Dynodi Dinas Llên UNESCO cyntaf Cymru – Aberystwyth Ceredigion

Dynodi Dinas Llên UNESCO cyntaf Cymru – Aberystwyth Ceredigion

Dynodi Dinas Llên UNESCO cyntaf Cymru

Aberystwyth Ceredigion yn ymuno â rhwydwaith byd-eang o Ddinasoedd Creadigol

Heddiw, 31 Hydref 2025, mae Aberystwyth Ceredigion yn cael y fraint o fod yn Ddinas Llên UNESCO gyntaf Cymru gan ymuno â rhwydwaith byd-eang o 350 o ddinasoedd ledled y byd sydd wedi’u cydnabod am eu bod yn ‘Ddinasoedd Creadigol’.

Mae Aberystwyth Ceredigion yn ymuno â dros 50 o ddinasoedd a gydnabyddir gan UNESCO am eu cyfraniad i lenyddiaeth yn benodol, gan gynnwys Barcelona, Dulyn, Seattle a Rio de Janeiro. Hefyd mae’r dynodiad Dinas Llên yn golygu mai Aberystwyth Ceredigion yw Dinas Greadigol UNESCO gyntaf Cymru.

A hithau’n ganolfan i lyfrau a llên, mae gan Aberystwyth Ceredigion seilwaith bywiog o ŵyliau, siopau llyfrau, theatrau, digwyddiadau a gwyliau diwylliannol, darlithoedd, canolfannau ymchwil a rhagoriaeth academaidd, byd cyhoeddi, llên a barddoniaeth sy’n cysylltu â phob rhan o’r sir. Crëwyd y Ddinas Llên newydd ar ôl cais cryf gan bartneriaeth strategol Dinas Llên. Mae’r dynodiad UNESCO yn dwyn ynghyd Aberystwyth a sir ehangach Ceredigion i ddathlu traddodiadau llenyddol yr ardal a’i sîn ddiwylliannol ddwyieithog a ffyniannus.

 

Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth yw Mererid Hopwood; mae’n aelod o bartneriaeth Dinas Llên ac meddai: “Fel y fro gyntaf yng Nghymru i gael ei chydnabod gan rwydwaith Dinasoedd Creadigol UNESCO, mae arwyddocâd y dynodiad a gyhoeddwyd heddiw yn mynd y tu hwnt i Aberystwyth a sir Ceredigion ac i’r llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’n gyfle i atgyfnerthu’r diwylliant llenyddol cyfoethog ry’n ni’n ei fwynhau yma a’i rannu â’r byd. ‘Mynd o’ch gwobr at eich gwaith’ yw’r dywediad Cymraeg, ac yn sicr rydym ni’n edrych ymlaen yn awr at wynebu’r cyfrifoldeb sy’n dod gyda’r fraint sylweddol hon.”

Ffurfiwyd partneriaeth Dinas Llên yn 2021 i fwrw ymlaen â rhaglen ymchwil ac ymgynghori yn lleol a pharatoi’r cais cyn ei gyflwyno ym mis Mawrth 2025. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Tref Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Llyfrau Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (gan gynnwys Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau).

 

Pam Aberystwyth Ceredigion?
Efallai nad yw Aberystwyth Ceredigion yn ddinas yn yr ystyr traddodiadol ond mae sîn lenyddol helaeth yr ardal, ei phrifysgolion a’i sefydliadau llenyddol cenedlaethol, yn golygu ei bod yn gymwys i gael dynodiad Dinas Greadigol UNESCO.

Mae llên a chreadigrwydd mewn amryw o ffurfiau, yn Gymraeg a Saesneg, yn rhan annatod o fywyd bob dydd yma, i bobl o bob oed a chefndir. Mae llenyddiaeth wrth ein traed wrth inni gerdded ar bromenâd Aberystwyth. Mae ar y cei yn Aberteifi ac ar lwybr coetir Llandre. Gall Aberystwyth ei hun hawlio cysylltiad â mwy na 300 o feirdd, a hon yw’r dref gyntaf yng Nghymru i gyflogi Bardd Tref.

Mae Ceredigion yn gartref i gasgliad sylweddol o gyhoeddwyr, yn ogystal â sefydliadau llenyddol Cymreig o bwys cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru. Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ganolfan ragoriaeth ryngwladol ym maes Astudiaethau Celtaidd, ac mae Prifysgol Aberystwyth yn fyd-enwog am ei rhagoriaeth wrth addysgu ac ymchwilio i ieithoedd a llenyddiaeth, gan gynnwys Cymraeg, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Drwy Gyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau rydym yn cysylltu Cymru â’r byd ac yn rhannu llenyddiaeth o Gymru gyda chynulleidfaoedd newydd drwy gyfieithiadau.

Mae Aberystwyth Ceredigion yn ymuno â Dinasoedd Creadigol o bob cwr o’r byd i gydnabod bod creadigrwydd yn sbarduno datblygu cynaliadwy gan ganolbwyntio ar bobl, lle a chymunedau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Jones, Maer Aberystwyth: “Mae’n wych o beth fod Aberystwyth Ceredigion wedi derbyn y statws hwn gan roi ein sir ar lwyfan byd-eang a dathlu ein treftadaeth ddiwylliannol a llenyddol unigryw. Mae llenyddiaeth i bawb ac rydym bellach wedi ymuno â rhwydwaith byd-eang o ddinasoedd sydd â chreadigrwydd wrth wraidd eu cymunedau lleol, gan greu dyfodol mwy cynhwysol, gwydn a chynaliadwy.

Mae llenyddiaeth a chreadigrwydd yn helpu i wneud Aberystwyth Ceredigion yn lle anhygoel i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag ef ac rydym yn credu y bydd cael dynodiad Dinas Llên gyntaf Cymru yn sbarduno twf pellach yn y diwydiannau creadigol, yn dod â budd i fusnesau lleol ac yn helpu mwy o bobl i’n darganfod ni a’n straeon. Mae’r dynodiad hwn yn perthyn i bawb yn Aberystwyth Ceredigion ac mae cymaint o gyfleoedd i gymryd rhan a rhannu syniadau – dim ond y cam cyntaf yw hwn!”.

 

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: “Llongyfarchiadau Aberystwyth Ceredigion am ddod yn Ddinas Greadigol a Dinas Llên UNESCO gyntaf Cymru.

“Mae Cymru yn wlad llawn creadigrwydd, gydag awduron, beirdd, cantorion ac actorion gwych. Wrth gwrs, mae llawer ohonynt yn dod o ardal Aberystwyth ac wedi mynychu’r Brifysgol yno, ac mae’r cyhoeddiad hwn yn gydnabyddiaeth o’r sîn lenyddol ddisglair, yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar draws y sir.

“Mae statws Dinas Llên UNESCO yn gyrhaeddiad haeddiannol iawn, ac rwy’n edrych ymlaen at weld cyfleoedd yn datblygu a gweld Dinas Llên newydd Cymru’n ffynnu.”

 

Anfonodd cynrychiolwyr UNESCO y neges ganlynol:

“Llongyfarchiadau Aberystwyth Ceredigion ar ddod yn Ddinas Greadigol a Dinas Llên UNESCO gyntaf Cymru!

Mae’r nod hwn o gydnabyddiaeth fyd-eang yn taflu goleuni ar fywiogrwydd a chryfder diwylliant llenyddol dwyieithog Cymru, a’i chyfraniad at greadigrwydd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Fel rhan o rwydwaith Dinasoedd Creadigol UNESCO, mae Aberystwyth Ceredigion yn ymuno â chymuned sy’n hyrwyddo cynhwysiant, cynaliadwyedd ac arloesedd trwy ddiwylliant a chreadigrwydd.

Mae’n dangos sut y gall ymdrechion lleol a rhyngwladol flaenoriaethu llenyddiaeth, gan helpu i gryfhau dylanwad diwylliannol Cymru a’r DU, yn ogystal â’u llais ar lwyfan y byd.”

Llysgennad y DU, UNESCO, Anna Nsubuga
Cadeirydd Comisiwn Cenedlaethol y DU, UNESCO, Yr Athro Anne Anderson
Ysgrifennydd Cyffredinol Comisiwn Cenedlaethol y DU, UNESCO, James Ömer Bridge

 

Gallwch weld sut mae modd i chi gymryd rhan, a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas Llên Aberystwyth Ceredigion, drwy fynd i wefan https://dinasllen.cymru/, dilyn @AberystwythDinasLlen ar y cyfryngau cymdeithasol, neu chwilio am ‘Dinas Llên Aberystwyth’.

Cyhoeddwyr Cymru i arddangos yn Ffair Lyfrau Frankfurt

Cyhoeddwyr Cymru i arddangos yn Ffair Lyfrau Frankfurt

Cymru yn Ffair Lyfrau Frankfurt: Cyhoeddwyr Cymru i arddangos yn ffair gynnwys fwyaf y byd

Bydd cyhoeddwyr Cymru yn hyrwyddo llenyddiaeth o Gymru ar lwyfan rhyngwladol unwaith eto yn Ffair Lyfrau Frankfurt ym mis Hydref. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i Gymru gael presenoldeb yn Frankfurt, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol, a’i gydlynu gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Cynhelir Ffair Lyfrau Frankfurt bob blwyddyn dros bum diwrnod ym mis Hydref a hi yw’r ffair gynnwys fwyaf yn y byd, gyda chynrychiolaeth o bob cwr yn teithio i’r Almaen i arddangos y gorau o’u llyfrau a’u llenyddiaeth ar draws pob genre.

Yn 2024, denodd y digwyddiad diwylliannol allweddol hwn tua 230,000 o ymwelwyr gyda 4,300 o arddangoswyr o 92 o wledydd[1]. Eleni, bydd 15 cyhoeddwyr o Gymru yn mynychu er mwyn cwrdd â chynrychiolwyr o ddiwydiannau creadigol eraill, fel ffilm a gemau, yn ogystal â chyhoeddwyr eraill, i drafod cydweithredu, hawliau a thrwyddedu, ac i feithrin perthnasoedd.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru bydd stondin Cymru yn Frankfurt yn dychwelyd i Frankfurt eto eleni. Mae’r sector cyhoeddi dwyieithog yng Nghymru yn rhan o’r economi sylfaenol sy’n sector blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru o fewn y Diwydiannau Creadigol. Rydym yn falch ein bod wedi gallu sicrhau presenoldeb Cymru yn y digwyddiad rhyngwladol pwysig hwn yn y calendr cyhoeddi, er mwyn hyrwyddo’n llyfrau a’n hawduron gorau o Gymru ar lwyfan rhyngwladol.”

Dywedodd Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant “Mae’n wych y bydd gan gyhoeddwyr Cymru bresenoldeb amlwg eto yn Ffair Lyfrau Frankfurt, un o ddigwyddiadau diwylliannol pwysicaf y byd. Mae cefnogaeth Cymru Greadigol a’r Cyngor Llyfrau ar gyfer y daith fasnach bwysig hon yn helpu i sefydlu sector cyhoeddi bywiog Cymru ar lwyfan rhyngwladol, a hynny wrth arddangos ein treftadaeth lenyddol gyfoethog.

 

“Gydag amrywiaeth o lenyddiaeth Gymraeg a Saesneg, ac ystod eang o gynnwys, mae ein cyhoeddwyr yn cynrychioli’r gorau o greadigrwydd Cymru, a bydd ein presenoldeb yn Frankfurt yn darparu llwyfan gwerthfawr iddyn nhw adeiladu partneriaethau newydd a chyrraedd cynulleidfaoedd byd eang. Dyna’r union fath o gefnogaeth sy’n helpu ein diwydiannau creadigol i barhau i dyfu a ffynnu.”

Mae Ffair Lyfrau Frankfurt ar agor rhwng 15 a 19 Hydref 2025. Gallwch ddarganfod mwy am y ffair yma: Frankfurter Buchmesse | Home

 

[1] https://www.buchmesse.de/en/about-us

Cyhoeddwyr Cymru i arddangos yn Ffair Lyfrau Frankfurt

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2025

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2025 am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc

 

Heddiw, dydd Gwener 26 Medi, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi teitlau’r llyfrau sydd wedi ennill Gwobrau Clawr y Flwyddyn am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc 2025.

Mae dau gategori i’r gwobrau – Clawr Llyfr Cymraeg a Chlawr Llyfr Saesneg. Yr enillwyr yw:

   

Enillydd y categori Gymraeg:

Nos Da Blob (Y Lolfa). Darluniad y clawr: Huw Aaron. Dyluniad y clawr: Opal Roengchai. Awdur: Huw Aaron.

Enillydd y categori Saesneg:

Fishfolk (Firefly Press). Darluniad y clawr: Hannah Doyle. Awdur: Steven Quincey-Jones

Dywedodd Huw Aaron: “Mae’n nhw’n dweud na ddylech chi farnu llyfr ô’r clawr… ond dyna’n union mae pawb YN ei wneud, ac mae gofal o glawr llyfr yn awgrymu bod gofal hefyd wedi ei gymryd o’r cynnwys tu fewn. Felly mae’n wych bod gyda ni wobrau sy’n dathlu’r grefft bwysig o ddylunio clawr. Ac wrth gwrs, dw i ar ben fy nigon i weld Blob bach yn ennill eleni! Diolch o galon i Clare Doughty am helpu lywio’r clawr i’w fersiwn terfynol.”

Dywedodd Hannah Doyle: “Diolch yn fawr iawn am ddewis Fishfolk ar gyfer Gwobr Clawr Llyfr Plant y Flwyddyn! Rwyf wrth fy modd. Diolch i Firefly Press, ac yn arbennig i Becka Moor am roi ei ffon hud ar y dyluniad er mwyn gwneud i’r clawr sefyll allan. Ac yn amlwg, diolch i Steven Quincey-Jones am ysgrifennu llyfr mor ysbrydoledig ac yn llawn awyrgylch. Roedd yn brosiect gwych i fod yn rhan ohono.”

Sefydlwyd y gwobrau er mwyn dathlu cyfraniad darlunwyr a dylunwyr, a’u gwaith i ddod â straeon yn fyw a chreu llyfrau trawiadol a deniadol sy’n apelio at ddarllenwyr ifanc. Cyflwynwyd y gwobrau am y tro cyntaf yn 2024.

Dewiswyd y chwech llyfr oedd ar y rhestrau byrion, a’r cyfrolau buddugol, gan aelodau Panel Pobl Ifanc y Cyngor Llyfrau. Mae dylunydd/darlunydd y clawr buddugol yn y ddau gategori yn ennill neu’n rhannu gwobr ariannol o £500.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Lyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i ennillwyr y gwobrau eleni. Mae’n braf cael tynnu sylw at waith caled dylunwyr a darlunwyr fel hyn, ac i ddathlu’r doniau anhygoel sydd gennym yn gweithio yn y sector yng Nghymru. Llawer o ddiolch hefyd i aelodau ein Panel Pobl Ifanc, a gafodd y dasg anodd o feirnidu’r gwobrau eleni o blith cymaint o ymgeiswyr haeddiannol.”

Y llyfrau eraill ar y rhestrau byrion oedd:

Rhestr fer – Llyfr Cymraeg:

  • Gwen ac Arianrhod (Gwasg Carreg Gwalch). Darluniad y clawr: Lleucu Gwenllian. Dyluniad y clawr: Eleri Owen. Awdur: Lleucu Gwenllian.
  • Ysgol Arswyd (Y Lolfa). Darluniad y clawr: Sian Angharad. Awdur: Catrin Angharad Jones.

Rhestr fer – Llyfr Saesneg:

  • Colours of Home (Graffeg). Darluniad y clawr: Miriam Latimer. Awdur: Miriam Latimer.
  • The Street Food Festival (Atebol). Darluniad y clawr: Valériane Leblond. Dyluniad y clawr: Tanwen Haf, Whitefire Designs. Awdur: Gail Sequeira.

 

Cefnogir y Gwobrau gan Adran Addysg Llywodraeth Cymru o dan Raglen Cymorth Grant y Cwricwlwm.

Cyhoeddwyr Cymru i arddangos yn Ffair Lyfrau Frankfurt

Cyhoeddi Rhestrau Byrion Clawr y Flwyddyn 2025 – llyfrau plant a phobl ifanc

Cyhoeddi Rhestrau Byrion Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2025 am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc

Heddiw, dydd Llun 15 Medi, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi’r llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Clawr y Flwyddyn am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc 2025. Mae’r gwobrau, a sefydlwyd y llynedd, yn dathlu cyfraniad darlunwyr a dylunwyr, a’u gwaith i ddod â straeon yn fyw a chreu llyfrau trawiadol a deniadol sy’n apelio at ddarllenwyr ifanc.

Mae dau gategori i’r gwobrau – Clawr Llyfr Cymraeg a Chlawr Llyfr Saesneg. Dewiswyd y llyfrau ar y rhestrau byrion gan aelodau Panel Pobl Ifanc y Cyngor Llyfrau. Y llyfrau yw:

Clawr Llyfr Cymraeg:

  • Gwen ac Arianrhod (Gwasg Carreg Gwalch). Darluniad y clawr: Lleucu Gwenllian. Dyluniad y clawr: Eleri Owen. Awdur: Lleucu Gwenllian.
  • Nos Da Blob (Y Lolfa). Darluniad y clawr: Huw Aaron. Dyluniad y clawr: Opal Roengchai. Awdur: Huw Aaron.
  • Ysgol Arswyd (Y Lolfa). Darluniad y clawr: Sian Angharad. Awdur: Catrin Angharad Jones.

Clawr Llyfr Saesneg:

  • Colours of Home (Graffeg). Darluniad y clawr: Miriam Latimer. Awdur: Miriam Latimer.
  • The Street Food Festival (Atebol). Darluniad y clawr: Valériane Leblond. Dyluniad y clawr: Tanwen Haf, Whitefire Designs. Awdur: Gail Sequeira.
  • Fishfolk (Firefly Press). Darluniad y clawr: Hannah Doyle. Awdur: Steven Quincey-Jones.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i’r dylunwyr a’r darlunwyr talentog sydd wedi cyrraedd y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau eleni. Mae gan gloriau llyfrau rôl mor bwysig wrth ein helpu i ddewis beth i’w ddarllen nesaf ac weithiau gallant ein perswadio i godi llyfr na fyddem byth wedi meddwl amdano neu ein helpu i ddarganfod awdur newydd. Rwy’n edrych ymlaen at weld pwy fydd yr enillwyr wedi’r cyhoeddiad yn ddiweddarach y mis hwn.”

Bydd y dylunydd/darlunydd o’r clawr buddugol ym mhob categori yn ennill neu rannu gwobr ariannol o £500. Cyhoeddir yr enillwyr ar 26 Medi 2025. Cefnogir y Gwobrau gan Adran Addysg Llywodraeth Cymru o dan Raglen Cymorth Grant y Cwricwlwm.

Cyhoeddwyr Cymru i arddangos yn Ffair Lyfrau Frankfurt

Lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2025 – Gardd o Straeon

Gardd o Straeon – Lansio Sialens Ddarllen yr Haf yng Nghymru, i helpu darllenwyr ifanc i feithrin eu sgiliau darllen

Yr wythnos diwethaf, ymunodd disgyblion o ysgolion Blaenau Ffestiniog, y Drenewydd a Chaerdydd ag awduron arobryn llyfrau plant mewn digwyddiadau arbennig yn eu llyfrgelloedd lleol, i lansio Sialens Ddarllen yr Haf yng Nghymru.

Roedd y digwyddiadau yn dathlu thema’r Sialens eleni, sef ‘Gardd o Straeon’, lle mae creaduriaid hudol, chwedlau anhygoel a rhyfeddodau natur yn dod yn fyw. Gall plant ymuno â’r cynllun yn eu llyfrgell leol a darganfod anturiaethau darllen newydd trwy gydol yr haf.

Yn Llyfrgell Penylan, Caerdydd, bu disgyblion Ysgol Gynradd Parc y Rhath yn mwynhau gweithdy gydag Ian Brown, awdur cyfresi llyfrau Albert the Tortoise a Hugg ’’n’’ Bugg, ac yn Llyfrgell y Drenewydd roedd Claire Fayers, awdur arobryn Welsh Giants Ghosts and Goblins, wedi ymuno â disgyblion Ysgol Calon y Dderwen i ddarganfod y creaduriaid hudolus sy’n cuddio yn y goedwig a’r cwm, ac yn ein gerddi ni ein hunain.

Bu Bethan Gwanas a disgyblion Ysgol Maenofferen yn trafod cyfres boblogaidd Cadi yn Llyfrgell Blaenau Ffestiniog. Bethan oedd enillydd Gwobr Mary Vaughan Jones yn 2024 am ei chyfraniad rhagorol i lenyddiaeth i blant.

Dywedodd Bethan Gwanas: “Bore hyfryd efo plant Ysgol Maenofferen; mi wnes i fwynhau bob munud yn eu cwmni nhw (a dwi’n eitha siŵr eu bod nhw wedi mwynhau fy nghwmni innau). Mi brofodd eto pa mor bwysig ydi llyfrgelloedd a llyfrau – a chael cyfarfod awdur. Ac i awdur gael bod mewn llyfrgell efo llwyth o blant!”

 

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Diolch i’r holl awduron, llyfrgelloedd, ysgolion a phlant am roi hwb arbennig i ddechrau Sialens Ddarllen yr Haf eleni! Mae llyfrgelloedd yn lleoedd gwych i ddarganfod llyfrau o bob math, a diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym yn falch iawn bod plant ledled Cymru yn cael y cyfle i fwynhau’r Sialens yn rhad ac am ddim, ac i barhau i ddarllen dros wyliau’r haf.”

Dywedodd Lynne Neagle,Ysgrifennydd y Cabinet Dros Addysg: “Rydym yn ariannu Sialens Ddarllen yr Haf unwaith eto i sicrhau bod gan bob plentyn y cyfle i fwynhau darllen yn ystod gwyliau’r haf. Mae’r Sialens yn helpu i danio dychymyg plant a darganfod awduron a llyfrau newydd, yn ogystal â datblygu eu sgiliau darllen dros y gwyliau.”

Prif nod Sialens Ddarllen yr Haf, a drefnir gan The Reading Agency a’i weithredu gan lyfrgelloedd , yw cadw plant yn darllen dros wyliau’r haf, gyda digwyddiadau, gweithgareddau a llyfrau gwych – a’r cyfan yn rhad ac am ddim o’u llyfrgell leol. Mae’r Sialens yn darparu ffordd hwyliog o gadw meddyliau ifanc yn effro, yn barod am ddechreuad gwych i flwyddyn ysgol newydd yn yr hydref.

O ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf, gall ddarllenwyr ifanc 4–11 oed gofrestru yn eu llyfrgell leol neu ar-lein ar sialensddarllenyrhaf.org.uk. Rhaid darllen o leiaf chwe llyfr i gyflawni’r sialens – beth bynnag sydd yn apelio, boed yn straeon, nofelau graffig, llyfrau ffeithiol neu lyfrau llafar – mae popeth yn cyfri. Trwy’r Sialens mae plant yn gallu ennill gwobrau, darganfod llyfrau newydd, a derbyn medal a thystysgrif unwaith y bydd y Sialens wedi’i chwblhau.

Gyda thema newydd bob blwyddyn, mae’r Sialens wedi ei thargedu at blant 4–11 oed. Mae’n cefnogi’r oedran yma a’u teuluoedd drwy:

  • Sicrhau bod dysgwyr yn barod pan ddaw’r amser i ddychwelyd i’r ysgol yn yr hydref.
  • Cynorthwyo’r pontio llwyddiannus rhwng grwpiau blwyddyn a chyfnodau allweddol.
  • Gwella hyder a hunan-barch plant wrth gefnogi darllen annibynnol.
  • Rhoi mynediad am ddim at lyfrau a gweithgareddau hwyliog i’r teulu dros yr haf.

Darperir Sialens Ddarllen yr Haf gan The Reading Agency. Fe’i cefnogir yng Nghymru gan Gyngor Llyfrau Cymru, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru. O 2025 ariennir y prosiect hwn gan Raglen Cymorth Grant y Cwricwlwm, diolch i Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyr Cymru i arddangos yn Ffair Lyfrau Frankfurt

Galwad agored i athrawon cynradd Cymraeg

Galwad agored i athrawon cynradd Cymraeg
Cyfle i ddatblygu’n broffesiynol yn rhad ac am ddim trwy gynllun Athrawon Caru Darllen

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn annog athrawon ysgolion cynradd Cymraeg ledled Cymru i elwa ar gyfle i ymuno â chynllun hyfforddiant a mentora arbennig wrth gofrestru ar gyfer cynllun Athrawon Caru Darllen ar gyfer blwyddyn addysgol 2025/26.

Mae’r cynllun yn berffaith ar gyfer athrawon cynradd, lle bynnag maen nhw yn eu gyrfa dysgu, i’w helpu i ddatblygu darpariaeth ddarllen yn y dosbarth, i ddathlu llyfrau a darllen er pleser, ac i ysbrydoli eu dysgwyr ifanc i ddarllen.

Felly os ydych chi’n athro sy’n gweithio gyda dysgwyr 8–11 oed mewn ysgol gynradd Gymraeg ac yn:

–   chwilio am gefnogaeth i hyrwyddo darllen yn y dosbarth ac ysbrydoli dysgwyr

–   hoff o gyfarfod athrawon eraill i gyfnewid syniadau a rhannu profiadau

–   awyddus i gael cyfleoedd datblygu, hyfforddi ac adeiladu hyder ym maes llythrennedd a darllen

yna, cofrestrwch i fod yn rhan o’r cynllun cyn dydd Mawrth 15 Gorffennaf ar wefan y Cyngor Llyfrau: YMA

Ariennir y prosiect tair-blynedd hwn gan Adran Addysg Llywodraeth Cymru o dan Raglen Cymorth Grant y Cwricwlwm. Mae’n bartneriaeth rhwng Cyngor Llyfrau Cymru, Prifysgol Bangor a CYDAG i gynnal cyfres o weithdai dros y flwyddyn addysgol, i ehangu dysgu proffesiynol athrawon i arfogi dysgwyr gyda strategaethau darllen effeithiol ac i helpu nhw i fwynhau darllen.

Dros gyfnod o flwyddyn bydd athrawon yn cael y cyfle i ymuno â phedwar gweithdy, yn rhithiol ac mewn person, gyda darlithydd o Brifysgol Bangor i drafod 6 o gyfrolau amrywiol o Gymru. Mae’r rhestr ddarllen yn amrywio o ran genres, arddull, awduron, cyhoeddwyr a themâu.

Dywedodd Bethan Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym yn falch iawn o allu cynnig y cynllun hwn, diolch i gefnogaeth Adran Addysg Llywodraeth Cymru.

 “Prif nod Athrawon Caru Darllen yw meithrin cariad at ddarllen ymhlith athrawon fel y gallant ysbrydoli eu disgyblion i wneud yr un peth. Gyda chefnogaeth ac arbenigedd darlithydd Prifysgol Bangor bydd yr hyfforddiant pwrpasol hwn yn cynyddu ac yn atgyfnerthu dealltwriaeth ymarferwyr o egwyddorion a dulliau addysgeg sylfeini llythrennedd.

“Bydd cefnogaeth ar gael i ryddhau’r athrawon i fynychu’r sesiynau, felly mae’n gyfle gwych am ddatblygiad proffesiynol, yn rhad ac am ddim, a fydd yn cael effaith cadarnhaol parhaol ar athrawon, ysgolion a dysgwyr. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu carfan 2025 ym mis Medi!”

Mae modd cofrestru tan ddydd Mawrth 15 Gorffennaf ar wefan y Cyngor Llyfrau YMA. Mae lle i 50 o athrawon o ysgolion cynraedd Cymraeg ar gynllun 2025/26. Bydd cyfle i athrawon uwchradd Cymraeg ac athrawon o ysgolion cyfrwng Saesneg gymryd rhan wrth i’r cynllun ymestyn yn yr ail a thrydedd blwyddyn.

Cyhoeddwyr Cymru i arddangos yn Ffair Lyfrau Frankfurt

Cyngor Llyfrau yn sicrhau dros £800,000 i ysbrydoli cariad at ddarllen

Cyngor Llyfrau Cymru yn sicrhau dros £800,000 i ysbrydoli cariad gydol oes at ddarllen yng Nghymru

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad bod Adran Addysg Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu grant o £849,860 dros dair blynedd i’r Cyngor Llyfrau i barhau a datblygu eu gweithgareddau hyrwyddo darllen.

Cyhoeddwyd wythnos yma gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Lynne Neagle, bod Cyngor Llyfrau Cymru yn un o’r sefydliadau a fydd yn derbyn arian o dan Rhaglen Cymorth Grant y Cwricwlwm.

Dyfernir y grant i’r Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, sy’n cynnal ystod eang o ymgyrchoedd a phartneriaethau i ddathlu llyfrau a hyrwyddo darllen er pleser. Bydd y rhain yn cynnwys:

Athrawon Caru Darllen – yn dilyn peilot llwyddiannus yn 2024, bydd y prosiect hwn yn darparu cyfres o hyfforddiant wedi’i theilwra i athrawon cynradd ac uwchradd, gan ymarferwyr addysg uwch o Brifysgol Bangor, gyda phwyslais penodol ar wella sgiliau addysgwyr mewn darllen er pleser, mewnblannu darllen yn y dosbarth a dysgu darllen a llythrennedd. Nod y rhaglen yw meithrin cariad at ddarllen ymhlith ymarferwyr addysg, er mwyn iddynt ysbrydoli dysgwyr ar lawr dosbarth.

Sialens Ddarllen yr Haf – cynllun i annog plant a’u teuluoedd i barhau i ddarllen trwy wyliau ysgol yr haf, wrth ymweld â llyfrgell leol. Mae’r prosiect yn denu dros 33,000 o blant a phobl ifanc i fanteisio ar fenthyg llyfrau o lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn. Mewn partneriaeth â’r Reading Agency a llyfrgelloedd Cymru.

Gornest Lyfrau / BookSlam – cystadlaethau darllen yn seiliedig ar restrau darllen ac adnoddau pwrpasol i gyfoethogi’r dysgu a dyfnhau dealltwriaeth. Mae ysgolion yn cystadlu ar lefel sirol yn gyntaf, gyda’r ysgolion buddugol yn cael cynrychioli’r sir yn y rowndiau terfynol cenedlaethol sy’n cael eu cynnal yn Aberystwyth.

Meithrin Cymuned o Ddarllenwyr – cyfres o raglenni a fydd yn annog a chefnogi teuluoedd i ddarllen er pleser. Mae’n blaenoriaethu mynediad at lyfrau ac adnoddau i’r rhai sydd eu hangen fwyaf, ac yn sicrhau bod sawl ffordd i blant a theuluoedd gymryd rhan yn yr elfen sy’n addas iddyn nhw a’u hanghenion. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys:

  • Diwrnod y Llyfr ym mis Mawrth, mewn partneriaeth â World Book Day, a dathliadau Diwrnod y Llyfr UNESCO ar 23 Ebrill;
  • Cydweithio gyda RhAG i gynnal sesiynau darllen er pleser i rieni di-Gymraeg;
  • Cefnogi gyda chyhoeddi cylchgrawn digidol Cyw ar y cyd gyda Boom Cymru i ddysgwyr rhwng 3 a 7 oed;
  • Parhau gyda Phanel Pobl Ifanc y Cyngor Llyfrau, a denu oedolion ifanc i ddarllen gyda’r podlediad ‘Sut i Ddarllen’.

 

Dywedodd Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, Bethan Jones: “Rydym yn falch iawn bod yr arian hanfodol hwn wedi ei ddyfarnu i ni – hebddo, ni fyddem yn gallu rhedeg cymaint o’r ymgyrchoedd a’r gweithgareddau sy’n ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddarllen er pleser bob blwyddyn. Mae gennym gynlluniau hynod gyffrous ar gyfer y tair blynedd nesa, a theimlwn yn ffodus iawn o fod wedi sicrhau cyllid aml-flwyddyn, sy’n golygu y byddwn ni’n gallu cydweithio gyda phartneriaid i adeiladu ar y prosiectau dros flynyddoedd yn olynol; yn cael mwy o lyfrau at fwy o blant a phobl ifanc, i ysbrydoli cariad gydol oes at ddarllen.”

 

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet a’i hadran am eu hymrwymiad parhaol trwy’r cyllid hwn, sy’n sylfaen i waith yr Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen yn y Cyngor Llyfrau, ac sydd wedi diogelu 2.5 swydd.

Mae’r grant hwn yn ein galluogi ni i barhau i ddarparu partneriaethau a chynlluniau hyrwyddo darllen blynyddol poblogaidd i blant a phobl ifanc ledled Cymru, megis Sialens Ddarllen yr Haf a llyfr £1 Cymraeg Diwrnod y Llyfr. Mae’n bwysig hefyd ei fod yn golygu y gallwn ddarparu ymyriadau wedi eu targedu’n benodol i ymateb i anghenion y Cwricwlwm i Gymru yn ogystal â heriau cyfredol o gwmpas lefelau llythrennedd, cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, a llesiant. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n rhwydwaith o bartneriaid dibynadwy i gyflawni’r rhaglen uchelgeisiol gyffrous hon dros y tair blynedd nesa.”

Dyfarnwyd y cyllid am gyfnod hyd at Mawrth 2028 o dan Rhaglen Cymorth Grant y Cwricwlwm. Cyhoeddir gwybodaeth am y prosiectau a gefnogir gan y grant ar wefan y Cyngor Llyfrau: www.llyfrau.cymru

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2025

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2025

Cyhoeddwyd enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2025 yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym Mharc Margam mewn seremoni arbennig fore dydd Mawrth, 27 Mai.

Enillydd y categori cynradd yw Arwana Swtan a’r Sgodyn Od gan Angie Roberts a Dyfan Roberts. Enillydd y categori uwchradd yw Cymry Balch Ifanc gan awduron amrywiol, golygwyd gan Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter.

Enillydd y categori cynradd
Arwana Swtan a’r Sgodyn Od gan Angie Roberts a Dyfan Roberts, darluniwyd gan Efa Dyfan (Gwasg y Bwthyn).

Dyma nofel fer a doniol dros ben gan awdur sy’n gwybod sut i ddiddori a phlesio plant. Mae pethau’n ddiflas iawn yng Nghaernarfon pan mae Arwana Swtan yn cyrraedd yno yng nghanol storm fawr i aros efo’i thaid, Taidi. Ond diolch i’r fôr-forwyn hynod honno, Swigi Dwgong, daw tro ar fyd i’r dre a’i phobl…

Barn y panel: “Am antur! Fe allech gredu eich bod yn darllen hen chwedl forwrol, ond mae’r stori hon yn fodern a chyfoes gyda chymeriadau lliwgar a digwyddiadau rhyfeddol. Chwa o awyr iach yn gymysg gyda gwynt pysgod!”

 

Dywedodd Angie Roberts: “’Dan ni ar ben ein digon! Mae’r newyddion gwych yma’n mynd i roi’r hyder i mi ddal ati i sgwennu’r holl straeon sydd yn fy mhen. Mwy o anturiaethau i Arwana Swtan, ei mêts Halan a Finag o’r siop jips, a’r fôr-forwyn fwya sassy yn y byd, Swigi Dwgong.”

 

Enillydd y categori uwchradd
Cymry Balch Ifanc gan awduron amrywiol. Golygwyd gan Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter, darluniwyd gan Mari Philips (Rily).

Blodeugerdd bersonol a gonest o straeon 13 o gyfranwyr LHDTCRA+ gyda gwybodaeth ffeithiol am Pride Cymru. Mae’r gyfrol yn anelu at hybu dealltwriaeth ac empathi tuag at y gymuned LHDTCRA+ drwy rannu profiadau personol.

Barn y panel: “Llyfr pwysig i bawb er mwyn dod i adnabod ein hunain ac i adnabod pawb arall. Bydd pobl ifanc sy’n ceisio dod o hyd i’w hunaniaeth yn elwa o glywed am brofiadau’r cyfranwyr yn y gyfrol hon a bydd rhieni, athrawon, neiniau a theidiau, gwleidyddion – pawb – yn cael cyfle i ddysgu fod gan bob un ohonom yr hawl i gael ein deall a’n parchu fel unigolion. Mae’n bwysig bod llyfr fel hwn ar gael yn Gymraeg.”

Dywedodd Llŷr Titus: “Mewn cyfnod lle ydan ni’n gweld ymosodiadau o bob cwr ar hawliau pobl LHDTCRA+ mae ennill gwobr Tir na n-Og a chael dathlu hynny ar faes gŵyl fel yr Urdd, sydd yn ddigamsyniol yn ei chefnogaeth i’n cymuned ni, yn gadarnhad bod gan bawb yr hawl i fod yn falch o bwy ydyn nhw. Fel un o olygyddion y gyfrol mae hi’n fraint aruthrol ennill ond hefyd fel golygydd dyma bwysleisio mai straeon y bobl ifanc o fewn cloriau’r gyfrol ydy’r peth pwysicaf ac mai nhw ddylai gael y sylw heddiw.

 

 

Mi allai nifer ohonom ni wneud efo mwy o empathi, a phan wnaiff yr rheiny ohonoch chi sydd ddim yn deall pobl ifanc LHDTCRA+ neu yn teimlo unrhyw fath o ddrwgdeimlad tuag atyn nhw droi at y straeon o fewn y gyfrol yma, dwi’n mawr obeithio y gwnewch chi fagu yr empathi hwnnw, a dealltwriaeth.”

 

Mae gwobrau blynyddol Tir na n-Og, a sefydlwyd yn 1976, yn dathlu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Trefnir hwy gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru Wales.

 

Dywedodd Sue Polchow, Rheolwr Datblygu Cymuned – CILIP Cymru Wales: “Fel y corff aelodaeth ar gyfer llyfrgellwyr a gweithwyr gwybodaeth proffesiynol yng Nghymru, rydym yn falch o noddi Gwobrau Tir na n-Og unwaith eto yn 2025. Mae’r rhain yn gwobrwyo llyfrau unigryw sy’n helpu plant a phobl ifanc i ddarganfod y pleser o ddarllen straeon rhagorol o Gymru ac am Gymru. Llongyfarchiadau mawr i’r holl awduron buddugol!”

 

Y teitlau eraill ar restr fer y categorïau Cymraeg oedd:

Cynradd:
Ni a Nhw gan Sioned Wyn Roberts, darluniwyd gan Eric Heyman (Atebol)

Llanddafad gan Gareth Evans-Jones, darluniwyd gan Lleucu Gwenllian (Y Lolfa)

Uwchradd:
Cynefin, Cymru a’r Byd gan Dafydd Watcyn Williams (Gwasg Carreg Gwalch)

Rhedyn, Merlyn y Mawn gan Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)

 

Cyhoeddwyd heddiw hefyd enillwyr Gwobrau Cymraeg Dewis y Darllenwyr. Gwobrau arbennig yw’r rhain gyda’r enillwyr yn cael eu dewis o’r llyfrau ar y rhestr fer ym mhob categori gan blant a phobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Gwobrau Tir na n-Og.

 

Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr yn y categori cynradd yw Llanddafad gan Gareth Evans-Jones, darluniwyd gan Lleucu Gwenllian (Y Lolfa)

Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr Cymraeg yn y categori uwchradd yw Cynefin, Cymru a’r Byd gan Dafydd Watcyn Williams (Gwasg Carreg Gwalch)

Mewn digwyddiad arbennig yn Ysgol Penglais School, Aberystwyth, ar 21 Mai, cyhoeddwyd mai The Twelve gan Liz Hyder (cyhoeddir gan Pushkin Children’s Books) yw enillydd y categori Saesneg. Enillydd gwobr Saesneg Dewis y Darllenwyr eleni yw Welsh Giants, Ghosts and Goblins gan Claire Fayers (Firefly).

Mae rhagor o fanylion am Wobrau Tir na n-Og i’w cael ar wefan y Cyngor Llyfrau: llyfrau.cymru.

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2025

Cyhoeddi Enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2025

The Twelve gan Liz Hyder (cyhoeddwyd gan Pushkin Children’s Books) yw enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2025 am lenyddiaeth i blant a phobl ifanc.

Cyhoeddwyd enw’r enillydd mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd brynhawn dydd Mercher 21 Mai yn Ysgol Penglais School, Aberystwyth gan y cyflwynydd Sara Gibson, gyda chynulleidfa o ddysgwyr o’r ysgol yn cael y cyfle i gwrdd â rhai o’r awduron oedd ar y rhestr fer.

Mae The Twelve yn stori freuddwydiol dywyll, hudolus i oedolion ifanc. Pan mae Libby, chwaer Kit, yn diflannu oddi ar wyneb y ddaear yn ystod gwyliau teuluol, a does neb arall i’w weld yn ei chofio, mae Kit yn cychwyn ar daith beryglus i ddarganfod y gwir. Mae’r stori hon yn lapio’r darllenydd mewn hud a lledrith a llên gwerin hynafol – yn eich llusgo i ddyfnderoedd eich dychymyg ac yn eich swyno gyda’i hysgrifennu telynegol.

Dywedodd Liz Hyder: “Rwy’n ei theimlo hi’n anrhydedd fawr i ennill gwobr Saesneg Tir na n-Og eleni. Ganed The Twelve allan o gariad dwfn at fyd natur, ac mae’n llythyr caru at Gymru a’i thirweddau. Roedd y rhestr fer yn wych ac roeddwn wedi synnu fy mod arni, hyd yn oed. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddathlu gyda phaned fawr o de Cymreig!”

Dywedodd Cadeirydd y panel Saesneg, Elizabeth Kennedy: “Llongyfarchiadau i Liz ar ennill y wobr eleni. Mae The Twelve yn stori sy’n tynnu’r darllenydd i ganol byd hudolus hanes, llên gwerin a natur Cymru. Mae’n gyfuniad perffaith o ysgrifennu gafaelgar, darluniau prydferth a chefndir Cymreig, sydd yn golygu mai hi yw enillydd haeddiannol y wobr eleni.”

Y teitlau eraill ar y rhestr fer categori Saesneg oedd:

  • Welsh Giants, Ghosts and Goblins gan Claire Fayers (Firefly)
  • Cynefin, Wales and the World – Today’s Geography for Future Generations gan Dafydd Watcyn Williams (Gwasg Carreg Gwalch)
  • Megs gan Meleri Wyn James, darluniwyd gan Shari Llewelyn (Y Lolfa)

Cyhoeddwyd hefyd enillydd Gwobr Saesneg Dewis y Darllenwyr 2025. Gwobr arbennig yw hon, wedi’i dewis o deitlau’r rhestr fer gan y plant a’r bobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Gwobr Tir na n-Og. Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr yn y categori Saesneg yw Welsh Giants, Ghosts and Goblins gan Claire Fayers (Firefly).

Mae gwobrau blynyddol Tir na n-Og, a sefydlwyd yn 1976, yn dathlu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Trefnir hwy gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru Wales.

Dywedodd Sue Polchow, Rheolwr Datblygu Cymuned – CILIP Cymru Wales: “Fel y sefydliad aelodaeth ar gyfer llyfrgellwyr a gweithwyr gwybodaeth proffesiynol yng Nghymru, rydym yn falch i noddi Gwobrau Tir na n-Og unwaith eto yn 2025. Mae’r rhain yn gwobrwyo llyfrau unigryw sydd yn helpu plant a phobl ifanc i ddarganfod y pleser o ddarllen straeon rhagorol o Gymru ac am Gymru. Llongyfarchiadau mawr i’r holl awduron buddugol!”

Cyhoeddir enillwyr y ddau gategori Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2025 yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym Mharc Margam ar ddydd Mawrth 27 Mai.

Mae rhagor o fanylion am Wobrau Tir na n-Og ar wefan y Cyngor Llyfrau: llyfrau.cymru

Cyhoeddwyr Cymru i arddangos yn Ffair Lyfrau Frankfurt

Sêr y Silffoedd: ymweliadau awdur yn ysbrydoli darllenwyr ifanc

Mae plant ysgol ledled Cymru wedi bod yn cyfarfod ag awduron plant poblogaidd mewn cyfres o weithdai arbennig a gynhaliwyd yn eu llyfrgelloedd lleol.

Ariannwyd cynllun Sêr y Silffoedd gan Is-adran Diwylliant Llywodraeth Cymru a’i gydlynu gan Gyngor Llyfrau Cymru. Fe’i sefydlwyd fel partneriaeth gyda llyfrgelloedd ac ysgolion i ddod â darllenwyr ifanc ynghyd ag awduron ar gyfer gweithdai sy’n dathlu llyfrau a darllen. Yn ystod y cynllun, a gynhaliwyd rhwng Ionawr a Mawrth 2025, mae dros 5,000 o ddysgwyr o 126 o ysgolion ledled Cymru wedi cymryd rhan.

Canfu adroddiad ymchwil diweddar gan y National Literacy Trust: “Mae mwy o blant a phobl ifanc a oedd wedi bod yn rhan o sesiwn awdur yn dweud eu bod nhw’n mwynhau darllen yn eu hamser hamdden o’i gymharu â’u cyfoedion nad oeddynt wedi bod mewn sesiwn awdur (58.6% o’i gymharu â 39.3%).”

Sefydlwyd y cynllun er mwyn i blant gyfarfod ag awduron mewn gweithdai creadigol, i danio eu dychymyg ac i ysbrydoli darllen. Y nod hefyd oedd darparu mwy o gyfleoedd i ysgolion a llyfrgelloedd ddod â phlant allan o’r ystafell ddosbarth ac i mewn i’w llyfrgell leol. Fel rhan o’r cynllun, rhoddwyd cyfraniad at gostau trafnidiaeth er mwyn galluogi dysgwyr o ysgolion mewn ardaloedd gwledig i fynychu sesiynau.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym mor falch bod y bartneriaeth wych hon wedi galluogi cymaint o blant i gymryd rhan yn y gweithdai arbennig hyn. Dangoswyd bod ymweliadau awdur yn ddull pwerus o helpu plant i gysylltu â llythrennedd, a, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru ac ymroddiad y llyfrgellwyr, mae dros 5,000 o blant wedi gallu cyfarfod awduron yn bersonol, a mwynhau gweithgareddau a thrafodaethau i ysbrydoli darllen. Diolch i’r holl ysgolion, llyfrgelloedd ac awduron sydd wedi helpu i wneud y gweithdai hyn yn bosibl.”

Cynhaliwyd gweithdai mewn 74 o lyfrgelloedd gyda dros 30 o awduron, gan gynnwys Mari Lövgreen, Anni Llŷn a Siôn Tomos Owen.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth – Y Cynghorydd Hazel Evans: “Mae’r prosiect hwn wedi bod yn hollol anhygoel wrth ddod ag awduron, llyfrgelloedd ac ysgolion at ei gilydd mewn triongl perffaith. Roedd yr ymgysylltiad rhwng yr awduron a’r plant yn gadarnhaol ac yn gyffrous, gyda chanlyniadau ysbrydoledig iawn. Mae’n brosiect sy’n meithrin cysylltiadau yn y daith at ddarllen er pleser, ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn, yn ysgogol ac yn ysbrydoledig.”

 

Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg / An English-language version of this document is also available.