Cyfieithu
CYFIEITHU Nid yw’r Cyngor Llyfrau yn cynnig grantiau yn uniongyrchol i gyfieithwyr. Serch hynny, mae’n bosibl cael peth cefnogaeth tuag at waith cyfieithu (o’r Gymraeg i’r Saesneg, neu o unrhyw iaith i’r Gymraeg). Dylai cyhoeddwyr drafod eu prosiectau ymlaen llaw gyda...Grantiau Sydd ar Gael
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r grantiau cyhoeddi, â’r Cyngor Llyfrau yn eu gweinyddu. Mae angen i gyhoeddwyr gyflwyno cais am gefnogaeth ac mae pob cais yn cael ei ystyried gan Is-bwyllgor Datblygu Cyhoeddi (Cymraeg) annibynnol y Cyngor Llyfrau....Gwybodaeth i Lyfrwerthwyr
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn cynnig cymorth ariannol i lyfrwerthwyr mewn dwy ffordd.
Y Cynllun Ymestyn
Mae’r Cynllun Ymestyn yn cynorthwyo llyfrwerthwyr i fynychu digwyddiadau trwy Gymru gyfan. Gweinyddir y cynllun hwn gan Adran Gwerthu a Marchnata’r Cyngor. Am ragor o wybodaeth am y cynllun, cliciwch yma. Nid yw’r cynllun hwn yn cael ei ariannu o’r Grant Cyhoeddi.
Y Grant Cyhoeddi (Cymraeg)
Mae cronfa fechan o fewn y Grant Cyhoeddi (Cymraeg) a ddefnyddir i gynnig gostyngiadau ychwanegol i lyfwerthwyr annibynnol sydd â chyfrif gyda Chanolfan Ddosbarthu’r Cyngor, ac sydd yn cyrraedd trothwy gwerthiant penodol ar y cyfrif hwnnw. Nid oes angen i lyfwerthwyr wneud ceisiadau am y taliadau hyn. Gweinyddir y cynllun gan y Ganolfan Ddosbarthu.