Cylchgrawn llenyddol newydd sbon i ddarllenwyr Cymru a thu hwnt

Cylchgrawn llenyddol newydd sbon i ddarllenwyr Cymru a thu hwnt

Folding Rock –
Cyhoeddi cylchgrawn llenyddol newydd sbon i ddarllenwyr yng Nghymru a thu hwnt

Heddiw mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi pwy sydd wedi derbyn £80,000 o arian blynyddol i gyhoeddi cylchgrawn llenyddol newydd o Gymru.

Bydd Folding Rock: New Writing from Wales and Beyond yn rhoi llwyfan i awduron newydd a chydnabyddedig, gan ddathlu llenyddiaeth Gymreig yn Saesneg. Fe’i sefydlir gan yr awdur, golygydd a’r cynhyrchydd creadigol, Kathryn Tann, a’r golygydd a’r dyluniwr, Robert Harries.

Dyfarnwyd yr arian am gyfnod o bedair blynedd, hyd at Fawrth 2028, yn dilyn hysbysebu tendr agored ar gyfer cylchgrawn llenyddol Saesneg newydd ym mis Mawrth 2024. Fe gwblhawyd y broses dros yr haf, a bydd Folding Rock yn cyhoeddi ei rifyn cyntaf ym mis Mawrth 2025.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Hoffwn gynnig ein llongyfarchiadau gwresog i Kathryn a Rob o Folding Rock am eu cais llwyddiannus i sicrhau’r cyllid hwn. Roeddent wedi cyflwyno gweledigaeth i’r is-bwyllgor cyhoeddi am gylchgrawn a fydd yn amlygu ac yn dathlu’r goreuon o blith awduron Cymreig ac o Gymru, boed yn awduron newydd neu’n rhai cydnabyddedig – a chreu llwybr grymus, clir i ddoniau newydd allu cyhoeddi eu gwaith.

“Mae’r weledigaeth hon yn greiddiol i’n gwaith ni yn y Cyngor Llyfrau – i greu cyfleoedd i ddarganfod awduron newydd ac, yn y pen draw, i gryfhau’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru wrth i’r genhedlaeth nesaf o awduron fireinio’u crefft.

“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weithio gyda’r fenter gyffrous newydd yma, ac at weld rhifyn cyntaf Folding Rock yn cyrraedd yn gynnar y flwyddyn nesa.”

Dywedodd Kathryn Tann o Folding Rock: “Mae Folding Rock yn ganlyniad blynyddoedd lawer o freuddwydio sut y byddai’n bosib i Rob Harries a minnau ddefnyddio ein sgiliau, ein profiad a’n hymddiriedaeth yn awduron Cymru i greu rhywbeth y byddai darllenwyr a chyhoeddwyr yn talu sylw iddo. Rydym mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth ac anogaeth a gawsom hyd yn hyn, ac ni allwn aros i weld i ble’r awn ni dros y blynyddoedd nesaf.”

Daw’r cyllid hwn o Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol, sydd yn ariannu’r masnachfreintiau pedair-blynedd ar gyfer cyfnodolion diwylliannol Saesneg. Gweinyddir y grant trwy Cyngor Llyfrau Cymru.

Dywedodd Jack Sargeant AS, Gweinidog y Diwydiannau Creadigol: “Mae Cymru Greadigol wedi ymrwymo i weithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru i helpu i gefnogi sector cyhoeddi bywiog ac amrywiol yng Nghymru. Mae lansiad Folding Rock yn nodi pennod newydd gyffrous i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, gan gynnig llwyfan newydd i leisiau newydd a chydnabyddedig, a dathlu llenyddiaeth Gymreig yn Saesneg. Edrychaf ymlaen at y rhifyn cyntaf yn 2025!”

Bydd rhifyn cyntaf Folding Rock yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2025. Bydd tri rhifyn y flwyddyn, gyda chynnwys digidol ar gael ochr yn ochr â’r cylchgrawn print. Gallwch ddilyn Folding Rock ar y sianeli cyfryngau cymdeithasol https://linktr.ee/foldingrock, a chofrestru i dderbyn diweddariadau neu darganfod mwy ar foldingrock.com.

Cylchgrawn llenyddol newydd sbon i ddarllenwyr Cymru a thu hwnt

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024

Dewch i fwynhau’r arlwy isod yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd rhwng 3–10 Awst 2024.

DYDD SADWRN, 3 AWST
11:00 | Stondin Cant a Mil
Irram Irshad
Cymraeg, Asiaidd a Balch

11:30 | Stondin Rily
Cyflwynwyr Stwnsh
Gemau rhyfeddol gyda chyflwynwyr Stwnsh

12:00 | Storyville, Pontypridd
Found in Translation: Art or Alcemi?
Digwyddiad wedi ei drefnu fel rhan o Cwr Stryd Felin Frinj – Storyville Books. Digwyddiad Saesneg.

12:30 | Y Babell Lên
Creu argraff: Trafod cyfrolau diweddar dau fardd
Bethan Mair sy’n sgwrsio gyda Martin Huws (Gwasg y Bwthyn) a Tegwen Bruce-Deans (Barddas) am eu cyfrolau barddonol diweddar. Trefnir gan Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru.

13:00 | Stondin Paned o Gê
Paned gyda Megan Angharad Hunter a Dylan Huw
Yr awduron Megan Angharad Hunter a Dylan Huw sy’n sgwrsio am eu rhan yn rhaglen Writers at Work, Gŵyl y Gelli. Ariannir yn rhannol gan Lenyddiaeth Cymru.

14:00 | Maes D
Y Fawr a’r Fach 2
Mwy o Straeon o’r Rhondda gyda Siôn Tomos Owen.

14:15 | Stondin Rily
Amser Stori
Amser stori gyda chyflwynwyr Cyw.

14:30 | Stondin Cant a Mil
Ioan Kidd
Ioan Kidd yn arwyddo ei gyfrol ddiweddaraf, Tadwlad.


DYDD SUL, 4 AWST
11:00 | Stondin Cant a Mil
Alanna Pennar-Macfarlane
Pennar Bapur

11:00 | Stondin Ysgolion Cyfrwng Cymraeg Rhondda Cynon Taf
Curiad Coll 2
Alun Saunders yn trafod cyfieithu Curiad Coll 2.

14:00 | Maes D
Y Fawr a’r Fach 2
Mwy o Straeon o’r Rhondda gyda Siôn Tomos Owen.

11:30 | Y Babell Lên
O’r Cymoedd i’r byd: Addasu a chyhoeddi llyfrau
Dewch i wrando ar Manon Steffan Ros a Rachel Lloyd yn trafod addasu a chyhoeddi llyfrau gan weisg o’r Cymoedd a’u pwysigrwydd i’r Gymraeg. Trefnir gan Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru.

13:00 | Stondin Paned o Gê
Paned gyda Nia Morais a Lee Newbury
Ymunwch â Nia Morais, Bardd Plant Cymru, a Lee Newbury, awdur cyfres The Last Firefox, am sgwrs ddifyr am lenyddiaeth plant.  Ariannir gan Lenyddiaeth Cymru.

14:15 | Stondin Rily
Amser Stori
Amser stori gyda chyflwynwyr Cyw.

15:00 | Y Babell Lên
Siôn Tomos Owen ac Ieuan Rhys
Sgwrs a sbort gyda Siôn Tomos Owen ac Ieuan Rhys.

16:00 | Y Babell Lên
100 Record
Eädyth yn sgwrsio gyda’r darlledwr Huw Stephens am ei gyfrol Wales: 100 Records.


DYDD LLUN, 5 AWST

10:30 | Y Babell Lên
Dewch am dro
Ymunwch ȃ Siôn Tomos Owen (Y Lolfa a Barddas) a Rhys Mwyn (Gwasg Carreg Gwalch) am sgwrs am hanes a thirwedd bro’r Eisteddfod. Yn dilyn y sgwrs bydd taith gerdded o amgylch y maes ac i Stondin Cant a Mil ble bydd cyfle i brynu cyfrolau Siôn a Rhys wedi’u llofnodi.  Trefnir gan Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru.

11:00 | Stondin Barddas
Gruffudd Antur yn cyfweld Twm Morys
Gruffudd Antur yn cyfweld â Twm Morys – sesiwn i drafod y cylchgrawn, yn enwedig y rhifyn cyfredol. Mae Twm yn dod â’i gitâr neu’i fowthorgan hefyd.

11:30 | Stondin Rily
Cyflwynwyr Stwnsh
Gemau rhyfeddol gyda chyflwynwyr Stwnsh.

12:15 | Stondin Cant a Mil
Siôn Tomos Owen a Rhys Mwyn
Siôn Tomos Owen a Rhys Mwyn yn arwyddo eu cyfrolau.

12:30 | Stondin Y Lolfa
Archarwyr Byd Cyw
Lansiad Archarwyr Byd Cyw gyda Criw Cyw yn adrodd stori a chanu ambell i gân.

14:00 | Maes D
Y Fawr a’r Fach 2
Mwy o Straeon o’r Rhondda gyda Siôn Tomos Owen.

14:15 | Stondin Rily
Amser Stori
Amser stori gyda chyflwynwyr Cyw.

14:30 | Stondin Cant a Mil
Delwyn Siôn
Delwyn Siôn yn trafod ei gyfrol, Dyddie Da (Gwasg Carreg Gwalch).

15:30 | Stondin Rily
Genod Gwyrdd
Llio Maddocks yn trafod Genod Gwyrdd.

17:30 | Storyville Books, Pontypridd
BARN
Lansiad rhifyn Gorffennaf ac Awst o gylchgrawn BARN.

18:00 |  Stondin Paned o Gê
DRAMA
Dewch i weld detholiadau o ddramâu LHDTC+ Cymraeg wedi’u cyfarwyddo gan Juliette Manon. Maen nhw’n cynnwys: Dy Enw Farw gan Elgan Rhys, mewn cydweithrediad â Leo Drayton; Imrie gan Nia Morais a Nadolig (Baban, Dewch Adre)’ gan Nia Gandhi.


DYDD MAWRTH, 6 AWST
11:00 | Stondin Barddas
Siôn Tomos Owen
Siôn Tomos Owen yn diddanu a hyrwyddo’i gyfrol newydd, Pethau sy’n Digwydd.

11:00 | Stondin Cant a Mil
Josh Morgan
Cyfle i gwrdd a Josh Morgan, Sketchy Welsh.

11:00 | Stondin Cymraeg i Bawb
Dyddiadur Dripsyn
Owain Sion yn trafod addasu Dyddiadur Dripsyn.

11:30yb | Cymdeithasau
Hanesion Cudd
Menywod rhyfeddol Deiseb Heddwch 1924 – Y Bywgraffiadur Cymraeg gyda Catrin Stevens.

11:30 | Y Babell Lên
Ffynnon Taf, Iwerddon a Barbados
Iolo Cheung sy’n sgwrsio gyda’r awdur o Ffynnon Taf, Malachy Edwards (Gwasg y Bwthyn). Trefnir gan Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru.

11:30 | Y Pentref, Calon Taf
Kevin Dicks
RCT – the true heartland of handball, Wales’ first national sport gyda Kevin Dicks.

13:00 |  Stondin Paned o Gê
Paned gyda Y Cwmni – Criw Cwmni Theatr yr Urdd
Paned gyda Y Cwmni – Criw Cwmni Theatr yr Urdd sy’n trafod eu cynhyrchiad newydd, Ble mae trenau’n mynd gyda’r nos a chwestiynau mawr eraill bywyd. Mewn partneriaeth gyda Urdd Gobaith Cymru.

14:00 | Maes D
Y Fawr a’r Fach 2
Mwy o Straeon o’r Rhondda gyda Siôn Tomos Owen.

14:15 | Stondin Rily
Amser Stori
Amser stori gyda chyflwynwyr Cyw.

14:30 | Bwthyn Gwerin
Atgofion Dawnsio Gwerin Cymreig
Lansiad Atgofion Dawnsio Gwerin Cymreig gan Mavis Williams-Roberts.

14:30 | Stondin Cant a Mil
Amser stori
Rhys ap Trefor sy’n darllen Y Gryffalo.

 

DYDD MERCHER, 7 AWST
11:00 | Stondin Barddas
Aron Pritchard
Aron Pritchard – cyfweliad am ei gyfrol newydd, Egin a sesiwn arwyddo.

11:00 | Stondin Cant a Mil
Hyderus
Cyfle i chwarae’r gêm Hyderus.

11:30 | Stondin Rily
Cyflwynwyr Stwnsh
Gemau rhyfeddol gyda chyflwynwyr Stwnsh.

13:00 | Stondin Paned o Gê
Paned gyda Steffan Donnelly a Lowri Morgan
Paned gyda Steffan Donnelly a Lowri Morgan – Sgwrs am theatr a mwy gyda Chyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Steffan Donnelly, a seren drama ddiweddaraf y cwmni, Brên. Calon. Fi., Lowri Morgan. Mewn partneriaeth gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Ariannir gan Lenyddiaeth Cymru.

14:00 | Maes D
Y Fawr a’r Fach 2
Mwy o Straeon o’r Rhondda gyda Siôn Tomos Owen.

14:00 | Stondin Cant a Mil
Mari George
Mari George yn arwyddo Sut i Ddofi Corryn, enillydd Llyfr y Flwyddyn 2024.

14:15 | Stondin Rily
Amser Stori
Amser stori gyda chyflwynwyr Cyw.

15:00 | Y Babell Lên
Chwedlau llên gwerin
Cyfle i glywed am chwedlau, traddodiadau ac arferion poblogaidd ardal yr Eisteddfod a thu hwnt gyda Dr Delyth Badder ac Elidir Jones (Gwasg Prifysgol Cymru). Trefnir gan Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru.

15:00 | Stondin Y Lolfa
Owain Glyndŵr
Owain Glyndŵr yn ymweld â’r stondin!

15:15 | Stondin Rily
Catrin Wyn Lewis
Sesiwn lles gyda Catrin Wyn Lewis.

15:30 | Cymdeithasau
Apêl Heddwch Menywod Cymru at fenywod yr Unol Daleithiau, 1924
Jill Evans yn traddodi darlith flynyddol Undeb Cymru a’r Byd.

18:30 | Stondin Paned o Gê
Cerddi. Cariad. Cwiar
Noson o farddoniaeth gariadus gan feirdd LHDTC+ yn cynnwys Leo Drayton, Sarah McCreadie, Durre Shahwar Rufus Mufasa a Nia Wyn Jones. Ariannir gan Lenyddiaeth Cymru.


DYDD IAU, 8 AWST
10:30 | Y Babell Lên
Dylanwad y fro
Siôn Tomos Owen yn cyflwyno Elidir Jones (Atebol), Rebecca Thomas (Gwasg Carreg Gwalch), Robat Powell a Mari George (Barddas) sy’n trafod dylanwad ardal yr Eisteddfod ar eu gwaith. Trefnir gan Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru.

10:30 | Storyville, Pontypridd
Yr Apel – Women’s Peace Petition
Digwyddiad wedi ei drefnu fel rhan o Cwr Stryd Felin Frinj – Storyville Books.  Digwyddiad Saesneg.

11:00 | Stondin Barddas
Casia Wiliam
Casia Wiliam – sesiwn i blant yn seiliedig ar y gyfrol Y Gragen.

11:00 | Stondin Cant a Mil
Amser Stori
Amser stori gyda Theresa Mgadzah Jones, Mamgu, Mali a Mbuya.

11:30 | Stondin Rily
Cyflwynwyr Stwnsh
Gemau rhyfeddol gyda chyflwynwyr Stwnsh.

12:30 | Y Babell Lên
John Geraint
Jon Gower yn holi John Geraint am ei lyfr Up the Rhondda!

13:00 | Stondin Paned o Gê
Paned gyda Bethan Marlow a Lily Beau
Sgwrs gyda sgwenwyr dau o gynyrchiadau theatr mwyaf Cymru eleni, Bethan Marlow (Feral Monster) a Lily Beau (Ie, Ie, Ie). Cyfle i glywed am y sioeau, y broses ysgrifennu a mwy. Ariannir gan Lenyddiaeth Cymru.

14:00 | Maes D
Y Fawr a’r Fach 2
Mwy o Straeon o’r Rhondda gyda Siôn Tomos Owen.

14:00 | Stondin Y Lolfa
John Geraint
Sesiwn lofnodi gyda John Geraint, awdur Up the Rhondda!

14:00 | Stondin Rily
Casia Wiliam
Sesiwn stori a chreu gyda Casia Wiliam.

14:30 | Stondin Cant a Mil
Hanes yn y Tir
Elin Jones yn arwyddo copïau o Hanes yn y Tir.

15:00 | Stondin Y Lolfa
Owain Glyndŵr
Owain Glyndŵr yn ymweld â’r stondin!

15:00 | Storyville Books, Pontypridd
Yr Hen Iaith
Recordiad byw o bodlediad Yr Hen Iaith.  Digwyddiad wedi ei drefnu fel rhan o Cwr Stryd Felin Frinj – Storyville Books.

15:15 | Stondin Rily
Catrin Wyn Lewis
Sesiwn lles gyda Catrin Wyn Lewis.

18:00 | Storyville Books, Pontypridd
Celebrating the life of Gareth Miles
Digwyddiad wedi ei drefnu fel rhan o Cwr Stryd Felin Frinj – Storyville Books.  Digwyddiad Saesneg.


DYDD GWENER, 9 AWST
11:00 | Stondin Barddas
Elinor Wyn Reynolds yn holi Mari George
Elinor Wyn Reynolds yn holi Mari George Cyfle i werthu ei phamffled newydd, Rhaff, a Cherddi’r Arfordir.

11:00 | Stondin Cant a Mil
Rhisiart Arwel
Rhisiart Arwel ar y gitar.

11:30 | Stondin Rily
Cyflwynwyr Stwnsh
Gemau rhyfeddol gyda chyflwynwyr Stwnsh.

12:30 | Y Babell Lên
Pobl a Phryfed
Andrew Teilo sy’n trafod ei gyfrol Pobl a Phryfed.

13:00 | Stondin Paned o Gê
Paned gyda Rufus Mufasa, Nia Wyn Jones a Leo Drayton
Sgwrs am farddoniaeth ac ysgrifennu gyda’r beirdd, Rufus Mufasa, Nia Wyn Jones a Leo Drayton. Ariannir gan Lenyddiaeth Cymru.

14:00 | Stondin Y Lolfa
Cysgod y Mabinogi
Sesiwn lofnodi a gwin i ddathlu cyhoeddiad Cysgod y Mabinogi gan Peredur Glyn.

14:00 | Maes D
Y Fawr a’r Fach 2
Mwy o Straeon o’r Rhondda gyda Siôn Tomos Owen.

14:00 | Stondin Rily
Casia Wiliam
Sesiwn stori a chreu gyda Casia Wiliam.

14:30 | Stondin Cant a Mil
Helfa
Llwyd Owen yn arwyddo copiau o’i gyfrol, Helfa.

14:30 | Storyville Books, Pontypridd
Only Three Votes by Gwynoro Jones, Alun Gibbard
Lansiad Only Three Votes gyda’r Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS.   Digwyddiad wedi ei drefnu fel rhan o Cwr Stryd Felin Frinj – Storyville Books.  Digwyddiad Saesneg.

15:00 | Y Babell Lên
Fy Stori Fawr: Newyddiadurwyr y Cymoedd
Rhuanedd Richards yn holi Betsan Powys, Gwyn Loader a Russell Isaac.

15:00 | Cymdeithasau
Gofal ein Gwinllan 2
Lansiad Gofal ein Gwinllan 2.

15:30 | Stondin Rily
Genod Gwyrdd
Llio Maddocks yn trafod Genod Gwyrdd.


DYDD SADWRN, 10 AWST
11:00 | Stondin Cant a Mil
Scrabble
Cyfle i chwarae’r gêm Scrabble.

11:30 | Stondin Rily
Cyflwynwyr Stwnsh
Gemau rhyfeddol gyda chyflwynwyr Stwnsh.

13:30 | Y Babell Lên
Euros Bowen, bardd a beirniad yr Eisteddfod
Robert Rhys sy’n cloriannu arwyddocâd y gŵr o Dreorci ym maes barddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol, (Cyhoeddiadau Barddas). Trefnir gan Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru.

13:00 | Stondin Paned o Gê
Paned gyda Priya Hall a Leila Navabi
Sgwrs dros baned gyda’r digrifwyr Priya Hall a Leila Navabi am eu gyrfaoedd yn y diwydiant comedi, ysgrifennu stand-yp a chomedi ar radio a theledu. Ariannir gan Lenyddiaeth Cymru.

14:15 | Stondin Rily
Amser Stori
Amser stori gyda chyflwynwyr Cyw.

14:30 | Stondin Cant a Mil
Scrabble
Cyfle i chwarae’r gêm Scrabble.

15:00 | Cymdeithasau
Cofio Meic Stephens
Cofio’r golygydd llenyddol Cymraeg, newyddiadurwr, cyfieithydd, ysgrifwr coffa a bardd, yng nghwmni Yr Athro M Wynn Thomas a’r Prifardd Cyril Jones.

16:00 | Stondin Paned o Gê
Bloedd ar Goedd!
Yn dilyn llwyddiant Eisteddfod 2023, dewch i glywed casgliad o gomisiynau newydd gan ysgrifenwyr LHDTC+ wedi’u perfformio gan aelodau o’r gymuned, gan gynnwys Enfys Clara, Rebecca Hayes, Kayley Roberts a Kira Bissex. Ariannir gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Cylchgrawn llenyddol newydd sbon i ddarllenwyr Cymru a thu hwnt

Rhodd arbennig i gefnogi ac ysbrydoli awduron ifanc

Eleni, mae naw awdur ifanc wedi gallu cymryd cam yn nes at wireddu eu huchelgais i ddod yn awduron cyhoeddedig, diolch i gymynrodd hael gan Marie Evans, oedd yn dymuno cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu.

Diolch i deulu Marie, roedd Cyngor Llyfrau Cymru yn gallu trefnu encil ysgrifennu, er mwyn rhoi cyfle i awduron ifanc dreulio deuddydd yng nghwmni’r awdur Sioned Erin. Roeddent yn gallu cymryd amser i drafod ysgrifennu, rhannu syniadau a chymryd rhan mewn trafodaethau unigol gydag Erin i dderbyn ei sylwadau hi ar eu gwaith eu hunain. Mae’r grŵp hefyd wedi treulio amser gyda Phennaeth Datblygu Cyhoeddi y Cyngor Llyfrau, i gael cipolwg ar sut mae cyhoeddi yn gweithio a’r camau i’w cymryd i ddod yn awdur cyhoeddedig.

Dywedodd Caryl, a gymerodd ran yn y sesiynau, fod yr encil “wedi golygu cyfle i gamu allan o brysurdeb pob dydd a chymryd amser i wneud beth sydd mor bwysig i mi. Mae wedi fy ysbrydoli i ysgrifennu eto.”

Dywedodd Megan fod yr encil wedi galluogi’r grŵp i “ysbrydoli ein gilydd, dathlu creadigrwydd a gwahaniaethau ein gilydd a derbyn cyngor ar y pethau anoddach am ysgrifennu creadigol.”

Enillodd Sioned Erin y Fedal Rhyddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn 2022 gyda’i chyfrol o straeon byrion, Rhyngom. Hi arweiniodd yr encil, gan rannu ei phrofiadau ei hun o ddechrau fel ysgrifennwr i fod yn awdur cyhoeddedig arobryn.

Dywedodd Sioned Erin, “Y gweithdai hyn oedd rhai o’r cyntaf imi eu cynnal fel hwylusydd creadigol. Mae yna dipyn o leisiau blin yn eich pen ar y dechrau fel yna, ac mae rhywun yn aml yn cwestiynu a ydyn nhw’n ddigon da, ac yn ddigon profiadol, i gynnal gweithdai o’r fath. Ond wir, doedd dim angen imi boeni am un eiliad. Roedd y criw, a Bethan o’r Cyngor Llyfrau, mor hyfryd, mor gefnogol, ac yn eithriadol o weithgar, ac mae’r adborth wedi bod mor galonogol ac yn gymaint o hwb. Mae’r gweithdai hyn yn werthfawr tu hwnt i’r rhai sy’n mynychu, ond dwi’n prysuro i bwysleisio mor werthfawr ydyn nhw i’r sawl sy’n cynnal y gweithdai, hefyd. Diolch o galon am y cyfle.”

Dywedodd Bethan Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau: “Hoffem ddiolch o galon i deulu Marie am ein galluogi i gynnal yr encil ysgrifennu hwn er cof amdani. Bu Marie yn gweithio i’r Cyngor Llyfrau am dros 30 mlynedd, a’i dymuniad hi oedd cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu. Mae ei rhodd wedi rhoi cyfle i naw unigolyn ifanc weithio gydag awdur arobryn, ac i rannu eu profiadau, eu hysbrydoliaeth a’u syniadau gydag ysgrifenwyr ifanc eraill.”

Dewiswyd yr ysgrifenwyr yn dilyn galwad agored a gynhaliwyd yn 2023 yn gwahodd ysgrifenwyr ifanc 18–25 oed i gyflwyno cais gydag esiamplau o’u gwaith. Gwahoddwyd naw ysgrifennwr i gymryd rhan. Cynhaliwyd y sesiwn encil gyntaf ym mis Ionawr 2024, a chynhaliwyd yr ail ddiwrnod ym mis Mehefin. Rydym yn dymuno’r gorau i’r criw ac yn gobeithio y byddan nhw’n cadw mewn cysylltiad wrth iddynt barhau ar eu teithiau ysgrifennu.

Cylchgrawn llenyddol newydd sbon i ddarllenwyr Cymru a thu hwnt

Darllenwyr ifanc yn paratoi ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf

Mae darllenwyr ifanc o Ysgol Twm o’r Nant yn Ninbych wedi bod yn paratoi i fynd i’r afael â Sialens Ddarllen yr Haf eleni gyda’r awdur Leisa Mererid, mewn lansiad yn Llyfrgell Dinbych heddiw, dydd Mercher 10 Gorffennaf 2024.

Mae’r plant wedi ymuno â’r Sialens, a grëwyd gan yr elusen genedlaethol The Reading Agency, sydd â’r nod o’u cadw yn darllen dros wyliau’r haf, gyda digwyddiadau, gweithgareddau a llyfrau gwych – i gyd ar gael am ddim o’u llyfrgelloedd lleol.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf eleni, Crefftwyr Campus, yn dathlu creadigrwydd o bob math – dawnsio a darlunio, gwneud modelau allan o sbwriel a miwsig – mae rhywbeth at ddant pawb.

Ac mae awdur Leisa Mererid wedi rhoi dechrau da i’r dosbarth o Ysgol Twm o’r Nant wrth gyflwyno ei llyfr Y Wariar Bach gyda symudiadau ioga ac ymarferion anadlu.

Dywedodd Meira Jones o Lyfrgell Dinbych: “Rydym mor gyffrous i gael lansiad cenedlaethol Sialens Ddarllen yr Haf 2024 yn Llyfrgell Dinbych yn Sir Ddinbych eleni. Mae’r Sialens yn annog a hybu’r plant i ddarllen er pleser trwy’r haf gan wella eu sgiliau darllen a’u hyder. Dychymyg a chreadigrwydd yw’r themâu eleni felly mae rhywbeth i bawb, dewch i’ch llyfrgell leol i ymuno yn hwyl y Crefftwyr Campus!”

Dywedodd Dafydd Davies, Pennaeth Ysgol Twm o’r Nant: “Rydym yn falch iawn yma yn Ysgol Twm o’r Nant i gael bod yn rhan o’r lansiad yn Llyfrgell Dinbych. Fel ysgol rydym yn weithgar iawn wrth hybu dysgwyr i ddarllen er mwyn pleser ac yn sicr bydd cael bod yn rhan o’r lansiad yma yn hyrwyddo’r dysgwyr ifanc i barhau i ddarllen dros wyliau’r haf.”

Darperir Sialens Ddarllen yr Haf blynyddol gan The Reading Agency. Fe’i cefnogwyd yng Nghymru gan Cyngor Llyfrau Cymru, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru. Mewn partneriaeth â llyfrgelloedd lleol, nod y cynllun yw helpu atal y gostyngiad mewn darllen dros yr haf y mae llawer o blant yn ei brofi pan nad ydynt yn yr ysgol. Gyda chefnogaeth y llyfrgelloedd, mae’n darparu ffordd hwyliog o gadw meddyliau ifanc yn effro, yn rhad ac am ddim.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Rwy’n gwybod cymaint o bleser yw ymgolli mewn llyfr da. Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wych i blant ddatblygu eu sgiliau darllen, darganfod awduron newydd ac i feithrin angerdd gydol oes tuag at lyfrau.

“Dyna pam yr ydym yn ariannu’r cynllun hwn eto eleni i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i barhau i ddarllen yn ystod gwyliau’r haf.”

Gall darllenwyr ifanc 4–11 oed gofrestru am y Sialens yn eu llyfrgell leol, neu ar-lein i gasglu gwobrau, darganfod llyfrau newydd, cofnodi eu darllen a mwynhau ystod o weithgareddau yn rhad ac am ddim. Ewch i ddarganfod mwy yn eich llyfrgell leol neu ar wefan sialensddarllenyrhaf.org.uk.

Cylchgrawn llenyddol newydd sbon i ddarllenwyr Cymru a thu hwnt

Dros 40 o brosiectau yn derbyn arian Cynulleidfaoedd Newydd

Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi dros 40 o brosiectau sy’n rhannu cronfa o £500,000 yn nhrydedd flwyddyn y Grant Cynulleidfaoedd Newydd

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi’r 44 prosiect ledled Cymru sydd wedi derbyn arian trwy’r Grant Cynulleidfaoedd Newydd yn 2024.

Derbyniwyd ceisiadau am brosiectau gwerth bron £1 filiwn ar gyfer cronfa o £500,000. Arian gan Lywodraeth Cymru, trwy Cymru Greadigol oedd hwn, gyda’r nod o gefnogi a datblygu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.

Gwahoddwyd ceisiadau o dan dair thema: rhaglenni hyrwyddo a marchnata llyfrau sy’n cyrraedd darllenwyr newydd yn y Gymraeg a’r Saesneg; rhoi cyfleoedd i leisiau newydd o fewn gwasanaethau newyddion a chylchgronau poblogaidd; a datblygu a chyhoeddi cynnwys newydd sy’n adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth.

Ymhlith y prosiectau i dderbyn arian mae’r canlynol:

Atebol: Prosiect hyrwyddo cyfrolau i oedolion gwasgnod newydd Sebra i gynulleidfaoedd newydd
Bydd Atebol yn adeiladu ar lwyddiant cynnar Sebra, eu gwasgnod newydd a chyfoes sydd â ffocws cryf ar ddatblygu cynulleidfaoedd a thalent newydd. Bydd yn cynnwys pecyn creu deunydd digidol blaengar i hyrwyddo llyfrau, prosiect gweledol a gweithio gyda chwmni allanol arbenigol i ddatblygu arddull cloriau Sebra.

Material Queer
Bydd Material Queer yn comisiynu ystod o newyddiadurwyr Cymraeg neu o Gymru i gyflwyno erthyglau mewn fformatau archwiliadol megis fideo neu sain er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ar draws llwyfannau amryfal, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyfryngau cymdeithasol. Bydd yr alwad am gyflwyniadau yn digwydd ledled y wlad. Bydd y newyddiadurwyr a ddewisir yn cael cyfleoedd ar gyfer cysylltiad a dysgu a byddant yn cael eu mentora trwy gydol eu comisiwn. Nod Material Queer yw arallgyfeirio nid yn unig y newyddion, ond pwy sy’n ei adrodd a sut, yng Nghymru; gan greu newid strwythurol pwysig a fydd yn y pen draw yn cryfhau’r diwydiant.

Urdd Gobaith Cymru
Bwriad yr Urdd yw cynnig cyfle i ddatblygu a mentora person ifanc i gyfrannu cartwnau i gylchgrawn Cip a meithrin doniau a sgiliau fydd yn cyfrannu at y byd cyhoeddi yng Nghymru yn y dyfodol. Byddwn yn cynnig cyfleoedd mentora gydag unigolion profiadol ac ysbrydoledig gyda’r nod o ddatblygu’r gallu i ddweud stori drwy gyfrwng geiriau a darluniau.

Seren Books: Newid o’r Tu Fewn
Drwy’r prosiect hwn, bydd Seren yn penodi unigolyn ar ddechrau ei yrfa sydd â phrofiad byw o hiliaeth, ablaeth a/neu dlodi fel Golygydd Desg yn Seren lle byddant yn cael profiad uniongyrchol o weithio yn y fasnach lyfrau yng Nghymru. Bydd y rôl yn cynnwys uwchsgilio mewn golygu copi a golygu creadigol trwy fentora a chwrs hyfforddi byr. Gyda chymorth mentor, byddant hefyd yn arwain prosiect i gomisiynu teitlau ffuglen a ffeithiol newydd gan awduron sydd wedi cael profiad byw o hiliaeth, ablaeth a/neu dlodi trwy alwad agored. Yna bydd yr awduron llwyddiannus a’r Golygydd Desg yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu cynigion yn gynigion cyhoeddi ar gyfer rhaglen gyhoeddi Seren 2025/26.

Lucent Dreaming: Blodeugerdd o Ysgrifenwyr Cymraeg Byddar ac Anabl
Bydd Lucent Dreaming yn comisiynu a datblygu blodeugerdd ddwyieithog o’r enw Beyond/Tu Hwnt: Blodeugerdd o Ysgrifenwyr Cymraeg Byddar ac Anabl, wedi’i golygu gan Bethany Handley, Megan Angharad Hunter a Sioned Erin Hughes, gyda’r bwriad o’i chyhoeddi. Bydd y llyfr yn cynnwys gwaith dros 20 o gyfranwyr. Bydd y prosiect yn datblygu ysgrifennu i’w gyhoeddi gan awduron Byddar ac Anabl. Nod y flodeugerdd hon yw creu gofod ar gyfer, ac i roi ar gadw, leisiau cyfoethog ac amrywiol y Gymru gyfoes ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru am gefnogi’r gronfa hollbwysig hon eto, yn enwedig mewn blwyddyn pan fydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael cymaint o effaith ar y busnesau a’r mentrau sydd wedi derbyn grantiau. Roedd y gystadleuaeth am y grant eleni yn uwch nag erioed gyda llawer o geisiadau rhagorol, ac er nad oedd yn bosib i ni ariannu pob un, roeddem yn falch iawn o weld cymaint o gynigion creadigol, blaengar yn cael eu cyflwyno. Rydym yn edrych ymlaen at weld canlyniadau’r prosiectau cyffrous hyn ar ddiwedd y flwyddyn.”

Ers 2022 mae Cymru Greadigol wedi cefnogi’r Grant Cynulleidfaoedd Newydd gyda chyllid o dros £1.5 miliwn, yn cefnogi dros 100 o brosiectau gwahanol ledled Cymru.

Dywedodd Gweinidog y Diwydiannau Creadigol, Sarah Murphy: “Mae cefnogi dros 100 o brosiectau o dan ein Grant Cynulleidfaoedd Newydd yn gyflawniad mor wych. Mae’r cyllid hwn yn caniatáu i leisiau newydd ac amrywiol gael eu clywed ledled Cymru a thu hwnt.

“Mae nifer y ceisiadau o ansawdd uchel a dderbyniwyd yn dangos bod galw gwirioneddol am y cyllid hwn, i ddatblygu a chefnogi ymhellach ddiwydiant cyhoeddi sy’n cynrychioli Cymru gyfan. Pob lwc i bawb sy’n cael cefnogaeth drwy’r gronfa.”

Mae rhestr lawn o’r prosiectau sydd wedi derbyn arian yn y rownd yma i’w gweld ar wefan y Cyngor Llyfrau: Grantiau | Cyngor Llyfrau Cymru

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2024

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2024

Cyhoeddwyd enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2024 yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn ym Meifod, mewn seremoni arbennig amser cinio heddiw, ddydd Mercher 29 Mai.

Enillydd y categori cynradd ydy Jac a’r Angel gan Daf James, ac enillydd y categori uwchradd ydy Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter – dwy nofel sydd yn dathlu pŵer y dychymyg i’n helpu i ymdopi ag amseroedd a phrofiadau anodd.

Enillydd y categori Cynradd:
Jac a’r Angel gan Daf James, darluniwyd gan Bethan Mai (Y Lolfa)
Nofel ddoniol, annwyl a theimladwy. Mae Jac a’r Angel yn stori Nadoligaidd hwyliog. Bydd oedolion a phlant yn gallu mwynhau stori’r bachgen diniwed sy’n defnyddio ei ddychymyg i oresgyn galar a grymoedd tywyll bywyd.

Dywedodd Daf James: “Ers i fi fedru darllen yn blentyn, dwi wedi bod yn ymwybodol o wobrau Tir na n-Og, gan fod cynifer o’r awduron ro’n i’n eu mwynhau wedi ennill y wobr: awduron fel T. Llew Jones, J. Selwyn Lloyd, Irma Chilton, Gwenno Hywyn, Penri Jones, Jenny Nimmo… mae’r rhestr yn hirfaith! Mae’n wobr hollbwysig sy’n dathlu ac yn tynnu sylw haeddiannol at lyfrau plant a phobl ifanc, ac mae cael ymuno â rhestr o arwyr llenyddol fy mhlentyndod yn gwireddu breuddwyd fawr i mi.

Er mai dramodydd ydw i gan amlaf, llyfrau – nid dramâu – oedd fy angerdd llenyddol cyntaf. Roedd cael dianc i fyd y stori yn falm i’r enaid pan on i’n grwtyn bach ecsentrig, a dwi wedi ysu am gael sgwennu nofel ers hynny. Dod yn dad nath fy ysgogi i fwrw ati – ro’n i eisiau sgwennu stori i’m plant – ac felly dwi’n diolch o waelod calon iddyn nhw am fod yn ysbrydoliaeth; ond hefyd dwi’n ddiolchgar i’r awduron hynny a ddaeth o’m blaen, ac a wnaeth i fi gredu, fel Jac yn Jac a’r Angel, bod unrhyw beth yn bosib pan fo’r dychymyg ar dân.”

Enillydd y categori Uwchradd:
Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)
Mae Rosie wedi gwirioni ar y gyfres deledu Yr Estronos ac ar ofodwyr, a phan mae llong ofod yn glanio yn yr ardd gefn, mae wrth ei bodd. Nofel yw hon am greu cyfeillgarwch, am deithio’n ôl ac ymlaen mewn amser, am dyfu i fyny mewn byd cymhleth ac anodd, ac am wthio ffiniau’r dychymyg i’r eithaf.

Dywedodd Megan Angharad Hunter: “Does ’na ddim geiria sy’n gallu esbonio gymaint ma’r anrhydedd hwn yn ei olygu i fi. Fel plentyn ac yn ystod fy arddegau, ro’n i wastad yn cadw llygad ar Wobrau Tir na n-Og felly mae ei hennill, a hynny am lyfr sy mor agos at fy nghalon – yn brofiad bendigedig o swreal.

Bysa llyfr fel Astronot yn yr Atig wedi bod yn gysur mawr i fi pan o’n i’n yr ysgol felly gobeithio y bydd hi’n gysur i blant Cymru heddiw hefyd, ac yn mynd â nhw ar antur gyffrous a dychmygus ar draws y gofod!

Mae Gwobr Tir na n-Og mor bwysig achos dydi llyfrau plant ddim yn cael hanner digon o sylw, yn enwedig rhai Cymraeg gwreiddiol, sy’n eironig iawn achos mae angen darllenwyr iau i sicrhau y bydd ’na ddarllenwyr Cymraeg sy’n oedolion yn nes ymlaen! Ma ’na lot o resyma pam dwi’n meddwl fod llyfrau plant yn bwysicach, o bosib, na rhai oedolion – ond dyma un ohonyn nhw.”

Roedd gan ddisgyblion o Ysgol Pennant, Penybont Fawr, a Gwenno Wigley o Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth ran arbennig i’w chwarae yn y seremoni heddiw, gan berfformio darnau o’r nofelau buddugol i’r awduron a’r gynulleidfa.

Mae Gwobrau blynyddol Tir na n-Og, a sefydlwyd yn 1976, yn dathlu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Trefnir hwy gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru Wales.

Dywedodd Jamie Finch, Cadeirydd CILIP Cymru Wales: “Ar ran CILIP Cymru Wales, rydym yn falch unwaith eto i gefnogi’r Gwobrau Tir na n-Og blynyddol, sy’n amlygu rhai o’r llyfrau mwyaf ysbrydoledig a difyr sydd wedi eu hysgrifennu i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Llyfrau Cymru am drefnu’r gwobrau, ac wrth gwrs, i’r panel beirniaid am ymgymryd â’r dasg o ddewis enillydd.”

Y teitlau eraill ar y rhestr fer o lyfrau yn y categorïau Cymraeg oedd:

Cynradd

  • Mari a Mrs Cloch gan Caryl Lewis, darluniwyd gan Valériane Leblond (Y Lolfa)
  • Wyneb yn Wyneb gan Sioned Wyn Roberts (Atebol)
  • Y Gragen gan Casia Wiliam, darluniwyd gan Naomi Bennet (Cyhoeddiadau Barddas)


Uwchradd

  • Fi ydy Fi gan Sian Eirian Lewis, darluniwyd gan Celyn Hunt (Y Lolfa)
  • Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam (Y Lolfa)

Cyhoeddwyd hefyd enillwyr Gwobrau Cymraeg Dewis y Darllenwyr. Gwobrau arbennig yw’r rhain wedi’u dewis o deitlau’r rhestr fer ymhob categori gan y plant a’r bobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Gwobrau Tir na n-Og.

Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr yn y categori cynradd yw Mari a Mrs Cloch gan Caryl Lewis, darluniwyd gan Valériane Leblond (Y Lolfa)

Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr Cymraeg yn y categori uwchradd yw Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam (Y Lolfa)

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau gwresog iawn i Daf James a Megan Angharad Hunter ar ennill Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og eleni. Llongyfarchiadau hefyd i Caryl Lewis a Casia Wiliam am ennill Gwobrau Dewis y Darllenwyr.

Diolch i bawb fu’n ran o’r gwobrau eleni, gan ddiolch yn arbennig i’r llyfrgellwyr, athrawon a’r llyfrwerthwyr am eu rhan hanfodol yn helpu darllenwyr ifanc i ddarganfod y llyfrau arbennig hyn.”

Mewn seremoni arbennig yng nghynhadledd CILIP ar 17 Mai, cyhoeddwyd mai Where the River Takes Us gan Lesley Parr (cyhoeddir gan Bloomsbury) oedd enillydd y categori Saesneg, ynghyd â’r wobr Saesneg Dewis y Darllenwyr eleni.

Mae rhagor o fanylion am y gwobrau a’r teitlau i’w cael ar wefan y Cyngor Llyfrau – llyfrau.cymru

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2024

Cyhoeddi Enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2024

Where the River Takes Us gan Lesley Parr (cyhoeddwyd gan Bloomsbury Publishing) yw enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2024 am lenyddiaeth i blant a phobl ifanc.

Yr awdur Lesley Parr yw enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2024 gyda’r gyfrol Where the River Takes Us – stori antur gyffrous wedi ei lleoli mewn cwm yng Nghymru yn y 1970au ac wedi’i chyhoeddi gan Bloomsbury.

Cyhoeddwyd enw’r enillydd mewn seremoni amser cinio, dydd Gwener 17 Mai yng Nghynhadledd CILIP Cymru Wales yng Nghaerdydd, gan y gantores, actor a chyflwynydd Miriam Isaac.

Dyma’r ail dro i Lesley ennill Gwobr Saesneg Tir na n-Og, yn dilyn llwyddiant ei nofel oedd wedi’i lleoli yn amser rhyfel, The Valley of Lost Secrets yn 2022. Mae ei nofel fuddugol y tro hwn wedi’i gosod yn 1974; cyfnod y streiciau, caledi a’r wythnos tri diwrnod, ond mae hefyd yn stori sy’n llawn hiwmor a chyfeillgarwch:

Chwefror 1974. Mae sibrydion yn adleisio drwy’r dyffryn – hanesion am fwystfil gwyllt yn crwydro’r mynyddoedd. Pan gynigir gwobr am brawf o’i fodolaeth, mae Jason a’i ffrindiau yn benderfynol o ddod o hyd i’r creadur yn gyntaf. Ond i Jason, mae’n fwy na chwest – mae’r arian yn ffordd iddo fe a’i frawd aros gyda’i gilydd. Felly cychwynnodd y pedwar ffrind, gan ddilyn yr afon i’r gogledd, heb sylweddoli y bydd y daith hon yn eu gwthio i’w terfynau. Mae antur anhygoel yn aros amdanynt …

Dywedodd Lesely Parr: “Rydw i wrth fy modd bod Where the River Takes Us wedi ennill Gwobr Saesneg Tir na n-Og. Rwy’n mwynhau ysgrifennu am fy math i o Gymru – pobl gyffredin yn gwneud pethau anghyffredin gyda Chymreictod y dosbarth gweithiol yn gefnlen i’r cyfan. Mae derbyn cydnabyddiaeth ar y lefel hon – yn fy ngwlad fy hun – yn wobr arbennig iawn.”

Mae Gwobrau blynyddol Tir na n-Og, a sefydlwyd yn 1976, yn dathlu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Trefnir hwy gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru Wales.

Dywedodd Simon Fisher, Cadeirydd y panel beirniaid: “Llongyfarchiadau i Lesley ar ennill y wobr eleni. Mae Where the River Takes Us yn bortread hyfryd a dilys o gyfeillgarwch a thrafferthion teuluol. Mae’r nofel afaelgar hon am fywyd caled y 1970au a’r chwilota am gath wyllt yn llawn digwydd ac wedi’i ysgrifennu’n gelfydd ac yn llawer iawn o hwyl.”

Dywedodd Jamie Finch, Cadeirydd CILIP Cymru Wales: “Ar ran CILIP Cymru Wales, rydym yn falch unwaith eto i gefnogi’r Gwobrau Tir na n-Og blynyddol, sy’n amlygu rhai o’r llyfrau mwyaf ysbrydoledig a difyr sydd wedi eu hysgrifennu i blant a phobl ifanc yng Nghymru.”

Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Llyfrau Cymru am drefnu’r gwobrau, ac wrth gwrs, i’r panel beirniaid am ymgymryd â’r dasg o ddewis enillydd.”

Y teitlau eraill ar y rhestr fer o lyfrau yn y categori Saesneg oedd:

  • Vivi Conway and the Sword of Legend by Lizzie Huxley-Jones (Knights of Media)
  • The Ghosts of Craig Glas Castle by Michelle Briscombe (Candy Jar Books)

Cyhoeddwyd Where the River Takes Us yn enillydd Gwobr Saesneg Dewis y Darllenwyr 2024 hefyd. Gwobr arbennig yw hon, wedi’i dewis o deitlau’r rhestr fer gan y plant a’r bobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Gwobr Tir na n-Og.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau gwresog iawn i Lesley ar ei champ yn ennill Gwobr Saesneg Tir na n-Og am yr ail waith, ac am ennill Gwobr Dewis y Darllenwyr eleni hefyd. Diolch i bawb fu’n ran o’r gwobrau eleni, gan ddiolch yn arbennig i’r llyfrgellwyr, athrawon a’r llyfrwerthwyr am eu rhan hanfodol yn helpu darllenwyr ifanc i ddarganfod y llyfrau arbennig hyn.”

Cyhoeddir enwau enillwyr dau gategori Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2024 yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn ym Meifod am 1pm ar ddydd Mercher 29 Mai 2024.

Mae rhagor o fanylion am y gwobrau a’r teitlau i’w cael ar wefan y Cyngor Llyfrau

Cylchgrawn llenyddol newydd sbon i ddarllenwyr Cymru a thu hwnt

Cyhoeddi cronfa o £500,000 ar gyfer Grant Cynulleidfaoedd Newydd 3

Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ceisiadau ar gyfer Grant Cynulleidfaoedd Newydd 3 wrth gyhoeddi cronfa newydd o £500,000

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ceisiadau ar gyfer trydedd rownd y Grant Cynulleidfaoedd Newydd, diolch i £500,000 gan Lywodraeth Cymru, trwy Cymru Greadigol.

Pwrpas y grant yw cynnal a datblygu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Mae grantiau ar gael i gyhoeddwyr, elusennau neu sefydliadau yng Nghymru ar gyfer:

Creu cynlluniau hyrwyddo a marchnata a fydd yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd

  • Grantiau ar gael o hyd at £20,000 yr ymgeisydd ar gyfer rhaglenni hyrwyddo a marchnata llyfrau sy’n cyrraedd darllenwyr newydd yn Gymraeg ac yn Saesneg.


Rhoi cyfle i leisiau newydd yn y wasg gyfnodol

  •  Grantiau ar gael o hyd at £15,000 yr ymgeisydd i ddatblygu lleisiau newydd ac amrywiol o fewn gwasanaethau newyddion a chylchgronau poblogaidd.


Cyhoeddi cynnwys newydd sy’n adlewyrchu Cymru yn ei holl
 amrywiaeth

  • Grantiau ar gael o hyd at £30,000 yr ymgeisydd i ddatblygu cynnwys diwylliannol amrywiol o Gymru, gan arwain at gyhoeddi mewn llyfrau, cylchgronau neu ar-lein yng Nghymru.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym yn falch iawn o fedru cynnig Grant Cynulleidfaoedd Newydd am y drydedd flwyddyn, ac rydym yn ddiolchgar i Cymru Greadigol am barhau i gefnogi ein gwaith i greu cyfleoedd o fewn y diwydiant cyhoeddi, ac i gefnogi cynnwys sydd yn adlewyrchu Cymru gyfan.”

Mae gwybodaeth a chanllawiau’r grant, a’r ddolen i’r ffurflen gais ar gael ar wefan y Cyngor Llyfrau Grantiau | Cyngor Llyfrau Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, ddydd Mawrth 2 Ebrill 2024.

Cylchgrawn llenyddol newydd sbon i ddarllenwyr Cymru a thu hwnt

Datgelu Rhestr Fer Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2024

Datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru a’r cyflwynydd, y dylanwadwr a’r llyfrbryf Ellis Lloyd Jones y teitlau sydd wedi cyrraedd rhestr fer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og ddydd Gwener, 15 Mawrth am 12pm ar eu cyfrifon Instagram a TikTok. Mae’r gwobrau yn dathlu’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2023.

Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u cefnogi gan CILIP Cymru. Maent yn anrhydeddu ac yn dathlu’r awduron a’r darlunwyr mwyaf creadigol, a’r deunyddiau darllen gorau i blant.

Bydd Ellis yn datgelu’r llyfrau ar y rhestr fer o leoliad siop lyfrau arbennig. Eleni mae’r tair stori yn dathlu popeth sydd yn fwganaidd, yn fwystfilaidd ac yn ddirgel, a byddan nhw’n mynd â darllenwyr ifanc ar anturiaethau anhygoel sydd wedi’u gwreiddio yn hanes a mytholeg Cymru.

Dyma’r rhestr fer ar gyfer llyfr Saesneg gyda dimensiwn Cymreig dilys:

The Ghosts of Craig Glas Castle gan Michelle Briscombe (Candy Jar Books)
Dilynwch Flora ac Archie wrth iddynt ymchwilio i gyfrinachau arswydus y gorffennol yng Nghastell Craig Glas. Tra bod Dad yn prisio’r hen bethau, a fydd ysbrydion y castell yn rhoi digon o gliwiau i Flora ac Archie ddarganfod cyfrinachau’r ardd ddirgel ac unioni camweddau’r gorffennol? Stori gyflym a chyffrous sy’n llawn ffantomau, cyfeillgarwch a theulu.

Vivi Conway and the Sword of Legend gan Lizzie Huxley-Jones (Knights of)
Mae’r llyn wedi bod yn galw ar Vivi Conway, sy’n ddeuddeg oed. Ar y diwrnod y bydd hi a’i Mamau yn symud o Gymru i Lundain, mae hi’n sleifio allan i ymchwilio i’r hyn sy’n ei galw yno. Yn hytrach na nofio’n dawel, mae’n dod o hyd i Excalibur (sy’n llawer llai na’r disgwyl), anghenfil ffyrnig (llawer mwy dychrynllyd mewn bywyd go iawn nag yn ei llyfrau mytholeg), ffrind newydd (nad yw hi eisiau o gwbl) o’r enw Dara a chi ysbryd o’r enw Gelert (sy’n gallu siarad). Stori wych, gynhwysol yn llawn mythau a chwedlau Cymreig sy’n eich hudo ar daith anturus afaelgar.

Where the River Takes Us gan Lesley Parr (Bloomsbury Publishing Ltd)
Chwefror 1974. Mae sibrydion yn adleisio drwy’r dyffryn – hanesion am fwystfil gwyllt yn crwydro’r mynyddoedd. Pan gynigir gwobr am brawf o’i fodolaeth, mae Jason a’i ffrindiau yn benderfynol o ddod o hyd i’r creadur yn gyntaf. Ond i Jason, mae’n fwy na chwest – mae’r arian yn ffordd iddo fe a’i frawd aros gyda’i gilydd. Felly cychwynnodd y pedwar ffrind, gan ddilyn yr afon i’r gogledd, heb sylweddoli y bydd y daith hon yn eu gwthio i’w terfynau. Mae antur anhygoel yn aros amdanynt …

Clod Arbennig
Roedd y beirniaid hefyd eisiau rhoi cydnabyddiaeth arbennig i’r pedair cyfrol gyflwynwyd o’r gyfres Welsh Wonders (Broga); cyfres o lyfrau sydd yn dathlu bywydau a chyflawniadau Cymry adnabyddus, a’u dylanwad parhaol yng Nghymru a thu hwnt.

Ann (gan Menna Machreth, darluniwyd gan Emily Kimbell), Laura (gan Mari Lovgreen, darluniwyd gan Sara Rhys), Betty (gan Nia Morais, darluniwyd gan Anastasia Magloire), a Wallace (gan Aneirin Karadog, darluniwyd gan Alyn Smith).

Bob blwyddyn, mae paneli annibynnol yn penderfynu ar y rhestrau byrion ac yn dewis yr enillwyr ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg. Y beirniaid ar y panel Saesneg eleni oedd Simon Fisher (Cadeirydd), Elizabeth Kennedy, Karen Gemma Brewer a Katie Rees.

Meddai Simon Fisher, Cadeirydd y Panel Saesneg: “Mae’r beirniaid wrth eu boddau gyda’r rhestr fer eleni. Yr hyn sydd wrth wraidd gwobr Tir na n-Og yw pwnc Cymraeg dilys – ac mae hynny’n amlwg yn y tair stori hon. Mae’r beirniaid o’r farn bod y rhestr fer yn berthnasol ac yn gyfarwydd i blant ledled Cymru a bod yr ysgrifennu hyderus yn darparu profiad darllen hudolus a phleserus. Mae gan y tri theitl hunaniaeth unigryw a pharhaol sy’n caniatáu i ddarllenwyr archwilio a deall pynciau emosiynol, gan ychwanegu at hunaniaeth ddiwylliannol gyffredin hefyd.”

Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau i’r awduron a’r darlunwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni. Roedd y ceisiadau’n ardderchog unwaith eto eleni a hoffwn ddiolch i’r paneli beirniaid am eu holl waith i ddewis y rhestrau byrion o blith cymaint o deitlau gwych. Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at weld pa lyfrau fydd yn fuddugol yn yr haf ac yn dymuno pob lwc i bawb.”

Meddai Ellis Lloyd Jones: “Rydw i wrth fy modd yn darllen, a does dim byd gwell na llyfr sydd yn gwneud i chi wenu, sydd yn mynd â chi ar anturiaethau ac yn eich cludo chi i fydoedd gwahanol. A’r peth gorau am wobrau Tir na n-Og ydy eu bod nhw’n dathlu llyfrau o Gymru! Nid yw rhestr fer eleni yn siomi – mae pob llyfr yn llawn dirgelwch, antur, a hud a lledrith.”

 Gallwch weld y cyhoeddiad ar

Instagram: xellislloydjonesx a books.wales

TikTok: @ellislloydjones

Cyhoeddwyd y rhestrau byrion ar gyfer llyfrau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og ar raglen Heno ar S4C nos Fercher 13 Mawrth.

Eleni, bydd cyfle unwaith eto i blant a phobl ifanc ddewis enillwyr categori arbennig, sef Gwobr Barn y Darllenwyr: tlws arbennig i lyfrau a ddewisir gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynllun cysgodi Tir na n-Og. Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillwyr o blith y rhestr fer, gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Cewch fanylion ar sut i gofrestru ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru

Bydd y Cyngor Llyfrau yn cyhoeddi enillydd y categori Saesneg ar ddydd Gwener, 17 Mai, yng nghynhadledd CILIP Cymru Wales yng Nghaerdydd, ac enillwyr y categorïau Cymraeg am 1pm ddydd Mercher, 29 Mai, ar Faes Eisteddfod yr Urdd, Meifod.

Bydd siopau llyfrau a llyfrgelloedd yn cynnal Helfeydd Trysor Tir na n-Og yn ystod y gwyliau Pasg gyda chyfle i blant rhwng 4 ac 11 oed gymryd rhan. Gofynnwch i’ch siop lyfrau leol neu lyfrgell am fanylion.

Cewch fwy o wybodaeth am y gwobrau a llyfrau ar y rhestrau byrion ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru

Cylchgrawn llenyddol newydd sbon i ddarllenwyr Cymru a thu hwnt

Cyhoeddi Rhestr Fer Gymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2024

Datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru y llyfrau Cymraeg sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og ar raglen Heno ar S4C nos Fercher, 13 Mawrth. Mae’r gwobrau yn dathlu’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2023.

Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u cefnogi gan CILIP Cymru. Maent yn anrhydeddu ac yn dathlu’r awduron a’r darlunwyr mwyaf creadigol, a’r deunyddiau darllen gorau i blant.

Mae gan y wobr Gymraeg ddau gategori: Cynradd (4–11 oed) ac Uwchradd (11–18 oed).

Er bod ystod eang o themâu, cymeriadau ac arddulliau yn y llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni, llyfrau i uniaethu gyda nhw ydyn nhw i gyd. Cawn ddilyn cymeriadau sy’n dod o hyd i gyfeillgarwch, yn darganfod profiadau newydd ac sy’n byw trwy gyfnodau anodd – gan ddysgu sut i ddod i adnabod a derbyn ein gilydd, a ni ein hunain.

RHESTR FER AR GYFER Y CATEGORI CYNRADD:

Jac a’r Angel gan Daf James, darluniwyd gan Bethan Mai (Y Lolfa)
Nofel ddoniol, annwyl a theimladwy. Mae Jac a’r Angel yn stori Nadoligaidd hwyliog. Bydd oedolion a phlant yn gallu mwynhau stori ‘dod i oed’ y bachgen diniwed sy’n defnyddio ei ddychymyg i oresgyn galar a grymoedd tywyll bywyd.

Mari a Mrs Cloch gan Caryl Lewis, darluniwyd gan Valériane Leblond (Y Lolfa)
Mae Mari’n mynd â mins peis at Mrs Cloch drws nesa ar Noswyl Nadolig – hen ddynes fach unig, nad oed neb byth yn galw i’w gweld, yw Mrs Cloch. Mae Mari yn ei helpu i addurno’r goeden Nadolig ag addurniadau o bob cwr o’r byd, ac mae ymwelydd annisgwyl iawn yn galw yn y tŷ …

Wyneb yn Wyneb gan Sioned Wyn Roberts (Atebol)
Mwrddrwg ydy Twm. Dwyn. Twyllo. Bwlio. Mae e’n giamstar ar y cyfan. Ond mae rhywbeth ar goll; mae gwacter yn ei fywyd a does ganddo ddim syniad pam. Un noson dywyll, pan mae Twm y Lleidr wrth ei waith, daw wyneb yn wyneb â’i ffawd, a darganfod gwirionedd ysgytwol sy’n newid cwrs ei fywyd am byth.

Y Gragen gan Casia Wiliam, darluniwyd gan Naomi Bennet (Cyhoeddiadau Barddas)
Dyma stori mewn mydr ac odl am blentyn o’r ddinas fawr yn ymweld â thraeth mewn pentref ar lan y môr am y tro cyntaf. Yno mae’r plant yn chwerthin wrth fwyta hufen iâ, y gwymon yn gwichian a byd natur yn canu’n un.

RHESTR FER AR GYFER Y CATEGORI UWCHRADD:

Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)
Mae Rosie wedi gwirioni ar y gyfres deledu Yr Estronos ac ar ofodwyr, a phan mae llong ofod yn glanio yn yr ardd gefn, mae wrth ei bodd. Nofel am greu cyfeillgarwch, am deithio’n ôl ac ymlaen mewn amser, am dyfu i fyny mewn byd cymhleth ac anodd, ac am wthio ffiniau’r dychymyg i’r eithaf.

Fi ydy Fi gan Sian Eirian Lewis, darluniwyd gan Celyn Hunt (Y Lolfa)
Llyfr gwybodaeth i ferched am dyfu i fyny. Mae pob pennod yn trafod agwedd benodol o’r profiad o dyfu i fyny, gan gynnwys: Pam mae fy nghorff yn aeddfedu?, Hormonau, Bronnau, Blew, Chwysu, Croen, Mislif, Deall fy emosiynau, Fy Nghorff a Ffrindiau.

Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam (Y Lolfa)
Stori am Leia a Sam yw hon, stori gariad gignoeth, sydd hefyd yn stori am gymuned, am ddysgu, am fentro ac am faddeuant. Ar ôl cael eu gorfodi i fod ar wahân am sbel, gwelwn eu llwybrau’n croesi eto yn y ganolfan gymunedol, lle mae’r stori’n dechrau.

Bob blwyddyn, mae paneli annibynnol yn penderfynu ar y rhestrau byrion ac yn dewis yr enillwyr ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg. Y beirniaid ar y panel Cymraeg eleni oedd Sioned Dafydd (Cadeirydd), Sara Yassine, Siôn Lloyd Edwards a Rhys Dilwyn Jenkins.

Dywedodd Sioned Dafydd, Cadeirydd y Panel: “Roedd cytundeb ymysg y panel fod pawb wedi cael blas ar y darllen a bod plant Cymru yn ffodus iawn o gael y fath ystod o lyfrau safonol i’w mwynhau a’u trysori. Diolch i’r holl weisg, yr awduron a’r dylunwyr am oriau o bleser ac ymgolli!

Credwn bod llyfrau ymysg y casgliad eleni a fydd yn ffefrynnau gan blant Cymru a bydd ambell lyfr yn sicr o gael ei fyseddu a’i ddarllen yn dawel ac ar goedd drosodd a throsodd am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau i’r awduron a’r darlunwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni. Roedd y ceisiadau’n ardderchog unwaith eto eleni a hoffwn ddiolch i’r paneli beirniaid am eu holl waith i ddewis y rhestrau byrion o blith cymaint o deitlau gwych. Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at weld pa lyfrau fydd yn fuddugol yn yr haf ac yn dymuno pob lwc i bawb.”

Bydd y rhestr fer ar gyfer y llyfrau Saesneg yn cael ei datgelu am 12pm ddydd Gwener 15 Mawrth gan Ellis Lloyd Jones a’r Cyngor Llyfrau ar eu sianelau cyfryngau cymdeithasol.

Eleni, bydd cyfle unwaith eto i blant a phobl ifanc ddewis enillwyr categori arbennig, sef Gwobr Barn y Darllenwyr: tlws arbennig i lyfrau a ddewisir gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynllun cysgodi Tir na n-Og. Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillwyr o blith y rhestr fer, gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Cewch fanylion ar sut i gofrestru ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru.

Caiff enillwyr y categorïau Cymraeg eu cyhoeddi 1pm ddydd Mercher, 29 Mai, ar Faes Eisteddfod yr Urdd, Meifod; ac enillydd y categori Saesneg ar ddydd Gwener, 17 Mai, yng nghynhadledd CILIP Cymru yng Nghaerdydd.

Bydd siopau llyfrau a llyfrgelloedd yn cynnal Helfeydd Trysor Tir na n-Og yn ystod y gwyliau Pasg gyda chyfle i blant rhwng 4 ac 11 oed gymryd rhan. Gofynnwch i’ch siop lyfrau leol neu lyfrgell am fanylion.

Cewch fwy o wybodaeth am y gwobrau a llyfrau ar y rhestrau byrion ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru