Mae cynllun newydd yn cael ei lansio yng Nghymru i helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles drwy ddarllen.
Mae’r rhaglen, sydd wedi cael ei datblygu a’i harwain gan weithwyr iechyd proffesiynol yn ogystal â phlant a’u teuluoedd, yn cael ei chyflwyno yng Nghymru gan yr elusen Asiantaeth Ddarllen mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a llyfrgelloedd cyhoeddus.
Fel rhan o Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ar ddydd Sadwrn 10 Hydref, mae’r Asiantaeth Ddarllen a’r llyfrgelloedd cyhoeddus yn lansio Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant, gyda chasgliadau o lyfrau ac adnoddau ategol ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Cyhoeddwyd y rhestr ddarllen mewn ymateb i’r galw cynyddol am wybodaeth a chyngor gan arbenigwyr i helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles.
Mae dros filiwn o rieni yn credu y gallai cymorth proffesiynol fod yn llesol i’w plant yn sgil y cyfyngiadau oherwydd y coronafeirws – ac mae Childline wedi cynnal bron i 7,000 o sesiynau cwnsela gyda phlant am effaith yr haint. Mae gan un ym mhob 10 o blant Cymru sydd rhwng pump ac 16 oed broblem iechyd meddwl, ac mae gan lawer mwy broblemau ymddygiad.
Mae’r rhestr ddarllen i blant, Darllen yn Well, yn cynnwys 33 o lyfrau a ddewiswyd i fynd i’r afael â rhai o’r prif heriau sy’n wynebu plant heddiw. Mae’r llyfrau ar y rhestr yn trafod pynciau fel gorbryder a galar, bwlio a diogelwch ar y we, a sut i ddelio â digwyddiadau yn y newyddion. Mae’r rhestr o lyfrau hefyd yn archwilio sut i fyw yn well gydag ystod o gyflyrau ar ôl diagnosis, gan gynnwys Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD), dyslecsia, Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) ac anableddau corfforol.
Mae’r rhestr wedi’i hanelu at blant Cyfnod Allweddol 2 ac mae’n cynnwys teitlau sy’n addas ar gyfer ystod eang o lefelau darllen, er mwyn cynnig cymorth i ddarllenwyr llai hyderus, ac i annog plant i ddarllen gyda’u brodyr a’u chwiorydd a’u gofalwyr.
Meddai Karen Napier, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Ddarllen: “Mae un ym mhob deg o blant Cymru yn dioddef problemau iechyd meddwl, ac mae digwyddiadau byd-eang diweddar wedi gwneud y broblem yn waeth. Yn yr Asiantaeth Ddarllen, rydyn ni’n credu mewn pŵer darllen i daclo rhai o heriau mwyaf bywyd, ac yn y maes newydd a phwysig yma o’n gwaith byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth, cyngor a straeon o ansawdd sydd wedi’u cymeradwyo gan arbenigwyr, i helpu plant i reoli a deall eu teimladau ac i ymdopi mewn cyfnodau anodd.”
Gall llyfrau sydd ar y rhestr gael eu hargymell gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, athrawon ac unrhyw un arall sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd. Mae’r casgliadau o lyfrau ar gael i’w benthyca am ddim o lyfrgelloedd cyhoeddus lleol. Mae’r Asiantaeth Ddarllen yn gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru er mwyn sicrhau bod llyfrau sydd ar y rhestr ar gael yn Gymraeg.
Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae lles plant yn bwysig bob amser, ond mae’r pandemig yma wedi gwneud i ni sylweddoli pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr fod gan blant fynediad at adnoddau digidol a phrint maen nhw’n gallu ymddiried ynddyn nhw sy’n helpu i’w cefnogi nhw a’u galluogi nhw i siarad am eu teimladau. Mae’n hanfodol bod y sgyrsiau yma’n gallu digwydd yn iaith gyntaf y plentyn, a dyna pam ein bod ni yn y Cyngor Llyfrau yn falch o fod yn rhan o’r gwaith o gyfieithu’r llyfrau gwych yma.”
Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: “Rydw i’n falch ein bod ni wedi gallu darparu cyllid i sicrhau’r hawliau er mwyn cynhyrchu a dosbarthu fersiynau electronig o’r llyfrau Cymraeg ar y rhestr i blant. Mae hyn yn hanfodol o ystyried pwysigrwydd cynnwys digidol yn ystod y cyfnod yma. Bydd y cyllid hefyd yn galluogi dosbarthu copïau o fersiynau print o’r llyfrau am ddim i’w defnyddio mewn llyfrgelloedd ledled Cymru ac fel rhan o’r cynlluniau clicio a chasglu. Bydd hwn yn hwb sylweddol i lyfrgelloedd a’u defnyddwyr yng Nghymru.”
Gall y casgliad o lyfrau Darllen yn Well i blant – sydd wedi cael cydnabyddiaeth gan gyrff iechyd blaenllaw, mewn partneriaeth â Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru a chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor y Celfyddydau yn Lloegr – gefnogi plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl drwy ddefnyddio adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth y tu allan i leoliadau clinigol, neu tra eu bod nhw’n aros am driniaeth.
Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydw i wrth fy modd y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer y cynllun pwysig yma, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi chwarae rhan sylweddol i gyflawni ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Iechyd Meddwl a ‘Mwy na geiriau’, sef ein fframwaith ar gyfer y Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae llyfrau wedi bod yn llefydd i bobl chwilio am atebion neu i gael cysur, ac i ddianc, ers amser maith. Rwy’n gobeithio y bydd y fenter yma’n ysbrydoli plant a theuluoedd i ddarllen er eu lles a’u mwynhad. Does dim diwedd ar bŵer darllen, felly gadewch i ni ddefnyddio rhywfaint o’r egni yna i daclo’r heriau cynyddol mae plant yn eu hwynebu gyda’u hiechyd meddwl.”
Meddai Bethan Hughes, Prif Lyfrgellydd a chynrychiolydd ar ran Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn fod Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant yn cael ei lansio yma yng Nghymru fel cynllun dwyieithog, ac yn gyffrous i weithio gyda’n partneriaid i wireddu’r cynllun.
“Mae darllen, yn ei hanfod, yn llesol, ac mae darllen er mwyn deall emosiynau a theimladau yn hanfodol i ni i gyd, ac yn arbennig i blant wrth iddyn nhw ddysgu i ddeall y byd o’u cwmpas a’u hymateb nhw iddo.
“Bydd y cynllun yma’n gyfle i ni roi yn nwylo plant, yn eu dewis iaith, lyfrau sydd wedi eu dethol yn ofalus i gynnig cymorth iddyn nhw ddeall eu teimladau, drwy gyfrwng geiriau, lluniau a’r dychymyg.
“Mae pobl yn ymddiried yn eu llyfrgell leol fel lle i gael cymorth a gwybodaeth ddi-duedd, yn lleol yn eu cymuned, mewn lleoliad sydd ddim yn un clinigol a heb unrhyw fath o stigma yn gysylltiedig ag o. Mae’r cynllun yma’n enghraifft arall o sut y gallwn gynnig y cymorth yma.”
Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant yw’r trydydd cynllun Darllen yn Well i gael ei gyflwyno yng Nghymru ar ôl llwyddiant y casgliadau o lyfrau ar ddementia a iechyd meddwl.
I gael rhagor o wybodaeth am y llyfrau Darllen yn Well i blant, ewch i: reading-well.org.uk/cymru
Mae cyrsiau i ddatblygu awduron a darlunwyr newydd, a drefnwyd ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru, yn dechrau dwyn ffrwyth.
Mae cyrsiau i ddatblygu awduron a darlunwyr newydd, a drefnwyd ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru, yn dechrau dwyn ffrwyth.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae nifer o lyfrau gwahanol wedi’u cyhoeddi neu ar fin eu cyhoeddi gan awduron a darlunwyr a fu ar y cyrsiau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy, Gwynedd.
Cynhaliwyd un cwrs ar gyfer Ysgrifennu a Darlunio i Blant ym mis Chwefror 2019, a chwrs arall ar Ysgrifennu i Oedolion Ifanc ym mis Chwefror 2020, gyda chyfanswm o 20 awdur ac 8 darlunydd yn sicrhau eu lle fel rhan o broses gystadleuol.
Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Allwn ni ddim hawlio na fyddai’r llyfrau yma wedi’u cyhoeddi o gwbl oni bai am y cyrsiau a drefnwyd ar y cyd gan y Cyngor Llyfrau a Llenyddiaeth Cymru, ond yn ddi-os maen nhw wedi helpu i ddatblygu egin awduron a llenwi bwlch yn y farchnad ar gyfer deunydd darllen gwreiddiol yn y Gymraeg i blant ac oedolion ifanc. Mae datblygu deunydd darllen o’r fath yn un o’n blaenoriaethau ni yn y Cyngor Llyfrau wrth i ni barhau i weithredu ar argymhellion adroddiad Dr Siwan Rosser o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd.”
Dywedodd Leusa Llewelyn ar ran Llenyddiaeth Cymru: “Mae wedi bod yn bleser cael cydweithio â’r Cyngor Llyfrau ar y cyrsiau datblygu awduron yma, a gweld cystal llwyddiant mae sawl un o’r awduron wedi ei gael ar ôl treulio wythnos yn Nhŷ Newydd dan ofal rhai o’n hawduron a’n tiwtoriaid gorau. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i adnabod bylchau yn niwylliant llenyddol Cymru – gan fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu o ran tangynrychiolaeth ac amrywiaeth yn ein llenyddiaeth – a chreu cyfleoedd datblygu safonol i sicrhau fod y gwaith pwysig hwn yn parhau.”
Dywedodd Sioned Wyn Roberts, fu ar y cwrs Ysgrifennu a Darlunio i Blant yn 2019: “Wnes i fwynhau pob eiliad o’r cwrs ysgrifennu a darlunio i blant. Yn Nhŷ Newydd wnes i gyfarfod yr arlunydd Bethan Mai sydd wedi dod â chymeriad Ffwlbart Ffred yn fyw, ac mae hyd yn oed sinc pinc yr Arglwyddes Lloyd George yn rhan o’r lluniau! Fyswn i erioed wedi ystyried ysgrifennu llyfrau oni bai am y cwrs yn Nhŷ Newydd ac o ganlyniad mae Ffwlbart Ffred: Drewi fel Ffwlbart, y cyntaf mewn cyfres o lyfrau stori-a-llun, wedi ei gyhoeddi eleni a bydd Gwag y Nos, fy nofel i blant, allan y flwyddyn nesa.”
Ymhlith y llyfrau sydd wedi’u cyhoeddi neu sydd yn y broses o gael eu cyhoeddi gan awduron a darlunwyr a fu ar y cyrsiau y mae:
Roedd Seran wedi mynychu’r cwrs Ysgrifennu a Darlunio i Blant yn Nhŷ Newydd yn 2019 fel darlunydd, ac fe fydd y nofel mae’n ei hysgrifennu hefyd yn cynnwys elfen graffeg amlwg.
Mae hi hefyd yn rhan o Gynllun Mentora Awduron Llenyddiaeth Cymru a’i gobaith yw y bydd ei nofel gyntaf, ‘Y Nendyrau,’yn cael ei chyhoeddi yn 2021.
Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo ddechrau cael eu codi, mae siopau llyfrau wedi bod yn dechrau ailagor eu drysau ers dydd Llun 22 Mehefin 2020. Mae nifer yn parhau i werthu arlein hefyd, gan gynnig gwasanaeth clicio a chasglu, danfon yn lleol neu drwy’r post.
Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo ddechrau cael eu codi, mae siopau llyfrau wedi bod yn dechrau ailagor eu drysau ers dydd Llun 22 Mehefin 2020. Mae nifer yn parhau i werthu arlein hefyd, gan gynnig gwasanaeth clicio a chasglu, danfon yn lleol neu drwy’r post.
Rydyn ni wedi bod yn tynnu manylion am drefniadau siopau gwahanol at ei gilydd yma, ac yn diweddaru’r rhestr wrth i ni dderbyn gwybodaeth newydd. Gan fod hon yn sefyllfa sy’n datblygu’n gyflym, mae’n bosib na fydd y manylion diweddaraf gennym ni bob amser felly gwiriwch gyda’ch siop lyfrau leol.
Os ydych chi’n llyfrwerthwr yng Nghymru sydd am ychwanegu neu ddiweddaru eich manylion, ebostiwch post@llyfrau.cymru
Anrhegaron, Tregaron – www.anrhegaron.cymru / Siop ar agor ddydd Mawrth a dydd Gwener rhwng 10.00-4.00pm a dydd Sadwrn rhwng 9.30-12.30pm
Book-ish, Crughywel – www.bookish.co.uk / @Bookishcrick / 01873 811 256 / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 10.00-5.00pm a dydd Sul rhwng 10.00-4.00pm. / Modd archebu ar-lein neu ar y ffôn / Gwasanaeth postio
Browsers Bookshop, Porthmadog – https://www.browsersbook.shop/ / 01766 512066 / Siop wedi cau i’r cyhoedd am y tro / Modd archebu ar-lein neu ar y ffôn / Gwasanaeth postio
Burway Books, Church Stretton – www.burwaybooks.co.uk / Twitter – @BurwayBooks / Instagram – burwaybooks / 01694 723388 / Ar agor o ddydd Llun – Sadwrn o 10-4pm.
Cant a Mil, Caerdydd – www.cantamil.com / @siopcantamil / jo@cantamil.com / O 1 Medi, bydd y siop ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn rhwng 10.30–4.00pm / Modd archebu trwy’r wefan, trwy ebost a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol / Gwasanaeth postio
Chepstow Books, Chepstow – www.chesptowbooks.co.uk / 01291 625011 / shop@chepstbooks.co.uk / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 10.00-4.00pm a dydd Sul rhwng 12.00-4.00pm.
Cofion Cynnes, Ystradgynlais – Siop nawr ar agor rhwng 7yb – 1yp
Griffin Books, Penarth – www.griffinbooks.co.uk / info@griffinbooks.co.uk / 02020 706455 / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 9.00-5.30pm / Modd archebu dros y ffôn, ar y we a drwy cyfryngau cymdeithasol / Gwasanaeth postio a chludo lleol. / Yn agor ar 1 Gorffennaf.
Gwisgo, Aberaeron – www.gwisgobookworm.co.uk / info@gwisgobookworm.co.uk / www.facebook.com/Gwisgo Bookworm / 01545 238282 / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 11.00-5.00pm a dydd Sul rhwng 11.30-4.00pm
Hintons, Conwy – @hintons.conwy / Siop ar agor yn llawn / Modd archebu drwy Instagram
Igam Ogam, Llandeilo – www.igamogamgifts.co.uk / 01558 822698 / Agor 22/06. Agor dydd Llun, dydd Iau a dydd Gwener o 10-4pm
Narberth Museum Bookshop, Arberth – www.narberthmuseum.co.uk / 01834 861719 / Siop ar agor o ddydd Iau i ddydd Sadwrn rhwng 10.00-5.00pm ar hyn o bryd ac yn derbyn archebion ar lein
No 1 High St, Y Drenewydd – www.no1highstreet.co.uk / 07866259710 / Ar agor o 9-5pm, Llun – Sadwrn
Palas Print, Caernarfon – www.palasprint.com / @PalasPrint / eirian@palasprint.com / Siop ar agor o dydd Mawrth i ddydd Sadwrn rhwng 10.00-4.00pm. Yn gwasanaethu cwsmeriaid o geg drws y siop, ac yn parhau i dderbyn archebion ac ymholiadau arlein neu dros y ffôn.
Pen’rallt Gallery Bookshop, Machynlleth – www.penralltgallerybookshop.co.uk / penralltbooks@gmail.com / 01654 700559 / Siop ar agor fel a ganlyn: dydd Mercher – 1.30-4.30pm (mae modd casglu archebion eisoes wedi’u talu’n amdanynt yn y fynedfa rhwng 10.00-4.30pm); dydd Iau – 9.30-4.30pm drwy apwyntiad yn unig – amser tawel i gwsmeriaid bori/prynu; dydd Gwener 9.30-12.30pm / 1.30-4.30pm (mae modd casglu archebion eisoes wedi’u talu amdanynt yn y fynedfa rhwng 10.00-4.30pm); dydd Sadwrn 1.30-4.00pm drwy apwyntiad yn unig (mae modd casglu archebion rhwng 10.00-12.30pm/ Modd archebu drwy’r wefan neu ebostio neu ffonio.
Pethe Powys, Y Trallwng – Faceboook – Pethe Powys / 01938 554540 / Siop wedi ail agor – 27/ 7 ar dydd Llun, Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn rhwng 10.00-3.00.
Poetry Bookshop, Y Gelli Gandryll – Bwriadu ail agor ar y 6 Gorffennaf. Oriau – Llun i Sadwrn 10-12pm. Rydym hefyd yn cynnig slotiau o chwarter neu hanner awr o ddydd Mercher – Sadwrn rhwng 1-5pm i’r unigolion hynny sy’n nerfus / risg uchel o ran iechyd. Bydd hyn yn gyfle iddynt siopa tra bod y lle yn gwbl wag.
Siop Cwlwm, Croesoswallt – www.siopcwlwm.co.uk / 07814 033759 / post@siopcwlwm.co.uk / Ar agor bob dydd Mercher, dydd Gwener a dydd Sadwrn rhwng 9am a 3.30pm / Archebwch drwy www.siopcwlwm.co.uk neu gyfryngau cymdeithasol neu dros y ffôn. Postio am ddim yn achos archebion dros £30, casglu am ddim o Farchnad Croesoswallt.
Siop Dewi, Penrhyndeudraeth – dewi11@btconnect.com / 01766 770266 / Siop ar agor rhwng 7yb a 12yp / Modd archebu dros y ffôn, drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ar e-bost / Gwasanaeth postio
Siop Eifionydd, Porthmadog – Siop ar agor 22/06 ymlaen
Siop Lyfrau’r Hen Bost, Blaenau Ffestiniog – Wedi ail agor. Oriau: Dydd Mawrth, Iau, Gwener a Sadwrn, 10-4pm
Siop Tŷ Tawe, Abertawe – https://www.facebook.com/Ysioptytawe/ Oriau agor newydd o 01/10 – siop ar agor ar ddyddiau Iau, Gwener a Sadwrn rhwng 10.00-2.00 o’r gloch
Siop Sian, Crymych – https://www.facebook.com/SiopSian/ Siop wedi ail-agor dydd Iau (25/06) Oriau – Mawrth-Gwener 9:30-4:30, Sadwrn 9-12pm.
Siop y Siswrn, Yr Wyddrug – 01352 753200 / siopysiswrn@aol.com / Facebook – Siop Y Siswrn / www.siopysiswrn.com / Archebion ar ebost, Facebook a ffôn – gwasanaeth post cyflym a dibynadwy. / Siop ar agor 9.30–4.30 bob dydd heblaw am ddyddiau Iau a Sul.
Siop y Smotyn Du, Llanbed – Siop ar agor gydag oriau cyfyngedig. / Ffôn 01570 422587.
St David’s Bookshop, Tyddewi – 01437 720480 / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 11.00-4.30pm
Tenby Bookshop, Dinbych y Pysgod – https://www.facebook.com/tenbybookshop / 01834 843514 / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener – 10.00-5.30pm, Sadwrn 10.00-6.00pm a Sul 10.00-5.00pm.
The Hours, Aberhonddu – www.thehoursbrecon.co.uk / Siop ar agor ar ddyddiau Mawrth, Mercher, Gwener a Sadwrn rhwng 10.00-2.00 o’r gloch.
T-Hwnt, Caerfyrddin – Siop ar agor rhwng dydd Mawrth a dydd Sadwrn, 11.00-3.00pm
Tŷ’r Gwrhyd, Pontardawe – www.facebook.com/Tyrgwrhyd/ / 07990153730 / Siop bellach ar agor ac mae modd archebu unrhyw lyfr dros y ffôn 07990 153730 neu ebostio post@gwrhyd.cymru Wedyn, mae modd trefnu apwyntiad rhwng 11.00–2.00 i gasglu archebion.
Verzon Bookshop Gallery, Llandrindod – www.facebook.com/VerzonBookshopGallery / Siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00-5.00pm a dydd Sadwrn rhwng 9.00-4.00pm.
Bu farw un o brif lenorion Cymru, yr awdur a’r bardd Emyr Humphreys, ar ddydd Mercher, 30 Medi 2020. Yn 101 oed, bu’n cyhoeddi ei waith dros gyfnod o saith degawd. Dyma deyrnged Cadeirydd y Cyngor Llyfrau, yr Athro M. Wynn Thomas, i’r gŵr a oedd yn gyfaill agos iddo ac yn un o Lywyddion Anrhydeddus Cyfeillion y Cyngor Llyfrau.
Bu farw un o brif lenorion Cymru, yr awdur a’r bardd Emyr Humphreys, ar ddydd Mercher, 30 Medi 2020. Yn 101 oed, bu’n cyhoeddi ei waith dros gyfnod o saith degawd. Dyma deyrnged Cadeirydd y Cyngor Llyfrau, yr Athro M. Wynn Thomas, i’r gŵr a oedd yn gyfaill agos iddo ac yn un o Lywyddion Anrhydeddus Cyfeillion y Cyngor Llyfrau.
Roedd Emyr Humphreys yn blentyn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn un o’r mawrion llên mwyaf yn ein hanes hen, a’i yrfa ddisglair fel awdur o fri cydwladol yn rhychwantu saith deg o flynyddoedd. Yn ogystal â chyhoeddi dros ddau ddwsin o nofelau, roedd yn awdur dramâu a cherddi ac ysgrifau diwylliannol nodedig, yn ymgyrchydd diwylliannol eofn, ac yn gynhyrchydd radio a theledu arloesol.
Disgrifiodd ei arwr Saunders Lewis fel ‘ffigur anhepgor’, ac roedd yr un peth yn wir amdano yntau. Fe adnabuwyd ei ddawn gyntaf gan Graham Greene, ac aeth yn ei flaen i weithio gyda Richard Burton, Siân Phillips a Peter O’Toole. Ymhlith ei ffrindiau roedd R.S. Thomas, Kate Roberts a John Gwilym Jones, ac roedd ei gariad at yr Eidal yn ail agos i’w gariad at Gymru.
Roedd yn Gymro Ewropeaidd, ac yn awdur a ddylanwadwyd gan fawrion llên y Cyfandir. Fe welai fod y diwylliant Cymraeg dan fygythiad cyson yn y byd modern, a sylweddolodd ei fod felly yn rhannu cyflwr pobloedd ‘ymylol’ dros y byd.
Ef oedd cynrychiolydd olaf y cyfnod euraidd yn ein hanes pryd y gwnaeth cynifer o’n llenorion pennaf ni ymrwymo i wasanaethu Cymru.
Mae ei golli yn golygu colli amddiffynnydd ymroddedig a llinyn mesur gwerthfawrocaf ein diwylliant llên.
Heddwch i’w lwch, ac na foed i’n cof amdano bylu byth.
Catalog Canmlwyddiant
Cafodd catalog arbennig o waith Emyr Humphreys ei gyhoeddi gan y Cyngor Llyfrau ar achlysur ei ben-blwydd yn 100 oed yn 2019: http://www.cllc.org.uk/7892.file.dld
Seran Dolma o Benrhyndeudraeth yw enillydd cystadleuaeth ar gyfer syniadau am nofelau Cymraeg i oedolion ifanc a drefnwyd gan Gyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru.
Seran Dolma o Benrhyndeudraeth yw enillydd cystadleuaeth ar gyfer syniadau am nofelau Cymraeg i oedolion ifanc a drefnwyd gan Gyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru.
Cafodd y newyddion ei gyhoeddi ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru fore Mawrth, 29 Medi 2020.
Bydd Seran, sy’n fam i ddau o blant 8 a 3 oed, yn derbyn gwobr o £1,000 gan y Cyfeillion, ynghyd â chyfle am gyngor ar sut i ddatblygu ei gwaith yn nofel ar gyfer ei chyhoeddi.
Cafwyd ymateb ardderchog i’r gystadleuaeth, gydag 21 o geisiadau yn dod i law’r panel beirniaid oedd yn cynnwys y cyfansoddwr a’r cyn-lyfrgellydd Robat Arwyn, yr awdur Meinir Pierce Jones, a Gwawr Maelor, sy’n ddarlithydd mewn Addysg Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Yn ôl y beirniaid, roedd hon yn “gystadleuaeth gref” ac yn ogystal â’r enillydd, cafodd tri awdur arall eu gosod yn y dosbarth cyntaf gyda’r panel yn nodi bod yma syniadau am nofelau oedd yn “werth eu cyhoeddi”. Y tri a ddaeth yn agos at y brig oedd Eurgain Haf, Cynan Llwyd a Llio Maddocks.
Roedd gofyn i’r ymgeiswyr anfon penodau cyntaf nofel Gymraeg i oedolion ifanc, yn ogystal â synopsis o weddill y stori.
Syniad am stori wedi’i gosod yn y dyfodol a gyflwynwyd gan Seran Dolma, yn dwyn y teitl ‘Y Nendyrau’. O ganlyniad i newid hinsawdd, mae lefel y môr wedi codi’n aruthrol a miloedd o bobl wedi colli eu cartrefi.
Mae Daniel, 15 oed, yn un o’r rhai ffodus, yn byw gyda’i dad ac eraill mewn tŵr lle mae’r ddau lawr isaf, fel gweddill y ddinas, o dan y dyfroedd. Ond un diwrnod, mae’n gweld merch ifanc, gwallt tywyll, yn codi llaw arno o’r tŵr gyferbyn – tŵr a oedd, i bob golwg, yn hollol wag.
Dywedodd Cadeirydd y panel beirniaid, Robat Arwyn: “Fe wnaeth y nofel ôl-apocalyptaidd hon fy rhwydo o’r frawddeg gyntaf un, wrth i Daniel a Rani wynebu sawl her yn eu hymdrech i warchod eu teuluoedd a chadw’n saff. Mae’r naratif yn llifo’n braf mewn arddull eglur a hynod ddarllenadwy, ac mae’r cymeriadau a’u sefyllfa ddirdynnol yn dal i droi yn fy mhen.”
Wrth siarad am gystadleuaeth y Cyfeillion, dywedodd Seran Dolma: “Rydw i mor ddiolchgar i Gyfeillion y Cyngor Llyfrau am y cyfle yma, ac i’r beirniaid am ddewis ‘Y Nendyrau’ fel enillydd y gystadleuaeth. Mae’n hwb anferth i fy hyder i fel awdur, ac yn rhoi gobaith i mi bod yna farchnad i’r nofel ac y bydd yn bosibl ei chyhoeddi yn y pen draw.”
Ym mis Chwefror 2019, fe fynychodd Seran Dolma gwrs Ysgrifennu a Darlunio i Blant fel darlunydd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, cwrs a drefnwyd ar y cyd gan y Cyngor Llyfrau a Llenyddiaeth Cymru.
Yn gynharach eleni, cafodd ei derbyn ar Gynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru ar gyfer awduron ar ddechrau eu gyrfa.
“Mae’n rhaid i mi gymryd y cyfle yma hefyd i ddiolch i Lenyddiaeth Cymru ac i fy mentor, Lleucu Roberts,” ychwanegodd Seran. “Rydw i’n parhau i weithio ar y nofel, ac rwy’n anelu at gael drafft o’r gwaith ysgrifenedig yn barod cyn y Nadolig. Mae yna elfen weledol hefyd, fydd efallai’n cymryd ychydig yn hirach, ond dwi’n gobeithio y bydd yr holl waith wedi ei gwblhau yn fuan yn 2021.”
Dywedodd Cadeirydd Cyfeillion y Cyngor Llyfrau, Ion Thomas: “Wrth noddi’r gystadleuaeth hon, ein nod oedd cynyddu’r dewis o nofelau Cymraeg ar gyfer pobl ifanc ac rydyn ni wrth ein bodd gyda’r ymateb a’r amrywiaeth o syniadau a gafwyd. Ein gobaith yw y bydd yn hwb nid yn unig i’r enillydd ond i sawl un arall o’r awduron i fynd ati i ddatblygu ac i gwblhau eu gwaith, a thrwy hynny ymestyn yr arlwy a denu darllenwyr newydd.”
Dywedodd Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau, Helen Jones: “Hoffem ddiolch i bob un o’r ymgeiswyr ac i’r beirniaid am eu gwaith arbennig, gan estyn llongyfarchiadau gwresog i Seran Dolma. Hoffem ddiolch hefyd i Gyfeillion y Cyngor am noddi’r gystadleuaeth bwysig hon a fydd yn helpu i sicrhau bod llyfrau o safon sy’n cydio yn y dychymyg ar gael yn Gymraeg i’n pobl ifanc.”
Mae’r cyntaf o gant o becynnau o lyfrau darllen am ddim wedi cael eu hanfon at deuluoedd yng Ngheredigion yr wythnos hon.
Mae’r cyntaf o gant o becynnau o lyfrau darllen am ddim wedi cael eu hanfon at deuluoedd yng Ngheredigion yr wythnos hon.
Mewn partneriaeth newydd rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian a Chyngor Llyfrau Cymru, mae detholiad o chwe llyfr yn cael eu hanfon at 100 o blant a phobl ifanc sy’n derbyn gwasanaethau cymorth drwy’r awdurdod lleol.
Mae’r pecynnau’n cynnwys llyfrau darllen wedi’u teilwra ar gyfer oedrannau a diddordebau gwahanol, yn ogystal â phensiliau lliw a thaflenni gweithgareddau gwahanol.
Nod cynllun Caru Darllen Ceredigion yw cefnogi iechyd, lles a datblygiad disgyblion yn ystod cyfnod Covid-19 pan nad yw ysgolion wedi bod ar agor yn ôl eu harfer. Mae’n sicrhau bod ganddynt fynediad rhwydd at ddewis da o deitlau yn ystod gwyliau hir yr haf ac mae’n fuddsoddiad tymor hir mewn adnoddau darllen.
Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Porth Ceredigion, Cymorth Cynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant: “Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yng Ngheredigion i gefnogi plant sy’n rhan o’n gwasanaethau, a hynny mewn ymateb i argyfwng y coronafeirws. Rydym yn falch o allu cydweithio â Chyngor Llyfrau Cymru i ddethol a darparu pecyn o lyfrau addas i blant sy’n rhan o’r cynllun hwn dros wyliau’r haf. Mae’r cynllun yn gyfle cyffrous i gefnogi teuluoedd mewn cyfnod heriol a sicrhau bod adnoddau darllen gwerthfawr ar gael.”
Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae ymchwil yn dangos bod plant sy’n berchen ar eu llyfrau eu hunain yn fwy tebygol o ddatblygu i fod yn ddarllenwyr gydol oes, gyda’r holl fuddiannau a ddaw yn sgil hynny. Fel Cyngor Llyfrau, rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ceredigion ar y cynllun cyffrous yma a fydd yn dod â phleser i blant a phobl ar draws y sir yn ystod cyfnod anarferol o anodd.”
Mae’r mwyafrif o’r llyfrau yn y pecynnau wedi’u cyhoeddi gan weisg yng Nghymru ac yn adlewyrchu’r ysgrifennu a’r dylunio gorau ar gyfer oedrannau rhwng 1 ac 16 mlwydd oed.
Heddiw, bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio gan y Gweinidog Addysg a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
Heddiw, bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio gan y Gweinidog Addysg a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
Nod y Sialens flynyddol yw cael plant rhwng 4 ac 11 oed i ddarllen chwe llyfr dros wyliau’r haf.
Eleni mae’r Sialens yn symud i blatfform digidol, dwyieithog newydd, â chefnogaeth gwasanaethau e-fenthyca llyfrgelloedd, digwyddiadau ar-lein a dolenni at adnoddau digidol presennol. Mae’r Sialens yn cynnwys llyfrau Cymraeg a Saesneg.
Thema’r Sialens eleni yw ‘Sgwad Gwirion’ a bydd yn dathlu llyfrau llawn hwyl, hapusrwydd a chwerthin. Bydd plant sy’n cymryd rhan yn y Sialens yn ymuno â’r Sgwad Gwirion, tîm o anifeiliaid anturus sydd “wrth eu boddau’n cael hwyl a chladdu’u trwynau mewn pob math o lyfrau doniol!”
Y llynedd, cymerodd dros 37,000 o blant ledled Cymru ran yn y Sialens. Ymunodd dros 3,000 o blant â llyfrgelloedd fel aelodau newydd a chymerodd 33,000 o blant ran mewn digwyddiadau mewn llyfrgelloedd.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Fel rhywun sy’n caru llyfrau fy hun, dw i’n gwybod gymaint o bleser yw darllen dros y gwyliau.
“Bob blwyddyn, mae miloedd o blant yn ymuno â llyfrgelloedd oherwydd Sialens Ddarllen yr Haf, sy’n ffordd ardderchog o ddatblygu sgiliau darllen, darganfod awduron newydd a meithrin cariad gydol oes at lyfrau.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas: “Dw i’n hynod o falch fod Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi llyfrgelloedd gyda’r Sialens eleni. Mae’r cynllun wedi ennill ei blwyf fel digwyddiad blynyddol i lawer o blant, sy’n edrych ymlaen at gymryd rhan bob blwyddyn.
“Hoffwn ddiolch i’r holl staff yn ein llyfrgelloedd sy’n cyfrannu at wneud Sialens Ddarllen yr Haf yn gymaint o lwyddiant yng Nghymru.”
Dywedodd Nicola Pitman, Cadeirydd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru: “Mae gan lyfrgelloedd nawr eu casgliadau mwyaf erioed o eLyfrau, comics a chylchgronau i’w lawrlwytho, ac eleni mae Sialens Ddarllen yr Haf yn barod i helpu darllenwyr ifanc a’u rhieni yn wirioneddol i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gael hwyl gyda straeon a phynciau doniol.
“Mae gwasanaethau Clicio a Chasglu yn cael eu sefydlu ledled y wlad i helpu pawb i gael gafael ar lyfrau llyfrgell yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn. Rydyn ni wrth ein bodd ei bod hi mor hawdd cofrestru a derbyn yr her, diolch i’r wefan ar ei newydd wedd, sy’n cynnig llond lle o adnoddau, syniadau ac anogaeth gwych. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld pawb yn mynd yn hollol wirion ac yn ymuno â sgwad Sialens Ddarllen yr Haf.”
Dywedodd Karen Napier, Prif Swyddog Gweithredol The Reading Agency: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn datblygu platfform digidol dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf, a fydd yn barod i deuluoedd ei fwynhau o ganol mis Gorffennaf ymlaen.
“Mae The Reading Agency wedi ymrwymo i sicrhau bod grym profedig darllen o fewn cyrraedd pawb. Rydw i’n edrych ymlaen at weld llyfrgelloedd cyhoeddus a theuluoedd yng Nghymru’n cymryd rhan yn y Sialens ac yn cael haf gwirioneddol wirion!”
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause: “Mae meithrin ac annog darllen yn bwysicach yn y cyfnod hwn nag erioed o’r blaen. Mae ymchwil yn dangos yn glir bod codi llyfr yn llesol nid yn unig i’n lles a’n hiechyd meddwl – mae hefyd yn helpu i gryfhau a chadarnhau sgiliau iaith a sgiliau addysgol plant. Pob hwyl a mwynhad i bawb sy’n rhan o’r Sialens Ddarllen Haf eleni.”
Llyfrau’n ymdrin â rhai o bynciau mawr y dydd sydd wedi cipio Gwobrau Tir na n-Og 2020 am lenyddiaeth plant a phobl ifanc yn Gymraeg.
Llyfrau’n ymdrin â rhai o bynciau mawr y dydd sydd wedi cipio Gwobrau Tir na n-Og 2020 am lenyddiaeth plant a phobl ifanc yn Gymraeg.
Pobol Drws Nesaf gan Manon Steffan Ros a’r darlunydd Jac Jones a ddaeth i’r brig yn y categori Cymraeg oedran cynradd. Llyfr llun a stori ar gyfer plant 3–7 oed yw hwn, yn ein hannog i barchu pawb ac i beidio â beirniadu rhywun sy’n edrych ac yn ymddwyn yn wahanol i ni.
Enillydd y categori Cymraeg uwchradd yw Byw yn fy Nghroen, a olygwyd gan Sioned Erin Hughes. Casgliad yw’r llyfr o brofiadau dirdynnol deuddeg o bobl ifanc sydd wedi gorfod brwydro gyda salwch a chyflyrau iechyd hirdymor. Mae’r cyfranwyr i gyd yn bobl ifanc rhwng 10 a 26 oed, sy’n trafod afiechydon meddyliol a chorfforol fel cancr, epilepsi, clefyd Crohn’s, spina bifida, nam ar y golwg, OCD, iselder a gorbryder.
Gwawr Maelor Williams o Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor oedd cadeirydd panel beirniaid llyfrau Cymraeg Tir na n-Og 2020: “Ni chloriennir Gwobr Tir na n-Og am ei harloesedd neu ei hunigrywedd yn unig neu am ei bod yn llenwi bwlch. Mae’r gyfrol Byw yn fy Nghroen yn llenyddiaeth hefyd, er nad dyma’i phrif fwriad. Mae’n rhaid wrth ysgrifennu grymus, rhaid wrth grefft a golygu tringar i ysgrifennu gydag argyhoeddiad a didwylledd, ac i dynnu’r darllenydd i grombil profiadau a gwewyr rhywun arall. Rydym yng nghwmni cyfrol bwysig ym maes llenyddiaeth i’r ifanc yma.”
Roedd Byw yn fy Nghroen (Y Lolfa) ar restr fer uwchradd Gymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2020 gyda dau lyfr arall, sef Tom (Y Lolfa) gan Cynan Llwyd a Madi (Atebol) gan Dewi Wyn Williams.
Dywedodd golygydd Byw yn fy Nghroen, Sioned Erin Hughes: “Mi ydw i ar ben fy nigon ac yn falch fod y llyfr wedi cyflawni’r hyn roeddwn i’n gobeithio y byddai’n ei gyflawni, sef cynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac empathi ynghylch heriau iechyd ymysg pobl ifanc.”
Y ddau lyfr arall oedd ar y rhestr fer gyda Pobol Drws Nesaf (Y Lolfa) yn y categori cynradd Cymraeg eleni oedd Genod Gwych a Merched Medrus gan Medi Jones-Jackson (Y Lolfa) ac Y Ddinas Uchel gan Huw Aaron (Atebol).
Wrth drafod Pobol Drws Nesaf, dywedodd Gwawr Maelor: “Dyma gyfrol sy’n em fach oherwydd yr ieuad rhwng naratif a llun, a symlrwydd y stori yn rhuban mor naturiol o’i dechrau i’w diwedd. Mae crefft dau ar waith yn y llyfr. Mae hi’n stori sy’n hawdd ei dirnad a’i deall fel ag y mae hi ar y darlleniad cyntaf i ddarllenydd ifanc sy’n darllen ar ei ben ei hun bach. Does dim gwthio amlhiliaeth na’r iaith Gymraeg na’r angen i dderbyn pawb fel ag y maen nhw o gwbl yn y stori fach, ia, Gymreig hon. Ond maen nhw yna heb ddeud a dyma gamp partneriaeth awdur profiadol a darlunydd crefftus yn eu gem o lyfr, Pobol Drws Nesaf.”
Dyma’r pumed tro i’r awdur Manon Steffan Ros o Dywyn, Gwynedd, ennill Gwobr Tir na n-Og: “Mae’n gymaint o fraint cael Gwobr Tir na n-Og am lyfr sydd mor agos at fy nghalon â Pobol Drws Nesaf. Mae’r stori’n syml ac yn ysgafn, a dwi’n meddwl fod hynny’n bwysig am fod ganddi, mewn gwirionedd, neges fawr – fod angen i ni ddathlu ein gwahaniaethau, a pharchu pawb. Roedd hi’n bleser mawr cael cydweithio efo Jac unwaith eto, sydd wastad yn rhoi ychydig o hud a lledrith yn ei ddarluniau, ac yn darganfod yr hyn sydd rhwng y geiriau.”
Dywedodd y darlunydd Jac Jones: “Pan mae plentyn yn agor llyfr, unrhyw lyfr, mae’n cychwyn ar siwrnai tuag at ddeall hwyl, tristwch, ofn, gorfoledd a’r fraint o wneud dewisiadau. Mae llyfr rhagorol Manon, Pobol Drws Nesaf, yn cyffwrdd â phob un o’r rhain. Mae lliwiau palet natur yn cymysgu bob amser.”
Caiff Gwobrau Tir na n-Og eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru i wobrwyo’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn Gymraeg a Saesneg. Fe’u noddir gan gymdeithas y llyfrgellwyr, CILIP Cymru.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae safon yr enillwyr a’r holl lyfrau ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og wedi bod yn rhagorol eleni a hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith a’u cyfraniadau gwerthfawr – yn awduron, yn olygyddion, yn ddarlunwyr ac yn gyhoeddwyr. Diolch iddyn nhw, rydym yn gallu sicrhau bod silffoedd ein siopau llyfrau, ein llyfrgelloedd a’n hysgolion yn cynnig dewis cyfoethog i blant a phobl ifanc sy’n eu sbarduno, eu hysbrydoli a’u hannog i ddarllen. Llongyfarchiadau gwresog i bawb.”
Dywedodd Amy Staniforth o CILIP Cymru: “Bydd llyfrgellwyr ar hyd a lled Cymru wrth eu bodd yn rhannu Pobol Drws Nesaf, Byw yn fy Nghroen a’r holl lyfrau gwych eraill ar restr fer Tir na n-Og 2020. Mae’n bwysig bod llyfrgelloedd yn cynnig deunydd Cymraeg sy’n adlewyrchu ac yn herio’r Gymru sydd ohoni, ac mae Gwobrau Tir na n-Og yn gyfle gwych i gofio ac i ddathlu hynny. Llongyfarchiadau i Manon Steffan Ros, Jac Jones a Sioned Erin Hughes. Daliwch ati os gwelwch yn dda!”
Cafodd enwau enillwyr Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2020 eu cyhoeddi’n fyw ar raglen Heno ar S4C nos Wener, 10 Gorffennaf, gyda’r ddau deitl buddugol yn derbyn siec o £1,000 a cherdd gyfarch wedi’i chyfansoddi gan Fardd Plant Cymru, Gruffudd Owen, a’i dylunio gan yr artist Ruth Jên.
Cyhoeddwyd enillydd categori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2020 ar y Radio Wales Arts Show nos Wener, 3 Gorffennaf, sef Claire Fayers o Gaerdydd am ei stori antur ffantasïol Storm Hound.
Yr awdur Claire Fayers yw enillydd gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020 am ei stori antur ffantasïol sy’n cyfuno chwedloniaeth Nordig a Chymreig.
Yr awdur Claire Fayers yw enillydd gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020 am ei stori antur ffantasïol sy’n cyfuno chwedloniaeth Nordig a Chymreig.
Roedd Storm Hound (Macmillan Children’s Books) ymhlith pedwar o lyfrau Saesneg ac iddynt gefndir Cymreig dilys ar restr fer y gwobrau llenyddiaeth plant a phobl ifanc, sy’n cael eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Gwnaed y cyhoeddiad am y teitl buddugol yn fyw ar y Radio Wales Arts Show nos Wener 3 Gorffennaf 2020.
Wrth siarad am ei buddugoliaeth, dywedodd Claire Fayers sy’n byw yng Nghaerdydd: “Dwi wrth fy modd fy mod wedi ennill gwobr Saesneg Tir na n-Og eleni. Dwi wedi bod yn darllen llyfrau o restrau byr Tir na n-Og cyhyd ag y gallaf gofio. Maen nhw’n cynrychioli’r gorau o lenyddiaeth o Gymru i blant a phobl ifanc, felly mae ennill yn anrhydedd aruthrol.”
Mae Storm Hound yn adrodd hanes Storm of Odin, aelod ieuengaf cŵn drycin yr Helfa Wyllt sy’n hedfan drwy stormydd llawn mellt. Bu’n dyheu am yr amser pan gâi ymuno â’i frodyr a’i chwiorydd ond ar ei helfa gyntaf un, mae’n darganfod na all hedfan yn ddigon cyflym i aros gyda’r lleill ac mae’n syrthio i’r ddaear, gan lanio ar yr A40 ger y Fenni.
Daw Jessica Price, sy’n 12 oed, ar draws ci bach del mewn canolfan achub anifeiliaid ac mae’n ei fabwysiadu. Mewn antur llawn cyffro, buan iawn mae’n dechrau sylweddoli nad ci cyffredin mo’i chi bach annwyl hi.
Dywedodd cadeirydd panel beirniaid llyfrau Saesneg Tir na n-Og 2020, Eleri Twynog Davies: “Llongyfarchiadau mawr i Storm Hound – stori hudolus ac iddi themâu cryf yn ymwneud â chyfeillgarwch a pherthyn. Roedd y cymeriadau wedi’u datblygu’n ardderchog, gan roi i ni eiliadau o hiwmor ac ing.
“Roedd straeon pob un o’r pedwar llyfr ar y rhestr fer wedi’u gosod ar gefndir Cymreig ac roedd yr ymdeimlad yma o le yn cyfrannu at eu hapêl gyffredinol. Mae hyn yn faen prawf canolog ar gyfer y wobr hon, ac roeddem ni fel beirniaid yn gweld ei eisiau mewn llawer o’r cyfrolau eraill. Mae mor bwysig bod plant ar hyd a lled Cymru yn gallu gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu rhwng dau glawr a bod gan blant y tu hwnt i Gymru ffenest ar ddiwylliant arall.”
Y tri theitl arall ar restr fer gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020 oedd The Secret Dragon gan Ed Clarke (Puffin), Max Kowalski Didn’t Mean It gan Susie Day (Puffin) a Where Magic Hides gan Cat Weatherill (Gomer).
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae ennyn cariad at ddarllen ymhlith ein plant a’n pobl ifanc yn hynod o bwysig. Mae’n eu helpu nid yn unig i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau llythrennedd, mae hefyd yn fuddiol o ran eu hiechyd meddwl a’u lles. Mae Gwobrau Tir na n-Og yn dathlu ysgrifennu gwych ar gyfer y genhedlaeth iau ac yn sicrhau bod straeon ac iddynt leoliad Cymreig unigryw yn cael eu cynrychioli yn y gorau o lenyddiaeth ein gwlad. Estynnwn ein diolch a’n llongyfarchiadau diffuant i bawb sy’n ymwneud â’r gwobrau, ac yn arbennig heddiw i Claire Fayers.”
Dywedodd Amy Staniforth o CILIP Cymru, sy’n noddi Gwobrau Tir na n-Og: “Ar ôl ychydig fisoedd mor anodd i bawb, mae CILIP Cymru yn falch iawn o longyfarch Claire Fayers ar ennill gwobr Saesneg Tir na n-Og eleni. Rydym yn gwybod y bydd llyfrgellwyr ledled Cymru yn hynod gyffrous am gael rhannu Storm Hound â’u defnyddwyr trwy eu gwasanaethau clicio a chasglu.”
Dywedodd cyflwynydd y Radio Wales Arts Show, Nicola Heywood Thomas: “Mae ysgrifennu newydd ar gyfer plant a phobl ifanc mor bwysig o ran tanio’u dychymyg a chodi awydd darllen arnyn nhw. Mae straeon gwych yn cael effaith sy’n gallu aros gyda darllenwyr gydol eu hoes. Mae’r wobr hon yn amlygu’r ystod ragorol o dalent sydd yng Nghymru. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.”
Cyflwynwyd siec o £1,000 yn wobr i Claire Fayers, ynghyd â cherdd gan y Children’s Laureate Wales Eloise Williams a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.
ff enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2020 eu cyhoeddi ar y rhaglen Heno ar S4C am 6.30yh nos Wener, 10 Gorffennaf.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Chwmni Theatr Arad Goch wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu darlleniadau o’r llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Chwmni Theatr Arad Goch wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu darlleniadau o’r llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020.
Yn sgil gohirio pob cynhyrchiad theatrig yn ystod cyfnod clo’r coronafeirws, mae actorion Arad Goch yn Aberystwyth wedi bod yn perfformio ac yn recordio’u lleisiau dros y we.
Gyda phawb yn cyfrannu o’u cartrefi a Jeremy Turner yn cyfarwyddo o bell, mae’r actorion wedi bod yn darllen detholiadau o’r chwe llyfr Cymraeg a gyrhaeddodd y brig yng ngwobrau llenyddiaeth plant a phobl ifanc Tir na n-Og eleni – tri yn y categori ar gyfer plant oedran cynradd a thri yn y categori uwchradd.
Mae’r darlleniadau a recordiwyd ar Zoom ar gael yn rhad ac am ddim o ddydd Llun 29 Mehefin 2020 ar sianel #carudarllen y Cyngor Llyfrau ar blatfform amam.cymru yn ogystal ag ar Hwb, gwefan dysgu digidol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae ansawdd llyfrau Tir na n-Og wedi bod yn arbennig o uchel unwaith eto eleni ac mae rhannu’r gwaith creadigol yma gyda phlant a phobl ifanc yn hollbwysig. Mewn cyfnod pan fo’r llyfrgelloedd a’r ysgolion ynghau, rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Arad Goch am weithio gyda ni i greu cynnwys Cymraeg gwreiddiol ac unigryw sydd ar gael yn ddigidol ac yn rhad ac am ddim. Ein gobaith yw y bydd y darlleniadau yma’n adnodd gwerthfawr i ysgolion a rhieni yn y cyfnod hwn a thu hwnt, ac yn dod â mwynhad i blant a phobl ifanc ar draws Cymru. Hoffem ddiolch i Arad Goch, i’r cyhoeddwyr Atebol a’r Lolfa, ac i’r awduron am eu cefnogaeth frwd.”
Dywedodd Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch: “Mae gan Gwmni Theatr Arad Goch hanes hir a llwyddiannus o weithio mewn partneriaeth a chydgynhyrchu gyda sefydliadau yng Nghymru a thramor, gan gynnwys y Cyngor Llyfrau sawl gwaith yn y gorffennol. Yn ogystal, rydyn ni wedi creu cynyrchiadau theatraidd o sawl stori a llyfr. Rydyn ni felly wedi bod yn falch iawn o’r cyfle i gydweithio â’r Cyngor Llyfrau unwaith eto yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn i greu recordiadau o’r llyfrau gwych sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer y gwobrau eleni. Fe fwynheais i ddarllen pob un ohonyn nhw a hoffwn ddiolch i’n hactorion, ein technegwyr a’n golygydd am eu gwaith. Diolch hefyd i Gyngor y Celfyddydau am ei gefnogaeth yn ystod y cyfnod ansicr hwn.”
Ymhlith y darllenwyr mae’r actorion Ffion Wyn Bowen, Lynwen Haf Roberts, Gruffydd Evans ac Ioan Gwyn, gydag Eugene Capper yn dechnegydd sain a Carwyn Blayney yn gyfrifol am y gwaith golygu.
Bydd enwau enillwyr Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2020 yn cael eu cyhoeddi ar raglen Heno ar S4C am 6.30yh nos Wener, 10 Gorffennaf, gydag enillydd y categori Saesneg yn cael ei gyhoeddi ar raglen y Radio Wales Arts Show nos Wener, 3 Gorffennaf 2020.
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i roi'r profiad mwyaf perthnasol drwy gofio eich dewisiadau a'ch ymweliadau. Drwy glicio "Derbyn Oll", rydych yn cytuno i'r defnydd o holl gwcis. Fodd bynnag, gallwch weld "Gosodiadau Cwcis" i roi dewis fwy reoledig.
We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Mae'r wefan yma y ndefnyddio cwcis yn gwella eich profiad wrth lywio'r wefan. O'r rhain, mae'r rhai a ddynodir yn "angenrheidiol" yn cael eu storio yn eich porwr gwe gan eu bod yn hanfodol i'r ffordd mae'r wefan yn gweithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis eraill i ddadansoddi sut mae ein ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Caiff y cwcis yma eu storio yn eich porwr gwe gyda'ch bendith chi. Mae gennych yr opsiwn i wrthod y cwcis yma, ond gall eu gwrthod effeithio eich profiad o ddefnyddio'r wefan.
This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.