Swyddfeydd Castell Brychan a’r Ganolfan Ddosarthu

Swyddfeydd Castell Brychan a’r Ganolfan Ddosarthu

Bydd ein swyddfeydd a’r Ganolfan Ddosbarthu ar gau o brynhawn Mercher, 23 Rhagfyr 2020 ac yn ail agor ar 4 Ionawr 2021.

Bydd ein swyddfeydd a’r Ganolfan Ddosbarthu ar gau o brynhawn Mercher, 23 Rhagfyr 2020 ac yn ail agor ar 4 Ionawr 2021.

Carem ddymuno Nadolig dedwydd i chi a diolch am eich cenfogaeth o dan amgylchiadau tu hwnt o heriol yn 2020.

Ymlaen â ni tuag at 2021!

Her Sgwennu Stori Aled Hughes

Her Sgwennu Stori Aled Hughes

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o gefnogi cystadleuaeth ysgrifennu stori i ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru sy’n cael ei threfnu gan BBC Radio Cymru.

Fel rhan o ddigwyddiadau Diwrnod y Llyfr 2021, mae rhaglen foreol Aled Hughes yn galw ar blant rhwng 5-11 oed i ysgrifennu stori Cymraeg hyd at 500 gair ar thema “Y Llwybr Hud”.

Mae tri chategori ar gyfer oedrannau gwahanol, sef:

• Cyfnod Sylfaen, sef 5-7 oed
• Cyfnod allwedol 2a, 7-9 oed
• Cyfnod allweddol 2b, 9-11 oed

Bydd Aled yn cyhoeddi’r enillwyr ar ei raglen yn ystod yr wythnos sy’n arwain at Ddiwrnod y Llyfr ar 4 Mawrth 2021, gyda’r buddugwyr yn derbyn pentwr o lyfrau yn wobr gan y Cyngor Llyfrau.

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau: “Mae Diwrnod y Llyfr yn ddigwyddiad holl bwysig yn ein calendr blynyddol ac rydyn ni’n falch iawn i gefnogi’r gystadleuaeth yma sy’n cael ei threfnu gan BBC Radio Cymru. Mae gan bob unigolyn stori yn cuddio y tu mewn iddyn nhw a dyma gyfle gwych felly i ddechrau meithrin doniau ysgrifennu ymhlith y to ifanc.”

Llio Maddocks yw’r beirniad fydd yn pori drwy’r straeon ac yn dewis y dair stori orau.

Os am gystadlu, mae gofyn i ysgolion anfon straeon eu disgyblion at BBC Radio Cymru erbyn y dyddiad cau 25 Ionawr 2021, ynghyd â’r ffurflen gais sydd i’w chael ar wefan Radio Cymru.

Y cyfeiriad ar gyfer anfon y straeon yw:

Sgwennu Stori Aled Hughes
BBC Radio Cymru
Bryn Meirion
Bangor
LL57 2BY

Rhaid nodi’n glir ffugenw’r disgybl, y categori ac enw’r ysgol ar ben pob stori, a bydd angen i’r ysgol gadw rhestr o’r enwau sy’n cyd-fynd â’r ffugenwau.

 

 

Mae manylion pellach ynghyd â thermau ac amodau llawn i’w cael ar wefan BBC Radio Cymru neu gallwch chi gysylltu gyda rhaglen Aled Hughes ar aled@bbc.co.uk.

Pob lwc!

Cartwnau Huw Aaron i godi gwên ar Ddiwrnod y Llyfr 2021

Cartwnau Huw Aaron i godi gwên ar Ddiwrnod y Llyfr 2021

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn hynod o falch o gyhoeddi mai cyfrol llawn hwyl a sbri gan Huw Aaron fydd y llyfr £1 Cymraeg newydd ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021.

Yn ei ffordd ddihafal ei hun, mae’r cartwnydd a’r darlunydd dawnus o Gaerdydd wedi mynd ati i greu Ha Ha Cnec i blant bach a mawr ei fwynhau ar Ddiwrnod y Llyfr nesaf sef 4 Mawrth 2021.

Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, bydd y gyfrol yn fwrlwm o jôcs a chartwnau doniol ynghyd ag ambell un o gymeriadau unigryw Huw.

I ddathlu cyhoeddi’r teitl, mae’r Cyngor Llyfrau wedi trefnu cystadleuaeth arbennig i ddod o hyd i’r 150 o gymeriadau o lyfrau plant Cymru sydd wedi cael eu cuddio gan Huw mewn poster prysur.

Cystadleuaeth
Mae cystadleuaeth ‘Ble yn y byd, Boc?’ ar agor i ysgolion ac i unigolion o bob oedran, ac mae gwobrau gwych i’w hennill.

Bydd enillydd categori’r ysgolion yn derbyn pentwr o lyfrau, gyda thaleb llyfrau £50 yn ail wobr.

Y brif wobr yn y categori unigol fydd darn gwreiddiol o waith celf Huw sy’n ymddangos yn Ha Ha Cnec a phentwr o lyfrau, gyda thocyn llyfr £20 yn ail wobr.

Wrth siarad am y gystadleuaeth, dywedodd Huw Aaron: “Dw i wedi arlunio llun o barti arbennig iawn ar gyfer y gystadleuaeth, lle mae’r gwesteion i gyd yn gymeriadau o lyfrau plant a theledu Cymru – rhai newydd, rhai o’m mhlentyndod, a rai sy’n hen iawn erbyn hyn! Mae ’na 150 i’w henwi – ond bydd angen help mam a dad (ac efallai Mam-gu neu Taid!) i adnabod nhw i gyd. Pob lwc!”

Mae manylion pellach am y gystadleuaeth i’w gweld ar www.mellten.com a’r dyddiad cau yw 31 Ionawr 2021. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar Ddiwrnod y Llyfr 4 Mawrth 2021.

Bydd modd prynu copi o Ha Ha Cnec (Y Lolfa) am £1 neu ddefnyddio’r tocyn llyfr £1 a roddir i bob plentyn i nodi Diwrnod y Llyfr 2021 ar 4 Mawrth.

Bydd Stori Cymru – Iaith a Gwaith, a ysgrifennwyd gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, hefyd ar gael eto eleni am £1. Dyma lyfr sy’n adrodd hanes Cymru a gwaith ei phobl drwy gyfrwng stori, llun a chân.

Bydd fersiynau hygyrch o’r llyfrau ar gael, gan gynnwys fersiynau braille, print bras a sain, diolch i gefnogaeth yr RNIB.

Dywedodd Angharad Sinclair, Rheolwr Ymgyrchoedd Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Nod Diwrnod y Llyfr yw sicrhau bod gan bob plentyn gyfle i gael eu llyfr eu hunain a’u helpu i fwynhau’r profiad o ddarllen er pleser, gyda’r holl fuddiannau a ddaw yn sgil hynny. Rydym wrth ein bodd felly bod Huw Aaron wedi cytuno i greu llyfr newydd a fydd, gyda chyfrol Myrddin ap Dafydd, yn sicrhau dewis da o lyfrau Cymraeg am £1 i blant ar Ddiwrnod y Llyfr 2021.”

Mae’r poster sydd yn sail i’r gystadleuaeth yn ymddangos yn llyfr newydd Ble mae Boc? Ar goll yn y chwedlau gan Huw Aaron a gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Tachwedd 2020 ac sydd wedi’i ddewis yn Llyfr y Mis gan y Cyngor Llyfrau ar gyfer mis Rhagfyr 2020.

Diwrnod y Llyfr
Yng Nghymru, caiff ymgyrch Diwrnod y Llyfr ei chydlynu gan y Cyngor Llyfrau a’i chefnogi gan Lywodraeth Cymru a Waterstones.

Bob blwyddyn, drwy gydweithio â llu o gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr, mae Diwrnod y Llyfr yn trefnu rhestr o deitlau penodol am £1 yr un ar gyfer plant a phobl ifanc, a chenhadaeth Diwrnod y Llyfr yw eu hannog i fwynhau llyfrau a darllen drwy roi cyfle iddyn nhw gael eu llyfr eu hunain.

Bydd manylion pellach am ddathliadau Diwrnod y Llyfr 2021 yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd.

Cofio Jan Morris 1926–2020

Cofio Jan Morris 1926–2020

Ar 20 Tachwedd 2020, fe gollodd Cymru un o’i llenorion mawr pan fu farw Jan Morris yn 94 oed. Ar 20 Tachwedd 2020, fe gollodd Cymru un o’i llenorion mawr pan fu farw Jan Morris yn 94 oed. Yn newyddiadurwr, yn nofelydd, yn awdur llyfrau teithio ac yn hanesydd, fe...
Cofio Jan Morris 1926–2020

Troi dalen newydd i gefnogi iechyd meddwl plant

Mae cynllun newydd yn cael ei lansio yng Nghymru i helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles drwy ddarllen.

Mae’r rhaglen, sydd wedi cael ei datblygu a’i harwain gan weithwyr iechyd proffesiynol yn ogystal â phlant a’u teuluoedd, yn cael ei chyflwyno yng Nghymru gan yr elusen Asiantaeth Ddarllen mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a llyfrgelloedd cyhoeddus.

Fel rhan o Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ar ddydd Sadwrn 10 Hydref, mae’r Asiantaeth Ddarllen a’r llyfrgelloedd cyhoeddus yn lansio Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant, gyda chasgliadau o lyfrau ac adnoddau ategol ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Cyhoeddwyd y rhestr ddarllen mewn ymateb i’r galw cynyddol am wybodaeth a chyngor gan arbenigwyr i helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles.

Mae dros filiwn o rieni yn credu y gallai cymorth proffesiynol fod yn llesol i’w plant yn sgil y cyfyngiadau oherwydd y coronafeirws – ac mae Childline wedi cynnal bron i 7,000 o sesiynau cwnsela gyda phlant am effaith yr haint. Mae gan un ym mhob 10 o blant Cymru sydd rhwng pump ac 16 oed broblem iechyd meddwl, ac mae gan lawer mwy broblemau ymddygiad.

Mae’r rhestr ddarllen i blant, Darllen yn Well, yn cynnwys 33 o lyfrau a ddewiswyd i fynd i’r afael â rhai o’r prif heriau sy’n wynebu plant heddiw. Mae’r llyfrau ar y rhestr yn trafod pynciau fel gorbryder a galar, bwlio a diogelwch ar y we, a sut i ddelio â digwyddiadau yn y newyddion. Mae’r rhestr o lyfrau hefyd yn archwilio sut i fyw yn well gydag ystod o gyflyrau ar ôl diagnosis, gan gynnwys Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD), dyslecsia, Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) ac anableddau corfforol.

Mae’r rhestr wedi’i hanelu at blant Cyfnod Allweddol 2 ac mae’n cynnwys teitlau sy’n addas ar gyfer ystod eang o lefelau darllen, er mwyn cynnig cymorth i ddarllenwyr llai hyderus, ac i annog plant i ddarllen gyda’u brodyr a’u chwiorydd a’u gofalwyr.

Meddai Karen Napier, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Ddarllen: “Mae un ym mhob deg o blant Cymru yn dioddef problemau iechyd meddwl, ac mae digwyddiadau byd-eang diweddar wedi gwneud y broblem yn waeth. Yn yr Asiantaeth Ddarllen, rydyn ni’n credu mewn pŵer darllen i daclo rhai o heriau mwyaf bywyd, ac yn y maes newydd a phwysig yma o’n gwaith byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth, cyngor a straeon o ansawdd sydd wedi’u cymeradwyo gan arbenigwyr, i helpu plant i reoli a deall eu teimladau ac i ymdopi mewn cyfnodau anodd.”

Gall llyfrau sydd ar y rhestr gael eu hargymell gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, athrawon ac unrhyw un arall sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd. Mae’r casgliadau o lyfrau ar gael i’w benthyca am ddim o lyfrgelloedd cyhoeddus lleol. Mae’r Asiantaeth Ddarllen yn gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru er mwyn sicrhau bod llyfrau sydd ar y rhestr ar gael yn Gymraeg.

Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae lles plant yn bwysig bob amser, ond mae’r pandemig yma wedi gwneud i ni sylweddoli pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr fod gan blant fynediad at adnoddau digidol a phrint maen nhw’n gallu ymddiried ynddyn nhw sy’n helpu i’w cefnogi nhw a’u galluogi nhw i siarad am eu teimladau. Mae’n hanfodol bod y sgyrsiau yma’n gallu digwydd yn iaith gyntaf y plentyn, a dyna pam ein bod ni yn y Cyngor Llyfrau yn falch o fod yn rhan o’r gwaith o gyfieithu’r llyfrau gwych yma.”

Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: “Rydw i’n falch ein bod ni wedi gallu darparu cyllid i sicrhau’r hawliau er mwyn cynhyrchu a dosbarthu fersiynau electronig o’r llyfrau Cymraeg ar y rhestr i blant. Mae hyn yn hanfodol o ystyried pwysigrwydd cynnwys digidol yn ystod y cyfnod yma. Bydd y cyllid hefyd yn galluogi dosbarthu copïau o fersiynau print o’r llyfrau am ddim i’w defnyddio mewn llyfrgelloedd ledled Cymru ac fel rhan o’r cynlluniau clicio a chasglu. Bydd hwn yn hwb sylweddol i lyfrgelloedd a’u defnyddwyr yng Nghymru.”

Gall y casgliad o lyfrau Darllen yn Well i blant – sydd wedi cael cydnabyddiaeth gan gyrff iechyd blaenllaw, mewn partneriaeth â Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru a chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor y Celfyddydau yn Lloegr – gefnogi plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl drwy ddefnyddio adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth y tu allan i leoliadau clinigol, neu tra eu bod nhw’n aros am driniaeth.

Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydw i wrth fy modd y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer y cynllun pwysig yma, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi chwarae rhan sylweddol i gyflawni ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Iechyd Meddwl a ‘Mwy na geiriau’, sef ein fframwaith ar gyfer y Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae llyfrau wedi bod yn llefydd i bobl chwilio am atebion neu i gael cysur, ac i ddianc, ers amser maith. Rwy’n gobeithio y bydd y fenter yma’n ysbrydoli plant a theuluoedd i ddarllen er eu lles a’u mwynhad. Does dim diwedd ar bŵer darllen, felly gadewch i ni ddefnyddio rhywfaint o’r egni yna i daclo’r heriau cynyddol mae plant yn eu hwynebu gyda’u hiechyd meddwl.”

Meddai Bethan Hughes, Prif Lyfrgellydd a chynrychiolydd ar ran Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn fod Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant yn cael ei lansio yma yng Nghymru fel cynllun dwyieithog, ac yn gyffrous i weithio gyda’n partneriaid i wireddu’r cynllun.

“Mae darllen, yn ei hanfod, yn llesol, ac mae darllen er mwyn deall emosiynau a theimladau yn hanfodol i ni i gyd, ac yn arbennig i blant wrth iddyn nhw ddysgu i ddeall y byd o’u cwmpas a’u hymateb nhw iddo.

“Bydd y cynllun yma’n gyfle i ni roi yn nwylo plant, yn eu dewis iaith, lyfrau sydd wedi eu dethol yn ofalus i gynnig cymorth iddyn nhw ddeall eu teimladau, drwy gyfrwng geiriau, lluniau a’r dychymyg.

“Mae pobl yn ymddiried yn eu llyfrgell leol fel lle i gael cymorth a gwybodaeth ddi-duedd, yn lleol yn eu cymuned, mewn lleoliad sydd ddim yn un clinigol a heb unrhyw fath o stigma yn gysylltiedig ag o. Mae’r cynllun yma’n enghraifft arall o sut y gallwn gynnig y cymorth yma.”

Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant yw’r trydydd cynllun Darllen yn Well i gael ei gyflwyno yng Nghymru ar ôl llwyddiant y casgliadau o lyfrau ar ddementia a iechyd meddwl.

I gael rhagor o wybodaeth am y llyfrau Darllen yn Well i blant, ewch i: reading-well.org.uk/cymru