Rhag 16, 2020
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o gefnogi cystadleuaeth ysgrifennu stori i ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru sy’n cael ei threfnu gan BBC Radio Cymru.
Fel rhan o ddigwyddiadau Diwrnod y Llyfr 2021, mae rhaglen foreol Aled Hughes yn galw ar blant rhwng 5-11 oed i ysgrifennu stori Cymraeg hyd at 500 gair ar thema “Y Llwybr Hud”.
Mae tri chategori ar gyfer oedrannau gwahanol, sef:
• Cyfnod Sylfaen, sef 5-7 oed
• Cyfnod allwedol 2a, 7-9 oed
• Cyfnod allweddol 2b, 9-11 oed
Bydd Aled yn cyhoeddi’r enillwyr ar ei raglen yn ystod yr wythnos sy’n arwain at Ddiwrnod y Llyfr ar 4 Mawrth 2021, gyda’r buddugwyr yn derbyn pentwr o lyfrau yn wobr gan y Cyngor Llyfrau.
Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau: “Mae Diwrnod y Llyfr yn ddigwyddiad holl bwysig yn ein calendr blynyddol ac rydyn ni’n falch iawn i gefnogi’r gystadleuaeth yma sy’n cael ei threfnu gan BBC Radio Cymru. Mae gan bob unigolyn stori yn cuddio y tu mewn iddyn nhw a dyma gyfle gwych felly i ddechrau meithrin doniau ysgrifennu ymhlith y to ifanc.”
Llio Maddocks yw’r beirniad fydd yn pori drwy’r straeon ac yn dewis y dair stori orau.
Os am gystadlu, mae gofyn i ysgolion anfon straeon eu disgyblion at BBC Radio Cymru erbyn y dyddiad cau 25 Ionawr 2021, ynghyd â’r ffurflen gais sydd i’w chael ar wefan Radio Cymru.
Y cyfeiriad ar gyfer anfon y straeon yw:
Sgwennu Stori Aled Hughes
BBC Radio Cymru
Bryn Meirion
Bangor
LL57 2BY
Rhaid nodi’n glir ffugenw’r disgybl, y categori ac enw’r ysgol ar ben pob stori, a bydd angen i’r ysgol gadw rhestr o’r enwau sy’n cyd-fynd â’r ffugenwau.
Mae manylion pellach ynghyd â thermau ac amodau llawn i’w cael ar wefan BBC Radio Cymru neu gallwch chi gysylltu gyda rhaglen Aled Hughes ar aled@bbc.co.uk.
Pob lwc!
Tach 30, 2020
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn hynod o falch o gyhoeddi mai cyfrol llawn hwyl a sbri gan Huw Aaron fydd y llyfr £1 Cymraeg newydd ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021.
Yn ei ffordd ddihafal ei hun, mae’r cartwnydd a’r darlunydd dawnus o Gaerdydd wedi mynd ati i greu Ha Ha Cnec i blant bach a mawr ei fwynhau ar Ddiwrnod y Llyfr nesaf sef 4 Mawrth 2021.
Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, bydd y gyfrol yn fwrlwm o jôcs a chartwnau doniol ynghyd ag ambell un o gymeriadau unigryw Huw.
I ddathlu cyhoeddi’r teitl, mae’r Cyngor Llyfrau wedi trefnu cystadleuaeth arbennig i ddod o hyd i’r 150 o gymeriadau o lyfrau plant Cymru sydd wedi cael eu cuddio gan Huw mewn poster prysur.
Cystadleuaeth
Mae cystadleuaeth ‘Ble yn y byd, Boc?’ ar agor i ysgolion ac i unigolion o bob oedran, ac mae gwobrau gwych i’w hennill.
Bydd enillydd categori’r ysgolion yn derbyn pentwr o lyfrau, gyda thaleb llyfrau £50 yn ail wobr.
Y brif wobr yn y categori unigol fydd darn gwreiddiol o waith celf Huw sy’n ymddangos yn Ha Ha Cnec a phentwr o lyfrau, gyda thocyn llyfr £20 yn ail wobr.
Wrth siarad am y gystadleuaeth, dywedodd Huw Aaron: “Dw i wedi arlunio llun o barti arbennig iawn ar gyfer y gystadleuaeth, lle mae’r gwesteion i gyd yn gymeriadau o lyfrau plant a theledu Cymru – rhai newydd, rhai o’m mhlentyndod, a rai sy’n hen iawn erbyn hyn! Mae ’na 150 i’w henwi – ond bydd angen help mam a dad (ac efallai Mam-gu neu Taid!) i adnabod nhw i gyd. Pob lwc!”
Mae manylion pellach am y gystadleuaeth i’w gweld ar www.mellten.com a’r dyddiad cau yw 31 Ionawr 2021. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar Ddiwrnod y Llyfr 4 Mawrth 2021.
Bydd modd prynu copi o Ha Ha Cnec (Y Lolfa) am £1 neu ddefnyddio’r tocyn llyfr £1 a roddir i bob plentyn i nodi Diwrnod y Llyfr 2021 ar 4 Mawrth.
Bydd Stori Cymru – Iaith a Gwaith, a ysgrifennwyd gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, hefyd ar gael eto eleni am £1. Dyma lyfr sy’n adrodd hanes Cymru a gwaith ei phobl drwy gyfrwng stori, llun a chân.
Bydd fersiynau hygyrch o’r llyfrau ar gael, gan gynnwys fersiynau braille, print bras a sain, diolch i gefnogaeth yr RNIB.
Dywedodd Angharad Sinclair, Rheolwr Ymgyrchoedd Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Nod Diwrnod y Llyfr yw sicrhau bod gan bob plentyn gyfle i gael eu llyfr eu hunain a’u helpu i fwynhau’r profiad o ddarllen er pleser, gyda’r holl fuddiannau a ddaw yn sgil hynny. Rydym wrth ein bodd felly bod Huw Aaron wedi cytuno i greu llyfr newydd a fydd, gyda chyfrol Myrddin ap Dafydd, yn sicrhau dewis da o lyfrau Cymraeg am £1 i blant ar Ddiwrnod y Llyfr 2021.”
Mae’r poster sydd yn sail i’r gystadleuaeth yn ymddangos yn llyfr newydd Ble mae Boc? Ar goll yn y chwedlau gan Huw Aaron a gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Tachwedd 2020 ac sydd wedi’i ddewis yn Llyfr y Mis gan y Cyngor Llyfrau ar gyfer mis Rhagfyr 2020.
Diwrnod y Llyfr
Yng Nghymru, caiff ymgyrch Diwrnod y Llyfr ei chydlynu gan y Cyngor Llyfrau a’i chefnogi gan Lywodraeth Cymru a Waterstones.
Bob blwyddyn, drwy gydweithio â llu o gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr, mae Diwrnod y Llyfr yn trefnu rhestr o deitlau penodol am £1 yr un ar gyfer plant a phobl ifanc, a chenhadaeth Diwrnod y Llyfr yw eu hannog i fwynhau llyfrau a darllen drwy roi cyfle iddyn nhw gael eu llyfr eu hunain.
Bydd manylion pellach am ddathliadau Diwrnod y Llyfr 2021 yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd.
Hyd 14, 2020
Mae cynllun newydd yn cael ei lansio yng Nghymru i helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles drwy ddarllen.
Mae’r rhaglen, sydd wedi cael ei datblygu a’i harwain gan weithwyr iechyd proffesiynol yn ogystal â phlant a’u teuluoedd, yn cael ei chyflwyno yng Nghymru gan yr elusen Asiantaeth Ddarllen mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a llyfrgelloedd cyhoeddus.
Fel rhan o Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ar ddydd Sadwrn 10 Hydref, mae’r Asiantaeth Ddarllen a’r llyfrgelloedd cyhoeddus yn lansio Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant, gyda chasgliadau o lyfrau ac adnoddau ategol ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Cyhoeddwyd y rhestr ddarllen mewn ymateb i’r galw cynyddol am wybodaeth a chyngor gan arbenigwyr i helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles.
Mae dros filiwn o rieni yn credu y gallai cymorth proffesiynol fod yn llesol i’w plant yn sgil y cyfyngiadau oherwydd y coronafeirws – ac mae Childline wedi cynnal bron i 7,000 o sesiynau cwnsela gyda phlant am effaith yr haint. Mae gan un ym mhob 10 o blant Cymru sydd rhwng pump ac 16 oed broblem iechyd meddwl, ac mae gan lawer mwy broblemau ymddygiad.
Mae’r rhestr ddarllen i blant, Darllen yn Well, yn cynnwys 33 o lyfrau a ddewiswyd i fynd i’r afael â rhai o’r prif heriau sy’n wynebu plant heddiw. Mae’r llyfrau ar y rhestr yn trafod pynciau fel gorbryder a galar, bwlio a diogelwch ar y we, a sut i ddelio â digwyddiadau yn y newyddion. Mae’r rhestr o lyfrau hefyd yn archwilio sut i fyw yn well gydag ystod o gyflyrau ar ôl diagnosis, gan gynnwys Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD), dyslecsia, Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) ac anableddau corfforol.
Mae’r rhestr wedi’i hanelu at blant Cyfnod Allweddol 2 ac mae’n cynnwys teitlau sy’n addas ar gyfer ystod eang o lefelau darllen, er mwyn cynnig cymorth i ddarllenwyr llai hyderus, ac i annog plant i ddarllen gyda’u brodyr a’u chwiorydd a’u gofalwyr.
Meddai Karen Napier, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Ddarllen: “Mae un ym mhob deg o blant Cymru yn dioddef problemau iechyd meddwl, ac mae digwyddiadau byd-eang diweddar wedi gwneud y broblem yn waeth. Yn yr Asiantaeth Ddarllen, rydyn ni’n credu mewn pŵer darllen i daclo rhai o heriau mwyaf bywyd, ac yn y maes newydd a phwysig yma o’n gwaith byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth, cyngor a straeon o ansawdd sydd wedi’u cymeradwyo gan arbenigwyr, i helpu plant i reoli a deall eu teimladau ac i ymdopi mewn cyfnodau anodd.”
Gall llyfrau sydd ar y rhestr gael eu hargymell gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, athrawon ac unrhyw un arall sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd. Mae’r casgliadau o lyfrau ar gael i’w benthyca am ddim o lyfrgelloedd cyhoeddus lleol. Mae’r Asiantaeth Ddarllen yn gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru er mwyn sicrhau bod llyfrau sydd ar y rhestr ar gael yn Gymraeg.
Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae lles plant yn bwysig bob amser, ond mae’r pandemig yma wedi gwneud i ni sylweddoli pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr fod gan blant fynediad at adnoddau digidol a phrint maen nhw’n gallu ymddiried ynddyn nhw sy’n helpu i’w cefnogi nhw a’u galluogi nhw i siarad am eu teimladau. Mae’n hanfodol bod y sgyrsiau yma’n gallu digwydd yn iaith gyntaf y plentyn, a dyna pam ein bod ni yn y Cyngor Llyfrau yn falch o fod yn rhan o’r gwaith o gyfieithu’r llyfrau gwych yma.”
Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: “Rydw i’n falch ein bod ni wedi gallu darparu cyllid i sicrhau’r hawliau er mwyn cynhyrchu a dosbarthu fersiynau electronig o’r llyfrau Cymraeg ar y rhestr i blant. Mae hyn yn hanfodol o ystyried pwysigrwydd cynnwys digidol yn ystod y cyfnod yma. Bydd y cyllid hefyd yn galluogi dosbarthu copïau o fersiynau print o’r llyfrau am ddim i’w defnyddio mewn llyfrgelloedd ledled Cymru ac fel rhan o’r cynlluniau clicio a chasglu. Bydd hwn yn hwb sylweddol i lyfrgelloedd a’u defnyddwyr yng Nghymru.”
Gall y casgliad o lyfrau Darllen yn Well i blant – sydd wedi cael cydnabyddiaeth gan gyrff iechyd blaenllaw, mewn partneriaeth â Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru a chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor y Celfyddydau yn Lloegr – gefnogi plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl drwy ddefnyddio adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth y tu allan i leoliadau clinigol, neu tra eu bod nhw’n aros am driniaeth.
Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydw i wrth fy modd y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer y cynllun pwysig yma, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi chwarae rhan sylweddol i gyflawni ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Iechyd Meddwl a ‘Mwy na geiriau’, sef ein fframwaith ar gyfer y Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae llyfrau wedi bod yn llefydd i bobl chwilio am atebion neu i gael cysur, ac i ddianc, ers amser maith. Rwy’n gobeithio y bydd y fenter yma’n ysbrydoli plant a theuluoedd i ddarllen er eu lles a’u mwynhad. Does dim diwedd ar bŵer darllen, felly gadewch i ni ddefnyddio rhywfaint o’r egni yna i daclo’r heriau cynyddol mae plant yn eu hwynebu gyda’u hiechyd meddwl.”
Meddai Bethan Hughes, Prif Lyfrgellydd a chynrychiolydd ar ran Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn fod Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant yn cael ei lansio yma yng Nghymru fel cynllun dwyieithog, ac yn gyffrous i weithio gyda’n partneriaid i wireddu’r cynllun.
“Mae darllen, yn ei hanfod, yn llesol, ac mae darllen er mwyn deall emosiynau a theimladau yn hanfodol i ni i gyd, ac yn arbennig i blant wrth iddyn nhw ddysgu i ddeall y byd o’u cwmpas a’u hymateb nhw iddo.
“Bydd y cynllun yma’n gyfle i ni roi yn nwylo plant, yn eu dewis iaith, lyfrau sydd wedi eu dethol yn ofalus i gynnig cymorth iddyn nhw ddeall eu teimladau, drwy gyfrwng geiriau, lluniau a’r dychymyg.
“Mae pobl yn ymddiried yn eu llyfrgell leol fel lle i gael cymorth a gwybodaeth ddi-duedd, yn lleol yn eu cymuned, mewn lleoliad sydd ddim yn un clinigol a heb unrhyw fath o stigma yn gysylltiedig ag o. Mae’r cynllun yma’n enghraifft arall o sut y gallwn gynnig y cymorth yma.”
Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant yw’r trydydd cynllun Darllen yn Well i gael ei gyflwyno yng Nghymru ar ôl llwyddiant y casgliadau o lyfrau ar ddementia a iechyd meddwl.
I gael rhagor o wybodaeth am y llyfrau Darllen yn Well i blant, ewch i: reading-well.org.uk/cymru
Hyd 8, 2020
Mae cyrsiau i ddatblygu awduron a darlunwyr newydd, a drefnwyd ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru, yn dechrau dwyn ffrwyth.
Mae cyrsiau i ddatblygu awduron a darlunwyr newydd, a drefnwyd ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru, yn dechrau dwyn ffrwyth.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae nifer o lyfrau gwahanol wedi’u cyhoeddi neu ar fin eu cyhoeddi gan awduron a darlunwyr a fu ar y cyrsiau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy, Gwynedd.
Cynhaliwyd un cwrs ar gyfer Ysgrifennu a Darlunio i Blant ym mis Chwefror 2019, a chwrs arall ar Ysgrifennu i Oedolion Ifanc ym mis Chwefror 2020, gyda chyfanswm o 20 awdur ac 8 darlunydd yn sicrhau eu lle fel rhan o broses gystadleuol.
Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Allwn ni ddim hawlio na fyddai’r llyfrau yma wedi’u cyhoeddi o gwbl oni bai am y cyrsiau a drefnwyd ar y cyd gan y Cyngor Llyfrau a Llenyddiaeth Cymru, ond yn ddi-os maen nhw wedi helpu i ddatblygu egin awduron a llenwi bwlch yn y farchnad ar gyfer deunydd darllen gwreiddiol yn y Gymraeg i blant ac oedolion ifanc. Mae datblygu deunydd darllen o’r fath yn un o’n blaenoriaethau ni yn y Cyngor Llyfrau wrth i ni barhau i weithredu ar argymhellion adroddiad Dr Siwan Rosser o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd.”
Dywedodd Leusa Llewelyn ar ran Llenyddiaeth Cymru: “Mae wedi bod yn bleser cael cydweithio â’r Cyngor Llyfrau ar y cyrsiau datblygu awduron yma, a gweld cystal llwyddiant mae sawl un o’r awduron wedi ei gael ar ôl treulio wythnos yn Nhŷ Newydd dan ofal rhai o’n hawduron a’n tiwtoriaid gorau. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i adnabod bylchau yn niwylliant llenyddol Cymru – gan fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu o ran tangynrychiolaeth ac amrywiaeth yn ein llenyddiaeth – a chreu cyfleoedd datblygu safonol i sicrhau fod y gwaith pwysig hwn yn parhau.”
Dywedodd Sioned Wyn Roberts, fu ar y cwrs Ysgrifennu a Darlunio i Blant yn 2019: “Wnes i fwynhau pob eiliad o’r cwrs ysgrifennu a darlunio i blant. Yn Nhŷ Newydd wnes i gyfarfod yr arlunydd Bethan Mai sydd wedi dod â chymeriad Ffwlbart Ffred yn fyw, ac mae hyd yn oed sinc pinc yr Arglwyddes Lloyd George yn rhan o’r lluniau! Fyswn i erioed wedi ystyried ysgrifennu llyfrau oni bai am y cwrs yn Nhŷ Newydd ac o ganlyniad mae Ffwlbart Ffred: Drewi fel Ffwlbart, y cyntaf mewn cyfres o lyfrau stori-a-llun, wedi ei gyhoeddi eleni a bydd Gwag y Nos, fy nofel i blant, allan y flwyddyn nesa.”
Ymhlith y llyfrau sydd wedi’u cyhoeddi neu sydd yn y broses o gael eu cyhoeddi gan awduron a darlunwyr a fu ar y cyrsiau y mae:
-
- Nain Nain Nain (Gwasg y Bwthyn, 2019) – geiriau gan Rhian Cadwaladr a lluniau gan Jac Jones (fu’n diwtor ar y cwrs Ysgrifennu a Darlunio i Blant)
-
- Gwag y Nos (Atebol, 2021) – geiriau gan Sioned Wyn Roberts
-
- Amser Canu, Blant (Rily, 2020) – lluniau gan Leonie Servini (a dau lyfr arall ar y gweill)
-
- Ynyr yr Ysbryd (Gwasg Carreg Gwalch, 2020) – geiriau gan Rhian Cadwaladr a lluniau gan Leri Tecwyn
Daeth llwyddiant hefyd i ran Seran Dolma o Benrhyndeudraeth ym mis Medi 2020 pan enillodd hi gystadleuaeth a drefnwyd gan Gyfeillion y Cyngor Llyfrau i lunio syniad ar gyfer nofel i oedolion ifanc.
Roedd Seran wedi mynychu’r cwrs Ysgrifennu a Darlunio i Blant yn Nhŷ Newydd yn 2019 fel darlunydd, ac fe fydd y nofel mae’n ei hysgrifennu hefyd yn cynnwys elfen graffeg amlwg.
Mae hi hefyd yn rhan o Gynllun Mentora Awduron Llenyddiaeth Cymru a’i gobaith yw y bydd ei nofel gyntaf, ‘Y Nendyrau,’ yn cael ei chyhoeddi yn 2021.
Hyd 5, 2020
Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo ddechrau cael eu codi, mae siopau llyfrau wedi bod yn dechrau ailagor eu drysau ers dydd Llun 22 Mehefin 2020. Mae nifer yn parhau i werthu arlein hefyd, gan gynnig gwasanaeth clicio a chasglu, danfon yn lleol neu drwy’r post.
Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo ddechrau cael eu codi, mae siopau llyfrau wedi bod yn dechrau ailagor eu drysau ers dydd Llun 22 Mehefin 2020. Mae nifer yn parhau i werthu arlein hefyd, gan gynnig gwasanaeth clicio a chasglu, danfon yn lleol neu drwy’r post.
Rydyn ni wedi bod yn tynnu manylion am drefniadau siopau gwahanol at ei gilydd yma, ac yn diweddaru’r rhestr wrth i ni dderbyn gwybodaeth newydd. Gan fod hon yn sefyllfa sy’n datblygu’n gyflym, mae’n bosib na fydd y manylion diweddaraf gennym ni bob amser felly gwiriwch gyda’ch siop lyfrau leol.
Os ydych chi’n llyfrwerthwr yng Nghymru sydd am ychwanegu neu ddiweddaru eich manylion, ebostiwch post@llyfrau.cymru
Awen Meirion, Y Bala – www.awenmeirion.com / @AwenMeirion / www.facebook.com/awenmeirion / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 9.00-5.30pm
Awen Menai, Porthaethwy – www.facebook.com/awen.menai , https://arystrydfawr.co.uk, awenmenai@gmail.com / 01248 715532 / Yn gobeithio ail-agor penwythnos 4 Gorffennaf yn ddibynnol ar y sefyllfa ar Ynys Môn. Bydd oriau yn newid – Mawrth-Sadwrn rhwng 10.00-4.00pm
Awen Teifi, Aberteifi – www.awenteifi.com www.facebook.com/Awen-Teifi Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 9.00-5.00pm
Anrhegaron, Tregaron – www.anrhegaron.cymru / Siop ar agor ddydd Mawrth a dydd Gwener rhwng 10.00-4.00pm a dydd Sadwrn rhwng 9.30-12.30pm
Book-ish, Crughywel – www.bookish.co.uk / @Bookishcrick / 01873 811 256 / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 10.00-5.00pm a dydd Sul rhwng 10.00-4.00pm. / Modd archebu ar-lein neu ar y ffôn / Gwasanaeth postio
Browsers Bookshop, Porthmadog – https://www.browsersbook.shop/ / 01766 512066 / Siop wedi cau i’r cyhoedd am y tro / Modd archebu ar-lein neu ar y ffôn / Gwasanaeth postio
Burway Books, Church Stretton – www.burwaybooks.co.uk / Twitter – @BurwayBooks / Instagram – burwaybooks / 01694 723388 / Ar agor o ddydd Llun – Sadwrn o 10-4pm.
Bys a Bawd, Llanrwst – https://www.bysabawd.cymru / Siop ar agor o 22/6 ymlaen
Caban, Caerdydd – https://www.facebook.com/CabanPontcanna / Siop yn agor o dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30-5.30pm a dydd Sadwrn rhwng 10.00-5.00pm.
Cant a Mil, Caerdydd – www.cantamil.com / @siopcantamil / jo@cantamil.com / O 1 Medi, bydd y siop ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn rhwng 10.30–4.00pm / Modd archebu trwy’r wefan, trwy ebost a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol / Gwasanaeth postio
Chepstow Books, Chepstow – www.chesptowbooks.co.uk / 01291 625011 / shop@chepstbooks.co.uk / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 10.00-4.00pm a dydd Sul rhwng 12.00-4.00pm.
Cofion Cynnes, Ystradgynlais – Siop nawr ar agor rhwng 7yb – 1yp
College Street Books, Rhydaman – 07434 975578 / www.facebook.com/CollegeStreetBooks / – Agor 22/06 rhwng 10-2pm.
Cover to Cover, Mwmbwls – www.cover-to-cover.co.uk / https://twitter.com/CovertoCoverUK?lang=en / 01792 366363 / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 10.00-4.00 o’r gloch
Cowbridge Books, Y Bontfaen –cowbridgebookshop@btconnect.co.uk / https://www.facebook.com/thecowbridgebookshop / 01446 775105 / Siop ar agor dydd Llun, Mawrth, Iau, Gwener a Sadwrn rhwng 9.30-5.00pm.
Cwpwrdd Cornel, Llangefni – Siop ar agor bob dydd ag eithrio dydd Mawrth.
Cwtsh, Pontyberem – www.facebook.com/YCwtsh / Siop ar gau i’r cyhoedd ond mae modd archebu dros y we, ar y ffôn 01269 871600 neu ar ebost.
Cyfoes, Rhydaman – www.facebook.com/Cyfoes / Siop ar agor o ddydd Llun i Sadwrn, rhwng 9:30-4.00pm.
Debbie’s Jewellers, Castell Newydd Emlyn – https://www.facebook.com/AnrhegionCymraeg/ Siop yn agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn rhwng 9.00-5.00pm.
Dragon’s Garden, Llandeilo – www.facebook.com/BooksattheDragon’sGarden / www.dragons-garden.com / mandy@dragons-garden.com / Siop ar gau ond modd archebu ar-lein o’r wefan neu e-bostio.
Elfair, Rhuthun – 07976 981490 / elfair@boyns.cymru Siop wedi ail agor 26/6 – Dydd Llun i Gwener 10.00-5.30pm ac ar ddydd Sadwrn 10.00-5.00pm
Eve’s Toy Shop, Llandeilo – Ar agor 10-5pm dydd Llun – Sadwrn.
Ffab, Llandysul – www.ffabcymru.co.uk / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00-4.30pm a dydd Sadwrn rhwng8.00-1.00pm.
Giggles, Y Bari – www.facebook.com/Giggles-Barry-479792188748220/ / Siop wedi ail-agor 26/6 gydag oriau newydd – Dydd Llun, Mawrth, Iau, Gwener a Sadwrn rhwng 10.00-3.00pm.
Goldstones Books, Caerfyrddin – www.goldstonebooks.co.uk / www.facebook.com/GoldstoneBooks / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30-4.00pm a dydd Sadwrn rhwng 9.30-5.00pm
Great Oak Bookshop, Llanidloes – https://greatoakbooks.co.uk / https://www.facebook.com/TheGreatOakBookshop?fref=ts / 01686 412959 / Siop agor 22/06. Oriau Llun – Gwener (9:30 – 5:30pm), Sadwrn (9:30-4:30pm)
Griffin Books, Penarth – www.griffinbooks.co.uk / info@griffinbooks.co.uk / 02020 706455 / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 9.00-5.30pm / Modd archebu dros y ffôn, ar y we a drwy cyfryngau cymdeithasol / Gwasanaeth postio a chludo lleol. / Yn agor ar 1 Gorffennaf.
Gwisgo, Aberaeron – www.gwisgobookworm.co.uk / info@gwisgobookworm.co.uk / www.facebook.com/Gwisgo Bookworm / 01545 238282 / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 11.00-5.00pm a dydd Sul rhwng 11.30-4.00pm
Hintons, Conwy – @hintons.conwy / Siop ar agor yn llawn / Modd archebu drwy Instagram
Igam Ogam, Llandeilo – www.igamogamgifts.co.uk / 01558 822698 / Agor 22/06. Agor dydd Llun, dydd Iau a dydd Gwener o 10-4pm
Inc, Aberystwyth – https://www.facebook.com/Siop-Inc-121059026497 / mail@siopinc.com / 01970 626200 / 07834957158 / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00-5.30pm a dydd Sadwrn rhwng 9.00-5.00pm
Llên Llŷn, Pwllheli – 01758 612907 / Agor 22/06 am 9am
Llyfrau Eaves a Lord, Trefaldwyn – 01686 668918 / Barrylord1965@btinternet.com / Ail agor ar 6/8 ar ddydd Iau a Sadwrn rhwng 10.00-3.00 o’r gloch
Llyfrau’r Enfys, Merthyr Tudful – Siop ar agor ar ddydd Gwener a Sadrwn rhwng 10.00-2.00 o’r gloch
Na Nog, Caernarfon – www.na-nog.com / facebook.com/SiopNanog / Instagram – siop_nanog / Twitter – @SiopNanog. 01286 676946 / Agor 22/06 am 10am
Narberth Museum Bookshop, Arberth – www.narberthmuseum.co.uk / 01834 861719 / Siop ar agor o ddydd Iau i ddydd Sadwrn rhwng 10.00-5.00pm ar hyn o bryd ac yn derbyn archebion ar lein
No 1 High St, Y Drenewydd – www.no1highstreet.co.uk / 07866259710 / Ar agor o 9-5pm, Llun – Sadwrn
Palas Print, Caernarfon – www.palasprint.com / @PalasPrint / eirian@palasprint.com / Siop ar agor o dydd Mawrth i ddydd Sadwrn rhwng 10.00-4.00pm. Yn gwasanaethu cwsmeriaid o geg drws y siop, ac yn parhau i dderbyn archebion ac ymholiadau arlein neu dros y ffôn.
Paned o Gê, Caerdydd – www.paned-o-ge.cymru / info@paned-o-ge.wales / www.twitter.com/panedoge / https://instagram.com/panedoge. Gellir archebu oddi ar y we.
Pen’rallt Gallery Bookshop, Machynlleth – www.penralltgallerybookshop.co.uk / penralltbooks@gmail.com / 01654 700559 / Siop ar agor fel a ganlyn: dydd Mercher – 1.30-4.30pm (mae modd casglu archebion eisoes wedi’u talu’n amdanynt yn y fynedfa rhwng 10.00-4.30pm); dydd Iau – 9.30-4.30pm drwy apwyntiad yn unig – amser tawel i gwsmeriaid bori/prynu; dydd Gwener 9.30-12.30pm / 1.30-4.30pm (mae modd casglu archebion eisoes wedi’u talu amdanynt yn y fynedfa rhwng 10.00-4.30pm); dydd Sadwrn 1.30-4.00pm drwy apwyntiad yn unig (mae modd casglu archebion rhwng 10.00-12.30pm/ Modd archebu drwy’r wefan neu ebostio neu ffonio.
Pethe Powys, Y Trallwng – Faceboook – Pethe Powys / 01938 554540 / Siop wedi ail agor – 27/ 7 ar dydd Llun, Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn rhwng 10.00-3.00.
Poetry Bookshop, Y Gelli Gandryll – Bwriadu ail agor ar y 6 Gorffennaf. Oriau – Llun i Sadwrn 10-12pm. Rydym hefyd yn cynnig slotiau o chwarter neu hanner awr o ddydd Mercher – Sadwrn rhwng 1-5pm i’r unigolion hynny sy’n nerfus / risg uchel o ran iechyd. Bydd hyn yn gyfle iddynt siopa tra bod y lle yn gwbl wag.
Rhiannon, Tregaron – www.facebook.com/CanolfanRhiannonCentre / www.rhiannon.co.uk / Siop ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn rhwng 9.30-5.30pm / Archebu ar-lein
The Rossiter Books Team iloveit@rossiterbooks.co.uk / Agor 22/06, Llun – Sadwrn o 10-4:30pm.
Seaways, Abergwaun – Seawaysorders@gmail.com / 01348 873433 / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 10-5pm.
Siop Clwyd, Dinbych – www.facebook.com/Siop-Clwyd-468077820051483 / Siop ar agor – Dydd Mawrth tan ddydd Sadwrn rhwng 10.00-4.00pm
Siop Cwlwm, Croesoswallt – www.siopcwlwm.co.uk / 07814 033759 / post@siopcwlwm.co.uk / Ar agor bob dydd Mercher, dydd Gwener a dydd Sadwrn rhwng 9am a 3.30pm / Archebwch drwy www.siopcwlwm.co.uk neu gyfryngau cymdeithasol neu dros y ffôn. Postio am ddim yn achos archebion dros £30, casglu am ddim o Farchnad Croesoswallt.
Siop Dewi, Penrhyndeudraeth – dewi11@btconnect.com / 01766 770266 / Siop ar agor rhwng 7yb a 12yp / Modd archebu dros y ffôn, drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ar e-bost / Gwasanaeth postio
Siop Eifionydd, Porthmadog – Siop ar agor 22/06 ymlaen
Siop Lyfrau’r Hen Bost, Blaenau Ffestiniog – Wedi ail agor. Oriau: Dydd Mawrth, Iau, Gwener a Sadwrn, 10-4pm
Siop Lyfrau Lewis, Llandudno – www.facebook.com/sioplewis/ www.sioplewis.cymru / @sioplewis / Ar agor (23/06) – agor rhwng 10-1pm.
Siop Ogwen, Bethesda – @siopogwen / https://www.facebook.com/siopogwen/ / siop@ogwen.org / Siop ar agor
Siop y Pentan, Caerfyrddin – Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 9.00-4.30pm.
Siop y Pethe, Aberystwyth – www.siopypethe.cymru / post@siopypethe.cymru / 01970 617 120 / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 9.00-5.00pm
Siop Tŷ Tawe, Abertawe – https://www.facebook.com/Ysioptytawe/ Oriau agor newydd o 01/10 – siop ar agor ar ddyddiau Iau, Gwener a Sadwrn rhwng 10.00-2.00 o’r gloch
Siop Sian, Crymych – https://www.facebook.com/SiopSian/ Siop wedi ail-agor dydd Iau (25/06) Oriau – Mawrth-Gwener 9:30-4:30, Sadwrn 9-12pm.
Siop y Siswrn, Yr Wyddrug – 01352 753200 / siopysiswrn@aol.com / Facebook – Siop Y Siswrn / www.siopysiswrn.com / Archebion ar ebost, Facebook a ffôn – gwasanaeth post cyflym a dibynadwy. / Siop ar agor 9.30–4.30 bob dydd heblaw am ddyddiau Iau a Sul.
Siop Siwan, Wrecsam – https://www.facebook.com/siopsiwan/ Siop ar agor o ddydd Llun i Sadwrn rhwng 10.00-4.00pm. Ebostiwch tecstiliausiwmai@outlook.com i archebu llyfrau penodol neu drefnu cludiant.
Siop y Smotyn Du, Llanbed – Siop ar agor gydag oriau cyfyngedig. / Ffôn 01570 422587.
St David’s Bookshop, Tyddewi – 01437 720480 / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 11.00-4.30pm
Tenby Bookshop, Dinbych y Pysgod – https://www.facebook.com/tenbybookshop / 01834 843514 / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener – 10.00-5.30pm, Sadwrn 10.00-6.00pm a Sul 10.00-5.00pm.
The Bookshop, Yr Wyddgrug – https://www.mold-bookshop.co.uk / Siop ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn 9.00-5.00pm
The Hours, Aberhonddu – www.thehoursbrecon.co.uk / Siop ar agor ar ddyddiau Mawrth, Mercher, Gwener a Sadwrn rhwng 10.00-2.00 o’r gloch.
T-Hwnt, Caerfyrddin – Siop ar agor rhwng dydd Mawrth a dydd Sadwrn, 11.00-3.00pm
Tŷ’r Gwrhyd, Pontardawe – www.facebook.com/Tyrgwrhyd/ / 07990153730 / Siop bellach ar agor ac mae modd archebu unrhyw lyfr dros y ffôn 07990 153730 neu ebostio post@gwrhyd.cymru Wedyn, mae modd trefnu apwyntiad rhwng 11.00–2.00 i gasglu archebion.
Verzon Bookshop Gallery, Llandrindod – www.facebook.com/VerzonBookshopGallery / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00-5.00pm a dydd Sadwrn rhwng 9.00-4.00pm.
Victoria Bookshop, Hwlffordd – https://www.facebook.com/VictoriaBookshop / 01437 762750 / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 8.30-4.30pm
Y Felin, Caerdydd – Shan@siopyfelin.co.uk / 02920 692999 / Siop ar agor rhwng 9.30-4.30pm dydd Llun i ddydd Gwener a 10.00-2.00pm ar Sadwrn
Ystwyth Books, Aberystwyth – 01970 639479 / 07590 764115 / www.facebook.com/YstwythBooks / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 11.00.3.30pm