
Cyhoeddi Rhestr fer categori Uwchradd – Gwobrau Tir na n-Og 2025
Rhestr fer y categori Cymraeg Uwchradd
Yr wythnos hon, mae Cyngor Llyfrau Cymru yn datgelu’r llyfrau arbennig sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og 2025. Mae’r gwobrau yn dathlu’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2024.
Heddiw, ddydd Iau, 13 Mawrth, cyhoeddwyd rhestr fer y categori Cymraeg Uwchradd ar raglen Heno, S4C am 7pm.
Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u cefnogi gan CILIP Cymru Wales. Maent yn dathlu dawn a chreadigrwydd awduron a darlunwyr sydd naill ai’n creu gweithiau gwreiddiol yn Gymraeg, neu’n ysgrifennu am themâu neu gefndiroedd Cymreig dilys drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae tri chategori i’r gwobrau: Llyfrau Cymraeg Cynradd (4–11 oed), Llyfrau Cymraeg Uwchradd (11–18 oed) a’r Llyfr Saesneg gyda chefndir Cymreig dilys ar gyfer cynradd neu uwchradd (4–18 oed).
Rhestr fer Uwchradd:
- Cynefin, Cymru a’r Byd gan Dafydd Watcyn Williams (Gwasg Carreg Gwalch)
Dechrau wrth ein traed ac ehangu gorwelion i bob cwr o’r ddaear yw nod y gyfrol ddaearyddiaeth hon. Mae’n ymestyn i gynnwys pynciau eraill fel hanes, llenyddiaeth, hunaniaeth a chelf. Y cynefin yw’r man cychwyn. Oddi yno, cawn ymestyn i weld Cymru gyfan a’i holl amrywiaeth. Yna, canfod lle ein gwlad ar wyneb y ddaear ac yn nyfodol y byd.
- Rhedyn, Merlyn y Mawn gan Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)
Nofel am byllau glo ardal yr Wyddgrug yng nghyfnod Terfysg 1869, gan ddilyn merlyn a gaiff ei yrru o fynydd Hiraethog i weithio dan ddaear, ac Ifan, sy’n gorfod chwilio am waith gan nad yw’r tyddyn bach lle mae’n byw yn ddigon mawr i’w gadw. Y bachgen ifanc a’r merlyn yw conglfaen y stori, a hynt a helynt eu bywydau wrth i’r ddau aeddfedu ac ymestyn eu gorwelion.
- Cymry. Balch. Ifanc gan awduron amrywiol. Golygwyd gan Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter, darluniwyd gan Mari Philips (Rily)
Blodeugerdd bersonol a gonest o straeon 14 o gyfranwyr LHDTCRA+ gyda gwybodaeth ffeithiol am Pride Cymru. Golygwyd gan yr awduron arobryn Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter. Mae’r gyfrol yn anelu at hybu dealltwriaeth ac empathi tuag at y gymuned LHDTCRA+ drwy rannu profiadau personol.
Bob blwyddyn, mae paneli annibynnol yn penderfynu ar y rhestrau byrion ac yn dewis yr enillwyr ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg. Y beirniaid ar y panel Cymraeg eleni oedd Sioned Dafydd (Cadeirydd), Rhys Dilwyn Jenkins a Lleucu Non.
Dywedodd Sioned Dafydd, Cadeirydd y panel Cymraeg: “Cyflwynwyd casgliad hyfryd o lyfrau i blant a phobl ifanc yn y ddau gategori Cymraeg eto eleni – llyfrau sydd yn darparu drych pwysig i blant a phobl ifanc Cymru yn eu holl amrywiaeth. Gobeithiwn y bydd plant yn gallu adnabod eu hunain wrth uniaethu gyda rhai o’r cymeriadau a’r awduron, ac o ganlyniad bod darllen llenyddiaeth plant yn llawer mwy na thasg gwaith cartref.”
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau i awduron a darlunwyr yr holl lyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni. Rwy’n siŵr ei bod wedi bod yn dipyn o her i’r paneli beirniadu ddewis y rhestrau byrion o blith cymaint o lyfrau gwych, ac mae’r safon eleni yn uchel iawn. Pob lwc i bawb ar y rhestr fer ac edrychaf ymlaen at weld pa lyfrau fydd yn fuddugol yn yr haf.”
Cyhoeddwyd rhestr fer y categori Cymraeg Cynradd ar nos Fawrth 11 Mawrth ar raglen Heno ar S4C.
Cyhoeddwyd rhestr fer y categori Saesneg yn gynharach heddiw, ddydd Iau 13 Mawrth, gan y cyflwynydd Melanie Owen a’r Cyngor Llyfrau ar eu sianelau cyfryngau cymdeithasol: Instagram @melowencomedy / @books.wales
Cyhoeddir yr enillwyr yn y tri chategori yn yr haf.
Eleni, bydd cyfle unwaith eto i blant a phobl ifanc ddewis enillwyr categori arbennig, sef Gwobr Barn y Darllenwyr: tlws arbennig i lyfrau a ddewisir gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynllun cysgodi Tir na n-Og. Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillwyr o blith y rhestr fer, gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Cewch fanylion ar sut i gofrestru ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru
Bydd llyfrgelloedd a siopau llyfrau yn cynnal Helfeydd Trysor Tir na n-Og yn ystod gwyliau’r Pasg gyda chyfle i blant rhwng 4 ac 11 oed gymryd rhan. Gofynnwch i’ch llyfrgell neu eich siop lyfrau leol am fanylion.
Cewch fwy o wybodaeth am y gwobrau a’r llyfrau ar y rhestrau byrion ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru
Mae’r datganiad newyddion hwn hefyd ar gael yn Saesneg / An English-language version of this news release is also available