Diwrnod o ddathlu i ddarllenwyr ifanc o bob cwr o Gymru

Diwrnod o ddathlu i ddarllenwyr ifanc o bob cwr o Gymru

DIWNROD O DDATHLU I DARLLENWYR O BOB CWR O GYMRU

Roedd Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth dan ei sang gan blant o bob cwr o Gymru ar 21–23 Mehefin pan ddaethant i gymryd rhan yn rowndiau cenedlaethol Darllen Dros Gymru a BookSlam, sef cystadlaethau darllen a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer plant ysgolion cynradd yng Nghymru.

Gwelwyd 35 o dimau o ysgolion ledled Cymru yn cystadlu am wobrau arbennig trwy drafod ystod eang o lyfrau, a chyflwyno perfformiadau’n seiliedig ar gyfrolau penodol a ddarllenwyd ganddynt.

Rowndiau cenedlaethol y cystadlaethau yw penllanw’r gweithgareddau sy’n digwydd drwy Gymru dros sawl mis, gyda disgyblion yn cystadlu am yr anrhydedd o gynrychioli eu siroedd.

Disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 oedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ddydd Mawrth, 21 Mehefin. Ysgol Melin Gruffydd, Caerdydd gipiodd y brif wobr am drafodaeth ar Y Ferch Newydd a hysbyseb i hyrwyddo’r gyfrol Y Crwt yn y Cefn. Llongyfarchiadau hefyd i Ysgol Bro Cernyw, Sir Conwy a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, gyda’r drydedd wobr yn mynd i Ysgol Pennant, Powys.

Tro disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 oedd hi ddydd Mercher, 22 Mehefin, a bu cystadlu brwd am y brif wobr. Fe’i henillwyd eleni gan Ysgol Bro Cernyw, Sir Conwy, am drafodaeth ar Dyddiadur Dripsyn: Oes yr Arth a’r Blaidd a hysbyseb i hyrwyddo’r llyfr Dirgelwch y Dieithryn. Daeth Ysgol Pant Pastynog, Sir Ddinbych, yn ail ac Ysgol Henry Richard, Ceredigion, yn drydydd.

Fel rhan o weithgareddau’r rowndiau cenedlaethol, cafodd y plant a’r athrawon gyfle i fwynhau sesiynau yng nghwmni’r awdur Caryl Lewis.

Wedi diwrnod o gystadlu brwd ar 23 Mehefin, dyfarnwyd Ysgol Llandysilio, Powys yn bencampwyr BookSlam, ar ôl iddynt greu argraff arbennig wrth drafod y nofel The Black Pit of Tonypandy. Yn rownd y cyflwyniadau, fe wnaethant blesio’r beirniad gyda’u hysbyseb hyrwyddo ar gyfer Where the Wilderness Lives. Cipiwyd yr ail safle gan Ysgol y Wern, Caerdydd, a’r trydydd safle gan Ysgol Sychdyn, Sir y Fflint.

Yn ystod y dydd, cafodd yr holl blant a’r athrawon gyfle hefyd i fwynhau sesiynau hwyliog yng nghwmni’r awdur Medi Jones-Jackson.

Eleni, Morgan Dafydd oedd yn beirniadu trafodaethau Darllen Dros Gymru, Liz Kennedy oedd yn beirniadu trafodaethau BookSlam, gyda Lleucu Siôn yn beirniadu’r holl gyflwyniadau.

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: ‘Mae cystadleuaeth Darllen Dros Gymru yn gyfle arbennig i blant afael mewn copi o lyfr, ei ddarllen a gwir fwynhau’r cynnwys. Gall y plant ddefnyddio eu dychymyg, dadansoddi’r cynnwys a thrafod yr hyn sydd yn digwydd. Rhaid diolch i’r trefnwyr ymroddedig am eu gwaith caled yn y rowndiau sirol, ac i’r athrawon a’r cefnogwyr eraill sy’n sicrhau llwyddiant y digwyddiad hwn bob blwyddyn.’

O ganlyniad i gefnogaeth hael nifer o gyhoeddwyr, cafodd pob plentyn a gymerodd ran yn y rowndiau cenedlaethol ddewis llyfr yn rhad ac am ddim.

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2022

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2022

 

Cymeriadau cofiadwy yn cipio Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2022 am lyfrau i blant

Cyhoeddwyd enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og mewn dathliad arbennig yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych heddiw, dydd Iau, 2 Mehefin. Er eu bod yn wahanol iawn o ran lleoliad a thema, mae’r cymeriadau sy’n ganolog i’r nofelau buddugol – Gwag y Nos gan Sioned Wyn Roberts ac Y Pump, wedi’i olygu gan Elgan Rhys – yn rhai cofiadwy.

Wedi eu sefydlu yn 1976, mae Gwobrau blynyddol Tir na n-Og yn dathlu’r llyfrau gorau i blant ac oedolion ifanc yng Nghymru. Trefnir hwy gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru Wales, Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru.

Mae’r enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 trwy nawdd gan CILIP Cymru Wales, yn ogystal â thlws a gomisiynwyd yn arbennig ac a grëwyd gan The Patternistas, dylunwyr o Gaerdydd.

Enillydd y categori oedran cynradd – Gwag y Nos gan Sioned Wyn Roberts (cyhoeddwyd gan Atebol)

Dyma nofel sydd yn dod â’r cyfnod Fictoraidd a byd creulon y wyrcws yn fyw trwy anturiaethau Magi, rebel a phrif gymeriad hoffus a direidus y stori. Dilynwn Magi wrth iddi fynd o Wyrcws Gwag y Nos i Blas Aberhiraeth, gan gwrdd â chymeriadau cofiadwy ar hyd y ffordd fel Mrs Rowlands, Nyrs Jenat a Cwc. Wrth ddilyn sawl tro annisgwyl yn y stori, rydyn ni a Magi eisiau gwybod yr ateb i’r un cwestiwn – beth yw cyfrinach dywyll Gwag y Nos?

Dywedodd Alun Horan, Cadeirydd y Panel Beirniaid: “Dyma lyfr oedd yn hoelio sylw’r darllenydd o’r paragraffau cyntaf, ac yn bwrw iddi’n syth i ganol stori gyffrous. Rhaid rhoi canmoliaeth i’r dylunio trawiadol – roedd y clawr yn cyfleu naws iasol y Wyrcws, ac roedd y lluniau tu fewn yn eich ysgogi chi i baentio’r byd yn y dychymyg. Edmygwyd gwreiddioldeb a dychymyg yr awdur, a dyfnder y gwaith ymchwil er mwyn gwneud cyfnod Oes Fictoria mor real i’r darllenydd.”

Dywedodd Sioned Wyn Roberts: “Dwi wrth fy modd fod Gwag y Nos wedi ennill Gwobr Tir na n-Og 2022 yn y categori cynradd. Diolch o galon i’r Cyngor Llyfrau a’r beirniaid am yr anrhydedd yma. Diolch hefyd i Rachel Lloyd am olygu, i Almon am ddylunio, i Atebol am gyhoeddi’r nofel ac i’r holl ffrindiau a phlant sy wedi darllen drafftiau cynnar ac wedi cynnig sylwadau craff.

“Mae’r nofel Gwag y Nos wedi’i gosod yn y flwyddyn 1867. Magi ydy’r prif gymeriad – mae hi’n byw yn Wyrcws Gwag y Nos, lle mae Nyrs Jenat greulon yn teyrnasu. Ond mae rhywbeth mawr o’i le a rhaid i Magi’r rebel fod yn ddewr er mwyn datrys y gyfrinach ac achub ei ffrindiau. Dwi’n lecio meddwl amdani fel stori am girl-power Fictoraidd.

“Mi ges i’r syniad am y nofel ar ôl darganfod bod fy nheulu i wedi gorfod mynd i fyw i Wyrcws Pwllheli am eu bod nhw mor dlawd. Felly roedd fy hen, hen nain a’i phump o blant yno, a ddes i o hyd i’w henwau nhw yng Nghyfrifiad 1881. I mi, mae hanes yn sbarduno syniadau ac yn tanio’r dychymyg. A gobeithio, trwy stori Magi, bod plant yn gweld pa mor wahanol, a pha mor debyg, oedd bywydau pobol ifanc ers talwm o’u cymharu â’u bywydau nhw heddiw.

“Fyswn i erioed wedi dechrau ysgrifennu oni bai ’mod i wedi mynychu cwrs yng Nghanolfan Tŷ Newydd tua thair blynedd yn ôl. Ges i fy ysbrydoli gan awduron talentog i roi cynnig arni, a dydw i ddim wedi stopio sgwennu ers hynny.”

Enillydd y categori oedran uwchradd – Y Pump, gol. Elgan Rhys (cyhoeddwyd gan y Lolfa)

Mae Y Pump yn dilyn criw o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Llwyd, wrth iddynt ddarganfod y pŵer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw’n dod at ei gilydd fel cymuned. Cawn ein tywys gan safbwyntiau unigryw Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat gan ddod i adnabod realiti cymhleth bod yn berson ifanc ar yr ymylon heddiw. Drwy gydweithio â’r golygydd Elgan Rhys, mae pum ysgrifennwr ifanc wedi gweithio ar y cyd ag awduron mwy profiadol i greu’r gyfres uchelgeisiol, arbrofol, bwerus yma.

Dywedodd Alun Horan, Cadeirydd y Panel Beirniaid: “Beth sy’n gwneud y straeon yma’n wahanol ac yn arbennig o berthnasol yw’r cydweithio rhwng y cyd-awduron, ac mae’r holl gymeriadau, eu sefyllfaoedd a’u rhyngberthynas yn teimlo’n real iawn, iawn. Mae defnyddio awduron amrywiol yn creu lleisiau unigol i bob un o’r cymeriadau, rhywbeth oedd yn effeithiol tu hwnt. Camp ddiamheuol y golygydd yw’r ffordd mae e wedi dod â’r holl straeon at ei gilydd yn effeithiol. Byddai angen tudalennau er mwyn gwneud cyfiawnder â’r cyfrolau yma, roedden nhw mor gyfoethog o ran cynnwys. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm tu ôl i’r fenter uchelgeisiol hon, a dwi’n siŵr y bydd cynnwys y cyfrolau yma yn cael ei drafod a’i ystyried am flynyddoedd i ddod.”

Teitlau ac awduron y pum cyfrol unigol yw Tim (gan Elgan Rhys a Tomos Jones), Tami (gan Mared Roberts a Ceri-Ann Gatehouse), Aniq (gan Marged Elen Wiliam a Mahum Umer), Robyn (gan Iestyn Tyne a Leo Drayton) a Cat (gan Megan Angharad Hunter a Maisie Awen).

Dywedodd Elgan Rhys, golygydd y gyfres: “Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth o angerdd a gwaith caled pob aelod o dîm Y Pump, wnaeth ddod at ei gilydd o bob cwr o Gymru yn ystod dyddiau tywyll y clo mawr gyda’r uchelgais o greu darlun gwirioneddol newydd ac awthentig o fywydau pobl ifanc yng Nghymru heddiw. Hoffem ni i gyd ddiolch i’r beirniaid, i’r Lolfa a’r Cyngor Llyfrau a phawb arall sydd wedi cyfrannu at greu byd Y Pump, ac yn fwyaf oll, i bawb sydd wedi ymdrochi ynddo wrth godi un o’r llyfrau.”

Dywedodd Amy Staniforth ar ran CILIP Cymru Wales: “Llongyfarchiadau fil i’r enillwyr ar eu camp aruthrol. Rydym yn falch o noddi Gwobrau Tir na n-Og eto eleni, gan barhau i helpu plant a phobl ifanc i ddarganfod y gorau o’r llyfrau o Gymru ac am Gymru.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Bu Gwobrau Tir na n-Og yn dathlu’r goreuon ymhlith llyfrau i blant a phobl ifanc yng Nghymru ers 1976, ac mae ansawdd y deunydd yn parhau i wella’n gyson. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth eleni – bu’n gyfle gwych i arddangos talentau awduron a darlunwyr ym maes llenyddiaeth plant yng Nghymru.”

Dyma’r teitlau eraill oedd ar restr fer y categorïau Cymraeg:

Categori oedran cynradd

  • Gwil Garw a’r Carchar Crisial gan Huw Aaron (Broga)
  • Sara Mai a Lleidr y Neidr gan Casia Wiliam (Y Lolfa)

Categori oedran uwchradd

  • Fi ac Aaron Ramsey gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
  • Hanes yn y Tir gan Elin Jones (Gwasg Carreg Gwalch)

Enillydd y wobr yn y categori Saesneg yw The Valley of Lost Secrets gan Lesley Parr (Bloomsbury), a gyhoeddwyd ar y Radio Wales Arts Show ar nos Wener, 20 Mai.