Yr Athro M. Wynn Thomas – Cadeirydd

Yr Athro M. Wynn Thomas yw deilydd Cadair Emyr Humphreys mewn Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae’n gyn-Gyfarwyddwr a sylfaenydd CREW (Canolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru). Mae’n arbenigwr mewn barddoniaeth Americanaidd ac...

Bwrdd Ymddiriedolwyr

Linda Tomos, Cadeirydd Yn Llyfrgellydd Siartredig ers 1975, bu Linda Tomos yn Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru rhwng 2015–2019 gan arwain straetgaeth y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Rona Aldrich Is-Gadeirydd Gyda gradd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth ac...
Yr Athro M. Wynn Thomas

Yr Athro M. Wynn Thomas

Yr Athro M. Wynn Thomas yw deilydd Cadair Emyr Humphreys mewn Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae’n gyn-Gyfarwyddwr a sylfaenydd CREW (Canolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru).

Mae’n arbenigwr mewn barddoniaeth Americanaidd ac yn nwy lenyddiaeth Cymru fodern, ac wedi bod yn Athro ar ymweliad ym Mhrifysgolion Havard a Tubingen.  Bu’n Gadeirydd Gwasg Prifysgol Cymru, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth Cyngor y Celfyddydau am bum mlynedd. Ar ôl gweithredu fel Cadeirydd Academi Awduron Cymru, Yr Academi Gymreig, cafodd ei ethol yn Gymrawd yr Academi yn 2000 ac yn 2012 fe’i gwnaed yn Gymrawd Er Anrhydedd Coleg Cenedlaethol Cymru. Fe’i etholwyd yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 1996, a derbyniodd anrhydedd uchaf gan yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2000. Mae yn Gymrawd ac yn gyn Is-Lywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Rona Aldrich

Rona Aldrich

Yn wreiddiol o Fôn, mae Rona Aldrich wedi byw yn Nyffryn Clwyd ers 40 mlynedd. Gyda gradd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth ac Astudiaethau Gwybodaeth o Brifysgol Aberystwyth, ei nod yn ystod ei gyrfa oedd sicrhau mynediad hwylus at wybodaeth a diwylliant o bob math i bawb mewn cymdeithas. Cyn ymddeol roedd yn Brif Swyddog gyda Chyngor Sir Conwy. Ar ôl cyfnod o fod yn hunan-gyflogedig, mae erbyn hyn yn eistedd ar Bwyllgor Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac yn Is-gadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru. Dros y blynyddoedd mae wedi dal nifer o swyddi yn lleol ac yn genedlaethol gan gynnwys i Lywodraeth Cymru ac wedi cynrychioli Cymru ar lefel y DU. Ym mis Chwefror 2021, fe’i penodwyd i Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg.

Chris Macey

Chris Macey

Mae Chris Macey yn Gyfrifydd Gwasanaethau gyda Chyngor Sir Ceredigion ac yn Drysorydd Mygedol gyda Chyngor Llyfrau Cymru.  Ymunodd â’r Cyngor Llyfrau ym mis Hydref 2015.