CYNGOR LLYFRAU CYMRU YN PENODI TRYSORYDD NEWYDD, ALFRED OYEKOYA

CYNGOR LLYFRAU CYMRU YN PENODI TRYSORYDD NEWYDD, ALFRED OYEKOYA

Heddiw mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi penodi eu Trysorydd newydd, Alfred O. Oyekoya, i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.

Bydd y rôl bwysig hon ar y Bwrdd yn allweddol wrth arwain y Cyngor wrth iddo gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru trwy adferiad Covid, gan fwrw’i olygon tuag at ei strategaeth newydd ar gyfer 2022 a thu hwnt.

Graddiodd Alfred Oyekoya gydag MSc Cyllid o Brifysgol Abertawe ac mae’n Gyfrifydd Siartredig, gyda phrofiad o arweinyddiaeth a datblygu busnes dros nifer o flynyddoedd. Mae wedi gweithio ar draws nifer o sectorau rhyngwladol a masnachol gan gynnwys Gwasanaeth Sifil y Deyrnas Unedig.

Mae Alfred yn eiriolwr egnïol, penderfynol ac ymroddedig dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Ef yw sylfaenydd a Chyfarwyddwr BMHS – sefydliad dielw sy’n canolbwyntio ar addysg ac eiriolaeth i gefnogi iechyd meddwl a lles ymhlith aelodau’r gymuned BAME.

Dywedodd Alfred Oyekoya: “Y mae’n fraint cael fy mhenodi ac rwy’n gyffrous am y cyfle i barhau â’r gwaith gwych sydd wedi’i gyflawni mor rhagorol gan y Cyngor Llyfrau dros y trigain mlynedd diwethaf.”

Dywedodd yr Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr: “Rydym yn falch iawn o groesawu Alfred fel Trysorydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Cyngor Llyfrau Cymru.

Daw â phrofiad sylweddol o arweinyddiaeth yn y maes ariannol ac ym myd busnes, a ddatblygwyd trwy ei waith blaenorol ar gyfer un o weinyddiaethau Llywodraeth Prydain. Yn ogystal, mae ganddo brofiad gwerthfawr o arwain y sefydliad dielw BMHS. Rwyf fi a’m cyd-aelodau o’r Bwrdd yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio ag Alfred i ddatblygu gwaith y Cyngor.”

Ychwanegodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae swydd y Trysorydd yn allweddol o fewn ein sefydliad, ac rydym yn hynod ffodus bod Alfred nid yn unig yn dod â’r sgiliau a’r profiadau craidd hynny ond ei fod hefyd yn rhannu ein hangerdd tuag at lyfrau a grym trawsnewidiol darllen a’r effaith gadarnhaol a gaiff ar ein bywydau.”

Mae aelodau Bwrdd Ymddiriedolwyr y Cyngor Llyfrau yn rhoi o’u hamser a’u harbenigedd yn wirfoddol i gefnogi gwaith yr elusen genedlaethol, gan wasanaethu’r diwydiant llyfrau yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae Alfred yn dechrau ar ei waith ym mis Hydref 2021, wrth i’r Cyngor Llyfrau baratoi i ddathlu 60 mlynedd o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi a hyrwyddo darllen yng Nghymru.

Gorau’r Goreuon: Cyflwyno tair stori o’r gorffennol

Gorau’r Goreuon: Cyflwyno tair stori o’r gorffennol

Gorau’r Goreuon: Cyflwyno tair stori o’r gorffennol i gynulleidfaoedd ifanc 2021

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn lansio tri theitl cyntaf Gorau’r Goreuon, detholiad o lyfrau ar gyfer plant a phobl ifanc. Bwriad Gorau’r Goreuon yw cyflwyno detholiad o lyfrau a ystyrir yn glasuron ym maes llenyddiaeth plant a phobl ifanc i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr.

Y teitlau fydd yn ymddangos yn y flwyddyn gyntaf yw Dirgelwch y Dieithryn (Elgan Philip Davies), O’r Tywyllwch (Mair Wynn Hughes) a Luned Bengoch (Elizabeth Watkin-Jones).

Yn 2016 comisiynodd Cyngor Llyfrau Cymru Dr Siwan Rosser o Brifysgol Caerdydd i gynnal arolwg o lyfrau plant a phobl ifanc. Mae’r gwaith hwnnw wedi llywio llawer o waith y Cyngor Llyfrau yn y maes hwn ers hynny. Un o’i argymhellion oedd:

Dylid ystyried ailgyhoeddi llyfrau poblogaidd Cymraeg neu ‘glasuron’ o’r gorffennol, a’u diweddaru yn rhan o genre neu gyfres benodol er mwyn creu marchnad ac iddi frand cynhenid cryf sy’n para o un genhedlaeth i’r llall.

Sefydlwyd panel o arbenigwyr ym maes llenyddiaeth plant a phobl ifanc i ddethol o blith y teitlau y gellid eu cynnwys ar y rhestr gychwynnol hon.

Dywedodd Morgan Dafydd, sylfaenydd gwefan Sôn am Lyfra ac aelod o banel y detholwyr: ‘Mae’n siopau llyfrau ar y cyfan yn llawn o lyfrau newydd. A chyn pen dim bydd llyfrau mwy newydd yn cymryd eu lle. Weithiau pan fo pobl yn dweud, ‘does dim digon o ddeunydd ar gyfer pobl ifanc yn Gymraeg’, mae’n hawdd anghofio am bethau gyhoeddwyd y llynedd, heb sôn am y llyfrau gwych gyhoeddwyd flynyddoedd maith yn ôl.’

(Cloriau Luned Bengoch, 2021, 1983 a 1947)

Cyhoeddwyd Luned Bengoch yn wreiddiol ym 1946 gan Wasg y Brython, ac yna diweddarwyd y cynnwys gan Hugh D. Jones a’i ailgyhoeddi gan Wasg Gomer ym 1983. Gwasg Gomer hefyd oedd cyhoeddwyr O’r Tywyllwch ym 1991 a Dirgelwch y Dieithryn ym 1993, y naill yn rhan o gynllun Gwreiddiau a’r llall yn rhan o Gyfres Corryn.

Dwedodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau: ‘Mae’r storïau hyn yn fythol wyrdd, ac ychydig iawn o waith golygyddol oedd ei angen arnynt i’w gwneud yn addas ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd cyfoes. Rhan gwbl allweddol o lwyddiant unrhyw gyfrol yw’r clawr, ac os yw’r Cyngor Llyfrau wedi edrych yn ôl i ganfod y goreuon mae wedi edrych ymlaen trwy gomisiynu tri artist cyfoes i ddylunio’r cloriau: Efa Blosse-Mason, Chris Iliff a Nia Tudor – dau ohonynt yn enwau newydd i’r maes.’

Bydd y Cyngor Llyfrau yn casglu adborth ar y tair cyfrol gyntaf yma yn ystod tymor yr Hydref gan obeithio ychwanegu at y gyfres yn ystod y blynyddoedd nesaf. Bydd yn derbyn argymhellion gan y cyhoeddwyr a’r cyhoedd am deitlau eraill i’w cynnwys yn y casgliad.

Cofio Roger Boore 1938–2021

Cofio Roger Boore 1938–2021

Ar 30 Gorffennaf, fe gollodd Cymru un o’i gymwynaswyr mawr i fyd llyfrau plant pan fu farw Roger Boore yn 82 oed.

Ganed Roger Boore yng Nghaerdydd yn 1938. Roedd ganddo radd yn y Clasuron o Rydychen, PhD mewn Hanes o Brifysgol Cymru Abertawe ac roedd yn Gyfrifydd Siartredig. Dychwelodd i Gymru gan ddysgu’r Gymraeg yn ei arddegau, a magu teulu yng Nghaerdydd.

Sefydlodd Wasg y Dref Wen gyda’i wraig Anne yn 1969 yn bennaf ar gyfer cyhoeddi llyfrau Cymraeg i blant. Sylweddolodd gyn lleied o lyfrau Cymraeg oedd ar gael i blant a pha mor llwm oedd eu diwyg. Dyfarnwyd iddo Dlws Mary Vaughan Jones yn 1997 am ei ‘gyfraniad nodedig i faes llyfrau plant yng Nghymru dros gyfnod o flynyddoedd’, ac fe’i hanrhydeddwyd yn aelod o’r Orsedd am ei ‘gyfraniad arbennig i Gymru a’r Gymraeg’ yn 2016.

Yn ddiweddarach, arloesodd Roger Boore ym maes teithlyfrau llenyddol Cymraeg gan dderbyn canmoliaeth uchel amdanynt. Cyhoeddodd nofel i blant, Y Bachgen Gwyllt, ynghyd â chasgliad o straeon byrion, Ymerodraeth y Cymry, yn ogystal â throsi llawer o lyfrau plant o sawl iaith i’r Gymraeg, gan gynnwys rhai Asterix a Tintin, a’r clasur Y Teigr a Ddaeth i De.

Cyhoeddodd nifer o lyfrau megis Llyfr Hwiangerddi y Dref Wen, y Geiriadur Lliwgar, a’r cyfresi Storïau Hanes Cymru ac O’r Dechrau i’r Diwedd.

Yma mae Cadeirydd yr Is-bwyllgor Hyrwyddo Darllen a Llyfrau Plant, Lorna Herbert Egan; Dr Siwan Rosser, Darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac arbenigwraig ym maes Llenyddiaeth Plant yng Nghymru; a Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, yn talu teyrnged i’r cyhoeddwr toreithiog.

“Mawr yw diolch Cymru i’r diweddar Roger Boore am ei weledigaeth a’i weithgarwch arloesol wrth sefydlu Gwasg y Dref Wen, ac am ei athrylith a’i lafur yn dethol a darparu llenyddiaeth plant lliwgar ac amrywiol i ddiddanu a sbarduno cenedlaethau o ddarllenwyr. Gwnaeth gyfraniad amhrisiadwy o ran y dewis safonol a hwyliog sy’n cydio yn nychymyg unigolion a’u chwant am ddysgu a chael hwyl, a bu’n ddylanwad clodwiw ym myd cyhoeddi. Dwys yw’r cydymdeimlad â’i weddw Anne, ac Alun, Gwilym a Rhys a’r rhai fu’n rhannu ei siwrnai.” – Lorna Herbert Egan

“Mae gen i gof plentyn byw iawn o lyfrau’r Dref Wen. Roedd chwilio am y chwaden fach Y Geiriadur Lliwgar yn antur barhaus, y Llyfr Hwiangerddi yn gydymaith hardd, a chymeriadau Ifan Bifan, Asterix a Pippi’n agor fy nychymyg i fydoedd eraill. Roedd hi’n fraint, felly, cael dod i adnabod Roger yn y blynyddoedd diwethaf a gwerthfawrogi ei gamp aruthrol, yn arbennig ym maes addasu llyfrau plant o ieithoedd rhyngwladol. Rhoddodd ei weledigaeth a’i egni gyfle i ni, blant, gael mynediad i ddiwylliant llenyddol a darluniadol y tu hwnt i’n ffiniau, a gosododd safon i’r diwydiant cyhoeddi ymgyrraedd ati. Cofiwn yn annwyl am Roger, gan gydymdeimlo’n ddiffuant â theulu’r Dref Wen.” – Dr Siwan Rosser

“Roedd Roger Boore, Gwasg y Dref Wen, yn arloeswr ym maes cyhoeddi i blant. Bydd colled ar ei ôl ond mae’n gadael gwaddol cyfoethog o lyfrau wedi’u cynhyrchu i’r safon orau o ran diwyg a chynnwys ar gyfer plant Cymru. Cydymdeimlwn a’i deulu – Anne, Alun, Gwilym a Rhys.” – Helen Jones

Caru Darllen Ceredigion: Pecynnau lles ar gyfer gofalwyr ifanc yng Ngheredigion yr haf hwn

Caru Darllen Ceredigion: Pecynnau lles ar gyfer gofalwyr ifanc yng Ngheredigion yr haf hwn

Pecynnau lles ar gyfer gofalwyr ifanc yng Ngheredigion yr haf hwn

Mae 80 pecyn o lyfrau yn cael eu hanfon at ofalwyr ifanc ledled Ceredigion i gefnogi eu lles ac annog eu taith ym myd darllen yr haf hwn. Mae gofalwyr ifanc yn wynebu’r anhawster o gydbwyso’u cyfrifoldebau gofalu â rhai bywyd bob dydd, gan gynnwys eu haddysg eu hunain. Bydd y pecynnau lles hyn yn hwb iddynt ac yn gydnabyddiaeth o’r gwaith rhagorol y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd.

Mae’r pecynnau hyn wedi eu darparu mewn partneriaeth rhwng Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Llyfrau Cymru, ac yn cynnwys chwe llyfr darllen, pecyn o hadau blodau fydd yn denu gwenyn, potel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio, siocled Cymreig blasus, ynghyd â Dyddlyfr Sgiliau Gofalydd Ifanc.

Nod cynllun Caru Darllen Ceredigion yw cefnogi iechyd, lles a datblygiad darllen grwpiau bregus o blant a phobl ifanc, yn enwedig yn wyneb y galwadau a’r anawsterau cynyddol a wynebir yn sgil pandemig y coronafirws. Yr haf diwethaf anfonwyd 100 o becynnau at 100 o deuluoedd â phlant a dderbyniodd wasanaethau cymorth trwy’r awdurdod lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion gyda chyfrifoldeb am y Porth Gofal, Cymorth Cynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant: “Rwy’n falch iawn o’r fenter wych hon rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a’r Awdurdod Lleol i ddarparu pecynnau lles mor ystyrlon i’n gofalwyr ifanc. Mae bod yn ofalwr ifanc yn heriol ar y gorau, ond bu pwysau ychwanegol arnynt dros y misoedd diwethaf oherwydd y pandemig. Gobeithiwn y bydd y pecynnau lles yn dod â phleser mawr i’n gofalwyr ifanc wrth inni gydnabod eu gwaith rhagorol.”

Dywedodd Angharad Sinclair, Rheolwr Datblygu Prosiect yr Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen yng Nghyngor Llyfrau Cymru: “Mae’n hyfryd cael gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion eto ar fenter mor werthfawr a fydd yn rhoi hwb i hyder y gofalwyr ifanc ac yn gydnabyddiaeth o’r hyn maent wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod arbennig o anodd yma. Gall dianc rhwng cloriau llyfr fod yn ffordd mor effeithiol i ni i gyd gymryd seibiant oddi wrth bwysau beunyddiol bywyd, a gobeithiwn y bydd y pecynnau llyfrau hyn yn annog eu taith hwythau hefyd ym myd darllen.”

Mae’r rhan fwyaf o’r llyfrau yn y pecynnau wedi’u cyhoeddi yng Nghymru ac yn cynrychioli’r goreuon ym maes ysgrifennu a darlunio i ddarllenwyr rhwng 8 a 18 oed.

Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Llyfrau

Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Llyfrau

CYFARFOD BLYNYDDOL

Gwahoddir chi i Gyfarfod Blynyddol Cyngor Llyfrau Cymru
Ddydd Llun, 26 Gorffennaf am 12.00 o’r gloch ar Zoom
Sgwrs wadd gan yr Athro Charlotte Williams OBE ar y thema Harnessing ‘book power’ for race equality in Wales
Anfonwch ebost at castellbrychan@llyfrau.cymru i gael y ddolen ar gyfer y cyfarfod. 

Gwybodaeth bellach: Mae Charlotte Williams OBE, academydd ac awdur, yn Athro er Anrhydedd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, ac mae ganddi swyddi er anrhydedd ym Mhrifysgol Glyndŵr a Phrifysgol De Cymru. Ochr yn ochr â’i gyrfa academaidd, mae Charlotte wedi dal nifer o apwyntiadau cyhoeddus ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn fwyaf diweddar fel Cadeirydd y Gweithgor Gweinidogol ‘Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd’, 2020–2021. Fe’i penodwyd yn ddiweddar yn Noddwr i gylchgrawn Planet ac yn aelod o’r Grŵp Llywio Prosiect ar gyfer Festival 2022 National Theatre Wales. Mae Charlotte yn gyd-olygydd y testun arloesol A Tolerant Nation? Revisiting Ethnic Diversity in a Devolved Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 2003 a 2015), a chafodd ei hunangofiant, Sugar and Slate (2002), ei ddyfarnu yn Llyfr y Flwyddyn yn 2003. Mae hi ar banel beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2021, a bu’n feirniad cyn hynny yn 2005. Dyfarnwyd OBE i Charlotte yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines (2007) am wasanaethau i leiafrifoedd ethnig a chyfleoedd cyfartal yng Nghymru.

Pencampwyr Darllen Dros Gymru 2021

Pencampwyr Darllen Dros Gymru 2021

Cynhaliwyd cystadlaethau Darllen Dros Gymru eleni mewn ffordd dra wahanol i’r arfer. Yr un oedd y tasgau i’r darllenwyr; trafod llyfr oddi ar restr ddarllen a chyflwyno perfformiad i ddenu eraill at ddarllen y llyfr. Llinos Penfold oedd yn beirniadu’r trafod a Mari Lovgreen yn beirniadu’r perfformiadau. Ond dan amgylchiadau gwahanol y cyfnod sydd ohoni, bu’n rhaid cynnal y gystadleuaeth ar-lein.

Disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 oedd y cyntaf i gystadlu. Ysgol y Felinheli ddaeth i’r brig trwy drafod Llyfr Adar Mawr y Plant gan Onwy Gower (Y Lolfa) a chyflwyno perfformiad yn seiliedig ar Cadi a’r Celtiaid gan Bethan Gwanas (Y Lolfa).  Daeth Ysgol y Gelli ac Ysgol Llanbrynmair yn gydradd ail ac Ysgol Penrhyn-coch ddaeth yn drydydd.

Yng nghystadleuaeth blynyddoedd 5 a 6 Ysgol Eglwyswrw gipiodd y wobr gyntaf trwy drafod Asiant A: Her Ll gan Anni Llŷn (Y Lolfa) a chyflwyno perfformiad yn seiliedig ar Trio: Antur y Castell gan Manon Steffan Ros (Atebol).  Ysgol Gymraeg Rhydaman ddaeth yn ail ac Ysgol Y Wern oedd yn drydydd.

Dwedodd y beirniaid ei bod hi wedi bod yn fraint beirniadu’r gystadleuaeth a bod yn holl blant, athrawon a chynorthwywyr wedi gwneud ymdrech wych gyda’r gystadleuaeth.