 2020) ar gyfer oedran 9+: Cara yw’r prif gymeriad ac mae’n byw ar gwch camlas gyda’i mam, ei brodyr a’i chwiorydd, a’i chi Willow. Roedd ei thad yn arfer byw gyda nhw ond bellach mae’n byw mewn rhan anghysbell o Gymru. Mae’r antur yn dechrau pan ddaw Cara a’i brodyr a’i chwiorydd o hyd i goffor tan glo wrth helpu i lanhau’r gamlas lle maen nhw’n byw. Mae tân yn dinistrio eu cwch un noson, a thra bod ei mam yn yr ysbyty a Cara yn gofalu am ei brodyr a’i chwiorydd, mae lleidr yn dwyn y coffor. Mae’r plant yn gadael y tŷ lle maen nhw wedi bod yn byw dros dro ac yn mynd â’r coffor at eu tad, gan deithio’n gyntaf yn eu cwch cyn mentro ar droed ar draws mynyddoedd Cymru yn yr eira.
  • The Short Knife gan Elen Caldecott (Andersen Press, 2020) ar gyfer oedran 12+: stori wedi’i gosod ganrifoedd maith yn ôl, yn yr Oesoedd Canol cynnar, 454, ar adeg pan oedd hunaniaeth Gymreig newydd yn dod i’r amlwg, pan oedd y Rhufeiniaid wedi gadael, a’r Brythoniaid a’r Sacsoniaid yn brwydro i feddiannu tiriogaethau gwahanol. Y prif gymeriad, Mai, sy’n adrodd y stori. Mae’n ferch ifanc a hyd yma mae eu tad wedi llwyddo i’w chadw hi a’i chwaer Haf yn ddiogel. Mae’r stori’n dechrau wrth i ymladdwyr Sacsonaidd gyrraedd eu fferm, gan orfodi’r teulu i ffoi i’r bryniau lle mae rhyfelwyr Brythonaidd yn cuddio. Dilynwn ymdrechion Mai i oroesi mewn byd peryglus lle gall siarad ei mamiaith arwain at farwolaeth, a lle mae’n dod i ddrwgdybio hyd yn oed y bobl hynny mae hi’n eu caru fwyaf.
  • The Quilt gan Valériane Leblond (Y Lolfa, 2020) ar gyfer oedran 5+: stori delynegol, hardd yw hon am ferch fach sy’n byw gyda’i rhieni ar fferm ar arfordir cefn gwlad Cymru ar droad yr ugeinfed ganrif. Mae bywyd yn galed ac mae’r teulu’n penderfynu ymfudo i America. I dalu am gost eu taith, maen nhw’n gwerthu eu heiddo ond yn cadw cwilt coch a du wedi’i bwytho â llaw gan y fam gyda darnau o ddefnydd dros ben o ddillad mae wedi’u gwneud i’r teulu. Mae cefnu ar bob dim sy’n gyfarwydd iddi yn achos hiraeth i’r ferch fach, ond mae’r atgofion a’r cariad sydd yn y cwilt yn ei helpu i oresgyn y teimladau hyn ac addasu i’w bywyd newydd.

Dywedodd Jo Bowers, Cadeirydd y panel beirniaid ar gyfer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021: “Roedd straeon y tri llyfr wedi’u gosod ar gefndir Cymreig dilys cyfoethog, sy’n brif faen prawf ar gyfer y wobr hon, gyda phob awdur yn mynd ati mewn ffordd wahanol iawn. Roedd pob llyfr yn serennu am ystod o resymau: yr ymdeimlad o le ac amser yng Nghymru a hanes Cymru; y dyluniad cyffredinol gan fod gan bob llyfr glawr deniadol iawn a naill ai darluniau neu nodweddion dylunio yng nghorff y testun, ac roedd arddull a chynnwys pob stori yn synnu ac yn cydio. Roeddem o’r farn fod pob un yn cynnig agweddau newydd ar Gymru mewn llenyddiaeth plant.”

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause: “Llongyfarchiadau gwresog i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddod â’r tri theitl ar y rhestr fer at ddarllenwyr. Mae mor bwysig sicrhau bod gan ddarllenwyr ifanc yng Nghymru ddewis o lyfrau o ansawdd uchel sy’n adlewyrchu hanes a diwylliant y wlad lle maen nhw’n byw.”

Y Rhestr Fer Gymraeg

Cafodd y rhestr fer ar gyfer llyfrau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2021 ei chyhoeddi ar y rhaglen Heno ar S4C nos Iau, 11 Mawrth.

Mae’r categori ar gyfer llyfrau Cymraeg oedran cynradd yn cynnwys Ble Mae Boc – Ar Goll yn y Chwedlau gan Huw Aaron (Y Lolfa, 2020), Mae’r Cyfan i Ti gan Luned Aaron (Atebol, 2020), a Sw Sara Mai gan Casia Wiliam (Y Lolfa, 2020).

Y tri llyfr sydd ar y rhestr fer yn y categori oedran uwchradd yw Y Castell Siwgr gan Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch, 2020), Llechi gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa, 2020), a #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch, 2020).

Caiff enillwyr y categorïau Cymraeg eu cyhoeddi ar y rhaglen Heno ar S4C am 19:00 nos Iau, 20 Mai, tra bydd y teitl Saesneg buddugol yn cael ei ddatgelu ar y Radio Wales Arts Show am 18:30 ar 21 Mai.

Mae manylion pellach am y gwobrau a’r llyfrau ar y rhestr fer ar gael ar wefan y Cyngor Llyfrau.

Cyhoeddi rhestr fer gwobrau llyfrau Cymraeg Tir na n-Og 2021

Cyhoeddi rhestr fer gwobrau llyfrau Cymraeg Tir na n-Og 2021

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o gyhoeddi teitlau’r chwe llyfr Cymraeg sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2021 sy’n anrhydeddu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Yn y categori cynradd mae Ble Mae Boc – Ar Goll yn y Chwedlau gan Huw Aaron (Y Lolfa), Mae’r Cyfan i Ti gan Luned Aaron (Atebol) a Sw Sara Mai gan Casia Wiliam (Y Lolfa).

Y llyfrau ddaeth i’r brig yn y categori uwchradd oedd Y Castell Siwgr gan Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch), Llechi gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa) a #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch).

Dywedodd Hywel James, Cadeirydd y panel oedd yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg cynradd ac uwchradd: “Fel beirniaid, rydym wedi cael pori drwy wledd o lenyddiaeth plant a phobl ifanc. Roedd yr holl gyfrolau a ddaeth i law yn cynnig arlwy gwerthfawr i ddarllenwyr ifanc, ac yn cyfrannu at ein llenyddiaeth trwy lenwi bylchau sydd yn bwydo’r dychymyg ac yn meithrin eu dealltwriaeth o’r gorffennol neu eu hymwybyddiaeth o’r byd o’u cwmpas.

“Ymysg y teitlau eleni roedd llyfrau llun-a-stori atyniadol iawn gan awduron a darlunwyr newydd, datblygiad sydd yn haeddu canmoliaeth arbennig am greu cyfrolau gwreiddiol o safon uchel. Roedd hefyd gyfrolau trawiadol iawn, rhai, yn wir, a oedd yn ysgytwol eu cynnwys, a hynny yn y categori llyfrau i bobl ifanc wrth iddynt ymgeisio i gyfleu helbulon prifio naill ai yn y Gymru gyfoes neu mewn cyfnodau allweddol yn ein hanes.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: “Hoffem longyfarch yr awduron sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a diolch i bawb ar draws y sector llyfrau yng Nghymru sydd wedi sicrhau nid yn unig bod gan ein beirniaid ddewis safonol o gynnyrch unwaith eto eleni ond hefyd bod detholiad o lyfrau rhagorol ar gael ar gyfer darllenwyr ifanc Cymru. Diolch hefyd i’n beirniaid am eu gwaith caled a’u hadborth gwerthfawr sy’n helpu i gynnal a gwthio safonau o flwyddyn i flwyddyn.”

Cafodd y rhestr fer ei datgelu ar y rhaglen Heno ar S4C nos Iau, 11 Mawrth, a bydd y rhaglen yn cyhoeddi enwau’r enillwyr nos Iau, 20 Mai 2021.

Rhestr Fer – Cynradd

  • Ble Mae Boc – Ar Goll yn y Chwedlau gan Huw Aaron (Y Lolfa)
    Disgrifiad: 10 o luniau tudalen ddwbl. Mae pob taenlen yn dangos golygfa lawn dop, gyda’r nod o ddod o hyd i Boc, y ddraig fach goch, sy’n cuddio ym mhob llun. Cyfrol debyg i’r llyfrau Where’s Wally? gyda gogwydd cwbl Gymreig i bob llun.
    Blas ar farn y beirniaid: “Dyma gyfrol sydd yn cynnig gwledd odidog o luniau ac oriau o ddifyrrwch i blentyn wrth geisio darganfod ble mae’r ddraig fach… Mae’n llyfr anrheg delfrydol i bob oed.”
  • Mae’r Cyfan i Ti gan Luned Aaron (Atebol)
    Disgrifiad: Cyfrol annwyl a theimladwy i’w darllen cyn mynd i gysgu wrth i riant gyflwyno rhai o ryfeddodau’r byd i’w plentyn. Dilynwn y dydd o’r wawr i’r machlud wrth i ni ddarllen am ryfeddodau’r byd sydd ar gael i’r plentyn.
    Blas ar farn y beirniaid: “Llyfr llun-a-stori o safon uchel iawn. Mae symlrwydd y dweud trwy’r cerddi yn addas iawn i’r oedran meithrin ac mae’n cyfleu yn wych yr elfen o syndod sydd gan blant ifanc am y byd o’u cwmpas, ynghyd ag elfen hiraethus ar ran yr oedolyn.”
  • Sw Sara Mai gan Casia Wiliam (Y Lolfa)
    Disgrifiad: Croeso i fyd Sara Mai, lle mae glanhau pw eliffant yn apelio lot mwy na mynd i’r ysgol, a lle mae’n llawer haws deall ymddygiad arth o Dde Affrica na merched eraill Blwyddyn 5.
    Blas ar farn y beirniaid: “Dyma nofel sydd yn ymdrin â phwnc cyfoes gan ddelio â bwlio a rhagfarn yn erbyn pobl o gefndir neu dras gwahanol. Mae’r stori yn cydio yn y darllenydd o’r dechrau gyda digon o fanylion am y cymeriadau, heb ein llethu neu arafu llif y stori sydd yn cynnal ein sylw at y diwedd.”

Rhestr Fer – Uwchradd

  • #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)
    Disgrifiad: Mae colli’r bws i’r ysgol yn gallu newid dy fywyd di… Penderfyna Rachel fynd ar antur yn nhre’r Rhyl yn hytrach na mynd adref (wedi’r cyfan, mae’r beili wedi mynd â char ei thad), gan ganfod ei hun mewn clwb nos ar lan y môr.
    Blas ar farn y beirniaid: “Mae’n stori sydd yn cydio o’r dechrau i’r diwedd gan gyfleu rhywfaint o realiti effaith tlodi a thrais yn y cartref ar berson ifanc yn y Gymru gyfoes… Mae hwn yn esiampl ardderchog, ‘clasurol’ hyd yn oed, o lyfr ‘genre’ ar gyfer yr arddegau – ac nid camp hawdd yw cyflawni hynny.”
  • Llechi gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
    Disgrifiad: Mae Gwenno wedi cael ei lladd. Gwenno berffaith, glyfar, brydferth – hi oedd yn boblogaidd efo’r swots a’r bobol cŵl. Darganfuwyd ei chorff yn y chwarel, a bellach mae’r cops dros bob man ym Methesda, a phawb yn ceisio dod o hyd iddi.
    Blas ar farn y beirniaid: “Mae’r llinell stori datrys dirgelwch llofruddiaeth yn y nofel hon yn debyg iawn i rai o’r cyfresi teledu poblogaidd cyfoes, ac felly bydd y stori hon yn sicr o apelio yn fawr at ystod eang o ddarllenwyr.”
  • Y Castell Siwgr gan Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch)
    Disgrifiad: Dwy ferch ar ddau gyfandir. Un lord ag awch am elw. Stori ddirdynnol am gaethferch, am forwyn, am long a chastell ac am ddioddefaint y tu hwnt i ddychymyg.
    Blas ar farn y beirniaid: “Teimlwn fod y nofel hon yn mynd â ni i dir newydd heriol gyda stori’r ddwy ferch ifanc, Dorcas a Yamba, ac er bod dwy ran i’r nofel mae’r cysylltiadau rhyngddynt yn cryfhau’r dweud… Mae’r gyfrol hon yn gyfraniad pwysig iawn i lenyddiaeth Cymru a fydd yn apelio at bobl ifanc ac oedolion.”

Mae’r gwobrau blynyddol, sy’n cael eu trefnu gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan CILIP Cymru, yn dathlu’r gorau o blith llyfrau i blant ac oedolion ifanc a gyhoeddwyd yn ystod 2020.

Bydd rhestr fer y llyfrau Saesneg yn cael ei chyhoeddi ar raglen y Radio Wales Arts Show am 18:30 nos Wener, 12 Mawrth 2021.

Cystadleuaeth #rhannwchStori #diwrnodyllyfr 2021

Mae treulio deg munud y dydd yn darllen gyda phlentyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'w lwyddiant yn y dyfodol.

Mae rhannu straeon yn ffordd wych o ddathlu darllen gyda’n gilydd ar Ddiwrnod y Llyfr 2021. Felly rydyn ni’n gwahodd pawb i ymuno yn ein cystadleuaeth rhannu stori.

Postiwch lun ohonoch chi yn rhannu stori gyda’r teulu, gyda’r gath neu yn darllen yn eich hoff leoliad!

Cofiwch dagio @llyfrauCymru a chynnwys  #rhannwchstori #diwrnodyllyfr #carudarllen

Mae croeso i chi e-bostio’r llun atom  – cllc.plant@llyfrau.cymru

Gallai rhannu stori fod yn darllen gartref gyda’ch teulu, darllen yn eich hoff gilfach, darllen mewn lleoliad anghyffredin, rhannu stori gyda’ch anifail anwes, darllen llyfr wedi’i wisgo fel eich hoff gymeriad, a mwy!

Mae’r gystadleuaeth yma yn rhedeg rhwng 4 – 31 Mawrth 2021.

Gwobrau: Mi fydd y 5 llun gorau yn ennill pentwr o lyfrau werth £30.

Gweler ein Polisi Preifatrwydd fan hyn – https://llyfrau.cymru/ein-polisiau/dogfennau-corfforaethol/polisi-preifatrwydd/

Dathlu llyfrau ar y llwyfan digidol

Dathlu llyfrau ar y llwyfan digidol

Bydd llyfrau o Gymru yn cael eu dathlu ar y llwyfan digidol ar Ddiwrnod y Llyfr eleni, dydd Iau 4 Mawrth 2021.

Mewn partneriaeth rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a phlatfform diwylliant aml-gyfrwng AM, bydd dathliad o ddarllen yn digwydd dros gyfnod o 12 awr ar amam.cymru o 9 y bore ymlaen ar Ddiwrnod y Llyfr.

Ymhlith arlwy’r dydd bydd darlleniadau gan awduron, adolygiadau o lyfrau, argymhellion darllen a mwy gyda chyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a mudiadau eraill ar draws Cymru yn ychwanegu deunydd Cymraeg a Saesneg newydd at eu sianeli AM yn cynnwys:

  • Amdani – Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg (Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol)
  • Podlediad a fideos gydag awduron plant (Cyngor Llyfrau Cymru)
  • Fideo Monster Max a Walker (Firefly)
  • Fideo o lansiad Cambrian Pictures gan Ann Julia Hatton (Honno)
  • Darlleniad gan Meleri Wyn James o Na, Nel! Un Tro – un o lyfrau Diwrnod y Llyfr (Y Lolfa)
  • Adolygiad Hywel Price o Iaith y Brifddinas gan Owen John Thomas (O’r Pedwar Gwynt)
  • Cyfres o ddarlleniadau o’r siop (Palas Print)
  • Darlleniad o The Amazingly Astonishing Story gan Lucy Gannon (Seren Books)
  • Adolygiadau llyfrau plant (Sôn am Lyfra)
  • Ffilm fer o gerddi gan Morwen Brosschot o’i phamffled ‘Gwrando’ (Y Stamp)

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae Diwrnod y Llyfr yn gyfle i ni ddathlu’r budd a ddaw o ddarllen er pleser drwy gydol y flwyddyn. Mewn blwyddyn heriol i bawb, rydym wrth ein bodd yn cydweithio gydag AM a’r sector llyfrau i ddathlu’r cynnyrch gwych sydd ar gael gan gyhoeddwyr Cymru. Hoffem estyn diolch hefyd i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth.”

Dywedodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr AM: “Mae’n fraint cydweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru i ddathlu a hyrwyddo cyfoeth llenyddol Cymru a hynny mewn cyfnod sydd mor anodd i awduron, siopau a gweisg. Beth bynnag yr amgylchiadau mae llyfrau yn parhau yn allweddol i lesiant cymdeithas gyfan ac mae Diwrnod y Llyfr yn gyfle arbennig i fwynhau, rhannu a chefnogi’r rhai sydd yn ysgrifennu a chyhoeddi yng Nghymru”

Dynodwyd Diwrnod y Llyfr yn ddathliad rhyngwladol o ddarllen gan UNESCO ac mae’n cael ei nodi mewn dros 100 o wledydd ar draws y byd. Y nod yw hyrwyddo darllen er pleser, gan gynnig cyfle i bob plentyn a pherson ifanc i feddu ar eu llyfr eu hunain.

Fel rhan o’r digwyddiad blynyddol, mae plant yng Nghymru yn derbyn tocyn llyfr £1 i’w gyfnewid naill ai am un o lyfrau £1 Diwrnod y Llyfr neu ei ddefnyddio tuag at brynu llyfr arall. Mae’r Cyngor Llyfrau Cymru yn gweithio gyda Diwrnod y Llyfr i sicrhau bod dewis o deitlau ar gael yn Gymraeg, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol a chwmni Waterstones.

Mae dewis o bedwar o lyfrau £1 Cymraeg ar gael ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021 sef Ha Ha Cnec! Jôcs Twp a Lluniau Twpach gan Huw Aaron (Broga), Stori Cymru Iaith a Gwaith (Gwasg Carreg Gwalch) gan Myrddin ap Dafydd, Na, Nel! (Y Lolfa) gan Meleri Wyn James a Darllen gyda Cyw (Y Lolfa) gan Anni Llŷn.

Mae’r Cyngor Llyfrau hefyd yn trefnu gweithgareddau eraill ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021, yn cynnwys rhyddhau’r cyntaf mewn cyfres o ffilmiau byrion gyda 24 o awduron plant Cymru. Mae manylion pellach i’w cael drwy ddilyn y dolenni isod: