Datgelu’r Rhestr Fer Saesneg ar gyfer Gwobr Tir na n-Og 2023

Datgelu’r Rhestr Fer Saesneg ar gyfer Gwobr Tir na n-Og 2023

Tir na n-Og 2023 Datgelu’r Rhestr Fer Saesneg ar gyfer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru Ffantasi, bydoedd eraill, realiti amgen, mythau a chwedlau… Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi’r teitlau sydd wedi cyrraedd rhestr fer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2023 ar...
Datgelu’r Rhestr Fer Saesneg ar gyfer Gwobr Tir na n-Og 2023

Cyhoeddi Rhestr Fer Gymraeg ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og 2023

Cyhoeddi’r Rhestr Fer Gymraeg ar gyfer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru – Gwobrau Tir na n-Og 2023 Datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru pa lyfrau Cymraeg sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og ar raglen Heno ar S4C nos Iau, 23 Mawrth. Mae’r gwobrau yn dathlu’r...
Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023

Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023

Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023 Gweithio mewn partneriaeth i helpu mwy o blant nag erioed i ddarganfod cariad at lyfrau a darllen Mae elusen Diwrnod y Llyfr yn cynnal ei dathliad blynyddol ddydd Iau, 2 Mawrth 2023 – diwrnod sydd wedi’i ddynodi’n arbennig i...
Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023

Amdani! Dathlu pum mlynedd o’r gyfres boblogaidd i ddysgwyr

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Chyngor Llyfrau Cymru yn dathlu carreg filltir arbennig eleni wrth i’r gyfres boblogaidd o lyfrau i ddysgwyr, cyfres Amdani, gyrraedd ei phumed pen-blwydd. Yn ystod 2023 bydd pob teitl yn y gyfres ar gael fel llyfr llafar am...
Argymhellion Darllen – Mis Hanes LHDTC+

Argymhellion Darllen – Mis Hanes LHDTC+

Mis Chwefror yw mis Hanes LHDCT+.

Mis Hanes LHDTC+

Mis Hanes LHDTC+

Dyma gyfrolau sy’n archwilio profiad pobl LHDTC+ yng Nghymru.

A Little Gay History of Wales – Daryl Leeworthy (Gwasg Prifysgol Cymru)

Mae’r gyfrol hon yn archwilio bywydau, diwylliannau a gwleidyddiaeth gwŷr a gwragedd Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws o’r cyfnod canoloesol hyd at y cyfnod diweddar. Defnyddir ymchwil archifol arloesol i adnabod yr unigolion, y llefydd a’r ieithoedd a fu ar waith yn disgrifio profiad a gadwyd ynghudd mor aml.

Forbidden Lives: LGBT Stories from Wales – Norena Shopland (Seren Books)

Cyfrol sy’n archwilio hanes cudd y gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yng Nghymru drwy bortreadau o ffigurau ac adegau cymdeithasol a diwylliannol arwyddocaol yn yr hanes hwnnw. Mae’r ymchwilydd a’r ymgyrchydd Norena Shopland wedi llunio canllaw hygyrch a phwysig i’r maes.

Queer Wales: The History, Culture and Politics of Queer Life in Wales – Ed. Huw Osborne (Gwasg Prifysgol Cymru)

Cyfrol sy’n agor trafodaeth bwysig wrth edrych ar agweddau gwahanol ar amrywiaethau ym maes rhywioldeb, diwylliant a gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Between Worlds: A Queer Boy from the Valleys – Jeffrey Weeks (Parthian Books)

Ganed Jeffrey Weeks yn y Rhondda yn 1945, i deulu o lowyr. Wrth iddo dyfu, teimlai’n ynysig o fewn cymuned glòs y cymoedd, a dwysawyd y teimlad hwn pan sylweddolodd ei fod yn hoyw. Canfu ddihangfa ym myd addysg, ac ymadawodd am Lundain, i fynychu prifysgol ac i wireddu ei rywioldeb.

Y Daith ydi Adra John Sam Jones, addas. Sian Northey (Parthian Books)

Hunangofiant John Sam Jones am fyw bywyd ar y ffin, rhwng gwirionedd a chelwydd, rhwng gwrthodiad a derbyniad. O’i blentyndod ar arfordir Cymru i gyfnod cythryblus yn fyfyriwr is-raddedig ym mhrifysgol Aberystwyth, aeth ymlaen i ennill ysgoloriaeth yng Ngholeg Berkley yn San Francisco wrth i haint AIDS ddechrau gafael yn y gymdeithas.

Don’t Ask About My Genitals – Owen J. Hurcum (Black Bee Books)

Nid yw’r gyfrol hon yn trafod pob agwedd ar y gymuned hoyw a thrawsrywiol, a’u bywydau byrlymus ac amrywiol, ond bydd ei darllen yn cynnig gwybodaeth ac yn eich arfogi i fod yn gefnogol. Wedi’r cyfan, addysg yw gelyn pennaf rhagfarn.

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.