Datgelu’r Rhestr Fer Saesneg ar gyfer Gwobr Tir na n-Og 2023

Datgelu’r Rhestr Fer Saesneg ar gyfer Gwobr Tir na n-Og 2023

Tir na n-Og 2023

Datgelu’r Rhestr Fer Saesneg ar gyfer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru

Ffantasi, bydoedd eraill, realiti amgen, mythau a chwedlau… Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi’r teitlau sydd wedi cyrraedd rhestr fer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2023 ar y Radio Wales Arts Show am 18:30 nos Wener, 24 Mawrth. Dathlu pwysigrwydd straeon chwedlonol sy’n nodweddu’r pedwar llyfr sydd ar restr fer y wobr Saesneg eleni.

Gwobrau Tir na n-Og ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yw’r gwobrau hynaf a mwyaf poblogaidd o’u bath yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan CILIP Cymru Wales. Maent yn anrhydeddu ac yn dathlu’r awduron a’r darlunwyr mwyaf creadigol a’r deunyddiau darllen gorau i blant, naill ai yn y Gymraeg neu drwy gyfrwng y Saesneg gyda dimensiwn Cymreig dilys.

Dros y blynyddoedd, mae’r gwobrau wedi’u hennill gan rai o’n prif awduron a darlunwyr gan gynnwys Manon Steffan Ros, Jac Jones a Catherine Fisher. Nod y gwobrau ydy dathlu darllen er pleser ac ysbrydoli dewisiadau darllen i ddarllenwyr ifanc. Trwy’r gwobrau gall plant a phobl ifanc fwynhau a chael eu hysbrydoli gan straeon ac ysgrifennu o Gymru neu am Gymru.

Dyma’r rhestr fer ar gyfer llyfr Saesneg gyda dimensiwn Cymreig dilys:
The Blackthorn Branch, Elen Caldecott (Andersen Press)Lleoliad Cymreig y gallwch uniaethu ag o gyda chymeriadau rydych yn teimlo’n gartrefol yn eu plith yn syth. Ac eto, mae’r plant dosbarth gweithiol hapus hyn yn cael eu denu i mewn i fyd ffantasi cyfochrog ac yn gorfod brwydro yn erbyn creaduriaid hudol yn ogystal â delio â’u brwydrau eu hunain – sef brawd sydd ar goll a theulu sy’n galaru yn anad dim.

Blue Book of Nebo, Manon Steffan Ros (Firefly)
Cyfieithwyd gan awdur y nofel Gymraeg arobryn. Mae’r gyfrol yn ymdrin â’r berthynas rhwng mam a’i phlentyn a’u goroesiad ar ôl Y Diwedd (digwyddiad niwclear). Gyda phwnc mor heriol ac ingol, ceir eiliadau o dynerwch, gobaith ac optimistiaeth mawr yn y gyfrol.

The Drowned Woods, Emily Lloyd-Jones (Hodder)
Daw Game of Thrones i Fae Ceredigion! Mae The Drowned Woods yn ddychmygiad byw o ysbeiliad canoloesol sy’n llawn perygl, bygythiad a hud. Gan dynnu ar fytholeg Gymreig sy’n cynnwys chwedl Cantre’r Gwaelod, mae’r ffantasi Oedolion Ifanc hon yn un i’w mwynhau ac yn eang ei hapêl.

The Mab, awduron amrywiol, darluniwyd gan Max Low, Gol. Matt Brown ac Eloise Williams (Unbound)
Mae The Mab yn dwyn ynghyd yr awduron Cymreig gorau i adrodd o’r newydd rai o’n straeon hynaf erioed i’w hysgrifennu – y Mabinogion. Rhoddir bywyd newydd i’r chwedlau clasurol hyn – mae hiwmor, hynodrwydd, bygythiad a disgleirdeb pur y straeon hynafol hyn yn amlwg drwy’r ysgrifennu i gyd.

Bob blwyddyn, mae paneli annibynnol yn penderfynu ar y rhestr fer ac yn dewis yr enillwyr ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg. Mae gan y beirniaid sydd ar y Panel Saesneg eleni – Jannat Ahmed (Cadeirydd), Simon Fisher ac Elizabeth Kennedy – brofiad helaeth ac angerdd ynglŷn â llenyddiaeth i blant.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyfrannu at y llyfrau sydd ar y rhestr fer eleni. Mae’r wobr Saesneg yn arddangos y llyfrau sydd â dimensiwn Cymreig dilys – ac mae’r rhestr eleni yn ddathliad gwych o draddodiad adrodd straeon Cymru. Rwy’n siŵr y bydd pob un o’r llyfrau hyn yn dal dychymyg darllenwyr ifanc, ac rwy’n edrych ymlaen at weld pwy fydd yn derbyn y wobr ym mis Mehefin.”

Cyhoeddwyd y rhestrau byrion ar gyfer llyfrau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2023 ar raglen Heno ar S4C nos Iau, 23 Mawrth.

Mae’r categori ar gyfer llyfrau Cymraeg oedran cynradd yn cynnwys Dros y Môr a’r Mynyddoedd, awduron amrywiol, darluniwyd gan Elin Manon (Gwasg Carreg Gwalch), Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, Huw Aaron a Luned Aaron (Atebol), ac Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan, Manon Steffan Ros, darluniwyd gan Valériane Leblond (Llyfrau Broga).

Y tri llyfr sydd ar y rhestr fer yn y categori oedran uwchradd yw Gwlad yr Asyn, Wyn Mason, darluniwyd gan Efa Blosse Mason (Gwasg Carreg Gwalch), Manawydan Jones: Y Pair Dadeni, Alun Davies (Y Lolfa), a Powell, Manon Steffan Ros (Y Lolfa).

Eleni, bydd categori newydd, sef Gwobr Barn y Darllenwyr: tlws arbennig sy’n cael ei ddewis gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynllun cysgodi Tir na n-Og. Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillydd o blith y rhestr fer, gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Cewch fanylion ar sut i gofrestru ar wefan y Cyngor Llyfrau.

Caiff enillwyr y categorïau Cymraeg eu cyhoeddi yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin ddydd Iau, 1 Mehefin, a bydd y teitl Saesneg buddugol yn cael ei ddatgelu ar y Radio Wales Arts Show ar nos Wener, 2 Mehefin.

Bydd siopau llyfrau’n cynnal Helfa Drysor Tir na n-Og yn ystod gwyliau’r Pasg gyda chyfle i ennill tocyn llyfr £15 i blant rhwng 4 ac 11 oed. Holwch yn eich siop lyfrau leol am fanylion.

Mae manylion pellach am y gwobrau a’r llyfrau sydd ar y rhestr fer ar gael ar wefan y Cyngor Llyfrau.

Datgelu’r Rhestr Fer Saesneg ar gyfer Gwobr Tir na n-Og 2023

Cyhoeddi Rhestr Fer Gymraeg ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og 2023

Cyhoeddi’r Rhestr Fer Gymraeg ar gyfer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru – Gwobrau Tir na n-Og 2023

Datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru pa lyfrau Cymraeg sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og ar raglen Heno ar S4C nos Iau, 23 Mawrth. Mae’r gwobrau yn dathlu’r straeon gorau o Gymru a’r straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2022.

Mae’r rhestr fer eleni yn dathlu’r ystod helaeth o fformatau sydd wedi’u cyhoeddi dros y flwyddyn ddiwethaf i ysbrydoli darllenwyr ifanc. O’r llyfrau stori-a-llun, odlau llawn hiwmor i blant bach, i nofel graffeg, straeon byrion a nofelau – mae rhywbeth at ddant pawb.

Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf a mwyaf poblogaidd o’u bath ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan CILIP Cymru. Maent yn anrhydeddu ac yn dathlu’r awduron a’r darlunwyr mwyaf creadigol a’r deunyddiau darllen gorau i blant, naill ai yn y Gymraeg neu drwy gyfrwng y Saesneg gyda dimensiwn Cymreig dilys.

Dros y blynyddoedd, mae’r gwobrau wedi’u hennill gan rai o’n prif awduron a darlunwyr gan gynnwys Manon Steffan Ros, Jac Jones, Caryl Lewis a Gareth F. Williams. Nod y gwobrau ydy dathlu darllen er pleser ac ysbrydoli dewisiadau darllen i ddarllenwyr ifanc. Trwy’r gwobrau gall plant a phobl ifanc fwynhau a chael eu hysbrydoli gan straeon ac ysgrifennu o Gymru neu am Gymru.

Mae gan y wobr Gymraeg ddau gategori: Cynradd (4-11 oed) ac Uwchradd (11-18 oed).

Rhestr Fer Cynradd

Dros y Môr a’r Mynyddoedd, awduron amrywiol, darluniwyd gan Elin Manon (Gwasg Carreg Gwalch)
Casgliad hynod o brydferth o straeon Celtaidd rhyngwladol. Er bod pob stori’n unigryw ac yn wahanol, mae un peth yn gyffredin rhyngddynt – y merched cryf a phenderfynol sy’n arwain pob stori.

Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, Huw Aaron a Luned Aaron (Atebol)
Llyfr modern, doniol a lliwgar sy’n llawn direidi ond yn trafod neges bwysig ar yr un pryd – rwyt ti’n ddigon da fel ag yr wyt ti.

Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan, Manon Steffan Ros, darluniwyd gan Valériane Leblond (Llyfrau Broga)
Y cyfuniad perffaith o air a llun yn dod at ei gilydd i ddweud hanes un bachgen swil o dde Cymru, a lwyddodd i helpu miliynau o bobl drwy ei waith yn sefydlu un o’n trysorau cenedlaethol.

Rhestr Fer Uwchradd

Gwlad yr Asyn, Wyn Mason, darluniwyd gan Efa Blosse Mason (Gwasg Carreg Gwalch)
Dyma nofel graffeg anghyffredin a ffraeth iawn yn seiliedig ar ddrama lwyfan. Stori am asyn sydd wedi hen arfer bod o gwmpas pobl, ond erbyn y diwedd daw i gwestiynu ei hunaniaeth ei hun!

Manawydan Jones: Y Pair Dadeni, Alun Davies (Y Lolfa)
Antur ffantasïol llawn dirgelwch, sy’n croesi’r ffin rhwng y byd go iawn a’r byd hudol. Dehongliad modern a ffres o hen chwedlau’r Mabinogi sy’n eu cyflwyno i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr.

Powell, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Nofel deimladwy, bwysig ac amserol iawn sy’n taflu goleuni ar bwnc anghyfforddus i feddwl amdano – rôl Cymru yn y diwydiant caethwasiaeth. Fel sy’n nodweddiadol o waith yr awdur, y cymeriadau sydd wrth wraidd y stori bob amser.

Bob blwyddyn, mae paneli annibynnol yn penderfynu ar y rhestrau byrion ac yn dewis yr enillwyr ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg. Y beirniaid ar y panel Cymraeg eleni oedd Morgan Dafydd (Cadeirydd), Sara Yassine, Francesca Sciarrillo, Sioned Dafydd (uwchradd) a Siôn Edwards (cynradd) – rhai sydd â phrofiad helaeth ac angerdd ynglŷn â llenyddiaeth i blant.

Dywedodd Morgan Dafydd, Cadeirydd y Panel Cymraeg: “Er bod yr argyfwng costau byw yn brathu, o edrych ar yr arlwy eleni gallwn weld fod y diwydiant llyfrau yn dal ei dir a bod creadigrwydd yn ffynnu. Eleni, gwelsom gymysgedd o awduron newydd ynghyd â rhai cyfarwydd ym maes llyfrau i blant. Yn fy nhrydedd flwyddyn ar y panel, gallaf ddweud â sicrwydd bod y safon yn uchel iawn eleni – yn wir, mae’n parhau i godi bob blwyddyn.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cyfrannu at greu’r llyfrau rhagorol ar y rhestrau byrion eleni. Mae’n galonogol iawn gweld llyfrau gwreiddiol Cymraeg mewn cymaint o wahanol fformatau i apelio at ddarllenwyr ifanc. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld pa lyfrau fydd yn fuddugol eleni.”

Bydd y rhestr fer ar gyfer llyfrau Saesneg yn cael ei datgelu am 18:30 ddydd Gwener, 24 Mawrth ar y Radio Wales Arts Show.

Eleni, bydd categori newydd, sef Gwobr Barn y Darllenwyr: tlws arbennig sy’n cael ei ddewis gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynllun cysgodi Tir na n-Og. Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillydd o blith y rhestr fer, gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Cewch fanylion ar sut i gofrestru ar wefan y Cyngor Llyfrau.

Caiff enillwyr y categorïau Cymraeg eu cyhoeddi ddydd Iau, 1 Mehefin yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin, ac enillydd y categori Saesneg ddydd Gwener, 2 Mehefin ar y Radio Wales Arts Show.

Bydd siopau llyfrau’n cynnal Helfa Drysor Tir na n-Og yn ystod gwyliau’r Pasg gyda chyfle i ennill tocyn llyfr £15 i blant rhwng 4 ac 11 oed. Holwch yn eich siop lyfrau leol am fanylion.

Cewch fwy o wybodaeth am y gwobrau a’r llyfrau ar y rhestrau byrion ar wefan y Cyngor Llyfrau: Books.Wales

Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023

Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023

Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023

Gweithio mewn partneriaeth i helpu mwy o blant nag erioed i ddarganfod cariad at lyfrau a darllen

Mae elusen Diwrnod y Llyfr yn cynnal ei dathliad blynyddol ddydd Iau, 2 Mawrth 2023 – diwrnod sydd wedi’i ddynodi’n arbennig i sicrhau bod pob plentyn yn gallu datblygu cariad at ddarllen.

Bydd Diwrnod y Llyfr yn darparu nifer fawr o gyfleoedd i sicrhau bod teuluoedd a phlant yn cael nodi’r diwrnod mewn dulliau hwyliog a fforddiadwy sy’n golygu rhywbeth iddyn nhw – yn 2023, CHI biau Diwrnod y Llyfr!

Gan mai darllen er pleser yw’r dangosydd unigol mwyaf o lwyddiant plentyn yn y dyfodol – yn fwy felly na’i amgylchiadau teuluol, cefndir addysgol ei rieni na’u hincwm – mae’n bwysicach nag erioed yn awr i sicrhau bod pob plentyn yn cael datblygu cariad at ddarllen. Mae Diwrnod y Llyfr yn bodoli i annog mwy o blant, yn enwedig rhai o gefndiroedd difreintiedig, i gael budd o’r arfer o ddarllen er pleser ar hyd eu hoes.

Bob blwyddyn, gyda chefnogaeth eu noddwr hirdymor National Book Tokens, a thrwy weithio ochr yn ochr â chyhoeddwyr a llyfrwerthwyr, mae Diwrnod y Llyfr yn dosbarthu dros 15 miliwn o docynnau llyfrau £1/€1.50 ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon drwy ysgolion, meithrinfeydd, llyfrgelloedd, carchardai ac elusennau eraill. Nid oes unrhyw gost o gwbl ynghlwm â hawlio llyfr £1 Diwrnod y Llyfr.

Dywedodd Cassie Chadderton, Prif Weithredwr World Book Day: Cenhadaeth ein helusen yw newid bywydau drwy gariad at lyfrau a darllen. Yn 2023, wrth i’r argyfwng costau byw roi pwysau cynyddol ar deuluoedd ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at lyfr yn y cartref. Gyda gostyngiad yn y rhai sy’n darllen er pleser, a’r niferoedd ar eu lefel isaf ers 2005, mae hyn yn bwysicach nag erioed.

“Y llynedd, cafodd dros ddwy filiwn o lyfrau eu rhoi i blant gan lyfrwerthwyr a chyhoeddwyr, ac eleni rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at ddathlu gyda theuluoedd, cymunedau ac ysgolion, a gweld sut y bydd plant yn gwneud Diwrnod y Llyfr yn eiddo iddynt hwy eu hunain.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae dathlu darllen er pleser, a gwneud llyfrau’n hygyrch i bawb, wrth galon ein gwaith ni yn y Cyngor Llyfrau. Rydw i wrth fy modd yn cael gweithio gyda’n ffrindiau yn World Book Day a’r Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol i sicrhau bod llyfrau ar gael drwy eu rhwydweithiau hwy eleni, ac rwy’n gobeithio y bydd plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn dod o hyd i lyfrau fydd yn eu diddanu a’u hysbrydoli.”

Dywedodd Jonathan Douglas, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol: “Yn yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at lyfrau, fel y gallant ddarganfod y pleser o ddarllen. Mae canfyddiadau ein hymchwil yn dangos bod cael llyfrau yn y cartref wedi’i gysylltu â lefelau darllen uwch a’r mwynhad o ddarllen ymhlith plant. Ac eto, mae 1 ym mhob 10 plentyn rhwng 8 a 18 oed o gefndiroedd difreintiedig yn dweud nad ydynt yn berchen ar yr un llyfr eu hunain gartref. Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio â’n cyfeillion yn World Book Day a Chyngor Llyfrau Cymru i helpu i fynd i’r afael â’r sefyllfa yma a chael llyfrau am ddim i ddwylo plant sydd eu hangen fwyaf.”


Partneriaethau
Bydd Cyngor Llyfrau Cymru’n gweithio mewn partneriaeth â World Book Day a’r Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol i ddosbarthu dros ddeng mil o lyfrau am ddim, yn Gymraeg a Saesneg, i fanciau bwyd a phrosiectau cymunedol ledled Cymru. Bydd y detholiad yn cynnwys teitlau £1 Diwrnod y Llyfr yn ogystal â llyfrau eraill i blant ac oedolion ifanc eu mwynhau. Caiff llyfrau eu dosbarthu i fanciau bwyd drwy gydol 2023.

 

Pecynnau Gweithgareddau Diwrnod y Llyfr
Mae yna ystod eang o ddeunyddiau addysgol, pecynnau gweithgareddau i’w lawrlwytho, ac adnoddau ac offer ar-lein ar gael i athrawon, rhieni, gofalwyr a mwy, i ddod â darllen er pleser yn fyw i blant mewn dulliau cyffrous a pherthnasol: www.worldbookday.com/celebrate-world-book-day/

Yng Nghymru, cefnogir Diwrnod y Llyfr gan Gyngor Llyfrau Cymru, sy’n darparu adnoddau dwyieithog ar gyfer ysgolion, llyfrgelloedd cyhoeddus, siopau llyfrau, meithrinfeydd a sefydliadau eraill; mae’r Cyngor hefyd yn comisiynu llyfr £1 Cymraeg newydd bob blwyddyn.

Mae adnoddau Cymraeg a dwyieithog ar gael ar llyfrau.cymru


Siopau Llyfrau a Mân-werthwyr
Bydd siopau llyfrau ym mhob rhan o Gymru’n cymryd rhan yn Niwrnod y Llyfr 2023, gan groesawu plant, teuluoedd, ysgolion a chymunedau lleol i ddewis llyfr a darganfod mwy am fyd cyffrous darllen. Mae detholiad o deitlau Cymraeg ar gael i’w prynu gyda’r tocyn £1. Y teitl Cymraeg newydd eleni yw Gwisg Ffansi Cyw, gan Anni Llŷn, ynghyd â Lledrith yn y Llyfrgell gan yr un awdur; Ha Ha Cnec! gan Huw Aaron, yr awdur, darlunydd a chartwnydd, a Stori Cymru – Iaith a Gwaith gan Myrddin ap Dafydd.

Gellir cyfnewid y tocynnau £1 Diwrnod y Llyfr am unrhyw lyfr £1 Diwrnod y Llyfr rhwng dydd Iau, 16 Chwefror a dydd Sul 26 Mawrth 2023 mewn siopau llyfrau, siopau llyfrau cadwyn, a mân-werthwyr sy’n rhan o’r cynllun. Fel arall, gellir eu defnyddio fel cyfraniad o £1 tuag at unrhyw lyfr arall. Mae modd hefyd lawrlwytho’r tocyn digidol un-tro o wefan Diwrnod y Llyfr.

Cofiwch gadw llygad ar wefan eich siop lyfrau leol a’r sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf ynghylch yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal chi.

Gallwch ddod o hyd i’ch siop lyfrau annibynnol leol ar wefan y Cyngor Llyfrau: Bookshops of Wales | Cyngor Llyfrau Cymru

Ewch i www.worldbookday.com am ragor o wybodaeth, ac ymunwch yn y dathlu!

 

Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023

Amdani! Dathlu pum mlynedd o’r gyfres boblogaidd i ddysgwyr

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Chyngor Llyfrau Cymru yn dathlu carreg filltir arbennig eleni wrth i’r gyfres boblogaidd o lyfrau i ddysgwyr, cyfres Amdani, gyrraedd ei phumed pen-blwydd. Yn ystod 2023 bydd pob teitl yn y gyfres ar gael fel llyfr llafar am y tro cyntaf.

Mae 40 o lyfrau yn y gyfres, gan amrywiol weisg, a gomisiynwyd drwy grantiau’r Cyngor Llyfrau.

Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar bedair lefel dysgu – Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch, a nod y gyfres yw rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fwynhau darllen am amrywiaeth o bynciau. Mae’r gyfres yn ffrwyth partneriaeth lwyddiannus rhwng y Ganolfan Genedlaethol a’r Cyngor Llyfrau.

Mae Gŵyl Amdani, sy’n cael ei chynnal yn rhithiol rhwng 27 Chwefror a 3 Mawrth, yn dathlu’r gyfres, ac yn rhoi cyfle i ddysgwyr fwynhau gweithgareddau a digwyddiadau yn ymwneud â darllen yn y Gymraeg.

Mae’r teitlau yng nghyfres Amdani yn cynnwys:

            

Lefel Mynediad: Wynne Evans – O Gaerfyrddin i Go Compare gan Elin Meek (Atebol)
Bywgraffiad y canwr a’r cyflwynydd Wynne Evans. Darlun personol a gonest iawn o hanes Wynne a’i deulu, ei brofiadau fel tenor enwog, a’i siwrne i ddysgu Cymraeg fel oedolyn.

Lefel Sylfaen: Yn ei Gwsg gan Bethan Gwanas (Atebol)
Nofel fywiog sy’n dilyn dirgelwch damwain car. Mae Dafydd, sy’n cerdded yn ei gwsg, yn deffro’n waed i gyd … ond pwy sydd ar fai?

Lefel Canolradd: 20 o Arwyr Cymru gan J. Richard Williams (Gwasg Carreg Gwalch)
Llyfr sydd yn dathlu 20 o arwyr arbennig Cymru, a’u cyfraniadau pwysig. Darganfyddwch straeon am Betsi Cadwaladr, Ray Gravell, Kate Roberts, ac eraill.

Lefel Uwch: Cawl a Straeon Eraill (Y Lolfa)
Casgliad o straeon byrion gan awduron adnabyddus, yn cynnwys Sarah Reynolds, Mihangel Morgan a Lleucu Roberts.

Dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi’r Cyngor Llyfrau: “Bum mlynedd yn ôl doedd dim llyfrau ar gyfer dysgwyr oedd wedi eu cynhyrchu yn benodol i gyd-fynd â’r lefelau dysgu cenedlaethol. Penderfynodd y Cyngor Llyfrau, mewn cydweithrediad â’r Ganolfan, gomisiynu 20 o lyfrau pwrpasol o bob math a’u galw yn gyfres Amdani. Bellach mae’r cyhoeddwyr yn cyhoeddi llyfrau Amdani yn rheolaidd ac mae 40 ohonyn nhw ar gael. Diolch i Grant Cynulleidfaoedd Newydd a ddarparwyd gan Gymru Greadigol, rydyn ni wedi cefnogi creu fersiwn llafar o bob llyfr fel y bydd yn fuan fodd eu mwynhau trwy wrando yn ogystal â’u darllen.”

Dywedodd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “Mae creu cyfleoedd i’n dysgwyr fwynhau defnyddio eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth yn rhan hollbwysig o’n gwaith yn y Ganolfan, ac mae’r gyfres Amdani yn boblogaidd tu hwnt.

“Mae’r dewis eang o lyfrau difyr yn golygu y bydd llyfr i chi ei fwynhau, p’un a ydych chi newydd ddechrau dysgu, neu’n siaradwr hyderus.

“Bydd y llyfrau llafar yn galluogi’n dysgwyr i fagu hyder trwy glywed yr iaith, ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio gyda’r Cyngor Llyfrau i gyflwyno hyd yn oed mwy o deitlau i’r gyfres.”

Mae llyfrau Amdani ar gael o’ch siop lyfrau leol neu i’w benthyg o’ch llyfrgell leol. Mae fformatau digidol, megis e-lyfrau a llyfrau llafar, ar gael o Ffolio.cymru gyda rhagor o lyfrau llafar yn cyrraedd yn ystod 2023. Mae modd i siopwyr ddewis siop lyfrau benodol i elwa o’u pryniant ar Ffolio.

Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023

Llwyddiant wrth gyhoeddi llyfr o straeon teuluol

Straeon o Gymru ac Affrica:
Llwyddiant wrth gyhoeddi llyfr o straeon teuluol

Eleni, bydd teuluoedd a phlant sy’n aelodau o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru yn gweld eu stori hwy eu hunain mewn print wrth i’r Lolfa baratoi i gyhoeddi Y Bysgodes – stori a grëwyd mewn gweithdai gyda’r awdur Casia Wiliam a’r darlunydd Jac Jones.

Cydlynwyd y prosiect gan y rhaglen BLAS yn Pontio, Canolfan Gelfyddydau Bangor – sefydliad a chanddo berthynas hirhoedlog gyda Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru. Roedd hwn yn un o nifer o weithgareddau a dderbyniodd gyllid gan Grant Cynulleidfaoedd Newydd Cyngor Llyfrau Cymru yng ngwanwyn 2022.

Crëwyd Y Bysgodes mewn cyfres o weithdai gydag artistiaid o Gymru ac Affrica, lle trafodwyd syniadau a straeon traddodiadol o Affrica a Chymru, a gwahanol ffyrdd o adrodd straeon. Yna bu Casia Wiliam, sy’n awdur llyfrau plant, yn gweithio gyda’r teuluoedd i greu stori newydd sbon, gan gael ei hysbrydoli gan y gweithdai er mwyn plethu traddodiadau a syniadau o Affrica a Chymru i mewn i’r naratif. Pan oedd y stori’n gyflawn, bu’r darlunydd Jac Jones yn gweithio gyda’r plant a’u teuluoedd i drafod y cymeriadau a sut y byddent yn edrych yn y stori orffenedig.

Bydd y Lolfa, gyda chymorth grant cyhoeddi o Gyngor Llyfrau Cymru, yn cyhoeddi’r llyfr yn Gymraeg ac yn Saesneg, a bydd copïau ar werth yn y gwanwyn.

Dywedodd Dr Salamatu J Fada, Cyfarwyddwr Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru: “Mae hwn yn un prosiect a lwyddodd i dynnu diwylliant Cymru a rhannau o ddiwylliannau Affricanaidd Ghana a Nigeria, yn benodol, at ei gilydd. Roedd y teuluoedd i gyd wedi mwynhau datblygu’r syniadau dan arweiniad yr hwyluswyr amrywiol oedd yn rhan o’r prosiect. Rydym wrth ein bodd gyda’r broses ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld y llyfr yn cael ei gyhoeddi. Diolch yn fawr.”

Yn ogystal, arweiniodd y prosiect at greu cyfleoedd i alluogi Tiwtoriaid dan Hyfforddiant i gymryd rhan a datblygu eu sgiliau hwyluso hwy eu hunain, y gallent eu defnyddio ar gyfer prosiectau cymunedol a chydweithredol yn y dyfodol. Roedd Olaitan Olawande a Marie-Pascale yn Diwtoriaid dan Hyfforddiant fel rhan o’r cynllun, gan weithio gyda’r teuluoedd i ddatblygu eu stori.

Dywedodd Olaitan: “Roedd yn brofiad anhygoel i weld sut roedd teuluoedd yn gweithio gyda’i gilydd i greu stori. Roedd y mewnbwn gan wahanol genedlaethau’n golygu bod modd creu rhai syniadau a chysyniadau newydd. Rwy’n credu bod gweithio gyda theuluoedd a’r broses hon o adrodd straeon yn arwain at sgyrsiau agored rhwng teuluoedd; gall ddarparu gofod i blant a rhieni rannu straeon newydd a rhai sy’n bodoli eisoes, gan eu cymhwyso ar yr un pryd ar gyfer heriau go iawn. Does dim terfyn ar y dychymyg, a gellir dangos pwysigrwydd y teulu yn y broses o lunio stori. Mae’r llyfr cyhoeddedig yn un a fydd yn ennill ei le mewn hanes; yn ôl yr hen ddywediad, ‘mae’n cymryd pentref’ i greu rhywbeth gwirioneddol ryfeddol.”

Dywedodd Marie-Pascale: “Rwyf wedi mwynhau bod yn rhan o’r BRIODAS HON O DDIWYLLIANNAU sydd wedi dod â sawl gwên ac wedi arwain at gyfranogiad gwybyddol ein plant: fel OEDOLION yfory, byddant yn deall PRYDFERTHWCH AMRYWIAETH ac yn ei gynnal.”

Dywedodd yr awdur Casia Wiliam: “Gyda’i gilydd mae’r teuluoedd yma wedi creu chwedl newydd sbon sy’n llawn hen hud a lledrith. Mae hi’n plethu Cymru a Ghana, yn plethu syniadau a thraddodiadau storiol Cymreig ac Affricanaidd. Mae hi’n stori arbennig, ac mae’n rhaid i mi ddweud, dyma un o’r prosiectau mwyaf difyr a chyffrous i mi fod yn rhan ohono fel awdur. Dwi methu aros i glywed ymateb teuluoedd i’r llyfr pan y daw allan yn y gwanwyn yn Gymraeg ac yn Saesneg.”

Dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru: “Bu’n brofiad gwych i weld y prosiect hwn yn datblygu fel un o’r mentrau a gafodd fudd o’r Grant Cynulleidfaoedd Newydd. Dechreuodd y cyfan fel grŵp o deuluoedd a phlant yn archwilio syniadau a’u dychymyg i ddathlu diwylliannau Cymru ac Affrica a’u tynnu at ei gilydd drwy gyfrwng straeon. Erbyn y gwanwyn fe fydd llyfr gorffenedig ar gael, wedi’i gyhoeddi gan y Lolfa ac ar werth mewn siopau llyfrau, fel bod modd i deuluoedd ledled Cymru ei fwynhau.”

Mae Grant Cynulleidfaoedd Newydd Cyngor Llyfrau Cymru wedi dyfarnu cyllid i 43 o brosiectau gwahanol, gyda’r bwriad o greu cyfleoedd newydd a datblygu cynulleidfaoedd newydd o fewn y sector cyhoeddi yng Nghymru, diolch i gymorth gan Gymru Greadigol.

Pwrpas y grant yw cryfhau ac ehangu amrywiaeth y rhannau hynny o’r diwydiant cyhoeddi y mae’r Cyngor Llyfrau yn eu cefnogi ar hyn o bryd, ac mae’r grantiau’n rhoi blaenoriaeth benodol i fentrau cyhoeddi, awduron a chynulleidfaoedd newydd.

Cwpan Y Byd Pêl-droed

Cwpan Y Byd Pêl-droed

Alun yr Arth a'r Gêm Bêl-Droed

gan Morgan Tomos

Mae Alun yn cael cyfle i ymarfer gyda thîm pêl-droed Cymru.  Ond dyw e ddim yn gallu chwarae’n dda iawn felly mae’n penderfynu bod yn ddyfarnwr.  Ond sut ddyfarnwr yw Alun, tybed?

Y Dyn Dweud Drefn yn Chwarae Pêl-droed

gan Lleucu Fflur Lynch

Mae’r Dyn Dweud Drefn yn meddwl mai fo ydi pêl-droediwr gorau Cymru, ac mae’n benderfynol o sgorio’r gôl orau erioed.  Ond tydi o’n cael fawr o hwyl arni.  Tybed all y Ci Bach helpu’r Dyn Dweud Drefn i wireddu ei freuddwyd?

Pêl-Droed Penigamp

add. gan Elinor Wyn Reynolds

Llyfr yn llawn hwyl ond a llond trol o ffeithiau hefyd.  Mae’n olrhain yr hanes, o ddechreuadau pêl-droed, pan fyddai gemau’n para am ddyddiau, a ffeithiau difyr a straeon anhygoel heddiw.  Yn ogystal a chynnwys adrannau sy’n taflu golau ar y goreuon a beth sy’n eu gwneud nhw’n chwaraewyr mor wych.

Cwpan y Byd: Qatar 2022

gan Dylan Ebenezer

Ar ôl 64 o flynyddoedd mae cyfle i Gymru ddangos i’r byd ein bod ni YMA O HYD!  Dyma’r llyfr angenrheidiol ar gyfer Cwpan y Byd 2022! Mae’n llawn ffeithiau am y gwledydd, y meysydd, hanes y gystadleuaeth, sêr y 32 tîm, a thaith Cymru, yn ogystal a lluniau gwych o’r chwaraewyr.

Fi ac Aaron Ramsey

gan Manon Steffan Ros 

Mae Sam yn caru pêl-droed – chwarae gyda’i ffrindiau a’r tîm lleol, gwylio goliau a fideos gyda Mo, trafod gemau gyda’i dad a chefnogi tîm Cymru wrth gwrs.  Ond, i Sam, mae pêl-droed yn bwysicach na dim ond gem. Mae’n rhoi cysur pan mae’n poeni am bob peth ac yn rhoi profiadau newydd, cyffrous iddo.  Ond mae un digwyddiad ofnadwy ar y cae yn bygwth chwalu ei berthynas a’r gem yn llwyr.

Y Gêm

gan Gareth F. Williams

Roedd Alun a Tecwyn yn ffrindiau gorau pan oedden nhw’n blant.  Ond, yn dilyn ymweliad a’r Hen Dŷ un prynhawn poeth, trodd y ddau ffrind yn ddau elyn.  Yn 1914, mae Alun a Tecwyn yn gadael eu cartrefi yn Eryri a mynd i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.  Ar ddiwrnod Nadolig yn ffosydd Ffrainc, mae heddwch undydd rhwng milwyr dwy fyddin yn gorfodi Alun a Tecwyn i chwarae gem o bêl-droed i’r un tîm.  Tra bo carolau’n clecian yn lle gynnau, a fydd y ddau’n dychwelyd adref i chwarae gem gyfeillgar arall o bêl-droed?

Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023

Ar y trywydd iawn i stori dda

Cynllun llyfrau am ddim i deithwyr trenau Cambrian Line

Bydd teithwyr ar Lein y Cambrian yn cael eu gwahodd i ddianc i mewn i stori dda y gaeaf hwn wrth i Gyngor Llyfrau Cymru a Phartneriaeth Rheilffyrdd Cambrian ymuno i gynnig llyfrau am ddim i deithwyr a helpu i’r milltiroedd hedfan heibio.

Bydd y rhaglen beilot gyda Phartneriaeth Rheilffyrdd Cambrian yn rhedeg trwy’r hydref a’r gaeaf. Mae’n dathlu cynllun Stori Sydyn y Cyngor Llyfrau, sef cyfres o lyfrau byrion, difyr ar gyfer darllenwyr o bob diddordeb a gallu. Mae’r llyfrau ar gael i’w casglu yng ngorsafoedd Aberystwyth a Machynlleth i ddarllenwyr naill ai eu benthyg a’u dychwelyd ar ddiwedd eu taith, neu i’w cadw a pharhau i’w darllen gartref.

Dywedodd Angharad Wyn Sinclair, Rheolwr Datblygu Prosiect y Cyngor Llyfrau: “Rydym wrth ein boddau i weithio gyda Phartneriaeth Rheilffyrdd Cambrian ar y peilot cyffrous hwn, i gyflwyno teitlau Stori Sydyn i ddarllenwyr a chyfoethogi eu teithiau gyda llyfr da! Mae ymgolli mewn llyfr da wrth deithio yn ffordd wych o archwilio’r byd o gysur eich sedd.”

Dywedodd Stuart Williams, Cadeirydd Partneriaeth Rheilffyrdd Cambrian: “Rydym ni’n gobeithio bydd ein cwsmeriaid yn mwynhau’r llyfrau o gyfres Stori Sydyn, sydd yn hawdd i’w casglu o’r neuadd tocynnau yng nghorsaf trenau Aberystwyth a gorsaf trenau Machynlleth, diolch i’r bartneriaeth newydd gyda’r Cyngor Llyfrau. Gall teithiau trên gynnig cyfle i ymlacio a dianc am sbel, a gobeithio bydd y cynllun hwn yn helpu ein teithwyr elwa o’u siwrneiau trên.

Mae pedwar teitl sy’n rhan o’r gyfres newydd ar gael trwy’r cynllun, yn ogystal â rhai teitlau o gyfresi blaenorol. Y ddau deitl Cymraeg newydd yw Dau Frawd, Dwy Gêm: Stori’r Cabangos gan Dylan Ebenezer, ac Un Noson, gan Llio Elain Maddocks. Y teitlau Saesneg newydd yw Return to the Sun gan Tom Anderson, a The Replacement Centre gan Fflur Dafydd.

Mae cyfres Stori Sydyn yn berffaith i ddarllenwyr sydd efallai’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i amser i ddarllen, neu sydd yn llai hyderus yn eu gallu darllen. Mae teitlau Stori Sydyn, sydd fel arfer yn llai na 100 o dudalennau, yn cynnig llyfr byr, difyr – perffaith i helpu teithwyr wneud y gorau o amser sbâr yn ystod eu taith. Cydlynir Stori Sydyn yng Nghymru gan Gyngor Llyfrau Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Cyfarchion y Nadolig 2022

Cyfarchion y Nadolig 2022

Bydd y Cyngor Llyfrau a’r Ganolfan Ddosbarthu yn cau ar brynhawn Iau, 22 Rhagfyr 2022 ac yn ail agor wedi’r gwyliau ar ddydd Mawrth, 3 Ionawr 2023.

Dymunwn Nadolig llawen a dedwydd i chi i gyd.

 

Darllen yn Well ar gyfer yr arddegau

Darllen yn Well ar gyfer yr arddegau

Mae Darllen yn Well ar gyfer yr arddegau yn cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc rhwng 13 a 18 oed, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i’w helpu i reoli eu teimladau ac ymdopi ar adegau anodd.

Mae’r llyfrau wedi’u dewis a’u hargymell gan weithwyr iechyd proffesiynol blaenllaw ac maent wedi’u cynhyrchu ar y cyd â phobl ifanc yn eu harddegau.

The Reading Agency sydd wedi datblygu’r cynllun mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Cymru a Lloegr, gyda Chyngor Llyfrau Cymru’n sicrhau bod detholiad o’r llyfrau ar gael yn y Gymraeg diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Ymysg yr 20 o gyfrolau a fydd yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg mae Byd Frankie gan Aoife Dooley, nofel graffeg sy’n cynnig persbectif unigryw ar awtistiaeth, wedi’i hadrodd gyda hiwmor a didwylledd, a Peth Rhyfedd yw Gorbryder gan Steve Haines, canllaw sy’n esbonio pryder mewn fformat darluniadol deniadol a hawdd ei ddeall, gydag awgrymiadau a strategaethau i leddfu ei symptomau, a newid arferion y meddwl er mwyn meithrin agwedd fwy cadarnhaol.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause: “Dywedodd 4 o bob 5 o bobl ifanc fod y pandemig wedi gwneud eu hiechyd meddwl yn waeth. Mae Darllen yn Well ar gyfer yr arddegau yn awgrymu argymhellion darllen i helpu pobl ifanc i ddeall eu teimladau a rhoi hwb i’w hyder. Beth sy’n wych am gynllun Darllen yn Well yw fod y llyfrau i gyd wedi’u dewis a’u hargymell gan arbenigwyr a’r wedi’i chreu ar y cyd â phobl ifanc yn eu harddegau. Mae’n hollbwysig sicrhau bod y deunydd hynod werthfawr hwn ar gael yn y Gymraeg.”

Ar hyn o bryd mae yna pedair rhestr Darllen yn Well ar gael, sef plant; cyflyrau iechyd meddwl cyffredin; dementia a pobl ifanc.

Mae teitlau’r cynllun Darllen yn Well ar gael i’w benthyg am ddim o lyfrgelloedd cyhoeddus. Gall gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol hefyd argymell y llyfrau ar bresgripsiwn fel rhan o driniaeth unigolyn, neu gellir eu prynu drwy siopau llyfrau, gwales.com a gwefannau eraill.

Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023

Datganiad ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Newsquest

Datganiad ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Newsquest – Corgi Cymru

Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Newsquest wedi cytuno i roi terfyn ar ariannu a darparu’r gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg, Corgi Cymru.

Daeth y ddwy ochr i gytundeb ar y cyd i gynnig cau sianeli digidol Corgi Cymru ar ddiwedd mis Hydref a chaniatáu i’r gwasanaeth gael ei ddirwyn i ben dros y mis canlynol.

Mae un swydd lawn-amser ac un swydd ran-amser bellach mewn perygl a bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda staff sy’n cael eu heffeithio yn Newsquest, gan ddechrau heddiw, 19 Hydref.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Ar ôl dwys ystyried a thrafod gofalus, mae Cyngor Llyfrau Cymru a Newsquest wedi cytuno mai’r peth gorau i’r ddwy ochr yw terfynu’r cytundeb cyllido a chau’r gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg Corgi Cymru ddiwedd Hydref.

“Rydym wedi bod mewn cyswllt rheolaidd gyda Newsquest dros yr wythnosau diwethaf ac mae’n ddrwg iawn gennym weld Corgi Cymru yn cau, ond rydym yn deall bod yr amgylchiadau wedi newid ers dyfarnu’r grant, oherwydd yr amgylchedd presennol heriol sydd ohoni. Mae ein meddyliau gyda’r staff sydd wedi’u heffeithio gan y penderfyniad hwn.”

Dywedodd Gavin Thompson, Golygydd Rhanbarthol Newsquest: “Rydym yn ddiolchgar i’r Cyngor Llyfrau am eu cefnogaeth, sydd wedi caniatáu i ni lansio Corgi Cymru yn gynharach eleni. Yn anffodus, daeth yn glir, hyd yn oed gyda chefnogaeth y Cyngor Llyfrau ac o ystyried yr amgylchedd economaidd heriol, na fyddai adeiladu menter Gymraeg newydd ar hyn o bryd yn gynaliadwy yn economaidd.

“Rydym wedi bod mewn trafodaethau adeiladol ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth dros yr wythnosau diwethaf, yn dilyn cau The National Wales. Byddwn yn dechrau proses ymgynghori gyda staff yr effeithir arnynt, gan ddechrau heddiw.”

Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi’r broses ar gyfer aildendro am weddill cyllid y grant Gwasanaeth Newyddion Digidol Cymraeg o 2023 ymlaen dros yr wythnosau nesaf.