Amdani! Dathlu pum mlynedd o’r gyfres boblogaidd i ddysgwyr

Amdani! Dathlu pum mlynedd o’r gyfres boblogaidd i ddysgwyr

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Chyngor Llyfrau Cymru yn dathlu carreg filltir arbennig eleni wrth i’r gyfres boblogaidd o lyfrau i ddysgwyr, cyfres Amdani, gyrraedd ei phumed pen-blwydd. Yn ystod 2023 bydd pob teitl yn y gyfres ar gael fel llyfr llafar am...
Argymhellion Darllen – Mis Hanes LHDTC+

Argymhellion Darllen – Mis Hanes LHDTC+

Mis Chwefror yw mis Hanes LHDCT+.

Mis Hanes LHDTC+

Mis Hanes LHDTC+

Dyma gyfrolau sy’n archwilio profiad pobl LHDTC+ yng Nghymru.

A Little Gay History of Wales – Daryl Leeworthy (Gwasg Prifysgol Cymru)

Mae’r gyfrol hon yn archwilio bywydau, diwylliannau a gwleidyddiaeth gwŷr a gwragedd Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws o’r cyfnod canoloesol hyd at y cyfnod diweddar. Defnyddir ymchwil archifol arloesol i adnabod yr unigolion, y llefydd a’r ieithoedd a fu ar waith yn disgrifio profiad a gadwyd ynghudd mor aml.

Forbidden Lives: LGBT Stories from Wales – Norena Shopland (Seren Books)

Cyfrol sy’n archwilio hanes cudd y gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yng Nghymru drwy bortreadau o ffigurau ac adegau cymdeithasol a diwylliannol arwyddocaol yn yr hanes hwnnw. Mae’r ymchwilydd a’r ymgyrchydd Norena Shopland wedi llunio canllaw hygyrch a phwysig i’r maes.

Queer Wales: The History, Culture and Politics of Queer Life in Wales – Ed. Huw Osborne (Gwasg Prifysgol Cymru)

Cyfrol sy’n agor trafodaeth bwysig wrth edrych ar agweddau gwahanol ar amrywiaethau ym maes rhywioldeb, diwylliant a gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Between Worlds: A Queer Boy from the Valleys – Jeffrey Weeks (Parthian Books)

Ganed Jeffrey Weeks yn y Rhondda yn 1945, i deulu o lowyr. Wrth iddo dyfu, teimlai’n ynysig o fewn cymuned glòs y cymoedd, a dwysawyd y teimlad hwn pan sylweddolodd ei fod yn hoyw. Canfu ddihangfa ym myd addysg, ac ymadawodd am Lundain, i fynychu prifysgol ac i wireddu ei rywioldeb.

Y Daith ydi Adra John Sam Jones, addas. Sian Northey (Parthian Books)

Hunangofiant John Sam Jones am fyw bywyd ar y ffin, rhwng gwirionedd a chelwydd, rhwng gwrthodiad a derbyniad. O’i blentyndod ar arfordir Cymru i gyfnod cythryblus yn fyfyriwr is-raddedig ym mhrifysgol Aberystwyth, aeth ymlaen i ennill ysgoloriaeth yng Ngholeg Berkley yn San Francisco wrth i haint AIDS ddechrau gafael yn y gymdeithas.

Don’t Ask About My Genitals – Owen J. Hurcum (Black Bee Books)

Nid yw’r gyfrol hon yn trafod pob agwedd ar y gymuned hoyw a thrawsrywiol, a’u bywydau byrlymus ac amrywiol, ond bydd ei darllen yn cynnig gwybodaeth ac yn eich arfogi i fod yn gefnogol. Wedi’r cyfan, addysg yw gelyn pennaf rhagfarn.

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

Grantiau

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn derbyn arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru i’w ddosbarthu ar ffurf grantiau i gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr. Nid ydym yn gweinyddu grantiau’n uniongyrchol i awduron unigol ond yn eu sianelu yn hytrach drwy gyhoeddwyr. Y nod yw cefnogi...

Swyddi a Gwirfoddoli

YMDDIRIEDOLWYRYdych chi’n frwd dros annog rhagor o bobl i godi llyfr ac elwa o’r holl fuddion sydd ynghlwm â darllen?Ydych chi’n awyddus i gyfrannu at y gwaith pwysig o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi ar hyd a lled Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg?...
Gornest Lyfrau

Gornest Lyfrau

Her ddarllen hwyliog sy’n sbarduno darllen er pleser i blant oed cynradd Cymru Canlyniadau 2024 Canllawiau a Phecyn Gweithgareddau 2024-25 Rhestr ddarllen 2024–25 Beth yw Gornest Lyfrau? Cystadleuaeth flynyddol  sydd yn annog darllenwyr ifanc Blynyddoedd 3–6 i...